Gohebiaeth yn Gymraeg

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 3 Ebrill 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative 2:25, 3 Ebrill 2019

(Cyfieithwyd)

Mae'n gwneud synnwyr busnes da iawn, wrth gwrs, i unrhyw sefydliad allu rhyngweithio â'u cwsmeriaid yn eu dewis iaith, ac mae hynny'n amlwg yn cynnwys Cymraeg, yn enwedig o gofio ein bod eisiau gweld yr iaith Gymraeg yn cael ei hyrwyddo. Nawr, bydd gan lawer o fusnesau, yn fawr ac yn fach, aelodau o staff yn eu timau sy'n siarad Cymraeg, ond sydd ond yn defnyddio eu sgiliau iaith Gymraeg o ddydd i ddydd yn anaml iawn. Pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog defnydd ehangach o'r sgiliau hynny mewn busnesau o bob maint ledled Cymru fel bod y cyfle i ddefnyddio'r Gymraeg â chwsmeriaid yn rhywbeth nad yw'n gudd, os mynnwch, o ran y sgiliau cudd hyn, ond eu bod yno i bawb eu gweld, fel y gellir annog cwsmeriaid i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg?