Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 3 Ebrill 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP 1:56, 3 Ebrill 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch eto i'r Gweinidog am ei hateb wrth gwrs, ond un o'r rhwystrau wrth dendro am gontractau yw'r broses dendro ei hun, wrth gwrs, sy'n galw am lenwi llawer o ffurflenni cymhleth, ac mae'r broses yn defnyddio llawer o adnoddau, rhywbeth a fydd yn aml y tu hwnt i allu cwmnïau bach neu ganolig eu maint. Felly, i grynhoi, Weinidog, rwy'n credu o ddifrif fod hwn yn faes y mae angen i Lywodraeth Cymru fod o ddifrif yn ei gylch, gan y gall effeithio'n sylweddol iawn ar yr economi sylfaenol. Os dyfernir contractau i gwmnïau lleol, mae'r arian a gynhyrchir yn tueddu i aros yn y gymuned leol, ac nid yw hyn yn wir o reidrwydd pan ddyfernir contractau i gwmnïau mawr iawn, yn enwedig os nad yw eu pencadlys yng Nghymru.