Part of the debate – Senedd Cymru am 4:17 pm ar 20 Mawrth 2019.
Mae pwysigrwydd cysylltedd symudol wedi tyfu fwyfwy dros y blynyddoedd diwethaf, gyda perchnogaeth ar ffonau symudol yng Nghymru dros 90 y cant ymhlith oedolion—ac yn fy mhrofiad i, gallai fod hyd yn oed yn uwch ymhlith plant. O'r defnyddwyr ffonau symudol hyn yng Nghymru, mae 57 y cant yn dweud eu bod yn defnyddio ffôn symudol i fynd ar-lein. Felly, mae pwysigrwydd cysylltedd o'r fath wedi cynyddu'n aruthrol dros gyfnod cymharol fyr o amser. Y cwestiwn wedyn yw: a yw'r diwydiant wedi cadw i fyny gyda'r datblygiadau hyn? Ar gyfer Cymru, yn anffodus, rhaid ateb nad yw wedi gwneud hynny. Dengys ystadegau mai gennym ni y mae'r cysylltedd gwaethaf yn y DU. Mae'n peri pryder, felly, i ddarllen yn ymateb Llywodraeth Cymru i argymhelliad 4 o adroddiad pwyllgor yr economi a'r seilwaith fod Ofcom yn ymgynghori ar eu rhwymedigaethau. Mae eu cynnig presennol yn gosod rhwymedigaethau cysylltedd ar gyfer Cymru ar 83 y cant, er bod rhwymedigaethau cysylltedd ar gyfer Lloegr a Gogledd Iwerddon wedi'u gosod ar 90 y cant. Yn sicr mae hyn yn sarhad ar Gymru. A allwn fod yn sicr y bydd Llywodraeth Cymru yn ddigon grymus yn ei thrafodaethau ag Ofcom, ac nad yw'n mynnu dim sy'n llai na chydraddoldeb â rhannau eraill o'r DU?
Rydym i gyd yn gwybod bod gan y drefn gynllunio ran allweddol i'w chwarae o ran y signal ffonau symudol ledled Cymru. Mae'n hanfodol felly fod y drefn gynllunio mor hyblyg a chydnaws ag y bo modd, gan adlewyrchu topograffeg a dosbarthiad y boblogaeth yng Nghymru. Roedd yr holl weithredwyr ffonau symudol o'r farn y gallai codi'r uchder a ganiateir ar gyfer mastiau o 15 i 30m gael effaith ddramatig ar signal, ac mae'n dda gweld bod Llywodraeth Cymru wedi cytuno bellach i ganiatáu mastiau 25m, er nad rhai 30m. Ac fel y nododd Joyce Watson, mae'n hollbwysig fod y mastiau hyn yn cael eu rhannu. Deallwn gan y gweithredwyr y bydd mastiau uwch yn caniatáu mwy o rannu. Felly, bydd yn bwysig i Lywodraeth Cymru wneud yn siŵr eu bod yn gweithredu'r hyn y dywedant eu bod yn ei weithredu.
Mae pawb ohonom yn gwybod bod gan y drefn gynllunio ran allweddol i'w chwarae yn y signal ffonau symudol ledled Cymru. Mae'n hanfodol felly fod y cynlluniau—. Mae'n ddrwg gennyf.
Os yw Cymru i gael rhwydwaith ffonau symudol sy'n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, mae'n bosibl y bydd yn rhaid iddi bwyso ar ddulliau arloesol o ymdrin â llawer o'r mannau gwan sy'n bodoli yn awr. Dylai Llywodraeth Cymru wneud popeth yn ei gallu i annog arloesi o'r fath. Mae pwysigrwydd ein gwasanaethau brys a'u gallu i achub bywydau yn dibynnu ar raglen cyfathrebu symudol y gwasanaethau brys—ESMCP. Mae wedi cael cymorth gan y Swyddfa Gartref i ddarparu cyllid ar gyfer mastiau mewn ardaloedd lle nad yw'n ymarferol i ddarparwyr gwasanaethau wneud hynny. O ystyried y sylw gan EE eu bod yn cyrraedd terfynau hyfywedd masnachol o ran buddsoddiad uniongyrchol, dylai Llywodraeth Cymru edrych ar bob cyfle posibl i rannu rhai o gyfleusterau'r ESMCP. Gan fod sylwadau EE yn amlwg yn ymwneud â thopograffi Cymru, a ddylem edrych ar sut y mae rhannau o'r Alban yn ymdopi â chyfyngiadau topograffaidd tebyg?
Yn gryno, mae'n rhaid cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud gwaith rhagorol ar gyflwyno cysylltedd rhyngrwyd dros gyfnod byr o amser, ond rhaid inni weld yr un cadernid mewn perthynas â'r rhwydwaith symudol, a fydd yn chwarae rhan gynyddol mewn cysylltedd dros y blynyddoedd nesaf. Rhaid inni gydnabod bod 5G, yr arloesedd newydd nesaf i'r rhwydwaith ffonau symudol, yn ehangu'n gyflym. Rhaid i Gymru fod yn barod i gofleidio'r arloesedd diweddaraf hwn. Ni allwn gael ein gweld yn llusgo ar ei hôl hi o ran mabwysiadu'r dechnoleg newydd hon. Yn wir, os ydym yn mynd i ddenu diwydiannau uwch-dechnoleg i Gymru, mae'n hanfodol ein bod ar flaen y gad yn darparu technolegau o'r fath.