1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 26 Mawrth 2019.
1. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu cymorth Llywodraeth Cymru ar gyfer gweithgynhyrchu dur? OAQ53665
Llywydd, mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r economi sector dur yng Nghymru yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol. Mae buddsoddiadau mewn arloesedd, ymchwil a datblygiad, datblygu sgiliau a chaffael i gyd yn adlewyrchu ein cydnabyddiaeth o bwysigrwydd gweithgynhyrchu dur i economi Cymru.
Diolch, Prif Weinidog. Rwyf yn croesawu eich datganiad ysgrifenedig yn gynharach heddiw ar ymchwil a datblygiad ym maes dur. Rwy'n ymwybodol bod grŵp Liberty wedi lansio strategaeth dur gwyrdd, sy'n ailgylchu dur. Nawr, maen nhw'n dweud y bydd hyn yn gweddnewid gweithgynhyrchu, yn ailfywiogi'r gadwyn gyflenwi ac yn creu swyddi medrus newydd, gan sicrhau dyfodol wedyn i'r diwydiant dur yma yng Nghymru. Pa ystyriaethau mae eich Llywodraeth a chi eich hunan wedi eu rhoi i fuddsoddi a chefnogi'r cynllun arbennig hwn a chynlluniau a strategaethau eraill tebyg iddo?
Wel, Llywydd, hoffwn ddiolch i'r Aelod am dynnu sylw at gynigion dur gwyrdd Liberty Steel. Maen nhw'n gyfraniad pwysig iawn i drafodaethau ar ddyfodol y sector dur, a chymeradwyaf y cwmni ar y gwaith y mae wedi ei wneud yng Nghasnewydd hyd yn hyn. Roeddwn i'n ddigon ffodus, Llywydd, o gael taith o gwmpas safle Liberty Steel yng Nghasnewydd yn gynharach y llynedd ac i glywed yn uniongyrchol gan y cwmni am eu cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Felly, ar lefel swyddogol, cynhaliwyd trafodaethau gyda'r cwmni y llynedd o ran cyflwr y syniadau y maen nhw'n eu cyflwyno o dan y weledigaeth dur gwyrdd ar yr adeg honno. Bydd yr Aelod yn deall bod cyfres o faterion a gododd i'r Llywodraeth ynglŷn â nhw. Ceir materion mantolen y bydd Aelodau yn y Siambr hon yn gyfarwydd â nhw, y mae'n rhaid iddyn nhw gynnwys y Swyddfa Ystadegau Gwladol ac Eurostat o ran unrhyw gymorth ariannol y gallai'r Llywodraeth ei roi. Ceir materion cymorth gwladwriaethol y mae'n rhaid eu hymchwilio, ac, wrth gwrs, ceir materion gwerth am arian mewn unrhyw fuddsoddiad y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud. Cynhaliwyd y trafodaethau hynny y llynedd. Mae swyddogion yn parhau i ymgysylltu â Liberty Steel yn rheolaidd, wrth i ni weld sut y gallwn ni weithio gyda'r cwmni hwn i fwrw ymlaen â'r syniadau diddorol iawn y maen nhw'n eu cynnig.
Yn y datganiad ysgrifenedig heddiw, rydych chi'n sôn am leihau allyriadau ac am foderneiddio'r gweithlu dur o ran y gwaith pŵer ac o ran y cyfleusterau newydd sydd ar gael. Wrth gwrs, roedd hyn yn rhan o gytundeb cyllidebol Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru, a hoffwn ddeall ar ba gam yr ydym ni erbyn hyn o ran rhyddhau'r cyllid ar gyfer camau'r dyfodol. Rydym ni wedi cael sawl trafodaeth yn y grŵp trawsbleidiol ar y diwydiant dur, gan fod yn awyddus i fwrw ymlaen â'r datblygiad hwn, ond efallai heb ddeall yn llawn pryd y bydd camau'r dyfodol yn gallu cael eu rhyddhau, i wneud yn siŵr y gallwn ni fod mor ystyriol o'r amgylchedd â phosibl yng ngwaith dur Port Talbot, ond hefyd gwneud yn siŵr ei fod yn lle modern i bobl weithio ynddo hefyd.
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn pwysig yna. Gwn ei bod hi, fel eraill yn y Siambr hon, wedi croesawu'r cyhoeddiad ym mis Chwefror eleni fod Prifysgol Abertawe wedi ei phenodi i arwain prosiect gwerth £35 miliwn, gyda phrifysgolion eraill hefyd, gyda'r nod penodol o wneud y diwydiant dur yn addas ar gyfer y dyfodol o ran allyriadau a'r economi carbon-isel yr ydym ni eisiau ei chreu. Roedd y datganiad ysgrifenedig ar y cyd heddiw gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth a'r Gweinidog Addysg yn canolbwyntio ar y cymorth ymchwil a datblygu ar gyfer y diwydiant dur y mae Llywodraeth Cymru wedi gallu cynorthwyo ag ef.
Yn ystod hydref y llynedd, cefais gyfarfod gyda'r Prif Weinidog ar y pryd ac eraill, gyda phrif weithredwr grŵp Tata Steel yn y Deyrnas Unedig. Rwyf i wedi cyfarfod ers hynny gydag aelodau uwch eraill yng ngrŵp Tata, ac rydym ni'n agos iawn erbyn hyn, rwy'n credu, i allu cwblhau cyfres bellach o fuddsoddiadau o'r math a gytunwyd gyda Plaid Cymru ac y bu'n rhaid i ni weithio drwyddynt gyda'r cwmni. Mae'r cwmni ei hun, fel y gwyddoch, wrthi'n cael ei ailstrwythuro, ac mae hynny'n arwain at rai cymhlethdodau o ran gwneud yn siŵr y gellir rhoi'r sicrwydd angenrheidiol ar waith. Ond rydym ni'n agos iawn erbyn hyn at yr adeg pan rwy'n gobeithio y byddwn ni'n gallu gwneud y cyhoeddiad hwnnw. Bydd fy nghyd-Weinidog Ken Skates yn ysgrifennu at bob Aelod pan fydd y trafodaethau hynny wedi eu cwblhau yn derfynol.
Prif Weinidog, a gaf i unwaith eto gofnodi fy ngwerthfawrogiad i, a gwerthfawrogiad y gweithwyr dur ym Mhort Talbot, am ymrwymiad Llywodraeth Cymru i'r diwydiant dur dros y blynyddoedd? Mae hyn wir wedi sefyll yn gadarn dros faes gweithgynhyrchu dur yma yn y DU. Dyma'r unig Lywodraeth sydd wedi gwneud hynny, yn wahanol i Lywodraeth y DU, sy'n parhau i fethu a chefnogi'r diwydiant dur. Yn wir, yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd y Pwyllgor Dethol Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol yn Nhŷ'r Cyffredin adroddiad, a daeth i'r casgliad, o ran dur:
Mae camliwio'r Llywodraeth o gynigion y sector dur ar gyfer cytundeb sector yn awgrymu ei bod yn amharod i ymateb i geisiadau'r sector.
Argymhellodd:
Dylai'r Llywodraeth ddychwelyd i drafodaethau gyda'r sector ar gytundeb posibl a chynnig eglurder ynghylch y gofynion a'r cynigion a allai alluogi'r Llywodraeth i gyflawni ei hymrwymiad i ddatblygu diwydiant dur y DU— a dyma'r pwynt pwysig— gan gefnogi sector sy'n fasnachol gynaliadwy erbyn hyn, mewn marchnad gystadleuol fyd-eang.
Mae llawer o'r ysgogiadau yr ydym ni wedi sôn amdanyn nhw yn y gorffennol—y costau ynni—yng ngafael Llywodraeth y DU. A wnewch chi sylwadau pellach i Lywodraeth y DU nawr, yn cefnogi adroddiad y pwyllgor hwn ac yn gofyn i Lywodraeth y DU gymryd camau i fynd i'r afael â'r mater hwn o gostau ynni uchel, i sicrhau bod ein diwydiant dur yn ddiwydiant cystadleuol yn y farchnad fyd-eang?
Wel, Llywydd, hoffwn ddiolch i'r Aelod am ei gydnabyddiaeth o'r cymorth y mae Llywodraeth Cymru wedi ei ddarparu i Tata yn ei etholaeth ef yn y cyfnod anodd a wynebwyd gan y diwydiant dur yn ystod y tymor Cynulliad hwn. Mae wedi bod yn bleser cael y cyfle i ymweld â Tata Steel ddwywaith yn ystod y misoedd diwethaf—gyda'r Aelod lleol ar y ddau achlysur. Rwyf wedi gweld yr adroddiad y mae'n cyfeirio ato, adroddiad y Pwyllgor Dethol, Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol a gyhoeddwyd ar 19 Mawrth. Mae'n ddeifiol yn yr hyn y mae'n ei ddweud wrth Lywodraeth y DU o ran y sector dur. Mae'r adroddiad yn dweud bod y sector ei hun wedi sefyll ynghyd gerbron Llywodraeth y DU gan gyflwyno cyfres uchelgeisiol o gynigion, ac nid yn unig y cawsant eu diystyru gan Lywodraeth y DU, ond cawsant eu camliwio gan y Llywodraeth honno hefyd. Rwy'n credu bod honno'n iaith gref gan bwyllgor dethol. Rydym ni'n gwybod maint rhwystredigaeth y sector at wrthodiad Llywodraeth y DU i weithredu, er enghraifft, o ran prisiau trydan ar gyfer diwydiant trwm. Yn sicr, rhoddaf sicrwydd i'r Aelod y byddwn yn cysylltu â Llywodraeth y DU eto, ar sail yr adroddiad pwyllgor dethol hwnnw, ac ar sail popeth y mae undebau llafur a rheolwyr gwaith Tata yn ei ddweud wrthym sydd ei angen arnyn nhw gan Lywodraeth y DU er mwyn sicrhau'r dyfodol llwyddiannus hwnnw.