2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru ar 3 Ebrill 2019.
2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am barodrwydd sefydliadau mawr y sector preifat, fel banciau, i dderbyn gohebiaeth yn Gymraeg? OAQ53697
Wel, diolch yn fawr, Mike, a diolch am ofyn y cwestiwn yn Gymraeg. Dwi'n falch o weld y byddwch chi'n un o'r miliwn erbyn 2050. Diolch yn fawr. Mae Comisiynydd y Gymraeg yn gweithio gyda'r sector banciau i’w hannog i drin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal. Yn ddiweddar, ysgrifennais at y comisiynydd er mwyn cynnig cymorth fy swyddogion i ddatblygu technoleg addas i’w cynorthwyo i ddarparu gwasanaethau Cymraeg. Byddai hwn, wrth gwrs, yn cynnwys gohebiaeth.
Diolch am eich ateb.
Mae'r anhawster a gafodd fy merch i gael Banc Lloyds i dderbyn y ffurflen yn Gymraeg wedi cael llawer o sylw. Pa drafodaethau a gafodd y Gweinidog, neu y mae'n bwriadu eu cael, gyda banciau, cymdeithasau adeiladu a chwmnïau yswiriant ynglŷn â derbyn gohebiaeth yn Gymraeg, oherwydd fel arall bydd gennym system ddwy haen, lle mae'r sector cyhoeddus yn ymateb yn Gymraeg ac ni fydd y sector preifat yn gwneud hynny?
Wel, dwi wedi cael cyfarfod gyda'r banciau a hefyd gyda'r comisiynydd iaith, ac, wrth gwrs, mae hwn yn gyfrifoldeb ar y comisiynydd. Dwi yn cydnabod, a dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n cydnabod, fod correspondence yn rhan allweddol o wasanaeth y banc. Mae'r comisiynydd wedi cyflwyno seminar yn ddiweddar yn Llundain, achos, yn aml, dyna lle mae'r penderfyniadau'n cael eu gwneud, ac felly dwi'n meddwl dyna'r ffordd i bwyso arnyn nhw, ac, wrth gwrs, hefyd, i ddeall bod pethau'n newid yn y ffordd y mae pobl yn defnyddio banciau. Mae angen inni sicrhau bod pobl yn defnyddio technoleg a bod y dechnoleg yna ar gael drwy'r Gymraeg. Ac mae'n ddiddorol—mae Santander, er enghraifft, wedi datblygu meddalwedd lle, unwaith rŷch chi'n defnyddio'r Gymraeg unwaith, mae'n cofio eich bod chi'n siaradwr Cymraeg, a dwi'n meddwl y dylen ni fod yn annog eraill i wneud hynny.
Mae'n gwneud synnwyr busnes da iawn, wrth gwrs, i unrhyw sefydliad allu rhyngweithio â'u cwsmeriaid yn eu dewis iaith, ac mae hynny'n amlwg yn cynnwys Cymraeg, yn enwedig o gofio ein bod eisiau gweld yr iaith Gymraeg yn cael ei hyrwyddo. Nawr, bydd gan lawer o fusnesau, yn fawr ac yn fach, aelodau o staff yn eu timau sy'n siarad Cymraeg, ond sydd ond yn defnyddio eu sgiliau iaith Gymraeg o ddydd i ddydd yn anaml iawn. Pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog defnydd ehangach o'r sgiliau hynny mewn busnesau o bob maint ledled Cymru fel bod y cyfle i ddefnyddio'r Gymraeg â chwsmeriaid yn rhywbeth nad yw'n gudd, os mynnwch, o ran y sgiliau cudd hyn, ond eu bod yno i bawb eu gweld, fel y gellir annog cwsmeriaid i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg?
Wel, wrth gwrs, byddwch chi'n ymwybodol bod y Llywodraeth wedi cyhoeddi bod 12 o swyddogion busnes ledled Cymru nawr yn mynd o gwmpas busnesau bach i roi syniadau iddyn nhw ar sut gallan nhw ddefnyddio'r Gymraeg yn y gweithle. A hefyd, wrth gwrs, mae'r cynllun Cymraeg Gwaith sy'n cael ei redeg gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Mae miloedd ar filoedd o bobl eisoes wedi defnyddio'r cyfle i ddysgu'r Gymraeg yn y gweithle, ac, wrth gwrs, rŷn ni'n rhoi cyfraniad hael tuag at y cyfle iddyn nhw i ddefnyddio'r Gymraeg. Mae lot o hyn am rili cynyddu hyder pobl i ddefnyddio'r Gymraeg yn y gweithle. Mae lot o waith yn cael ei wneud eisoes y tu fewn i'r Llywodraeth, ond beth sy'n dda nawr yw bod hwnna'n mynd allan i'r sector breifat hefyd.
Weinidog, diolch byth, ar wahân i ychydig o faterion hyfforddiant, mae sefydliadau mawr yn y sector preifat megis banciau a chwmnïau cyfleustodau eisoes yn derbyn gohebiaeth yn nwy iaith swyddogol Cymru. Os ydym am annog mwy o sefydliadau sector preifat i wneud yr un peth, a ydych yn cytuno bod rhaid inni gymell yn hytrach na chosbi? Weinidog, pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i gynnig hyfforddiant iaith Gymraeg i sefydliadau o'r fath a gostyngiadau mewn ardrethi busnes efallai i'r sefydliadau sy'n annog staff i ddatblygu eu sgiliau iaith Gymraeg?
Diolch yn fawr. Credaf eich bod yn hollol gywir, mae—. Mae'n bwysig iawn inni ddefnyddio'r foronen a'r wialen lle bo hynny'n bosibl. Rwy'n fwy cefnogol i'r foronen, yn gyffredinol, na'r wialen, a dyna pam yr ydym wedi cyfrannu miliynau i fenter i annog pobl i ddysgu'r iaith yn y gweithle. Ond yr ochr arall i hyn, wrth gwrs, yw bod siaradwyr Cymraeg—os yw'r cwmnïau sector preifat hyn yn darparu'r gwasanaeth hwnnw drwy gyfrwng y Gymraeg, mae'n ddyletswydd arnom ni, fel siaradwyr Cymraeg—
—fel siaradwyr Cymraeg, i sicrhau ein bod ni'n defnyddio'r gwasanaeth yna. A dyna'r broblem ar hyn o bryd. Yn aml iawn, mae'r gwasanaethau yna; ychydig iawn o Gymry Cymraeg sy'n eu defnyddio nhw. Mae'n rhaid inni fod yn sicr ein bod ni, fel Cymry Cymraeg, yn defnyddio'r gwasanaethau yna pryd bo hynny—pan fo'r cyfle yna gyda ni.