Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru am 3:19 pm ar 3 Ebrill 2019.
Diolch i chi am hynny. Roeddwn yn meddwl tybed pa ohebiaeth sydd rhyngoch a'r bwrdd taliadau annibynnol ynghylch y strategaeth fuddsoddi rydych eisiau iddynt ei dilyn mewn perthynas â chronfa bensiwn Aelodau'r Cynulliad, oherwydd ymddengys i mi ei bod yn amhosibl i ni annog awdurdodau lleol i ddadfuddsoddi mewn tanwyddau ffosil, yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, oni bai ein bod yn rhoi trefn ar ein pethau ein hunain. Mae'n rhaid bod rhywfaint o ohebiaeth wedi bod mewn perthynas â hynny, er fy mod yn sylweddoli nad oes gan Aelodau'r Cynulliad na'r Comisiwn unrhyw fewnbwn gwirioneddol o ran y buddsoddiadau a wneir.