– Senedd Cymru am 5:13 pm ar 2 Ebrill 2019.
Eitem 8 yw Rheoliadau Cymwysterau Cymru (Cosbau Ariannol) (Penderfynu Trosiant) 2019 a galwaf ar y Gweinidog Addysg i gynnig y cynnig. Kirsty Williams.
Cynnig NDM7026 Rebecca Evans
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cymwysterau Cymru (Cosbau Ariannol) (Penderfynu ar Drosiant) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Mawrth 2019.
Diolch i chi unwaith eto, Dirprwy Lywydd. Cynigiaf y cynnig i gymeradwyo Rheoliadau Cymwysterau Cymru (Cosbau Ariannol) (Penderfynu Trosiant) 2019. Nid yw'r teitlau'n mynd yn fwy bachog, ydyn nhw? [Chwerthin.] Bydd y rheoliadau'n caniatáu i Gymwysterau Cymru osod cosb ariannol pan nad yw cyrff dyfarnu cydnabyddedig yn cydymffurfio â gofynion rheoliadol. Bydd hyn yn rhoi system gymwysterau gryfach a chadarnach i Gymru y gallwn ni i gyd ymddiried ynddi. Mae'n mynd i'r afael â bwlch o ran ystod cosbau Cymwysterau Cymru.
Mae Deddf Cymwysterau Cymru 2015 yn sefydlu Cymwysterau Cymru fel y rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer cymwysterau nad ydynt yn raddau yng Nghymru ac yn darparu'r pŵer i Gymwysterau Cymru osod cosb ariannol ar gorff dyfarnu y mae'n ei reoleiddio am beidio â chydymffurfio â'i amodau cydnabyddiaeth safonol neu ofynion rheoleiddiol eraill.
Mae'r Ddeddf yn darparu bod swm y gosb i'w benderfynu yn unol â rheoliadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru. Dyma'r rheoliadau yr ydym yn gobeithio eu gwneud heddiw, y bwriedir iddynt gyfyngu ar ystod y cosbau ariannol y caiff Cymwysterau Cymru eu gosod ar y cyrff y mae'n eu rheoleiddio. Hyd nes y gwneir y rheoliadau hyn, ni all Cymwysterau Cymru ddefnyddio eu pwerau i osod cosb ariannol.
Mae'r rheoliadau yn rhoi cap ar unrhyw gosb ariannol a osodir gan Gymwysterau Cymru o 10 y cant o gyfanswm trosiant y corff dyfarnu yn y DU yn y flwyddyn ariannol cyn i'r hysbysiad cosb ariannol gael ei gyflwyno. Mae'r rheoliadau hefyd yn nodi sut bydd Cymwysterau Cymru yn pennu trosiant corff dyfarnu at ddibenion y cap.
Y llynedd, fe wnaethom ni nodi ein bwriad drwy ymarfer ymgynghori i alluogi Cymwysterau Cymru i osod cosb ariannol o'r fath. Er mwyn bod yn gyson ag Ofqual, sef rheoleiddiwr cymwysterau Lloegr, a rheoleiddwyr eraill, rwy'n credu bod 10 y cant o drosiant corff dyfarnu yn y DU yn derfyn uchaf priodol ar gyfer cosb o'r fath. Nid yw'r terfyn uchaf hwn yn newydd, mae'n egwyddor hirsefydlog, a dyna oedd y terfyn uchaf pan ymgymerodd Llywodraeth Cymru â rheoleiddio cymwysterau cyn sefydlu Cymwysterau Cymru yn 2015.
Hoffwn achub ar y cyfle hwn, Dirprwy Lywydd, i ddiolch i'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol am ei gyfraniad defnyddiol i'r gwaith ar y rheoliadau hyn. Mae cosbau ariannol yn gosb sylweddol a fydd yn cael eu hystyried dim ond pan fydd camau eraill i atal neu, yn bwysig, i liniaru unrhyw effaith andwyol ar ddysgwyr wedi bod yn annigonol. Cyhyd â bod cyrff dyfarnu yn cydymffurfio ag anghenion rheoleiddio a diogelu buddiannau dysgwyr, ni ddylen nhw ystyried eu hunain fel bod mewn perygl o gael cosbau ariannol. Ac, felly, rwyf yn gofyn i Aelodau'r Siambr gymeradwyo'r rheoliadau hyn y prynhawn yma.
Diolch. A gaf i alw ar Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, Mick Antoniw?
Diolch, Dirprwy Lywydd, ac rwyf yn atgoffa'r Siambr mai un o swyddogaethau'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yw craffu ar effeithiolrwydd a gweithdrefn y broses gyfansoddiadol, sydd weithiau'n golygu nad yw'n hadroddiadau yr adroddiadau mwyaf cyffrous o reidrwydd, ond maen nhw'n berthnasol o ran y dull o graffu ar yr hyn sy'n ddeddfwriaeth bwysig.
Fe wnaethom ni ystyried y Rheoliadau hyn yn ein cyfarfod ar 25 Mawrth ac adrodd ar 28 Mawrth. Fe wnaethom ni ystyried ymateb y Llywodraeth ddoe. Fe nodwyd pwynt technegol gennym yn ymwneud â'r diffyg tryloywder posibl ynghylch y defnydd o'r gair 'mis' yn y rheoliadau. Er mai ystyr 'mis' yw'r ystyr a roddir yn Neddf Dehongli 1978—hynny yw, mis calendr—efallai na fydd hynny o ddefnydd mawr i lawer o ddarllenwyr y rheoliadau hyn. Ac mae'r adroddiad drafft yn nodi gohebiaeth rhwng y pwyllgor hwn a'r Cwnsler Cyffredinol y llynedd, pryd y cytunwyd y byddai defnyddio troednodiadau i ymhelaethu ar ystyr rhai termau pwysig yn ddefnyddiol, ond nid oes defnydd o droednodiadau o'r fath yn y rheoliadau hyn, a allai fod wedi bod o gymorth o ran eglurder a thryloywder.
Yn ei hymateb, mae'r Llywodraeth yn nodi ei barn ynghylch pam nad ystyrir bod gwelliant i fynd i'r afael â'r pwynt technegol yn angenrheidiol. Mae'r cyntaf o'r tri phwynt o ran rhinweddau yn nodi bod y rheoliadau yn caniatáu i Gymwysterau Cymru osod cosbau ariannol, yn amodol ar gap ac yn ddarostyngedig i resymoldeb a chymesuredd. Mae ein hadroddiad yn tynnu sylw at ein hadroddiad ar Fil Cymwysterau Cymru ac mae'r memorandwm esboniadol sy'n cyd-fynd â'r Bil yn nodi y bydd y Cynulliad yn cael:
y cyfle i drafod a chraffu ar swm y gosb.
Fodd bynnag, mae'r rheoliadau yn rhoi disgresiwn eang i Gymwysterau Cymru ynglŷn â gosod cosbau ariannol, gan adael ychydig iawn i'r Cynulliad graffu arno o ran union lefel y cosbau hynny. Mae'r adroddiad hefyd yn nodi'r sefyllfa yn Lloegr, lle y mae ystod disgresiwn Ofqual wedi'i nodi ar wyneb deddfwriaeth sylfaenol, ac nid mewn is-ddeddfwriaeth.
Yn ei hymateb, mae'r Llywodraeth yn nodi bod y rheoliadau yn adlewyrchu dewis o ran polisi, a bod y Cynulliad yn cael digon o gyfle i graffu ar y ffordd y bydd cosbau yn cael eu gosod.
Mae'r ail a'r trydydd pwynt rhagoriaethau yn nodi pryderon a godwyd yn ystod yr ymgynghoriad ynghylch y potensial i Ofqual a Chymwysterau Cymru osod cosbau ariannol ar yr un sefydliad, a'r potensial ar gyfer dryswch ynghylch pa ffactorau y mae Cymwysterau Cymru yn debygol, neu y bydd, yn eu cymryd i ystyriaeth wrth wneud penderfyniadau cosb ariannol.
Mae ymateb y Llywodraeth yn nodi'r ail bwynt, ac mae'n nodi'n ddefnyddiol y bydd y memorandwm esboniadol yn cael ei ddiwygio i ateb ein trydydd pwynt rhagoriaethau.
Rwyf yn aelod o'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, ond nid oeddwn yn bresennol pan wnaethpwyd yr ymchwiliad hwn, ond roeddwn i eisiau ychwanegu rhywbeth ato, am y ffigur hwn o 10 y cant sydd wedi'i gynnwys yn y rheoliadau, ynghylch sut y daethpwyd at y ffigur hwnnw. Nawr, clywais i chi, Gweinidog, pan ddywedasoch fod Ofqual wedi dweud bod hwn yn ffigur addas, ond nid wyf i'n ddim callach o hyd ynghylch pam mae Ofqual yn credu bod hwnnw'n ffigur rhesymol. Ac rwyf yn ei godi yn benodol oherwydd nad wyf i'n ymwybodol o unrhyw ymgynghoriad ar y ffigur penodol hwn nac, yn wir, unrhyw ddealltwriaeth o'r goblygiadau ymarferol a fyddai'n effeithio ar gorff nad oedd yn cydymffurfio â'r amodau a oedd yn caniatáu iddo fod yn gorff dyfarnu.
Ac os y cymeraf CBAC fel un enghraifft, er fy mod yn sylweddoli, wrth gwrs, y gellid effeithio ar gyrff eraill: eu trosiant y llynedd—ac nid wyf yn siŵr os yw hyn yn cynnwys treth ar werth, ond mae'n ffigur enghreifftiol da—oedd oddeutu £45 miliwn, pan oedd eu hincwm net neu eu helw oddeutu £2 miliwn, sef hanner hanner 10 y cant o'i drosiant. Felly, er fy mod yn cytuno y dylai terfyn uchaf y gosb fod yn eithaf llym, mae angen i'r gosb hefyd fod yn ymarferol er mwyn i rywun allu ei thalu. O dan yr amgylchiadau penodol hynny, mae'n anodd gweld sut y byddai corff yn yr amgylchiadau hynny yn gallu ei thalu.
Mae angen iddi hefyd fod yn gymesur â'r diffyg cydymffurfiad ac mae'n bwynt y mae Mick Antoniw eisoes wedi'i godi gyda chi, fel Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, oherwydd—beth allaf i ei ddweud—rwyf yn rhagweld adolygiad barnwrol o gwantwm unrhyw gosbau os na fydd Cymwysterau Cymru yn cael rhyw fath o ganllawiau i'w helpu i asesu beth sy'n 'briodol', oherwydd dyna yw'r gair yn y rheoliadau. Nid oes unrhyw ogwydd yn y rheoliadau penodol hyn, yn wahanol i'r rhai yn Lloegr, ac nid wyf i'n ymwybodol o unrhyw ganllawiau cyfoes sydd yn cael eu llunio ar hyn o bryd nac sydd ar fin cael eu cyhoeddi. Nawr, os oes rhai, wrth gwrs, byddwn yn falch iawn o gael clywed amdanyn nhw.
Felly, er nad oes gennym ni unrhyw broblem o gwbl gydag adran 38 ei hun, na'r toriadau hyn o'r amodau—yn arbennig mewn amgylchedd pan fo'r gystadleuaeth yn brin iawn, mae'n rhaid rhwystro'r toriadau hynny—ond fel y mae'r rheoliadau ar hyn o bryd, nid wyf yn credu bod gennym ni ddigon o wybodaeth ar sut y daethpwyd i'r ffigur o 10 y cant o drosiant, ac nid oes gennym ychwaith unrhyw sicrwydd ynglŷn â sut y penderfynir bod cosbau is yn rhesymol ac yn gymesur. O dan yr amgylchiadau hynny, mae arnaf ofn na fyddwn ni'n cefnogi'r rheoliad hwn.
Galwaf ar y Gweinidog i ymateb.
Diolch yn fawr iawn. A gaf i ddiolch i'r ddau aelod am eu cyfraniadau? Mae Suzy Davies, ar ran y Ceidwadwyr, yn dweud nad yw hi'n ymwybodol o unrhyw ymgynghoriad o ran y ffigur o 10 y cant. Wel, y llynedd cynhaliwyd ymgynghoriad ar y terfyn uchaf o 10 y cant o drosiant blynyddol corff dyfarnu yn y DU. Ac yn yr ymgynghoriad hwnnw, fe wnaethom hefyd geisio diffinio beth oedd trosiant yn ei olygu.
Cynhaliwyd yr ymarfer ymgynghori rhwng mis Hydref 2018 a mis Ionawr 2019. Mae Cymwysterau Cymru yn rheoleiddio 104 o gyrff dyfarnu. Cafwyd 13 o ymatebion i'r ymgynghoriad, wyth ohonyn nhw gan y cyrff dyfarnu hynny. Felly, dyna wyth o 104 corff dyfarnu y mae Cymwysterau Cymru yn gweithio gyda nhw a oedd yn teimlo bod angen iddyn nhw ymateb i'r ymgynghoriad. Gofynnodd yr Aelodau hefyd am y rhesymeg ynglŷn â'r 10 y cant. Cynigiwyd hyn am resymau cysondeb a thryloywder a pharhad ar draws system reoleiddio sy'n gweithio yng nghyd-destun Cymru a Lloegr.
Teimlodd rhai cyrff dyfarnu a ymatebodd i'r ymarfer ymgynghori y byddai modd gwahanu refeniw a gynhyrchir gan fusnes yng Nghymru, ac mae ystyriaeth wedi ei rhoi i'r materion hynny a pha un a ddylai'r 10 y cant gynnwys gweithgaredd a reoleiddir yn unig. Ond, wrth gwrs, mae'r cyrff hyn yn cynnal incwm nid yn unig o weithgaredd sydd wedi'i reoleiddio. Credaf ei bod yn ddefnyddiol bod yn gyson ag Ofqual a bod 10 y cant yn derfyn priodol. Mae'n swm sylweddol o arian i osod ar weithgaredd a reoleiddir. Ond gadewch i ni fod yn glir, mae hyn yn ymwneud â diogelu dysgwyr a sicrhau bod trefniadau diogelu o fewn ein system gymwysterau mor gadarn ag y gallant fod. Ni wnaf ymddiheuro am geisio amddiffyn buddiannau dysgwyr wrth sicrhau bod y pwerau hyn gan ein cyrff cymwysterau. Ar hyn o bryd, mae broses de minimis neu mae'r broses eithaf o ddad-gofrestru neu atal gweithgarwch rhywun. Mae hyn yn rhoi cyfle i ni ddarparu ffordd ganol gyda chosbau, ond gallai fod yn ddifrifol. Ond fel y dywedais yn fy sylwadau agoriadol, os bydd—[torri ar draws.]
Diolch am dderbyn yr ymyriad, Gweinidog. Ie, nid wyf yn anghytuno â chi o gwbl y dylai fod gan Cymwysterau Cymru bwerau priodol yn hyn o beth, dim ond cyfeirio at y diffyg gwybodaeth a thystiolaeth i gefnogi'r ffigurau a ddewiswyd gennych oeddwn i. Er fy mod yn clywed yr hyn a ddywedwch am y cymhwyster yn Lloegr—mae'n ddrwg gennyf, dyna fy nghamgymeriad cynharach. Ofqual oedd ef—roeddwn i'n iawn, hwrê—nid yw hynny mewn gwirionedd yn dweud rhyw lawer wrthyf am weddill y sector cyhoeddus, lle y bydd toriadau cyffelyb o ran cydymffurfio rheolaethol hefyd yn dirwyn at gosbau, ond nid oes gennyf unrhyw syniad sut mae'r rhain yn cymharu â'r rheiny, er enghraifft.
Fy swydd i yw sicrhau bod cysondeb ar draws y sector cymwysterau a rheoliadau'r sector penodol hwnnw, ac rydym yn ceisio cynnal hynny drwy adlewyrchu'r sefyllfa ar draws y ffin yn Lloegr.
Mae'r Aelod, yn hollol iawn, yn codi pryderon am sut yn union y bydd hyn yn gweithio yn ymarferol. Cyn gosod dirwy, mae'n rhaid i Gymwysterau Cymru gyflwyno hysbysiad i'r corff dyfarnu dan sylw, gan nodi'r rhesymau dros y bwriad a rhoi cyfle i'r corff gyflwyno sylwadau. Mae'n rhaid hefyd i Gymwysterau Cymru ystyried y sylwadau hyn, ac os bydd yn dal i fwriadu gosod cosb ariannol, mae'n rhaid iddo nodi'r rhesymau dros wneud hynny, gan gynnwys manylion am hawl y corff dyfarnu i apelio yn erbyn y penderfyniad hwnnw.
Ceir tribiwnlys haen gyntaf a fydd ar waith i sicrhau bod rhwystrau a chydbwysau effeithiol o fewn y system, a bod rheoliadau'n nodi paramedrau cyffredinol cyfrifoldeb Cymwysterau Cymru fel rheoleiddiwr i osod lefel briodol o gosb ariannol sy'n gymesur.
Mae'n ddrwg gennyf glywed bod y Ceidwadwyr yn teimlo na allant gefnogi'r rheoliadau hyn heddiw. Credaf fod hyn yn cryfhau ein system gymwysterau ac yn rhoi pwerau priodol i'r corff annibynnol y mae'r Cynulliad hwn wedi penderfynu rhoi'r cyfrifoldeb am ein system gymwysterau iddo, ac rwyf yn cymeradwyo'r rheoliadau i'r Siambr.
Diolch. Y cynnig yw cytuno ar y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriaf y pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.