Mentrau Diogelwch Cymunedol ym Merthyr Tudful a Rhymni

Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip – Senedd Cymru ar 26 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Dawn Bowden Dawn Bowden Labour

5. A wnaiff y Dirprwy Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fentrau diogelwch cymunedol ym Merthyr Tudful a Rhymni? OAQ53684

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 2:56, 26 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Rydym yn gweithio'n agos gyda phrif gwnstabliaid yng Nghymru a'n comisiynwyr heddlu a throseddu i wneud cymunedau'n fwy diogel. Yn benodol, rydym yn gweithio ochr yn ochr â sefydliadau partner i ddatblygu'r ymrwymiadau yn yr adolygiad o weithio gyda'i gilydd i greu cymunedau mwy diogel.

Photo of Dawn Bowden Dawn Bowden Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch ichi am yr ateb hwnnw, Dirprwy Weinidog. Wrth holi am ddiogelwch cymunedol, a gan mai hwn yw'r cyfle cyntaf yr wyf wedi ei gael yma, a gaf i'n gyntaf oll estyn fy nghydymdeimlad â phobl Christchurch a Seland Newydd am yr erchyllterau y maent wedi eu hwynebu'n ddiweddar o ganlyniad i'r ymosodiadau terfysgol gan eithafwyr? Mae'n ddigwyddiad erchyll arall yr ydym wrth gwrs yn ei gondemnio, ond mae'n ategu i ni'r pwysigrwydd o gynnal diogelwch cymunedol a gwaith atal yn ein cymunedau. Yn wir, pan fydd troseddau mawr yn digwydd yn ein cymunedau lleol hefyd, mae'n bwysig ein bod yn gweld mesurau diogelwch cymunedol amlwg. Felly, rwy'n croesawu'r mentrau parhaus yng Nghwm Rhymni uchaf gan y comisiynydd heddlu a throseddu, Jeff Cuthbert, Heddlu Gwent, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, a phartneriaid lleol eraill.

Hefyd, mae angen inni ddathlu llwyddiannau lleol i'n hatgoffa nad yw popeth bob amser mor ddigalon. Ac felly, heddiw gofynnaf i chi, Dirprwy Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi i longyfarch Heddlu Bach, cynllun mewn ysgolion fel Fochriw a Phillipstown yng Nghwm Rhymni uchaf, sydd wedi gweld nifer sylweddol o bobl ifanc yn mynd ati i ymgysylltu â'r heddlu mewn digwyddiadau ymwybyddiaeth a diogelwch cymunedol. A gytunwch â mi fod hyn yn enghraifft dda o falchder yn y gymuned a gwaith atal cynnar y dylem ei annog i'r dyfodol?

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 2:57, 26 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch i Dawn Bowden, nid yn unig am ei chwestiwn, ond hefyd am  yr enghraifft wych honno, a hoffwn hefyd ddathlu'r llwyddiant lleol hwnnw. Mae Cymru yn wlad gynnes a chroesawgar, a dangosir hynny gan fenter Heddlu Bach Fochriw a chyfraniad yr ysgolion hynny. Cynllun Heddlu Bach yw hwn, ac mae'n rhywbeth y dylem ei rannu ledled Cymru, ond y bobl ifanc eu hunain sydd wedi elwa o'r cynllun hwnnw.

Mae'n bwysig iawn dweud—.Byddwch wedi gweld fy natganiad ysgrifenedig yr wythnos diwethaf mewn ymateb i Christchurch, y digwyddiad erchyll hwnnw, ac i'r ymgysylltu a gawsom. Aeth y Prif Weinidog a minnau, ac Aelodau Cynulliad eraill— Julie Morgan, Jenny Rathbone—i wylnos yn y Deml Heddwch. Yn wir, heno, mae yna ddigwyddiad rhyng-ffydd—rwyf yn siŵr y bydd cynrychiolaeth ar draws y Siambr hon—yn ogystal â gweithio gyda'r heddluoedd a chydlynwyr cydlyniad cymunedol rhanbarthol i sicrhau ein bod yn monitro tensiynau cymunedol yma yng Nghymru. Ond i ni, wrth gwrs, mae hyn yn ymwneud â Chymru fel cenedl sy'n troi ein golygon tuag allan, yn dathlu amrywiaeth, hanes amlddiwylliannol, ymrwymiad a rennir tuag at heddwch a dealltwriaeth o fewn a rhwng cymunedau, ac rwyf yn sicr fod hyn yn cael ei adlewyrchu ym mhrosiect Fochriw.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 2:59, 26 Mawrth 2019

Diolch i'r Dirprwy Weinidog.

Cyn symud i'r eitem nesaf, dwi'n galw ar Helen Mary Jones.

Photo of Helen Mary Jones Helen Mary Jones Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Diolch ichi, Llywydd. Rwyf yn ddiolchgar ichi am ganiatáu imi ymddiheuro i'r Siambr hon ac i unrhyw bobl eraill a allai fod wedi cael eu tramgwyddo gan derm a ddefnyddiais yn anfwriadol mewn dadl yr wythnos diwethaf. Wrth ymateb i ddadl, fe wnes i gyfeiriad—ymadrodd a ddefnyddir yn gyffredin os yw person eisoes mewn trafferthion efallai y dylai ymatal. Ond roedd y term a ddefnyddiais i'n gwbl amhriodol ac yn cyfeirio at hunanladdiad. Rwy'n deall y gallai hynny fod wedi bod yn drallodus iawn i unigolion. Mae'n wir ddrwg gennyf. Rwy'n ymfalchïo yn y ffaith fy mod yn ofalus yn yr iaith a ddefnyddiaf. Mae'r ymadrodd hwnnw, er enghraifft, yn sicr yn un na fyddwn yn ei ddefnyddio mewn araith wedi'i sgriptio neu mewn cwestiwn; ni ddylai fod wedi dod i fy meddwl. Ymddiheuraf yn llwyr i bawb a oedd yn gofidio neu'n ofidus yn dilyn fy ngeiriau, ac rwy'n ymddiheuro hefyd i'r Siambr hon am ddefnyddio iaith a all gynnwys term cyffredin, ond sy'n amhriodol i'w ddefnyddio yma.