Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 3 Ebrill 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 1:57, 3 Ebrill 2019

(Cyfieithwyd)

Rydym yn cydnabod bod cwmnïau bach yn aml yn cael trafferth i wneud cais am gontractau mawr, a dyna pam rwy'n falch iawn fod 31 y cant o'r contractau a gyhoeddwyd ar GwerthwchiGymru hyd at fis Mawrth eleni wedi'u hysbysebu fel rhai addas ar gyfer gwneud ceisiadau ar y cyd, ac rwy'n credu bod honno'n ffordd bwysig iawn o gynorthwyo cwmnïau bach lleol i wneud cais am y contractau hynny. Ac rydym yn gweld rhai o'r effeithiau cadarnhaol hynny yn y sector adeiladu, lle dyfarnwyd 78 y cant o'r contractau neu'r fframweithiau dros £750,000 a hysbysebwyd drwy GwerthwchiGymru i gontractwyr o Gymru eleni.