– Senedd Cymru am 5:07 pm ar 2 Ebrill 2019.
Eitem 7 ar yr agenda yw Rheoliadau Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Darpariaethau Atodol) 2019 a galwaf ar y Gweinidog Addysg i gynnig y cynnig. Kirsty Williams.
Cynnig NDM7025 Rebecca Evans
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Darpariaethau Atodol) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Mawrth 2019.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Yn ystod dadl Cyfnod 4 y Cyfarfod Llawn ar Fil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru), ar 12 Rhagfyr 2017, hysbysais yr Aelodau y byddai angen i mi wneud rhai mân welliannau technegol i adran 91 y Bil pan fyddai'n dod yn Ddeddf. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i'r Aelodau am gytuno i basio'r Bil ar y sail y byddai diwygiadau i adran 91 yn cael eu gwneud yn ddiweddarach.
Mae adran 91 yn rhoi swyddogaeth gytuno i'r Arglwydd Brif Ustus pan fo'r Arglwydd Ganghellor yn penodi llywydd y tribiwnlys addysg. Mae hefyd yn rhoi swyddogaeth gytuno i lywydd y tribiwnlys pan fo'r Arglwydd Ganghellor yn penodi'r cadeiryddion cyfreithiol. Cafodd y ddwy swyddogaeth gytuno eu cynnwys i sicrhau proses annibynnol.
Gwnaeth Llywodraeth y DU y Gorchymyn Penodiadau a Disgyblaeth Farnwrol (Gwelliant ac Ychwanegu Swyddi) 2017 ym mis Rhagfyr 2017. Roedd y Gorchymyn hwnnw yn dod â'r broses o benodi llywydd a chadeiryddion y Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru, neu TAAAC, o fewn gweithdrefn y Comisiwn Penodiadau Barnwrol. Ni fyddai'r Gorchymyn hwnnw, wrth gwrs, wedi diwygio'r Bil. Diben rheoliadau heddiw felly yw sicrhau bod gweithdrefnau'r Comisiwn Penodiadau Barnwrol yn berthnasol i'r tribiwnlys addysgol pan ei fod yn newid ei enw o TAAAC. Mae hyn yn sicrhau'r nod o gael proses annibynnol. Mae'r rheoliadau hefyd yn diwygio Atodlen 14 y Ddeddf Diwygio Cyfansoddiadol 2005 i gyfeirio at y tribiwnlys addysgol.
Diolch. A gaf i alw ar Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, Mick Antoniw?
Diolch, Dirprwy Lywydd. Fe wnaethom ni ystyried y rheoliadau hyn yn ein cyfarfod ar 25 Mawrth gan adrodd ar 28 Mawrth, ac fe wnaethom ni ystyried ymateb y Llywodraeth ddoe. Mae gan ein hadroddiad drafft un pwynt o ran rhinweddau, sy'n cwestiynu defnydd pwerau atodol i wneud newidiadau i'r broses benodi sy'n berthnasol i lywydd tribiwnlys addysg Cymru.
Mae Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 yn nodi'r weithdrefn ar gyfer penodi llywydd tribiwnlys addysg Cymru, sy'n cynnwys yr Arglwydd Ganghellor a'r Arglwydd Brif Ustus. Mae'r rheoliadau yn diwygio'r broses benodi yn Neddf 2018 er mwyn dileu swyddogaeth yr Arglwydd Brif Ustus. Mae ein hadroddiad yn esbonio'r cefndir i ddiwygio'r broses benodi ac yn nodi bod y broses, fel y'i nodir yn Neddf 2018, yn gyfreithiol gadarn ac yn gweithio fel y mae wedi ei drafftio ar hyn o bryd.
Yn ein hadroddiad, fe wnaethom ni ofyn i Lywodraeth Cymru ehangu ar y defnydd o bwerau atodol i wrthdroi'r ddarpariaeth mewn Deddf y Cynulliad ac i egluro pa elfen ar adran 97(1) o Ddeddf 2018 y dibynnir arni ar gyfer gwneud y rheoliadau hyn, o ystyried nad yw'r broses benodi yn Neddf 2018 yn ddiffygiol. Mae ymateb y Llywodraeth yn mynd i'r afael â'r pwyntiau hyn.
Rydym yn nodi, yn ystod trafodion Cyfnod 4 ar Ddeddf 2018, cyfeiriodd y Gweinidog Addysg at:
ddatblygiad diweddar iawn a fydd yn golygu y bydd angen mân newidiadau i'r Bil pan fydd yn dod yn Ddeddf.
Rydym yn derbyn bod y Cynulliad wedi cael rhybudd o'r newid a gynigir gan y rheoliadau hyn, ac rydym yn derbyn bod y Cynulliad wedi pleidleisio o blaid y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) yng Nghyfnod 4 a hynny o 50 pleidlais i ddim.
Fodd bynnag, nid ydym ni'n credu mai Cyfnod 4 yw'r ffordd briodol o gyhoeddi bwriad i wneud newidiadau i rannau pwysig o Ddeddfau'r Cynulliad, yn enwedig newidiadau sy'n codi o ganlyniad i gytundeb munud olaf rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Fe wnaethom ofyn i Lywodraeth Cymru egluro pam na fyddai hi wedi bod yn bosibl i'r newidiadau arfaethedig gael eu trafod yn briodol yn ystod Cyfnod Adrodd ychwanegol. Dywed ymateb y Llywodraeth ei bod wedi ystyried nifer o ddewisiadau a bod y Cynulliad wedi pasio'r Bil ar sail sylwadau'r Gweinidog.
Y Gweinidog i ymateb.
A gaf i ddiolch i Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol am ei sylwadau ac am dderbyn y dystiolaeth ychwanegol a ddarparwyd gen i a swyddogion eraill ynglŷn â phwyntiau o ran rhinweddau a godwyd wrth i'r pwyllgor ystyried y rheoliadau hyn. Rwy'n cytuno, mewn sefyllfa ddelfrydol, y byddem wedi bod mewn sefyllfa i ddrafftio'r Bil mewn modd y byddwn wedi dymuno ei wneud. Yn anffodus, ymyrraeth o le arall sydd, mewn rhai ffyrdd, wedi achosi'r anawsterau hyn.
Fe wnes i, fel y soniodd Cadeirydd CLAC, godi'r pwyntiau hyn ar y llawr yn ystod y ddadl Cyfnod 4 i roi rhybudd clir i'r Cynulliad o'm bwriadau ac i ddatgelu'n llawn y byddai Aelodau wedi bod yn pleidleisio dros y Bil gan wybod y byddai'r rheoliadau hyn yn dod maes o law.
Mae heddiw yn rhoi cyfle i Aelodau o bob rhan o'r Siambr wneud sylwadau ar y rheoliadau fel y maen nhw wedi eu cyflwyno heddiw, ond rwyf yn falch ei bod yn ymddangos bod gennym ni gonsensws ym mhob rhan o'r Siambr i gefnogi'r rheoliadau hyn. Yr hyn sy'n bwysig i'w gofio yw eu bod yn sicrhau bod penodi cadeirydd y tribiwnlys yn broses annibynnol, ac rwyf yn credu bod hynny'n rhywbeth y gallwn ni i gyd gytuno arno. Rwyf yn ddiolchgar am gymorth parhaus y Siambr i'n diwygiadau ar gyfer ein darpariaeth anghenion dysgu ychwanegol yn ein hysgolion. Diolch.
Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.