Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 3 Ebrill 2019.
Wel, wrth gwrs, byddwch chi'n ymwybodol bod y Llywodraeth wedi cyhoeddi bod 12 o swyddogion busnes ledled Cymru nawr yn mynd o gwmpas busnesau bach i roi syniadau iddyn nhw ar sut gallan nhw ddefnyddio'r Gymraeg yn y gweithle. A hefyd, wrth gwrs, mae'r cynllun Cymraeg Gwaith sy'n cael ei redeg gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Mae miloedd ar filoedd o bobl eisoes wedi defnyddio'r cyfle i ddysgu'r Gymraeg yn y gweithle, ac, wrth gwrs, rŷn ni'n rhoi cyfraniad hael tuag at y cyfle iddyn nhw i ddefnyddio'r Gymraeg. Mae lot o hyn am rili cynyddu hyder pobl i ddefnyddio'r Gymraeg yn y gweithle. Mae lot o waith yn cael ei wneud eisoes y tu fewn i'r Llywodraeth, ond beth sy'n dda nawr yw bod hwnna'n mynd allan i'r sector breifat hefyd.