– Senedd Cymru am 5:21 pm ar 19 Mawrth 2019.
Mae grŵp 6 ar flaendaliadau cadw. Y prif welliant yn y grŵp hwn yw gwelliant 29, a galwaf ar y Gweinidog i gynnig ac i siarad am y prif welliant ac unrhyw welliannau eraill yn y grŵp. Gweinidog.
Diolch ichi, Dirprwy Lywydd. Mae tystiolaeth a roddwyd gan sefydliadau tenant mewn cysylltiad â blaendaliadau cadw yn dangos, ar adegau, bod rhywfaint o gam-werthu gan rai asiantau neu landlordiaid, lle gall y cynnig a wnaed pan gymerir blaendal y darpar denant fod yn wahanol i'r hyn a osodir wedyn yn y contract ysgrifenedig. I raddau, gall hyn weithiau fod yn rhesymol, gan adlewyrchu, dyweder, yn dilyn gwneud gwiriad o eirda, fod angen trefniadau gwarantwr sy'n fwy cadarn, neu amrywiad arall i'r denantiaeth. Fodd bynnag, mae gwelliant 42 yn ceisio ymdrin â math o ymarfer heriol lle mae tenant yn cael ei ddarbwyllo i drosglwyddo blaendal cadw, a lle nad yw'r gwahaniaeth yn y contract terfynol o ganlyniad i amgylchiadau'r tenant, ond oherwydd bod yr asiant gosod tai yn addo gormod neu'n rhoi gwybodaeth nad oedd yn hollol gywir ymlaen llaw.
Mae gwelliant 42 yn mewnosod paragraffau 10 a 11 newydd yn Atodlen 2. Mae'r paragraff 10 newydd yn nodi'r amgylchiadau pan nad oes raid ad-dalu blaendal cadw a dalwyd i asiantau gosod tai. Hynny yw, os gwneir pob cam rhesymol i gynorthwyo'r landlord, sydd hefyd yn cymryd pob cam rhesymol i ymrwymo i gontract, ond yn y pen draw fod deiliad y contract yn methu ymrwymo i'r contract. Mae paragraff newydd 11 yn dweud na ellir dibynnu ar yr eithriadau ym mharagraffau 8, 9 a 10, sy'n ymdrin ag ad-dalu os bydd partïon yn methu ymrwymo i gontract, os na fydd gwybodaeth a bennir gan Weinidogion Cymru mewn rheoliadau i ddeiliad y contract cyn talu blaendal cadw. Mae hyn yn sicrhau nad oes unrhyw beth annisgwyl pan fydd deiliad y contract yn dod i lofnodi'r contract. Os na ddarperir gwybodaeth, ni all landlord neu asiant gosod tai ddibynnu ar eithriad i'r gofyniad i ad-dalu'r blaendal cadw. O ganlyniad, rhaid iddo gael ei ad-dalu.
Wrth graffu ar y Bil, daeth yn amlwg fod ansicrwydd a oedd taliad blaendal cadw yn rhoi'r hawl gyntaf i wrthod i ddeiliad contract i rentu'r eiddo. Mae gwelliant 36 yn egluro, mewn cysylltiad â blaendal cadw, fod cyfeiriadau at ddeiliad contract yn gyfeiriadau at y person y mae ei hawl gyntaf i wrthod yn cael ei chadw gan y blaendal cadw. Mae'r blaendal yn darparu gwarant fod darpar ddeiliad y contract, cyn gynted ag y bydd y gwiriadau angenrheidiol wedi'u cwblhau'n llwyddiannus, yn gallu arfer ei hawl i rentu annedd, sy'n ddarostyngedig i'r contract. Gwnaed honiadau bod rhai landlordiaid neu asiantau yn cymryd blaendal gan fwy nag un daliad ar yr un pryd er mwyn gosod pwysau ar bobl i lofnodi contract. Mae'r gwelliant yn amddiffyn yr hawl gyntaf i wrthod i'r person sydd wedi talu blaendal, gan egluro i bwy y rhoddwyd yr hawl hon.
Cyflwynwyd gwelliant 31 i sicrhau bod swm blaendal cadw sy'n uwch na rhent un wythnos yn daliad gwaharddedig. Roeddem yn pryderu bod rhywfaint o amwysedd ynghylch y swm y gellid ei godi, a allai danseilio hyder y deiliad contract wrth iddynt ddechrau chwilio am gartref. Bydd deiliaid contractau yn gwybod mai'r swm sydd angen iddynt ei dalu yw rhent un wythnos neu lai. Mae unrhyw beth dros y swm hwnnw yn daliad gwaharddedig.
Wrth adolygu'r Bil ar ôl Cyfnod 2 ystyriwyd y byddai'n fuddiol egluro'r ddarpariaeth yn Atodlenni 1 a 2 o ran cynnal blaendaliadau, gan gynnwys i bwy y gellid talu blaendal cadw. Gallai hyn fod yn landlord neu asiant gosod tai. Mae gwelliannau 29, 37, 38, 39, 40 a 41 yn dileu unrhyw amwysedd ynghylch i bwy y telir blaendal a phwy ddylai ei ad-dalu.
Mae gwelliant 30 yn fân welliant i adlewyrchu bod person sy'n talu blaendal cadw yn ddeiliad contract arfaethedig ar yr adeg y telir y blaendal yn hytrach nag yn ddeiliad y contract.
Cyflwynwyd gwelliannau 65 a 66 gan Leanne Wood i ddarparu 48 awr o gyfnod pwyllo pan fydd modd i'r deiliad contract hysbysu'r landlord nad yw eisiau ymrwymo i'r contract a chael ad-daliad o'r blaendal cadw. Rydym wedi gwrthod yr un gwelliant yng Nghyfnod 2, a gofynnaf i'r Aelodau wrthod y gwelliant hwn unwaith eto, oherwydd mae'n debygol o fod yn niweidiol i ddarpar ddeiliaid contract eraill yn ogystal â'r landlord.
Diben blaendal cadw yw dal yr eiddo am gyfnod byr o amser i ganiatáu i landlord wneud y gwiriadau a'r gwaith papur. Mae'n atal deiliaid contract posibl eraill rhag ymrwymo i gontract ar yr eiddo ac yn rhoi hawl cynnig cyntaf i'r person sydd wedi talu'r blaendal cadw. Ni ddylai'r landlord, wedi iddo gymryd blaendal cadw, gynnig yr eiddo i ddeiliaid contract posibl eraill— rhywbeth yr ydym wedi ei egluro'n well yn ein gwelliant 36. Pe bai gwelliannau 65 a 66 yn cael eu cytuno, mae'n bosibl y gallai deiliad contract osod blaendal cadw ar sawl eiddo, gan wybod y byddai'n cael ei arian yn ôl. Byddai hyn yn golygu y gallai deiliaid contract eraill gael eu hatal rhag cytuno ar gontract ar eiddo yr oedd deiliad y contract a oedd wedi talu'r blaendal cadw â diddordeb rhannol yn unig ynddo.
Gwnaed y pwynt yng Nghyfnod 2 y gallai cyfnod pwyllo fod yn briodol lle mae trefniadau gwerthu o bell yn gymwys, a byddai cyfnod pwyllo yn rhoi hawl awtomatig i ganslo a diddymu'r contract yn fuan ar ôl i'r contract gael ei ffurfio. Fodd bynnag, gwneir cyfyngiadau ar drefniadau gwerthu o bell i sicrhau nad oes unrhyw un arall yn cael ei amddifadu o ganlyniad i hynny, ar wahân i'r gwerthwr, ac oherwydd bod yna ymrwymiad i gontract. Fy mhryder i yw, lle telir blaendal cadw, y gall deiliaid contract eraill gael cam wrth geisio dod o hyd i gartref ac nid oes unrhyw ofyniad gorfodol i ymrwymo i gontract hirdymor.
Rydym wedi cyflwyno gwelliant 42 i ymdrin â phryderon a godwyd yn ystod y gwaith craffu bod gwybodaeth gamarweiniol yn cael ei rhoi i ddarpar denantiaid. Credaf y bydd pennu disgwyliadau o ran yr wybodaeth sydd i'w darparu i ddarpar denant, drwy reoliadau, ar yr adeg y telir blaendal cadw, yn ddigon i ddiogelu rhag unrhyw arferion diegwyddor. Gobeithio bod y dadleuon yr wyf wedi'u hamlinellu yn erbyn gwelliannau 65 a 66 yn ddigonol i dynnu sylw at eu hanfantais.
Byddai gwelliant 67, a gyflwynwyd hefyd gan Leanne Wood, yn atal ad-dalu blaendaliadau cadw pe byddai deiliad y contract yn fwriadol ac yn ddi-hid yn darparu gwybodaeth anwir neu gamarweiniol i'r landlord. Cyflwynwyd gwelliant oedd yn union yr un fath yng Nghyfnod 2. Nodais yng Nghyfnod 2 nad oeddwn yn ystyried bod y gwelliant yn angenrheidiol gan y byddem yn cyflwyno baich prawf troseddol a fyddai'n anodd ei brofi—hynny yw, a oedd deiliad y contract yn darparu gwybodaeth anwir neu gamarweiniol yn fwriadol neu'n ddi-hid. Byddai asiant neu landlord yn gorfod profi bod deiliad y contract wedi darparu gwybodaeth yn ddi-hid neu'n fwriadol. Fel y dywedais yng Nghyfnod 2, nid yw methu gwiriad credyd neu gyfeirio yn sail ddigonol i gadw'r blaendal cadw dan Atodlen 2. Gwn fod hyn wedi bod yn bryder a godwyd gan lawer o randdeiliaid, a gallaf sicrhau'r Aelodau nad yw hyn yn eithriad a ganiateir, gan nad yw'n cael ei adlewyrchu yn Atodlen 2. Am y rhesymau hyn, ni allaf gefnogi gwelliant 67 a gofynnaf i'r Aelodau ei wrthod.
I grynhoi, felly, Dirprwy Llywydd, rwyf yn gofyn i'r Aelodau gefnogi gwelliannau 29, 30, 31, 36, 37, 38, 39, 40, 41 a 42, a gwrthod y rhai a gyflwynwyd gan Leanne Wood, sef rhifau 65, 66 a 67.
Os gallaf drafod gwelliannau Plaid Cymru yn y grŵp hwn, nad wyf yn barod i'w cefnogi, gan nad wyf yn credu bod y cydbwysedd yn iawn rhwng buddiannau tenantiaid a landlordiaid. Siaradais am y gwelliannau hyn yng Nghyfnod 2, ond credaf ei bod yn briodol imi fynegi fy ngwrthwynebiad i'r Siambr gyfan yn awr.
Drwy weithredu cyfnod 48 awr o bwyllo ar gyfer y blaendal cadw, fel y mae gwelliannau Plaid Cymru 65 a 66 yn ceisio ei wneud, rydym yn tanseilio diben y blaendal cadw, ac yn effeithio'n andwyol ar fodel busnes y landlord. Mae pedwar deg wyth awr yn amser hir i landlordiaid fod mewn sefyllfa, o bosib, lle maent yn atal gweithgarwch y busnes ar yr eiddo hwnnw a'i ddal yn ôl. Efallai eu bod wedi cael hysbysiadau cryf eraill o ddiddordeb, ond, yn amlwg, oherwydd bod ganddynt flaendal cadw, ni allant fanteisio arnynt. Mae blaendal cadw yn fath o ymrwymiad, ac rwy'n credu bod gwir angen inni ddefnyddio'r cyfle hwn i ailadeiladu ymddiriedaeth rhwng landlordiaid a thenantiaid. Felly, credaf ei bod yn afresymol gosod y baich ychwanegol ar landlordiaid, o gofio ein bod yn ceisio tynhau'r gyfraith yma'n gyfan gwbl er budd y tenantiaid, sydd yn beth da. Ond wedyn, mae'r cyfnod pwyllo hwn o 48 awr ar gyfer y tenantiaid yn diddymu'r rhesymeg o gael blaendal cadw, felly nid wyf yn barod i dderbyn gwelliannau 65 a 66.
Yn ogystal â hyn, ni fyddaf yn cefnogi gwelliant 67 gan Leanne oherwydd credaf y bydd yn ychwanegu cymhlethdod pellach a dryswch, ac fe fydd yn fwy o faich ar landlordiaid. Byddai'r baich o brofi a yw deiliad y contract wedi cyflwyno gwybodaeth gamarweiniol, ac rwy'n dyfynnu, yn 'fwriadol ac yn ddi-hid' yn disgyn ar y landlordiaid, ac nid wyf yn credu bod hynny'n ychwanegu at ei eglurder na'i gydbwysedd. Rwy'n cytuno â safbwynt y Llywodraeth ar hyn.
Byddwn yn cefnogi nifer o welliannau a gynigwyd gan y Llywodraeth yn y grŵp hwn.
Mae gwelliannau 65 a 66 yn darparu ar gyfer cyfnod 48 awr o bwyllo, pan fydd modd i ddeiliad y contract dderbyn ad-daliad o'r blaendal cadw. Gwrthodwyd y gwelliannau hyn yn gynharach, ond mae'r Llywodraeth wedi ymrwymo i ymgysylltu â Shelter Cymru ac Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru ar y ffordd ymlaen. Felly, hoffwn glywed gan y Gweinidog beth yw'r diweddaraf ar hynny.
Mae gwelliant 67 yn egluro na ellir dal gafael ar flaendaliadau cadw o ganlyniad i fân anghysonderau ar ran deiliad y contract, megis methu gwiriad credyd neu gyfeiriad. Cafodd hyn ei wrthod fel gweithred anymarferol yng Nghyfnod 2, ond mae ein nodyn cyfreithiol yn dweud am hyn, 'Ni fyddwn yn cytuno â hyn, ond byddai'n gosod y baich ar y landlord i brofi bod deiliad y contract wedi rhoi gwybodaeth gamarweiniol yn fwriadol neu'n ddi-hid.' Ar y llaw arall, gallech ddadlau bod y gwelliant, yn syml, yn rhoi amddiffyniad i ddeiliad y contract ac yn fodd iddo adennill y blaendal pe byddai wedi gwneud camgymeriad gwirioneddol wrth ddarparu ei fanylion i'r landlord heb fod unrhyw fai arno ef ei hunan. Felly, unwaith eto, gofynnaf i'r Llywodraeth: beth ydych chi am ei wneud i atal gorelwa yma?
Credaf imi nodi ein safbwynt yn eithaf amlwg yn fy sylwadau agoriadol. Dim ond i ailadrodd, bod gwelliant 42 yn cynrychioli gwelliant synhwyrol a chymesur i ymdrin â phryderon ynghylch arferion amheus ar adeg cymryd blaendal cadw. Mae ein gwelliannau eraill yn dechnegol, i egluro sut y dylid trin blaendaliadau cadw. Ni wnaf eu hailadrodd Dirprwy Lywydd.
Yn anffodus, rwy'n dal i fod o'r farn bod gwelliannau 65 a 66, a gyflwynwyd gan Leanne Wood, yn parhau i fod yn anymarferol a gallen nhw yn anfwriadol roi tenantiaid sy'n ceisio dod o hyd i gartref dan anfantais. Rwy'n gwerthfawrogi nad hyn yw ei bwriad, ond rwy'n credu bod posibilrwydd o ganlyniad anfwriadol. Fel y dywedais, mae gwelliant 67 yn y bôn yn codi'r bar i'r un lefel ag a geir ar gyfer troseddau, a allai o bosibl arwain at fwy o anghydfodau rhwng landlordiaid a deiliaid contract. Am y rheswm hwnnw, anogaf yr Aelodau i wrthod y gwelliannau hynny.
Y cwestiwn yw bod gwelliant 29 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir gwelliant 29.
Gwelliant 30 i'w dderbyn—a oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Mae'n ddrwg gennyf, Gweinidog, dylwn i fod wedi gofyn ichi gynnig gwelliant 30.
Yn ffurfiol.
Y cwestiwn yw bod gwelliant 30 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, mae gwelliant 30—.
Gweinidog, gwelliant 31.
Yn ffurfiol.
Y cwestiwn yw bod gwelliant 31 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Diolch. Felly —.