Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:31 pm ar 20 Mawrth 2019.
Diolch i chi am y cwestiynau hynny. Credaf mai'r peth gorau fyddai cyfeirio nifer ohonynt tuag at y dinas-ranbarth. Mae hwn, wedi'r cyfan, yn brosiect lleol. Nid yw hwn yn brosiect y mae Llywodraeth Cymru wedi'i noddi. Mae'n brosiect sydd wedi dod o'r rhanbarth, ac mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn ei ariannu ar y cyd, ac maent wedi rhoi sicrwydd y bydd yr arian yn cael ei wario'n dda ac y cydymffurfir â'r strategaeth. Felly, mae llawer o'r cwestiynau manwl rydych yn eu holi ynghylch penodi'r bwrdd strategaeth a'r cynllun ariannol ac ati yn rhai nad wyf mewn sefyllfa i'w hateb; rheini yw'r cwestiynau y mae'r fargen ddinesig ei hun i'w hateb. Oherwydd, os ydym o ddifrif eisiau gwneud penderfyniadau'n seiliedig ar leoedd, rhaid i'r cyfrifoldeb a'r atebolrwydd aros yn lleol. Er ei fod wedi bod yn wahanol iawn tan nawr, credaf fod angen i'n rôl newid, fel y nodais yn gynharach, i fod yn fwy o bartneriaeth ac yn llai o rôl plismon. Ond nid yw'r fargen ddinesig, fel y mae wedi'i chyfansoddi ar hyn o bryd, fel y'i cynlluniwyd gan Lywodraeth y DU, yn rhoi'r rôl honno i ni'n benodol.
O ran yr amserlen, rydym yn gobeithio'n fawr y gallwn gael y prosiectau hyn dros y llinell. Ond fel y dywedais, mae'n rhaid i hyn ddod gan y dinas-ranbarth ei hun. Mae Alun Cairns a minnau wedi mynegi ein gobaith wrth arweinwyr y cynghorau—a chyfarfuom â hwy yr wythnos diwethaf—y byddem yn hoffi llif o brosiectau, gyda momentwm. Felly, os gallwn gael y ddau gyntaf dros y llinell cyn diwedd mis Ebrill fan bellaf, hoffem gael mwy cyn yr haf a chyn diwedd y flwyddyn. Fodd bynnag, mae'n werth nodi bod yr adolygiad annibynnol a gomisiynwyd ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn rhoi'r holl brosiectau ar lefel risg goch. Nawr, mae hwn yn ganfyddiad arwyddocaol iawn, wedi'i nodi ar ddiwedd yr atodiad yn yr adroddiad, ond tynnodd fy sylw yn sicr. Felly, nid wyf yn credu y gallwn gadarnhau unrhyw derfynau amser yn gyfrifol hyd nes y gallwn fod yn sicr y gall y cyd-fwrdd ddysgu gwersi, ac y bydd yr achosion yn ddigon cadarn i fodloni'r profion sydd gennym ar waith.
Gofynasoch am rôl y cyfarwyddwr a phwy fydd yn penodi i'r swydd honno, a rôl Llywodraeth Cymru. Ac rydych yn hollol gywir—mae hwn yn benodiad lleol; nid yw hon yn rôl ar gyfer Llywodraeth Cymru. Buaswn yn gobeithio ac yn disgwyl iddynt hysbysebu'r rôl honno, a chredaf fod y person a gaiff ei benodi i'r rôl honno yn hanfodol bwysig. Mae'r adolygiad annibynnol yn ei gwneud yn glir y dylai'r person hwn fod yn rhywun o statws cyfartal i brif weithredwr er mwyn herio a chraffu. Ac i fod yn deg, o'r tri adroddiad sydd bellach wedi'u cyhoeddi—adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, adroddiad Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, a'r adroddiad annibynnol, a gomisiynwyd ar y cyd gan y pedwar awdurdod lleol ac a gyflawnwyd gan eu harchwilwyr mewnol eu hunain—credaf mai hwnnw yw'r adroddiad mwyaf trwyadl ohonynt a'r mwyaf llym ei feirniadaeth. Ac rwy'n credu bod angen rhoi rhywfaint o glod i'r dinas-ranbarth am gomisiynu hwnnw eu hunain—y sector cyhoeddus a gyflawnodd hwnnw, nid ymgynghorwyr sector preifat—ac maent wedi'i gyhoeddi. Felly, maent wedi bod yn gwbl agored yn eu beirniadaeth ohonynt eu hunain, ac mae ei ddarllen yn brofiad anghysurus, ond i roi'r clod y maent yn ei haeddu iddynt, rwy'n credu eu bod wedi gwneud hynny a bellach mater iddynt hwy yw dysgu'r gwersi o'r adroddiad hwnnw yn llawn a'u rhoi ar waith. Felly, gobeithiaf fy mod wedi atebais y cwestiynau a ofynnodd yr Aelod.