9. Dadl ar ddeiseb P-05-849 Dylai pob dyn yng Nghymru gael mynediad drwy'r GIG at y profion diagnostig gorau posibl ar gyfer canser y prostad

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:09 pm ar 6 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 5:09, 6 Mawrth 2019

Pan mae hi'n dod at ganser, rŷn ni'n gwybod mai un o'r agweddau pwysicaf er mwyn gwella'r siawns o oroesi ydy sicrhau diagnosis cyflym. Weithiau mae'n haws dweud na gwneud, ond efo canser y brostad yn benodol, mae yna ddull profi sydd wir yn symleiddio ac felly'n cyflymu'r broses o roi diagnosis, a'r prawf hwnnw ydy sgan mpMRI. Does yna ddim modd o gael diagnosis canser y brostad drwy brawf llawfeddygol non-invasive. Er bod prawf PSA ar gael, dim ond adnabod a oes angen profion pellach mae hwnnw. Mae'r profion pellach yn cynnws biopsies ac mae'r rheini'n cael eu gwneud drwy ddulliau llawfeddygol, sy'n brofiad annymunol i'r claf ac yn brofiad mae cleifion yn dymuno'i osgoi os ydy hynny yn bosib. Dydy profion eraill ddim yn gwbl ddibynadwy chwaith. Maen nhw'n gallu methu canser—rhoi'r argraff bod y claf yn glir. Mi allai hynny arwain, wrth gwrs, at y claf yn anwybyddu symptomau a mynd heb eu trin o ganlyniad. Maen nhw hefyd yn gallu awgrymu bod canser yn y corff pan nad oes yna, gan arwain at driniaeth sy'n gallu arwain at sgileffeithiau gydol oes.

Mae'r sgan mpMRI yn cynnig llwybr llawer mwy addawol ar gyfer diagnosis mwy cywir. Yn syml iawn, mae o'n rhoi darlun cliriach o'r hyn sy'n digwydd yn y brostad. Ac mae'r dystiolaeth sydd yn dod i'r amlwg—a dwi'n diolch i Tenovus yn benodol am un briff sydd gen i—yn dangos bod gan sgan mpMRI y gallu i fod llawer mwy sensitif na biopsies eraill wrth adnabod canser clinigol arwyddocaol. Felly, mae o yn llawer llai tebygol o gynhyrchu canlyniadau negyddol ffug. Er hynny, dydy o ddim yn dileu'r posibilrwydd o ganlyniad positif ffug, felly pan fo'r prawf yn adnabod canser posib, mae'n rhaid i'r claf fynd drwy brawf pellach, sef biopsi. Felly, nac ydy, dydy o ddim yn berffaith, ond mae NICE wedi cefnogi'r defnydd o mpMRI fel gwelliant sylweddol ar yr hen system ac wedi cyhoeddi'r canllawiau i'r perwyl hwnnw.

Y cwestiwn, felly, sydd gennym ni o'n blaenau ydy nid o ddeiseb yn galw am rywbeth lle nad ydy'r dystiolaeth ddim yno eto i'w gefnogi fo—rŷn ni'n gofyn: pam fod yna ddim eto fynediad cyson i brofion sydd wedi cael eu profi i fod yn werthfawr yn yr amgylchiadau priodol?