Cyfarfod y Cyngor Ewropeiaidd

Cwestiwn Brys – Senedd Cymru ar 26 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rees David Rees Labour

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad yn dilyn diwedd cyfarfod y Cyngor Ewropeaidd a gynhaliwyd ar 21 a 22 Mawrth? (EAQ0006)

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 1:30, 26 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Mae'n rhywfaint o gysur bod 27 aelod yr UE wedi cynnig cyfnod byr i osgoi trychineb Brexit 'dim cytundeb'. Croesawaf yn frwd bleidlais y Senedd i gymryd yr awenau yn ôl yn y cyfnod argyfyngus hwn. Mae'n rhaid i'r Prif Weinidog roi'r gorau i'w llinellau coch trychinebus a gwrando. Bydd angen defnyddio'r amser ychwanegol yn ddoeth, i datrys yr anghytundeb ac i dod o hyd i fwyafrif yn y Senedd sydd o blaid ffurf feddal ar Brexit, fel y nodir gennym yn 'Diogelu Dyfodol Cymru'. Os na fydd hynny'n digwydd, bydd angen i'r cyhoedd benderfynu ar y ffordd ymlaen.

Photo of David Rees David Rees Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am yr ateb yna, Cwnsler Cyffredinol. Ac mae'r sylw diwethaf yr ydych newydd ei wneud yn ddiddorol iawn, ond, yn amlwg, yr wythnos diwethaf, gwelsom Lefarydd Tŷ'r Cyffredin yn ei gwneud yn gwbl glir na châi'r Prif Weinidog ddod â'r cynnig yn ôl, nad oedd wedi ei ddiwygio mewn unrhyw ffordd o gwbl. Aeth hi at y Cyngor Ewropeaidd ar 21 a 22 Mawrth, gan wneud cais am estyniad, er, fel y nododd Prif Weinidog Cymru ddoe, nad oeddent wedi gweld beth oedd yn y cais hwnnw. Treuliodd y penwythnos mewn anhrefn, gan siarad â chefnogwyr Brexit yn ei hannedd breifat yn Chequers. A ddoe, fe wnaeth hi osod offeryn statudol yn gofyn am estyniad, neu newid yn y dyddiad ymadael, eto heb roi gwybod i'r cenhedloedd datganoledig ei bod hi'n gwneud hynny. Mae'n anhrefn llwyr. A neithiwr collodd hi'r bleidlais eto yn Nhŷ'r Cyffredin.

Fel y dywedwch, mae'n braf gweld bod y Cyngor Ewropeaidd a'r Senedd, bellach yn cymryd camau i adennill rheolaeth dros yr holl broses hon, oherwydd nad oes gan Prif Weinidog y DU unrhyw syniadau o gwbl—wel, dim ond un oedd ganddi, ac nid yw hwnnw'n mynd i unman, ydy e? Ac mae hi'n mynd yn brin iawn o amser erbyn hyn hefyd. Ond dim ond pythefnos yw'r ymestyniad yr ydych chi wedi sôn amdano, ac ymhen pythefnos, gallem fod yn wynebu'r un sefyllfa, lle gallem fod yn gadael heb gytundeb. A ydych chi'n cytuno, felly, ei bod yn hanfodol ei bod hi nawr yn ymrwymo i fynd â hyn ymlaen, mae angen iddi weithio mewn gwirionedd gyda phleidiau eraill, mae angen iddi ystyried a chydweithredu mewn gwirionedd â grwpiau eraill i weld os gallwn ni gael y cytundeb gorau posibl? Ac os bydd hynny'n methu, dylai fynd yn ôl at y bobl a gofyn am etholiad cyffredinol, fel y gallwn ni leisio barn mewn gwirionedd ar hyn a chael gwared ar y Llywodraeth hon, sydd mewn methiant llwyr.

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 1:32, 26 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Wel, rwy'n cytuno'n llwyr â'r Aelod pan ddywed fod hyn yn drychineb a achoswyd gan y Prif Weinidog. Yr hyn sy'n syfrdanol i mi, ac i Aelodau'n gyffredinol, rwy'n siŵr, yw, dri diwrnod cyn y dyddiad y bwriadwyd iddo fod y diwrnod ymadael, ein bod yn gweld y lefel hon o anhrefn yn y Senedd, gyda Gweinidogion y Llywodraeth yn ymddiswyddo neithiwr, a'r Senedd yn dwyn rheolaeth yn ôl. Mae'n ddyletswydd bellach ar y Prif Weinidog i wrando ar ewyllys y Senedd ac i fwrw ymlaen â hynny. Petai hi wedi mabwysiadu dull o'r dechrau a fyddai'n cynnwys pawb yn Nhŷ'r Cyffredin, i chwilio am wahanol fath o Brexit, ni fyddem yn y sefyllfa hon nawr.

Os yw hi'n dewis parhau i gael y glymblaid culaf bosibl ar gyfer ei hymagwedd tuag at Brexit, bydd hi'n methu. Os bydd hynny'n golygu ei bod yn llwyddo—ac rwyf yn amau y bod hynny'n digwydd—o ran trydedd pleidlais, hyd yn oed pe byddai hynny'n digwydd, mae'n sail hynod ansefydlog ar gyfer mynd i'r afael â'r dasg ddeddfwriaethol sydd o'n blaenau i sicrhau Brexit trefnus, a byddai'n anghyfrifol iawn iddi wneud hynny. Rydym wedi dweud yn glir iawn mai'r hyn y mae angen iddo ddigwydd yw bod y Senedd yn chwilio am sail ehangach o lawer ar gyfer y trafodaethau sydd i ddod ac i'r datganiad gwleidyddol gael ei ail-negodi ar ffurf debyg i'r hyn yr ydym wedi galw amdano yma yn y Cynulliad hwn, a gymeradwywyd sawl gwaith, ac fel y disgrifir yn 'Sicrhau Dyfodol Cymru'. Gellid gwneud hynny'n gyflym, ni fyddai angen ail-negodi'r cytundeb ymadael, a gellid ei wneud o fewn y math o amserlen sy'n cael ei drafod ar hyn o bryd gyda'r Undeb Ewropeaidd. Ac os bydd hynny'n methu, yna, fel yr eglurais yn gynharach, ein safbwynt ni yw bod yn rhaid i'r cyhoedd gael dweud eu dweud.

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative 1:33, 26 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Mae'n rhaid imi ddweud, Gweinidog Brexit, fy mod i'n siomedig iawn eich bod wedi bod yn beirniadu'r Prif Weinidog. Tra'ch bod chi ac eraill yn y Siambr hon, ac mewn mannau eraill—[Torri ar draws.]

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 1:34, 26 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Gadewch i'r Aelod gael ei glywed, os gwelwch yn dda.

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative

(Cyfieithwyd)

Er eich bod chi ac eraill yn y Siambr hon ac mewn mannau eraill yn benderfynol o wneud popeth o fewn eich gallu i rwystro Brexit a'i atal rhag digwydd, mae'r Prif Weinidog yn gweithio'n galed i wireddu canlyniad refferendwm yr Undeb Ewropeaidd ym mis Mehefin 2016, ac i gyflawni Brexit trefnus sy'n diogelu swyddi, sy'n amddiffyn yr amgylchedd ac sy'n cadw pobl yn ddiogel. Rwyf i'n cymeradwyo'r Prif Weinidog am sicrhau estyniad byr i erthygl 50. Mae'n rhywbeth doeth iawn i'w wneud yn yr amgylchiadau presennol, ac, wrth gwrs, mae'n rhoi mwy o amser i bobl fyfyrio ar ei chytundeb, a'r dewisiadau eraill yn hytrach na hynny. Nawr, efallai y byddwch chi eisiau beirniadu'r gwahaniaethau barn yn y Blaid Geidwadol, ond o leiaf mae'r Ceidwadwyr yn gwneud y peth iawn ac yn ymddiswyddo o feinciau'r Llywodraeth pan eu bod yn anghytuno â'r Llywodraeth, yn wahanol i'ch Gweinidog iechyd chi sy'n eistedd i lawr y rhes oddi wrthych ar y fainc flaen. [Torri ar draws.]

Felly, gadewch i mi fod yn glir: pleidleisiodd Cymru i adael yr UE, a gadael yr UE y mae'n rhaid i ni ei wneud. Mae'n rhaid i Lywodraethau'r DU a Chymru barchu'r penderfyniad hwnnw ac mae'n rhaid i ni weithio gyda'n gilydd i gyflawni canlyniad y refferendwm. Ni wnaeth pobl Cymru bleidleisio dros fwy o etholiadau Ewropeaidd. Ni wnaeth pobl Cymru bleidleisio dros gyfnodau hir o ansicrwydd. Maen nhw'n dymuno i'r ansicrwydd hwn ddod i ben. Fe wnaethon nhw gymryd rhan yn y weithred ddemocrataidd fwyaf yn hanes y Deyrnas Unedig ac mae'n rhaid gweithredu canlyniad eu penderfyniad i adael yn y refferendwm hwnnw. Felly, gofynnaf i chi nawr, a fydd Llywodraeth Cymru yn gwneud y peth iawn dros ein gwlad, ac yn rhoi gwleidyddiaeth pleidiol o'r neilltu—[Torri ar draws.]—gwireddu'r addewid, a wnaeth eich plaid chi mewn dogfennau maniffesto i gyflawni canlyniad y refferendwm, a chefnogi'r unig gytundeb sydd wedi ei negodi â'r Undeb Ewropeaidd ac sydd wedi'i gytuno â'r UE, sef cytundeb y Prif Weinidog, fel y gallwn symud ymlaen, cyflawni Brexit a pharchu canlyniad y refferendwm?

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 1:36, 26 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Mae gan yr Aelod tua'r un faint o gefnogaeth o blaid ei safbwynt ef yn y Siambr hon ag sydd gan Prif Weinidog y DU yn Nhŷ'r Cyffredin o blaid ei safbwynt hi. [Torri ar draws.] Mae'n dra rhyfeddol, y diwrnod ar ôl i ni weld ymddiswyddiadau niferus o Lywodraeth y DU er mwyn gallu pleidleisio yn erbyn y chwip, o leiaf y gall y Prif Weinidog ddibynnu ar deyrngarwch diwyro Darren Millar. [Torri ar draws.]

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Ni allaf glywed y Gweinidog Brexit. Caniatewch i'r Gweinidog Brexit gael ei glywed, os gwelwch yn dda.

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour

(Cyfieithwyd)

Y Prif Weinidog yn unig sydd ar fai ein bod yn y strach hwn. Petai hi wedi sylweddoli'n gynnar bod y glymblaid gul rhwng cefnogwyr Brexit, y DUP a'i Phlaid hi ei hunan yn mynd i 'n gadael yn y sefyllfa hon—sefyllfa a oedd yn gwbl amlwg o'r cychwyn cyntaf—ni fyddem ni yn y sefyllfa anhrefnus hon dri diwrnod cyn y bwriadwyd i ni adael. Nawr mae'n rhaid i'r Prif Weinidog wneud yr hyn y mae hi wedi methu â'i wneud o'r dechrau a dangos arweinyddiaeth ar y mater hwn, estyn ar draws Tŷ'r Cyffredin, cydymffurfio ag ewyllys Tŷ'r Cyffredin—mae hi yn y sefyllfa hon dim ond oherwydd methiant llwyr y Llywodraeth—a chyflwyno cytundeb i'r DU y gall y Senedd a'r UE ei gefnogi ac y mae'r Llywodraeth yn y fan yma yng Nghymru wedi bod yn dadlau drosto am ddwy flynedd a mwy.

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 1:37, 26 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Gweinidog, nawr bod y dewisiadau sydd ar gael yn culhau, byddwn yn gwerthfawrogi eglurder o ran pa mor bell fyddai Llywodraeth Cymru yn barod i fynd er mwyn osgoi sefyllfa 'dim cytundeb'. Bydd cyfres o bleidleisiau dangosol yn San Steffan yr wythnos hon, a bydd ASau Plaid Cymru yn rhoi blaenoriaeth i gynnal pleidlais y bobl fel yr unig ffordd gynaliadwy o ddatrys yr argyfwng. Ond mae ein ASau hefyd wedi llofnodi gwelliant dirymu a fwriedir i orfodi Llywodraeth y DU i ddirymu erthygl 50 petai 'dim cytundeb' yn anochel fel arall. Byddai hyn yn caniatáu inni osgoi'r argyfwng am ryw hyd fel y gellid dod o hyd i lwybr newydd ar gyfer ymdrin â mater ein perthynas â'r UE, gan gynnwys pleidlais y bobl ar ôl dirymu gyda dewis i barhau am byth neu i adael ar delerau penodol. A fyddai Llywodraeth Cymru hefyd yn cefnogi dirymu fel galwad brys i achub y trên gwladwriaethol rhag rhuthro oddi ar glogwyn 'dim cytundeb' i drychineb? Ac, ar y pwynt hwnnw, a gaf i ofyn i'r Gweinidog pa un a yw ef ymhlith y 3,600 o bobl, a disgwylir y bydd mwy, o etholaeth Castell-nedd sydd wedi llofnodi'r ddeiseb i ddirymu erthygl 50?

Mae'n bosibl, fodd bynnag, y bydd Llywodraeth y DU yn cefnogi gweithdrefn a fyddai'n caniatáu iddi ffurfio consensws drwy dynnu gwahanol ddewisiadau oddi ar y bwrdd fesul un tan y gellir ffurfio mwyafrif y tu ôl i un llwybr. Cynigiodd fy nghyd-Aelod Jonathan Edwards AS y syniad hwn fisoedd yn ôl ac awgrymodd y gellid defnyddio system pleidleisio amgen i gyflawni'r nod hwn. Yn olaf, pe byddai hyn yn digwydd a bod y Senedd yn gallu cytuno ar ffordd ymlaen, a yw Llywodraeth Cymru yn cytuno y byddai'n ddoeth i ymestyn erthygl 50 am ba gyfnod bynnag y byddai'n cymryd i ail-negodi â'r UE  ar ba sail bynnag a gytunir i gyflawni hynny? Os felly, a yw Llywodraeth Cymru yn cytuno y byddai hyn yn golygu y byddai angen i'r DU gymryd rhan yn yr etholiadau Ewropeaidd ym mis Mai?

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 1:39, 26 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Wel, diolch i'r Aelod am y gyfres yna o gwestiynau. Yn gyntaf, ynglŷn â'r pwynt am erthygl 50 a dirymu erthygl 50, mae hi'n camgyfleu'r sefyllfa, yn anfwriadol rwy'n siŵr. Mae Llys Cyfiawnder Ewrop wedi bod yn glir iawn nad yw diddymu erthygl 50 ar gael i Lywodraeth y DU er mwyn ceisio cael refferendwm arall. Mae'n glir mae'r unig sail ar gyfer dirymu hynny yw pe byddai newid ymagwedd a bod y DU yn bwriadu aros fel aelod-wladwriaeth o'r Undeb Ewropeaidd.

O ran y dewisiadau a ddarperir i Aelodau Seneddol, rwy'n gobeithio y bydd Aelodau Seneddol yn ystyried y dewisiadau sydd ger eu bron, gan gydnabod nad oes unrhyw ddewis yn debygol o arwain at sefyllfa pan fo pob aelod o'r cyhoedd yn fodlon ar y canlyniad y daethpwyd ato. Mae'n bryd i gyfaddawdu mewn modd adeiladol o ran y dewisiadau sydd ar gael. Rydym ni'n gobeithio y byddan nhw'n cael cyfle i bleidleisio ar y math o gytundeb Brexit yr ydym ni wedi bod yn ei hyrwyddo yn y fan yma—cyfochri agos a phartneriaeth gref—ac rydym ni hefyd yn gobeithio y byddan nhw'n cael cyfle i bleidleisio ar refferendwm arall. Rydym wedi nodi'n glir y byddwn ni'n gallu cefnogi'r naill ddewis neu'r llall ar y meinciau hyn.

Photo of Lynne Neagle Lynne Neagle Labour 1:40, 26 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Gweinidog, roeddwn i'n falch iawn ddydd Sadwrn o orymdeithio â miliwn neu fwy o ddinasyddion y Deyrnas Unedig, gan gynnwys miloedd lawer o bobl o Gymru. Rwy'n siŵr y byddwch chithau hefyd wedi gweld y 5.5 miliwn o bobl sydd wedi llofnodi'r ddeiseb yn galw am ddirymu erthygl 50. O ystyried yr adlach ddemocrataidd ddigynsail o ran y mater hwn, a ydych chi'n cytuno â mi ei bod yn bryd erbyn hyn i Lywodraeth Cymru roi cefnogaeth groch i'r angen am bleidlais y bobl ar y mater hwn, a fyddai'n ymwneud yn gyfan gwbl â gwrando ar ewyllys y bobl gan eu bod wedi cael y cyfle erbyn hyn i ystyried sut mae dyfodol Brexit yn edrych?

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 1:41, 26 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Wel, mi wn fod yr Aelod wedi bod yn un o gefnogwyr y safbwynt hwn yn ein plaid ni ers peth amser ac mi wn ei bod hi ac eraill yno ddydd Sadwrn. Gwelais hefyd neges Prif Weinidog Cymru ddydd Sadwrn, a oedd yn ei gwneud yn amlwg mai safbwynt Llywodraeth Cymru yw, fel ag y bu, sef os yw'r Senedd yn penderfynu bod angen ail refferendwm er mwyn ein hachub rhag yr argyfwng hwn, y byddem ni'n cefnogi hynny, a'n bod yn credu, er hynny, o gofio'r amser sydd ar ôl, y dylid gwneud paratoadau nawr, y dylid cymryd camau i baratoi nawr, rhag ofn y bydd angen hynny. Os yw'r Senedd yn cymryd y llwybr hwnnw ac yn ein symud ymlaen ar y sail honno, yna rwy'n credu, ac mae'r Llywodraeth yn credu, fel yr ydym wedi ei wneud erioed, y byddai Cymru yn well ei byd wrth ddewis i aros yn yr Undeb Ewropeaidd. Dyna oedd y sefyllfa yn 2016 ac mae hynny'n dal i fod yn wir heddiw.

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 1:42, 26 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

A yw'r Cwnsler Cyffredinol yn cytuno â mi ein bod yn awr mewn argyfwng o ran democratiaeth? Dywedodd ar ddechrau'r cwestiwn hwn heddiw ei bod yn ddyletswydd ar y Llywodraeth erbyn hyn i gyflawni ewyllys y Senedd. Ond onid y broblem yn y fan yma yw bod y Senedd yn anfodlon i gyflawni ewyllys y bobl? Pleidleisiodd 17.4 miliwn o bobl dros adael yr UE yn y refferendwm, ond mae gennym fwyafrif llethol o Aelodau Seneddol, ac yn wir, mwyafrif llethol o Aelodau'r Cynulliad hwn, sydd o blaid aros, ac yn benderfynol, ar bob cyfrif, i lesteirio penderfyniad pobl Prydain mewn refferendwm rhydd ddwy flynedd a hanner yn ôl.

Mae 87 y cant o'r rhai sydd o blaid gadael, yn y pôl piniwn cyfredol a gyhoeddwyd heddiw, yn credu bod gwleidyddion eisiau atal Brexit, ac mae hyd yn oed 38 y cant o'r rhai sydd o blaid aros yn credu bod gwleidyddion eisiau atal Brexit. Dim ond 19 y cant o'r cyhoedd a anghytunodd â hynny. Mae pedwar deg un y cant o'r cyhoedd yn credu y dylem ni adael ar delerau Sefydliad Masnach y Byd, a dim ond 28 y cant sy'n anghytuno. Mae 53 y cant o'r cyhoedd yn dweud os bydd Aelodau Seneddol yn pleidleisio i ddirymu erthygl 50, y bydd yn gwneud niwed anadferadwy i'r broses ddemocrataidd. Onid yw hyn yn fater o'r dosbarth gwleidyddol proffesiynol yn y fan yma yn mynd wyneb yn wyneb â'r bobl, a dim ond un ffordd y mae hynny'n mynd i ddod i ben maes o law? 

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 1:43, 26 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Os caf ddweud, nid yw'r Aelod yn gwneud dim tegwch â chymhlethdod y ddadl ynglŷn â Brexit. Ac rydym, i fod yn blwmp ac yn blaen, yn y sefyllfa yr ydym ni ynddi oherwydd yr addawyd pethau nad oedd yn bosibl eu cyflawni i bobl am gyfnod rhy hir, ac nid yw gwleidyddion wedi disgrifio iddynt y dewisiadau anodd sy'n gysylltiedig â tramwyo'r dyfroedd tymhestlog hyn. Mae e'n ymosod ar Aelodau Seneddol am y rhan y maen nhw'n ei chwarae yn hyn o beth. Mae hynny'n hynod anghyfrifol yn fy marn i, a gwelsom y Prif Weinidog yn gwneud yr un peth o Stryd Downing yr wythnos diwethaf.

Beth ddylai fod wedi digwydd o'r cychwyn yw y dylai'r Prif Weinidog fod wedi gwrando ar fwy o Aelodau Seneddol yn hytrach na llai ohonyn nhw. Maen nhw'n ymwneud â phroses o geisio cysoni canlyniad refferendwm 2016 â'r dewisiadau sy'n ymwneud â hynny a sut yr ydym ni am ddilyn trywydd sy'n parchu'r canlyniad hwnnw yn y modd gorau, ond gan hefyd wneud cyn lleied â phosib o niwed i economi Cymru a'r DU. Rwy'n gobeithio, yn y dyddiau nesaf, ac rwyf yn siŵr y bydd Aelodau Seneddol yn y dyddiau nesaf, yn ymdrin â'r dasg honno mewn ffordd sy'n parchu canlyniad refferendwm 2016 ond sydd hefyd yn mynd â ni at sefyllfa sy'n adlewyrchu'r math o berthynas Brexit—y berthynas ôl-Brexit—yr ydym ni wedi bod yn ei hargymell ar y meinciau hyn am ddwy flynedd neu fwy.

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 1:45, 26 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Yn yr un modd ag eraill, roeddwn i'n falch iawn o ymuno â'r filiwn o bobl ar strydoedd Llundain ddydd Sadwrn, ac roeddwn i'n falch o orymdeithio y tu ôl i Lynne Neagle, a oedd yn arwain galw gan filiwn o bobl i gael llais teg a'r gair olaf yn y materion hyn. Roeddwn i wrth fy modd o glywed y Gweinidog iechyd a'r Gweinidog materion rhyngwladol yn siarad dros Gymru ac yn siarad dros Lywodraeth Cymru a Llafur Cymru, yn mynnu—mynnu—bod unrhyw gytundeb yn mynd yn ôl i'r bobl ar gyfer y gair olaf. Gweinidog, a ydych chi'n cytuno â Tom Watson pan siaradodd ddydd Sadwrn? Dywedodd mai'r ffordd o uno ein gwlad, ein Seneddau a'n pobl unwaith eto yw rhoi'r materion hyn yn ôl i'r bobl, i bleidlais gyhoeddus, er mwyn galluogi pob un ohonom ni i wneud penderfyniad ar ein sefyllfa heddiw a'r argyfwng sydd wedi ei greu gan fethiant Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Ac a ydych chi'n cytuno â Keir Starmer pan ddywedodd bod yn rhaid i unrhyw gytundeb y mae'r Prif Weinidog yn dychwelyd ag ef fynd yn ôl i'r bobl fel mai'r bobl sy'n gwneud y penderfyniad hwn a'n bod ni'n uno'r wlad hon ac yn symud oddi wrth y rhaniadau y mae pobl ar dde eithafol byd gwleidyddiaeth wedi ceisio eu creu a manteisio arnynt? A thrwy wneud hynny, y peth cyntaf y mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru ei wneud nawr yw sicrhau bod gennym ni amser—bod gennym ni amser i wneud y penderfyniad hwnnw, bod gennym ni amser i ystyried y materion hyn a bod gennym ni amser i bleidleisio arno. Gadewch i mi ddweud hyn: byddaf yn sefyll yn gadarn ac yn siarad dros fy etholwyr—[Torri ar draws.]—oherwydd fe'm hetholwyd ganddyn nhw i wneud hynny. [Torri ar draws.] Dydych chi erioed wedi ennill etholiad o gwbl.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 1:46, 26 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Arhoswch. Mae gormod o ddicter yn yr ystafell hon ar hyn o bryd a gofynnaf i'r Aelodau ymdawelu. Mae'r rhain yn faterion pwysig ac mae angen iddyn nhw gael eu trafod a'u cwestiynu mewn ffordd ddigyffro. Y Gweinidog i ymateb, os gwelwch yn dda.

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Wel, mewn ymateb i'r Aelod, fel y bydd ef yn gwybod, safbwynt Llywodraeth Cymru yw bod refferendwm yn un o ddwy ffordd o ymateb i'r sefyllfa yr ydym ni ynddi. Gwn ei fod yno gyda chyd-Aelodau eraill ddydd Sadwrn yn hyrwyddo refferendwm. Rydym ni wedi bod yn eglur os oes cytundeb ar gael sy'n adlewyrchu egwyddorion 'Diogelu Dyfodol Cymru'—un o bartneriaeth agos a chyfochri yn y dyfodol—mai dyna'r ffordd ymlaen yr ydym ni'n ei hyrwyddo, ac yn absenoldeb hynny, yna bydd angen refferendwm arall er mwyn i ni allu bwrw ymlaen. A dyna fydd y cyfle i bobl fynegi eu barn, a byddwn ni, fel Llywodraeth, yn dadlau y bydd Cymru, fel y bu erioed, yn well ei byd fel aelod o'r Undeb Ewropeaidd, a byddwn yn rhoi'r cyngor hwnnw i bobl Cymru ar yr adeg honno.