Paratoi at Brexit Heb Gytundeb

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 3 Ebrill 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 1:33, 3 Ebrill 2019

(Cyfieithwyd)

Wel, mae'r holl eitemau hynny a ddisgrifiais yn awr wedi’u hariannu drwy gronfa bontio'r UE, a ariannwyd gyda'r arian a ddisgrifiwch, ochr yn ochr â chyllid ar gyfer hyfforddi a gwella sgiliau gweithlu'r diwydiannau modurol ac awyrofod yng Nghymru, ac arian i brifysgolion Cymru i ysgogi partneriaethau rhyngwladol a hyrwyddo Cymru fel cyrchfan ar gyfer astudio. Buaswn yn fwy na hapus i rannu eto gyda'r Aelodau y rhestr o gynlluniau yr ydym eisoes wedi'u hariannu drwy gronfa bontio’r UE.FootnoteLink