Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 3 Ebrill 2019.
Rwy'n ddiolchgar iawn i chi am eich cefnogaeth i'n gweithgarwch. Mae gennyf ddiddordeb arbennig, wrth gwrs, oherwydd fy nghefndir a fy arfer fy hun, yn hanes pob cymuned ffydd ac yn arbennig rôl y gymuned Iddewig yn datblygu Cymru, yn datblygu busnesau a chyfalafiaeth a buddsoddiad yng Nghymru, yn enwedig yn ystod cyfnodau allweddol o'r chwyldro diwydiannol, a byddaf yn sicr yn gwneud yn siŵr fy mod yn trafod hyn. Cafwyd menter, a mynychais gyfarfodydd grwpiau ffydd i edrych yn benodol ar y defnydd o adeiladau ffydd at ddibenion cadwraeth a bydd hynny wedyn yn arwain at roi gwerth cyfoes iddynt, ac mae'n ymddangos i mi mai'r allwedd yma, fel bob amser, yw nad yw henebion yno i fod yn henebion. Maent yno i gael eu defnyddio yn y presennol er mwyn dehongli'r hyn a ddigwyddodd yno yn y gorffennol.