Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 3 Ebrill 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Melding David Melding Conservative 2:21, 3 Ebrill 2019

(Cyfieithwyd)

Weinidog, a gaf fi eich cymeradwyo am geisio cael cymaint o'r casgliad cenedlaethol allan yno ag sy'n bosibl er mwyn iddo gael ei weld? Mae gormod ohono wedi'i gadw mewn storfeydd a dylem gofio bod yr eitemau hyn yno i'w gweld a dyna pam y maent yn y casgliad yn y lle cyntaf. A wnewch chi ymuno â mi i ganmol gwaith Dawn Bowden yn hybu gwybodaeth am gymuned Iddewig Merthyr Tudful, a sefydlwyd ym 1848, ac a welir ar ei mwyaf ardderchog yn y synagog a luniwyd yn arddull yr adfywiad Gothig, ac a adeiladwyd yn 1877? Mae dyfodol y synagog yn dal i fod yn ansicr, a tybed a allech ofyn i'r Amgueddfa Genedlaethol edrych ar y fenter newydd a alwyd—a elwir, yn hytrach—yn brosiect Synagogau Hanesyddol Ewrop, sy'n edrych ar gymunedau diwydiannol ac ardaloedd eraill lle roedd yna boblogaeth Iddewig fawr a sicrhau bod y trysorau hanesyddol hyn yn cael eu cadw.