Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 3 Ebrill 2019.
Yn amlwg, rhyddhaodd y Canghellor £31 miliwn i chi fel Llywodraeth Cymru ar gyfer cynlluniau 'dim bargen'. Mae'n bwysig deall sut y caiff yr arian hwnnw ei ddefnyddio o fewn Llywodraeth Cymru, a’i chyrff partner yn wir. A allwch nodi sut y dosbarthwyd yr arian hwnnw gennych, Weinidog cyllid, ac yn bwysicach, faint o'r £31 miliwn hwnnw sydd wedi mynd y tu allan i Lywodraeth Cymru, i gefnogi byrddau iechyd neu awdurdodau lleol, er enghraifft, a allai orfod gwneud eu paratoadau eu hunain mewn perthynas â chynlluniau wrth gefn ar gyfer ‘dim bargen’?