Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 3 Ebrill 2019.
Weinidog, diolch byth, ar wahân i ychydig o faterion hyfforddiant, mae sefydliadau mawr yn y sector preifat megis banciau a chwmnïau cyfleustodau eisoes yn derbyn gohebiaeth yn nwy iaith swyddogol Cymru. Os ydym am annog mwy o sefydliadau sector preifat i wneud yr un peth, a ydych yn cytuno bod rhaid inni gymell yn hytrach na chosbi? Weinidog, pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i gynnig hyfforddiant iaith Gymraeg i sefydliadau o'r fath a gostyngiadau mewn ardrethi busnes efallai i'r sefydliadau sy'n annog staff i ddatblygu eu sgiliau iaith Gymraeg?