– Senedd Cymru am 3:53 pm ar 3 Ebrill 2019.
Eitem 5 yw'r datganiadau 90 eiliad. Daw'r cyntaf y prynhawn yma gan Mick Antoniw.
Ar ddydd Iau 28 Mawrth, roedd hi'n wythdeg mlynedd ers un o'r gweithredoedd mawr arwrol a digwyddodd yn ystod rhyfel cartref Sbaen. Ar y diwrnod hwnnw, llwyddodd y Cymro o Gaerdydd, y Capten Archibald Dickson, i achub ac arbed bywydau 2,638 o ddynion, menywod a phlant a oedd yn dianc o Sbaen rhag milwyr ffasgaidd y Cadfridog Franco. Arweiniodd blocâd ar borthladd Alicante gan longau rhyfel Eidalaidd a bygythiad awyrennau bomio o'r Almaen at olygfeydd o anhrefn ac anobaith. Wrth weld y golygfeydd trasig hyn, ac mewn gweithred o'r dewrder mwyaf, gadawodd Capten Dickson o SS Stanbrook ei gargo ar ôl ac yn lle hynny, derbyniodd y ffoaduriaid ar fwrdd y llong. Ddeng munud ar ôl dechrau'r daith, daeth sŵn ffrwydradau, a glaniodd bomiau ger y Stanbrook, ac eto torrodd Capten Dickson drwy'r blocâd, gan achub llawer iawn o fywydau heb unrhyw amheuaeth.
Yn Alicante, ceir plac coffa i Capten Dickson yn Gymraeg, Sbaeneg a Saesneg. Yr wythnos diwethaf, ar ddydd Sul Mawrth 31, cynhaliwyd digwyddiad dinesig cyhoeddus yn Alicante i gofio am y digwyddiadau hyn. Darllenwyd datganiad o gydnabyddiaeth a solidariaeth gan Brif Weinidog Cymru, i gydnabod y nifer o ddynion a menywod o Gymru yn y frigâd ryngwladol a fu'n ymladd ffasgiaeth yn Sbaen, ac a oedd yn dweud
Ni cheir gweithred fwy o solidariaeth na phan fydd un person yn peryglu eu bywyd dros eu cyd-ddyn.
Mae cynlluniau ar droed i osod plac coffa, yn union yr un fath â'r un yn Alicante, ger y Cynulliad i gydnabod gweithredoedd Capten Dickson ac mewn solidariaeth â phobl Alicante. Rwy'n falch iawn fod y Prif Weinidog wedi rhoi ei gefnogaeth, a gwn y gallaf ddibynnu ar y Cynulliad hwn i roi ei gefnogaeth lawn i'r prosiect hwn.
Bu farw hanner cant o bobl ac anafwyd dwsinau yn rhagor pan ymosododd dyn â gwn ar ddau fosg yn Christchurch, Seland Newydd, y mis diwethaf. Roedd y digwyddiad erchyll hwn yn ymosodiad uniongyrchol ar werthoedd goddefgarwch a rhyddid i addoli, sydd mor annwyl i ni i gyd. Yn ddiweddar, bu'n rhaid cynyddu mesurau diogelwch mewn mosgiau o amgylch Birmingham wedi i bump ohonynt gael eu targedu mewn ton o fandaliaeth. Mae Sajid Javid, yr Ysgrifennydd Cartref, wedi cyhoeddi hwb ariannol o £1.6 miliwn tuag at fesurau diogelu amddiffynnol ar gyfer mannau addoli er mwyn helpu i dawelu meddyliau cymunedau. Rhaid inni yng Nghymru chwarae ein rhan. Ni ddylai neb ofni erledigaeth oherwydd eu ffydd. Rydym yn gwrthod y rhai sy'n ceisio hau casineb a rhaniadau ymysg ein cymunedau.
Ddirprwy Lywydd, mae Jacinda Ardern, Prif Weinidog Seland Newydd, wedi dod yn ddynes sy'n ennyn edmygedd o gwmpas y byd yn sgil y ffordd yr ymdriniodd â'r sefyllfa ar ôl y gyflafan hon. Cofleidiodd y dioddefwyr, gweddïodd gyda hwy, fe wylodd gyda hwy, a'r ffordd y rhoddodd gamau ar waith—rhoddwyd mesurau rheoli gynau ar waith o fewn dyddiau ac roedd ei chenedl yn wylo gyda'r dioddefwyr a'u teuluoedd. Rhaid inni ddysgu gwersi. Cyn imi orffen, rwyf am ddyfynnu gair neu ddau o'r araith a wnaeth. Rwy'n dyfynnu ei geiriau:
Nid ydym yn rhydd rhag firysau casineb, ofn, yr arall. Ni fuom erioed. Ond gallwn fod yn genedl sy'n darganfod yr iachâd.
Credaf y dylem ni fod yn genedl felly. Effaith uniongyrchol ei haraith oedd bod y rhan fwyaf o'r dioddefwyr wedi maddau i'r person a laddodd eu perthnasau. Am berson mawr. Credaf y dylem ei gwahodd i ddod atom i'r Siambr hon i ddweud wrthym sut yr ymdriniodd â'r sefyllfa a dylem ddysgu gwersi ganddi. Diolch.
Bydd rowndiau terfynol WorldSkills yn digwydd rhwng 22 a 27 Awst yn ddiweddarach eleni. Cawsant eu galw'n 'Olympics sgiliau', ac mae'n gyfle i brentisiaid disgleiriaf a mwyaf medrus y byd herio'r gorau yn y byd yn eu cyfryw broffesiynau. Bydd mwy na 60 o wledydd yn anfon timau i'r digwyddiad, a chaiff ei ddangos ar deledu byw a'i ffrydio ar draws y byd. Mae 32 aelod Tîm y DU eisoes wedi'u cyhoeddi, a bydd yr aelodau'n cynrychioli amrywiaeth o sectorau, yn amrywio o beirianneg, lletygarwch, gwasanaethau proffesiynol, adeiladu, digidol a TG.
Ar ymweliad diweddar â Choleg Sir Benfro, roeddwn yn falch o gael clywed am lwyddiant tri gweithiwr proffesiynol ifanc hynod dalentog o ranbarth y canolbarth a'r gorllewin, a gynrychiolir gennyf, sydd wedi sicrhau eu lle yn nhîm WorldSkills y DU: Sam Everton a Chris Caine, cyn-fyfyrwyr yng Ngholeg Sir Benfro, a Phoebe McLavy, a gwblhaodd ei hyfforddiant yng Ngholeg Sir Gâr. Bydd Sam yn cystadlu yn y gystadleuaeth goginio, Chris yn y gystadleuaeth saernïaeth, a bydd Phoebe yn arddangos ei sgiliau mewn trin gwallt. Hoffwn ganmol gwaith caled ac ymroddiad y gweithwyr proffesiynol ifanc hyn, a'r ymdrech a wnaethant er mwyn cyrraedd y cam hwn o'r gystadleuaeth fawreddog hon. Rwy'n siŵr y bydd y Siambr gyfan am ddymuno pob lwc iddynt yn y rownd derfynol yn ddiweddarach eleni. Gwn y byddant yn bachu ar y cyfle hwn i ddangos lefel y dalent sydd gan Gymru i'w chynnig i'r byd.