Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 3 Ebrill 2019.
Wel, dwi wedi cael cyfarfod gyda'r banciau a hefyd gyda'r comisiynydd iaith, ac, wrth gwrs, mae hwn yn gyfrifoldeb ar y comisiynydd. Dwi yn cydnabod, a dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n cydnabod, fod correspondence yn rhan allweddol o wasanaeth y banc. Mae'r comisiynydd wedi cyflwyno seminar yn ddiweddar yn Llundain, achos, yn aml, dyna lle mae'r penderfyniadau'n cael eu gwneud, ac felly dwi'n meddwl dyna'r ffordd i bwyso arnyn nhw, ac, wrth gwrs, hefyd, i ddeall bod pethau'n newid yn y ffordd y mae pobl yn defnyddio banciau. Mae angen inni sicrhau bod pobl yn defnyddio technoleg a bod y dechnoleg yna ar gael drwy'r Gymraeg. Ac mae'n ddiddorol—mae Santander, er enghraifft, wedi datblygu meddalwedd lle, unwaith rŷch chi'n defnyddio'r Gymraeg unwaith, mae'n cofio eich bod chi'n siaradwr Cymraeg, a dwi'n meddwl y dylen ni fod yn annog eraill i wneud hynny.