Part of the debate – Senedd Cymru am 5:40 pm ar 3 Ebrill 2019.
Lywydd, hoffwn ddiolch yn swyddogol i'r Torïaid am gyflwyno'r cynnig hwn. Rwy'n cytuno â barn Darren Millar, ac rwy'n cydnabod hynny. Cyflwynwyd y ddadl hon yn yr ysbryd o weithio i sicrhau ein bod yn cael y gwasanaethau cywir ar gyfer rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed, ac mae hynny'n hollbwysig.
Y mis diwethaf, cadeiriais y grŵp trawsbleidiol ar iechyd meddwl pan drafodwyd yr adroddiad. Y diwrnod canlynol, mewn gwirionedd, yn dilyn y cyfarfod hwnnw, fe'i codais yn y datganiad busnes gyda'r Trefnydd, pan ofynnais am ddatganiad gan y Gweinidog iechyd ynglŷn â sut y byddai'n ymateb i'r adroddiad, a chefais wybod y cawn ateb erbyn diwedd yr wythnos efallai, ac rwy'n croesawu'r cyfle i ofyn yr un cwestiwn eto heddiw a gweld a allwn gael ymateb gan Lywodraeth Cymru i'r adroddiad hwnnw yn awr, oherwydd nid ydym wedi'i gael hyd yma.
Nawr, mae'n hollbwysig fod pobl sydd ag anghenion iechyd meddwl yn ogystal â'u gofalwyr a'u teuluoedd—nid ydym wedi sôn am eu gofalwyr a'u teuluoedd eto—yn cael y gofal a'r cymorth gorau posibl, ac mae'n peri pryder fod yr adroddiad gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ac Arolygiaeth Gofal Cymru a gyhoeddwyd yn dangos mewn gwirionedd fod yna anghysonderau yn y gofal ar draws Cymru, ac yn pwysleisio bod angen gwella'r timau iechyd cymunedol yn helaeth er mwyn sicrhau bod pobl sy'n profi anghenion iechyd meddwl a'u teuluoedd yn cael y gofal a'r cymorth gorau.
Rydym yn symud fwyfwy i fyd lle mae gofal yn ôl yn y gymuned yn brif nod, ac os ydym i gyflawni hynny, rhaid inni sicrhau bod pobl yn teimlo'n ddiogel ac mewn rheolaeth pan fyddant yn mynd yn ôl i'w hamgylchedd eu hunain. Ni allwn fforddio peidio â mynd i'r afael â'r canfyddiadau allweddol yn yr adroddiad hwn. Ac mae'r rhagair yn dweud y cyfan mewn gwirionedd. Nododd yr Aelod dros Ddwyrain De Cymru, Oscar, y materion sy'n codi o ran anghysondeb, argaeledd triniaeth, gofal a ddarperir yn y gymuned—fe ddywedodd y cyfan, ac yn wir, os darllenwch yr adroddiad, rydym yn clywed y geiriau 'amrywiol' ac 'anghyson' cymaint o weithiau, ac mae'n bwysig fod Llywodraeth Cymru, byrddau iechyd ac awdurdodau lleol angen ystyried yn ofalus ac archwilio'r holl feysydd a nodwyd yn yr adroddiad a gweithredu ar yr argymhellion fel y bydd pobl sy'n byw gyda salwch meddwl yn cael gofal cyfartal lle bynnag maent yn byw yng Nghymru.
Roedd pobl yn dweud bod y gwasanaeth yn feichus ac yn anodd ei ddefnyddio. Roeddent yn cyfeirio at ddiffyg dealltwriaeth o wahanol feini prawf ar gyfer atgyfeirio, a olygai bod atgyfeiriadau, yn enwedig gan feddygon teulu, yn cyflwyno'r wybodaeth anghywir, gan arwain at oedi cyn cael asesiadau a chymorth, ac yn fwy pryderus, mynegwyd pryderon ynghylch mynediad at wasanaethau i bobl sy'n profi argyfyngau iechyd meddwl, fel y nododd Darren Millar yn ei bwyntiau agoriadol ac yn ei gynnig. Mewn gwirionedd nid oedd hanner y bobl yn gwybod â phwy y gallent gysylltu y tu allan i oriau, ac mae hynny'n frawychus—i feddwl, os oes gan rywun salwch meddwl, nid yw teuluoedd a gofalwyr yn gwybod pwy i droi atynt er mwyn helpu'r unigolyn dan sylw. Rhaid inni fynd i'r afael â hynny.
Roedd sawl cwestiwn yn codi yn yr adroddiad ynglŷn â darparu gofal diogel ac effeithiol. Darllenwch y geiriau hynny: gofal diogel ac effeithiol ar gyfer y bobl hyn sy'n agored i niwed. Ac mae'r diffyg data wedi'i nodi eisoes, ond hefyd ymwneud aelodau o'r teulu neu ofalwyr yn y broses o gynhyrchu'r cynlluniau gofal ar gyfer yr unigolion hynny. Nododd yr adroddiad nad oedd bron i hanner yr aelodau teuluol neu ofalwyr wedi cael eu cynnwys yn y trafodaethau a arweiniodd at y penderfyniadau i ddod â chymorth y tîm iechyd cymunedol i ben. Felly, roeddent yn cael eu rhyddhau o ofal heb fod dros hanner yr aelodau teuluol yn rhan o'r trafodaethau hynny. Dywedodd un rhan o dair nad oeddent wedi cael gwybodaeth—. Mae'n ddrwg gennyf. Dywedodd llai na thraean eu bod wedi cael gwybodaeth ynglŷn â phwy i gysylltu â hwy. Nid yw hynny'n dderbyniol. Os ydych yn gofalu am berson sydd â salwch meddwl a'ch bod yn eu gosod yn ôl yn y gymuned, oherwydd eich bod yn eu rhyddhau o ofal, heb gymorth, y peth lleiaf y gallwch ei wneud yw sicrhau bod aelodau o'u teuluoedd a'u gofalwyr yn cael gwybod beth i'w wneud mewn argyfwng. Mae angen inni ymdrin â hynny os ydym yn parchu'r unigolion sy'n wynebu'r heriau hyn. Yn aml yn y Siambr hon, rydym—. Dywedodd Darren—rydych yn hollol iawn—ein bod yn aml yn y Siambr yn tynnu sylw at ba mor agored i niwed yw'r unigolion hyn a'r camau y dylem ni fel Cynulliad eu cymryd i'w diogelu, ac mae'r adroddiad hwn yn dweud nad ydym yn gwneud hynny. Felly, dylem ofyn i'n Llywodraeth sicrhau eu bod yn ymateb i'r holl argymhellion yn yr adroddiad hwn er mwyn sicrhau bod modd i'r bobl hyn ddibynnu ar y gwasanaethau sydd ar gael drwy gyfrwng y timau iechyd meddwl cymunedol a'r holl dimau eraill i ddarparu'r gofal y byddent yn ei ddisgwyl—gofal y buaswn yn ei ddisgwyl i mi fy hun neu aelod o fy nheulu.
Wrth gloi eu canfyddiadau, nododd Arolygiaeth Gofal Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru:
'bod angen gwneud cryn dipyn o welliannau o hyd mewn gwasanaethau Iechyd Meddwl Cymunedol er mwyn bod mewn sefyllfa i gyflawni'r weledigaeth a nodir yn Law yn Llaw at Iechyd Meddwl'.
Edrychaf ymlaen at weld hynny'n dwyn ffrwyth. Weinidog, gwn mai un o'r problemau mawr yw adnoddau. Rydym wedi bod yn sôn am therapïau siarad—mae'n ymwneud ag adnoddau. Weithiau, nid oes gennym adnoddau i wneud hynny. Rwy'n derbyn hynny, ond mae angen inni ddechrau datblygu'r adnoddau hynny. Nid oes gennym ddigon, felly gadewch i ni eu cael yn eu lle, gadewch i ni wneud yr hyfforddiant, gadewch i ni gael pobl i allu darparu'r gwasanaethau hyn. Rhaid inni fod mewn sefyllfa, fel cenedl, i allu cefnogi pobl â salwch meddwl er mwyn sicrhau, fel cymuned, nad ydynt yn cael eu gadael yn agored i niwed yn eu cartrefi eu hunain.