Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 3 Ebrill 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 1:47, 3 Ebrill 2019

Diolch, Llywydd. Mae'r byd yn newid, mae'r economi yn newid efo fo, ac un newid ydy bod yr economi wybodaeth yn dod yn fwy a mwy pwysig, ac yn hynny o beth mae gwariant ar ymchwil a datblygu yn mynd i fod yn dod yn bwysicach. Dyna sut i greu syniadau newydd a dyfeisiau newydd fydd yn sail i genhedlaeth newydd o fusnesau. All y Gweinidog roi diweddariad i ni ar wariant R&D o fewn cyllideb Llywodraeth Cymru?