Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 3 Ebrill 2019.
Yn sicr. Byddaf yn ceisio darparu ffigurau pendant i chi ynglŷn â'n gwariant ar ymchwil a datblygu,FootnoteLink ond un o'r pryderon a fu gennym yn y cyfnod diweddar, wrth gwrs, yw effaith gadael yr Undeb Ewropeaidd ar ein capasiti ymchwil a datblygu. Rydym wedi bod yn edrych yn agos iawn ar adroddiad Reid er mwyn sicrhau bod y proffil gorau gennym, os mynnwch, i sicrhau bod Cymru yn cael ei gweld fel cyrchfan gwych ar gyfer ymchwil a datblygu, amgylchedd lle mae Llywodraeth Cymru yn gefnogol, ond amgylchedd hefyd lle mae academyddion yn cael eu galluogi i ffynnu mewn amgylchedd sy'n hybu'r gwaith a wnânt yn bendant iawn.