7. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cyllid: Gweithredu Datganoli Cyllidol yng Nghymru

– Senedd Cymru am 4:36 pm ar 3 Ebrill 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:36, 3 Ebrill 2019

(Cyfieithwyd)

Eitem 7 ar ein hagenda y prynhawn yma yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid, 'Rhoi datganoli cyllidol ar waith yng Nghymru (2019)', a galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Llyr Gruffydd.

Cynnig NDM7030 Llyr Gruffydd

Cefnogwyd gan Siân Gwenllian

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyllid, 'Rhoi datganoli cyllidol ar waith yng Nghymru (2019)', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Mawrth 2019.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 4:36, 3 Ebrill 2019

Wel, diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Mae’n bleser gen i gael arwain y ddadl yma ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar roi datganoli cyllidol ar waith yng Nghymru. Mae amseriad y ddadl yma, wrth gwrs, yn arwyddocaol iawn oherwydd, ymhen tridiau, fe ddaw’r cyfraddau treth incwm y cytunwyd arnyn nhw yn y Cynulliad hwn i rym. Bach iawn fyddai pobl wedi meddwl, efallai, bydden ni wedi cyrraedd fan hyn flynyddoedd yn ôl. Ond mi fydd hyn, wrth gwrs, yn cynhyrchu tua £2 biliwn o dreth fydd yn cael ei chasglu bob blwyddyn yng Nghymru. Mae’r penderfyniad i gyflwyno cyfraddau treth incwm Cymreig yn trosglwyddo mwy o gyfrifoldeb cyllidol nag erioed o’r blaen yn hanes Cymru. Ac mae’n adeg allweddol, wrth gwrs, i ni felly o ran gweithredu datganoli cyllidol yng Nghymru a rhan olaf Deddf Cymru 2014. Hefyd, flwyddyn yn ôl i ddydd Llun, fe gyflwynwyd y trethi newydd cyntaf ers 800 o flynyddoedd yng Nghymru, sef y dreth trafodiadau tir a’r dreth gwarediadau tirlenwi; felly, mae wedi bod yn flwyddyn arwyddocaol iawn o ran datganoli cyllidol yng Nghymru.

Rwyf yn falch, felly, o gael agor y ddadl hon heddiw, fel Cadeirydd y pwyllgor, ar adeg mor bwysig yn ein hanes ni. Mi hoffwn i ddiolch i'r rhai, wrth gwrs, sydd wedi cyfrannu at yr ymchwiliad penodol o dan sylw. Mae'r pwyllgor yn falch o nodi bod y broses o roi datganoli cyllidol ar waith yng Nghymru wedi bod yn llwyddiannus hyd yma, i raddau helaeth. Yn benodol, mae’r penderfyniad i sefydlu Awdurdod Refeniw Cymru, ac yna i gyflwyno’r dreth trafodiadau tir a’r dreth gwarediadau tirlenwi, wedi bod yn gadarnhaol iawn. Mae'n galonogol nodi bod y gost derfynol o roi Awdurdod Refeniw Cymru ar waith yn cyd-fynd ag amcangyfrif cychwynnol Llywodraeth Cymru, sef tua £6 miliwn.

Fe drefnwyd i’r pwyllgor ymweld â swyddfeydd Awdurdod Refeniw Cymru yn Nhrefforest y llynedd, ac fe gafodd yr awyrgylch cadarnhaol a brwdfrydig mae'r sefydliad yna wedi'i feithrin, a'r arbenigedd mae wedi llwyddo i'w ddenu—fe gafodd hynny gryn argraff arnom ni fel aelodau o’r pwyllgor.

Ar adegau, wrth graffu ar waith Llywodraeth Cymru, rŷn ni’n gallu bod ychydig yn feirniadol o weision sifil, ond, y tro hwn, rŷn ni yn teimlo y dylid cydnabod eu gwaith caled a'u brwdfrydedd dros y broses hon.

Fodd bynnag, mae'r pwyllgor yn nodi mai dyddiau cynnar yw hi o ran sefydlu Awdurdod Refeniw Cymru, ac fe hoffai'r pwyllgor adleisio’r pryderon a nodon ni yn ein hadroddiad y llynedd ynghylch nifer y staff oedd yn gweithio ar fenthyg ac ar secondiad i’r awdurdod ar hyn o bryd. Er ein bod ni’n cydnabod manteision hwn wrth sefydlu’r awdurdod, rŷn ni’n credu bod angen rhoi sylw i’r gwaith o gynllunio'r gweithlu a'r camau sy'n cael eu cymryd i gadw gwybodaeth ac i gadw profiad o fewn yr awdurdod. Fe ddywedodd bwrdd Awdurdod Refeniw Cymru wrthym ni eu bod nhw’n rhoi sylw dyladwy i'r mater yma, a bod ‘pwyllgor pobl’ wedi’i sefydlu i ystyried sut i gadw staff. Mi fyddai'r Pwyllgor Cyllid yn ddiolchgar, felly, pe bai’r bwrdd yn anfon y wybodaeth ddiweddaraf atom ni bob blwyddyn, yn benodol yn y cyswllt hwn.

Ar 15 Ionawr, ar ôl pleidlais yn y Siambr hon, penderfynwyd mai 10c fyddai cyfraddau treth incwm Cymru, a hynny ym mhob band, sef yr un fath â'r gostyngiad canlyniadol yng nghyfraddau treth incwm y Deyrnas Unedig. Gan hynny, wrth gwrs, na fydd y cyfraddau y bydd pobl Cymru yn eu talu ddim yn newid eleni.

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 4:40, 3 Ebrill 2019

O'r dydd Sadwrn yma, bydd trethdalwyr Cymru'n talu cyfraddau treth incwm Cymru, ac, er na fydd trethdalwyr yma yng Nghymru yn gweld unrhyw wahaniaeth amlwg yn ystod y flwyddyn dreth nesaf, mae'r pwyllgor yn teimlo’i bod yn bwysig bod pawb yn gwybod am y newidiadau hyn ac yn eu deall nhw, ac rŷn ni'n pryderu, efallai, nad yw'r neges yn cyrraedd rhai o drethdalwyr Cymru.

Fe glywodd y pwyllgor fod rhai o’r farn bod y daflen a gyhoeddwyd gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi a Llywodraeth Cymru braidd yn ddryslyd a bod rhai’n credu y bydden nhw'n talu 10c mwy na’r cyfraddau presennol drwy dalu treth incwm yng Nghymru. Yn ogystal â hyn, aeth y pwyllgor ati i gynnal arolwg anffurfiol ym mis Chwefror, ac mi ddangosodd hwn nad oedd bron un o bob tri o drethdalwyr Cymru yn gwybod am y newidiadau, ac mae hyn, yn amlwg, yn peri pryder. Nawr, mae Llywodraeth Cymru ar fin cynnal gwerthusiad ffurfiol o'i gwaith cyfathrebu ar ôl rhoi’r newidiadau ar waith, a bydden ni yn falch o gael y wybodaeth ddiweddaraf am ganlyniadau'r gwerthusiad hwn pan fydd hynny ar gael.

Cadarnhaodd Cyllid a Thollau ei Mawrhydi fod y gwaith sydd ynghlwm wrth drosglwyddo’r dreth trafodion tir bron â'i gwblhau, a'u bod yn parhau’n hyderus y bydd y costau'n cyd-fynd â’r amcangyfrif diwygiedig o rhwng £1.75 miliwn a £2 filiwn. Cadarnhaodd Cyllid a Thollau ei Mawrhydi hefyd fod y gost o roi cyfraddau treth incwm Cymru ar waith hefyd o fewn yr amrediad o £7.5 miliwn i £9.5 miliwn a bennwyd ym mis Hydref. Hoffai'r pwyllgor gael gwybod y costau terfynol o ddileu’r dreth dir y dreth stamp a rhoi cyfraddau treth incwm Cymru ar waith cyn gynted ag y bydd y wybodaeth hon ar gael.

Nawr, fel rhan o'r ymchwiliad hwn, wrth gwrs, gwahoddodd y pwyllgor yr Ysgrifennydd Gwladol i roi tystiolaeth i ni—fel gwnaeth y pwyllgor llynedd, wrth gwrs—ac rŷn ni yn siomedig iawn yn ei amharodrwydd ef i ymgysylltu â ni unwaith eto. Er y penderfyniad i gyflwyno cyfraddau Cymru, treth y Deyrnas Unedig, wrth gwrs, yw treth incwm o hyd, ac mae Cyllid a Thollau ei Mawrhydi'n un o adrannau Llywodraeth y DU hefyd, a nhw sy’n casglu'r dreth honno, wrth gwrs. Gan hynny, mae tystiolaeth yr Ysgrifennydd Gwladol yn hanfodol, yn enwedig o ystyried na chafodd dros 400,000 o drethdalwyr yr Alban eu cynnwys yn eu system newydd nhw. Felly, mae'n hanfodol bod y pwyllgor yn gallu cadarnhau bod buddiannau Cymru'n cael eu diogelu'n ddigonol ar lefel y Deyrnas Unedig. 

Roedd cynnig yr Ysgrifennydd Gwladol i gwrdd ag Aelodau yn unigol ac yn breifat yn rhwystredig iawn, mae'n rhaid i fi ei ddweud. Mae'r pwyllgor o'r farn y dylid craffu’n gyhoeddus ar newidiadau sydd mor gyfansoddiadol bwysig. Byddai sesiwn bwyllgor ffurfiol a chyhoeddus yn llawer mwy priodol, yn llawer mwy tryloyw, ac yn llawer mwy gwerthfawr i bob un ohonom ni. Mae hyn yn arbennig o wir pan fo'n mor bwysig codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r newidiadau hyn hefyd. Dyw trafodaethau preifat, fel roedd yr Ysgrifennydd Gwladol yn eu cynnig, yn cyfrannu dim at ennyn diddordeb a hybu dealltwriaeth y cyhoedd.

Mae datganoli yng Nghymru yn dirwedd, wrth gwrs, sy'n newid yn gyson, ac mae'r pwyllgor yn falch bod y cam diweddaraf hwn yn y broses ddatganoli wedi'i chwblhau mewn ffordd sydd—mae’n ymddangos, beth bynnag—wedi bod yn bur ddidrafferth ac sydd wedi cael ei rheoli’n dda. Ond mae'n hanfodol peidio â gorffwys ar ein rhwyfau o ran rhoi gwybod i bobl Cymru am y newidiadau newydd hyn, ac mae'r pwyllgor yn bwriadu monitro hyn, yn ogystal â’r modd y mae’r trethi newydd a chyfraddau treth incwm Cymru'n gweithio yn ystod y misoedd a'r blynyddoedd nesaf.

Fodd bynnag, gan ein bod wedi datgan ei bod yn bwysig cydnabod pan fydd pethau'n cael eu gwneud yn dda, fe hoffwn i ganmol pawb a fu’n rhan o’r broses hyd yma, gan gynnwys y gwahanol Weinidogion cyllid a’r swyddogion, yn ogystal â'r modd y mae Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi ac adrannau Llywodraeth Cymru wedi cydweithio gyda'i gilydd.

Mae creu system drethi newydd, sefydlu corff casglu trethi newydd, a chyflwyno newidiadau sylfaenol yn y modd y mae trethi’n gweithio yn y wlad hon yn ddigwyddiadau arwyddocaol iawn, ac mae’r gwaith yn mynd rhagddo ar amser, o fewn y gyllideb a bennwyd, ac yn llwyddiannus. Hoffwn i, felly, Dirprwy Lywydd, ddiolch i bawb a gyfrannodd at ymchwiliad y pwyllgor. Dwi'n edrych ymlaen at roi diweddariadau cyson i’r Cynulliad hwn yn ystod y blynyddoedd nesaf am y cyfnod newydd a chyffrous hwn o ddatganoli cyllidol yng Nghymru. Diolch.

Photo of Nick Ramsay Nick Ramsay Conservative 4:45, 3 Ebrill 2019

(Cyfieithwyd)

'Ar amser, o fewn y gyllideb, ac mewn modd llwyddiannus.'

Nid ydym bob amser yn clywed y disgrifiadau hynny o brosiectau. Roedd hwn yn hynod o—. Nid oes gennyf lawer i'w ychwanegu, mewn gwirionedd, at yr hyn a ddywedodd Cadeirydd y pwyllgor. Roedd hwn yn ymchwiliad diddorol iawn i fod yn rhan ohono. A gaf fi ddiolch hefyd i'r tystion a ddaeth ger bron yr ymchwiliad? Rwy'n credu ein bod wedi llwyddo i gyflawni adroddiad amserol ac effeithlon iawn nad yw ond yn cynnwys tri argymhelliad, ond maent yn dri argymhelliad pwysig. Fel y dywedais yn gynharach mewn cwestiynau cyllid i'r Gweinidog, mae'n hawdd iawn datgan ar hyn o bryd fod pob dydd yn dyngedfennol mewn perthynas â datganoli ariannol, oherwydd mae rhywbeth yn digwydd bob dydd. Ac rwy'n deall mai 6 Ebrill yw'r dyddiad go iawn pan fydd y gyfradd Gymreig o dreth incwm yn dod yn weithredol. Mae'n amlwg mai dyma'r broses bwysicaf y bu'r Cynulliad drwyddi, os nad ers dyfodiad datganoli, yn sicr ers dyfodiad pwerau pellach yn ôl yn 2011. Felly, mae'n amlwg yn bwysig i ni ei gael yn iawn, a gwn mai dyna oedd bwriad pawb ar y pwyllgor.

Rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn y tri argymhelliad—maent yn eithaf syml. Os gallaf droi at argymhelliad 3 yn gyntaf, o gofio rhai o bryderon y Ffederasiwn Busnesau Bach a godais yn gynharach ynghylch diffyg ymwybyddiaeth busnesau o ddatganoli'r dreth stamp a'r dreth gwarediadau tirlenwi, mae'n amlwg yn bwysig fod pobl yn ymwybodol o ddatganoli treth incwm y mis hwn, ar 6 Ebrill, a'r hyn y mae'n ei olygu iddynt hwy. Fel y dywedodd y Cadeirydd, roedd yn peri gofid fod rhai pobl yn meddwl y byddent yn gorfod talu 10c yn ychwanegol ar ben cyfradd y DU o dreth incwm. Credaf y byddai hynny'n achosi mudo torfol ar draws y ffin o fewn ychydig fisoedd. Felly, mae angen i Lywodraeth Cymru, a phob un ohonom mewn gwirionedd, wneud yr hyn a allwn i sicrhau bod pobl yn deall hyn yn iawn. Ond ar yr un pryd, mae hon yn broses gymhleth, ac i'r bobl nad ydynt yn ymwneud â threfniadau trethu o ddydd i ddydd, mae'n amlwg yn rhywbeth sydd angen ei egluro.

Mae argymhelliad 2 yn ymwneud â throsglwyddo gwybodaeth o fewn Awdurdod Cyllid Cymru, ac mae hyn yn bwysig os yw'r sefydliad nid yn unig i oroesi yn awr, ond i'w gryfhau yn y dyfodol, fel y byddai pawb ohonom am ei weld. Mae angen inni recriwtio, datblygu a chadw sgiliau sy'n ymwneud yn benodol â'r dreth—i ddyfynnu o'r adroddiad—yng Nghymru. Gadewch inni ei wynebu; nid ydym wedi bod angen y dyfnder hwn o allu yma cyn hyn. Mae'n arloesol ym mhob ystyr. Ond mae angen inni ei wneud yn awr. Ac mae hynny'n berthnasol i fwy nag Awdurdod Cyllid Cymru; mae'n berthnasol hefyd i Lywodraeth Cymru. Mae angen inni gael mwy na gwybodaeth am drethiant; mae angen inni gael gwybodaeth economaidd a gallu i lunio rhagolygon treth a llunio rhagolygon economaidd yn ogystal.

Nid yw pennod 5 yr adroddiad yn dod i ben gydag argymhelliad mewn gwirionedd, mae pennod 5 yn trafod trethi newydd. Bwriad yr Ysgrifennydd Cabinet blaenorol i roi prawf ar y mecanwaith ar gyfer datblygu treth newydd—rwy'n tybio bod y Gweinidog presennol wedi etifeddu'r bwriad hwnnw. Efallai y gall egluro hynny. Rwy'n falch fod y Pwyllgor Cyllid i'w weld yn barod i fod yn rhan o'r gwaith o ddatblygu unrhyw drethi newydd, yr un gyntaf ac unrhyw drethi sy'n dilyn. Fel gyda threth incwm, fel y dywedais yn gynharach, mae'n amlwg yn bwysig inni gael y broses hon yn iawn, yn enwedig gan nad yw wedi ei wneud o'r blaen. Gallai trethi newydd effeithio'n eithaf sylfaenol ar yr economi yn awr ac yn y dyfodol, i fynd yn ôl at y mecanwaith ar gyfer llunio rhagolygon y dywedais fod angen i Lywodraeth Cymru ei ddatblygu.

Gan ddychwelyd at weithrediad presennol y gyfradd dreth incwm yng Nghymru, mae angen inni gadw llygad ar y costau trawsnewid disgwyliedig. Rhagwelir y byddant yn £5 miliwn i £10 miliwn, gryn dipyn yn llai na'r £20 miliwn i £25 miliwn a ragwelwyd yn wreiddiol ar gyfer yr Alban—neu a ddigwyddodd yn yr Alban, dylwn ddweud. Y rheswm, fel y nodwyd yn yr adroddiad, yw y gall y Cynulliad ddefnyddio'r system a ddatblygwyd ar gyfer yr Alban. Nawr, gadewch i ni obeithio bod hynny'n wir. Mae'n debyg y bydd yn wir, ond ar yr un pryd, fel y clywn yn aml mewn dadleuon yn y lle hwn, nid yw Cymru a'r Alban yr un fath, ac felly gallai fod costau annisgwyl nad ydym yn ymwybodol ohonynt ar hyn o bryd. Felly, fel y dywedodd y Cadeirydd, mae angen i ni gadw hyn oll dan arolwg, ac mae angen i Lywodraeth Cymru wneud yn siŵr fod y mecanwaith ar waith os aiff unrhyw elfen o hyn o chwith, fel bod y Gweinidog yn ymwybodol o'r problemau ar y cyfle cynharaf fel bod modd rhoi sicrwydd i'r cyhoedd fod datganoli trethi yn mynd rhagddo fel y dylai.

Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, costau ffiniol. Mwy na thebyg y bydd Mike Hedges yn sôn am y rhain. Pe bai fy nghyn gyd-Aelod diweddar Steffan Lewis yma, byddai ef wedi sôn amdanynt yn ogystal. Arferai gynhyrfu ar y pwyllgor pan fyddem yn siarad yn ddiddiwedd am y ffin. Dywedai fod ffiniau'n gweithio mewn mannau eraill yn y byd ac nad oes unrhyw reswm na allant weithio yma yn ogystal. Mae'n debyg ei fod yn llygad ei le ar hynny. Ond bydd cost i faterion fel gwaith mapio cymhleth o ffin Cymru a bydd angen edrych ar hynny. Ni chafodd ei wneud yn effeithiol o'r blaen, oherwydd nad oedd yn angenrheidiol, ond gan ein bod bellach yn teithio ar hyd y ffordd hon, mae angen ei wneud yn y dyfodol. Ond rwy'n falch o fod wedi bod yn rhan o'r ddadl hon.

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 4:50, 3 Ebrill 2019

(Cyfieithwyd)

Mae'n ddiddorol dod at adroddiad y gellid ei grynhoi orau drwy ddweud, 'Aeth popeth yn dda.' Gallwch ddweud hynny yn ôl nifer y bobl sy'n cymryd rhan yn y ddadl a nifer y bobl yma. Pe bai'r datganiad wedi dweud bod popeth wedi mynd yn wael, byddai'n ddadl hir iawn, a byddem yn ei chael hi'n anodd ei chwblhau o fewn yr awr, a byddai pobl yn ciwio i'w chlywed.

Os gallaf ateb pwynt olaf Nick Ramsay, dywedwyd wrthym fod mater y ffin yn cael ei ddatrys gan y gofrestrfa tir a'u bod yn mynd i weld yn union pa eiddo oedd ar ba ochr i'r ffin, a dywedwyd wrthym wedyn ei fod wedi'i wneud. Efallai ei fod yn gyfarfod neu'n rhan o gyfarfod nad oeddech yn bresennol ynddo, ond mewn gwirionedd dywedwyd wrthym ei fod wedi'i wneud bellach gan y gofrestrfa tir. Felly, gallwch roi rhywle i mewn, a gallant ddarganfod nid yn unig ym mha wlad y mae, neu ym mha genedl, ond gallant ddweud hefyd faint o'r eiddo sydd ym mhob gwlad, sy'n datrys yr hyn yr oeddwn bob amser yn meddwl ei bod yn broblem, a rhywbeth yr oedd Steffan Lewis bob amser yn dweud y byddai'n hawdd iawn ei ddatrys—ac roedd yn llygad ei le.

Rydym wedi cael y dreth gyngor ac ardrethi annomestig wedi'u datganoli ers peth amser. Roedd Deddf Cymru 2014 yn datganoli rhai trethi a phwerau benthyg i Gymru, ac yn galluogi Llywodraeth Cymru i ddeddfu mewn perthynas â threth dir y dreth stamp a'r dreth dirlenwi. Mae honno hefyd yn deddfu ar gyfer datganoli treth incwm yn rhannol, y gyfradd dreth incwm Gymreig. Aeth y dreth trafodiadau tir a'r dreth dirlenwi'n fyw, fel y dywedodd Llyr Gruffydd, ar 1 Ebrill 2018, a chânt eu gweinyddu gan Awdurdod Cyllid Cymru. Rydym bellach wedi cyrraedd diwedd y flwyddyn gyntaf o'r dreth trafodiadau tir a'r dreth gwarediadau tirlenwi datganoledig. Edrychaf ymlaen at weld alldro diwedd blwyddyn ar gyfer y trethi hyn, a gofyn, o leiaf, am gael datganiad ysgrifenedig wedi'i ddarparu ar gyfer y Cynulliad hwn yn dweud yn union beth ydynt.

Mae'r dystiolaeth a ddarparwyd i'r pwyllgor yn awgrymu bod gweithredu datganoli cyllidol i Gymru wedi llwyddo hyd yma i raddau helaeth. Mae'r pwyllgor yn cydnabod ei bod yn ddyddiau cynnar yn y broses o hyd, ond mae'n credu y dylid cydnabod y gwaith cadarnhaol sydd wedi'i wneud hyd yma. Ychydig iawn o arian y mae'r dreth gwarediadau tirlenwi yn ei godi, ac mae'r swm a godir yn lleihau o flwyddyn i flwyddyn. Nod y dreth pan gafodd ei sefydlu gyntaf oedd effeithio ar ymddygiad yn hytrach na chodi arian. Fe'i cyflwynwyd i gynyddu cost gwarediadau tirlenwi, o gymharu ag ailgylchu, gan olygu nad oedd parhau i ddefnyddio safleoedd tirlenwi yn gosteffeithiol, ac mae hynny wedi gweithio mewn gwirionedd, gan mai Cymru yw un o'r gwledydd ailgylchu gorau yn y byd. Ond y nod—er ei bod hi'n braf codi arian, llwyddiant ar gyfer y dreth tirlenwi fyddai peidio â chodi unrhyw arian o gwbl am nad oedd dim yn cael ei gludo i safleoedd tirlenwi. Credaf y byddai'r rhan fwyaf o bobl yn yr ystafell hon yn gweld hynny fel llwyddiant mawr.

Mae gallu gan y dreth trafodiadau tir i amrywio'n fawr iawn rhwng blynyddoedd. Rhwng 2007-08 a 2010-11, amcangyfrifwyd ei bod wedi gostwng i'r hanner. Dyma'r dreth fwyaf anwadal ond un. Y dreth enillion cyfalaf yw'r dreth fwyaf anwadal, ond mae hon yn ail o ran anwadalrwydd. Felly, mae'n braf ei chael; mae'n mynd i fod yn wych, o un flwyddyn i'r llall, pan fyddwn naill ai'n gwneud yn dda iawn, a bod y Llywodraeth yn codi ac yn dweud, 'Edrychwch pa mor dda rydym wedi'i wneud gyda'r dreth trafodiadau tir,' neu ei bod yn gwneud yn wael iawn a bod yr wrthblaid yn codi a dweud, 'Edrychwch, nid yw eich treth trafodiadau tir wedi gweithio.' Y realiti yw y bydd yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn. Ar wahân i mewn dirwasgiad, mae'n hynod o sefydlog, a rhagwelwyd twf araf, cyson gan y swyddfa cyfrifoldeb cyllidebol, ond mae'r swyddfa cyfrifoldeb cyllidebol bob amser wedi rhag-weld twf araf, cyson ar gyfer popeth. Nid ydynt yn meddwl ein bod byth mynd i gael dirwasgiad, a chredaf y gallent yn hawdd fod yn anghywir. Fe fydd dirwasgiad ar ryw adeg, ac fe gawn ostyngiad sylweddol yn yr incwm hwn.

Rydym yn mynd i ddechrau ar y flwyddyn gyntaf o dreth incwm wedi'i datganoli'n rhannol. Gall Llywodraeth Cymru amrywio cyfradd y dreth incwm, ond mae wedi gwneud ymrwymiad i beidio â'i chynyddu cyn etholiad 2011. Trosglwyddodd Deddf yr Alban 1998 y pŵer i ddeddfu—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf, 2021. Cefais fy ethol yn 2011. Diolch. [Torri ar draws.] Mae'n—2021, mae'n ddrwg gennyf. Trosglwyddodd Deddf yr Alban 1998 y pŵer i ddeddfu ar gyfer trethiant lleol a hefyd y pŵer i amrywio treth incwm 3c yn y bunt yn uwch neu'n is. Ni chafodd ei ddefnyddio gan lywodraethau a arweiniwyd gan Lafur na chan yr SNP yn yr Alban, ac ni allaf ragweld cyfradd sylfaenol y dreth incwm yn cael ei hamrywio yng Nghymru. Os cynyddwch y gyfradd, bydd y pleidleiswyr yn taro'n ôl yn erbyn talu mwy na Lloegr; os gostyngwch y gyfradd, bydd hyd yn oed rhagor o doriadau mewn gwasanaethau cyhoeddus. Rydych yn gaeth i'r hyn ydyw. Mae gennych bŵer sy'n anodd iawn, os nad yn amhosibl, ei ddefnyddio.

Un o'r pethau y credaf y dylai pob un ohonom yn y Cynulliad ei wneud, a chredaf ei bod yn ddyletswydd arnom ei wneud, yw esbonio, fel y gwnaeth Nick Ramsay yn gynharach, nad yw'n dreth ychwanegol. Nid yw'n 10c arall; yr hyn ydyw mewn gwirionedd yw symud rhan o'r dreth fel ei bod yn dod i Lywodraeth Cymru yn uniongyrchol yn hytrach na'n anuniongyrchol. Er y caiff ei hailddyrannu i Gymru, bydd y dreth a gesglir yr un fath yn union â'r hyn ydyw yn awr.

Yn olaf, ceir cyfle i gyflwyno trethi newydd. Ceir cynnig ar gyfer treth ar werth tir. Mae trethi eraill wedi'u hystyried hefyd, gan gynnwys un ar waredu plastigion. A wnaiff y Gweinidog cyllid roi diweddariad ar y cynnydd a wnaed ar gyflwyno treth ar werth tir? Ac a wnaiff y Gweinidog cyllid ddarparu diweddariad ar y cynnydd a wnaed ar gyflwyno trethi newydd eraill? Oherwydd ceir cyfleoedd mawr yn y system drethu i'w gwneud yn decach.

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 4:55, 3 Ebrill 2019

Gaf i ddiolch i dîm clercio'r Pwyllgor Cyllid ac i'r Cadeirydd, Llyr Gruffydd, am eu gwaith yn tynnu'r adroddiad yma at ei gilydd? Mae hwn yn faes sydd yn newydd i ni fel pwyllgor, wrth gwrs, yn ogystal â bod yn newydd i ni fel Senedd ac fel cenedl. Dŷn ni wedi bod yn mynd ati i ddysgu ac i drio datblygu ein harbenigedd ein hunain, wrth gwrs, wrth ymdrin â materion trethiannol ac wrth baratoi i roi datganoli cyllidol ar waith yma yng Nghymru. Felly, dim ond ychydig o sylwadau sydd gen i wrth gymeradwyo'r argymhellion a'r casgliadau yn yr adroddiad yma i chi, a dwi'n sicr yn edrych ymlaen at weld ein pwerau trethiant diweddaraf ni yn dod yn fyw ymhen ychydig o ddyddiau. Wrth gwrs, mi ydyn ni'n cael y drafodaeth ar yr adroddiad yma yn gynharach na'r arfer oherwydd yr amserlen honno, a dwi'n ddiolchgar i'm cyd-Aelodau ar Bwyllgor Busnes y Cynulliad am ganiatáu i'r ddadl yma allu cael ei chynnal heddiw.

Mi wnaf i ddelio efo'r ddau gasgliad yn yr adroddiad yn y drefn anghywir. Casgliad 2—y ffaith bod y pwyllgor yn cydnabod y gwaith da sydd wedi cael ei wneud i sefydlu Awdurdod Cyllid Cymru o'r newydd, a nhwythau'n delio â threth trafodiadau tir a threth gwarediadau tirlenwi, sydd yn flwydd oed rŵan. Fel y clywsom ni gan y Cadeirydd, mi grëwyd argraff gref iawn arnom ni gan y tîm hynod o broffesiynol a hynod o gyffrous, dwi'n meddwl, sydd wedi sefydlu'r awdurdod newydd hwnnw. Wrth gwrs, yn edrych ar argymhelliad 1, sy'n ymwneud â chynllunio gweithlu, dwi'n meddwl wrth osod y bar mor uchel o ran beth sydd wedi cael ei wneud o fewn yr awdurdod cyllidol yn y flwyddyn gyntaf, yr her fydd i gynnal y safon honno. Mi ddaeth hi'n amlwg i ni fel pwyllgor bod proffesiynoldeb a phrofiad y gweithlu a'r unigolion sy'n gyrru'r gwaith hynny yn ei flaen yn gwbl hanfodol, ac mi fyddwn ni'n edrych ymlaen am ddiweddariadau blynyddol ynglŷn â sut mae'r safon yna yn cael ei gynnal.

Yn symud yn ôl, wedyn, at gasgliad 1, mi hoffwn innau ategu'r casgliad hwnnw sy'n dweud bod y pwyllgor yn siomedig iawn ynghylch diffyg ymgysylltiad yr Ysgrifennydd Gwladol ar ddatganoli cyllidol yng Nghymru. Dwi'n digwydd credu bod agwedd Ysgrifennydd Cymru tuag atom ni fel sefydliad yn hyn o beth yn gywilyddus. Mae copi yn fan hyn o'r llythyr gen i gan yr Ysgrifennydd Gwladol at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, lle mae o'n sôn am fod yn atebol i'r Senedd yn San Steffan ac nid i'r Cynulliad Cenedlaethol. Wel, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gorff democrataidd sy'n cynrychioli buddiannau pobl Cymru. Os ydy'r Cynulliad hwn a'i bwyllgorau yn ei gweld hi'n iawn i ddal pwy bynnag i gyfrif, ein cyfrifoldeb ni ydy gwneud hynny, ac nid dewis Alun Cairns nac unrhyw Weinidog gwladol arall ydy gosod ei hun uwchlaw atebolrwydd i bobl Cymru. Allaf i ddim gwneud y pwynt hwnnw yn gryfach.

Mae o'n fodlon, meddai fo, siarad ag unigolion, fel Aelodau Cynulliad, am y peth. Mae o'n fodlon siarad a rhoi tystiolaeth i bwyllgor dethol materion Cymreig San Steffan am y peth. Hynny ydy, mae o'n barod i ymwneud â'r mater ac i ateb cwestiynau, ond yr unig gasgliad allaf i ddod iddo fo ydy ei fod o'n ddirmygus tuag at y sefydliad hwn. Dwi'n synnu i weld o yn ceisio gosod muriau rhwng prosesau trethiannol Cymreig newydd a'r drefn drethiannol sy'n dal yn cael ei rhedeg yn ganolog ar lefel Brydeinig. Mae yna ryngweithio rhwng prosesau yng Nghymru a phrosesau yn San Steffan, ac mae'n gwbl allweddol ein bod ni'n gallu gofyn cwestiynau i gynrychiolydd Cymru yn San Steffan a'i fod yntau yn clywed yn uniongyrchol gennym ni, fel Senedd ddemocrataidd i Gymru, beth yn union ydy ein pryderon ni a'r math o sicrwydd dŷn ni angen ar ystod o faterion yn ymwneud â phwerau trethiant.

Yn symud ymlaen yn sydyn iawn, dwi'n bryderus ynglŷn â'r diffyg dealltwriaeth gan bobl o gyfraddau treth Cymru sy'n dod i mewn y penwythnos yma. Mae yna gwestiynau i'w gofyn ynglŷn â sut i godi ymwybyddiaeth wrth inni symud ymlaen.

Gwnaf ddweud i gloi, i ymateb i sylwadau Mike Hedges ynglŷn â beth sy'n debyg o ddigwydd i gyfraddau treth yng Nghymru, a pha mor anodd, o bosib, allai hi fod yn wleidyddol i wneud penderfyniad i godi neu ostwng trethi, mae yna werth i gael dim ond y datganoli, oherwydd mae'n rhoi pwysau ar lywodraeth i weithredu mewn ffordd efo mwy o ffocws ar eu gwaith nhw. Ond dwi yn edrych ymlaen mewn blynyddoedd i ddod i'n gweld ni yn datblygu ffordd Gymreig o ymdrin â threthiant. Mi ddaw yna ragor o bwerau trethiant, ac mi fydd yna bethau sy'n gallu cael eu gwneud i gyfraddau treth incwm drwy newid trethiannau eraill. Ond materion ar gyfer y dyfodol ydy hynny. Dŷn ni ar ddechrau'r daith a dwi'n falch o gael y gymeradwyaeth oddi ar ffôn rhywun yn y cefn yn fan hyn, ond dwi'n falch o allu cymeradwyo'r adroddiad hwn i'r Cynulliad.

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 5:01, 3 Ebrill 2019

(Cyfieithwyd)

Fel Aelodau eraill y prynhawn yma, rwy'n croesawu'n fawr y broses y buom yn ei dilyn dros y blynyddoedd diwethaf. Yn sicr mae'r lle hwn wedi bod ar daith ers sefydlu Cynulliad yn 1999 i fod yn Senedd sy'n codi trethi yn 2019. Rwy'n croesawu'n fawr y ffaith ein bod wedi gweld datganoli'r pwerau hyn bellach. Ni fûm erioed yn un o'r bobl a gredai fod arnom angen refferendwm i wneud hynny, ac roeddwn yn sicr yn falch iawn ein bod wedi gallu symud ymlaen â'r atebolrwydd hwn a ffurf briodol o lywodraethiant yng Nghymru.

Gyda'ch caniatâd chi, Ddirprwy Lywydd, hoffwn wneud tri phrif bwynt y prynhawn yma. Y cyntaf yw, fel eraill y prynhawn yma, hoffwn longyfarch swyddogion a staff y sefydliadau amrywiol sydd wedi gweithio gyda'i gilydd i sicrhau bod trosglwyddo esmwyth yn digwydd dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Weithiau gall holl broses datganoli deimlo'n debyg i dynnu dannedd, a gall fod yn dasg eithriadol o anodd. Yn sicr pan wyf wedi siarad â Gweinidogion y DU ynghylch datganoli pwerau ychwanegol, maent wedi gwneud iddo ymddangos fel tasg anferthol sydd bron yn amhosibl ei chyflawni o fewn canrif. Felly mae datganoli'r cyfrifoldebau hyn ar drethiant wedi symud yn gymharol gyflym ac yn esmwyth iawn, a gobeithiaf y bydd honno'n wers ar gyfer y dyfodol, ond yn sicr mae angen inni longyfarch y staff a'r swyddogion sydd wedi gwneud hynny.

Yr ail bwynt yr hoffwn ei wneud yw'r un a wnaed gan yr Aelod dros Ynys Môn yn ei gyfraniad. Mae'r adroddiad yn gwneud pwynt o siom y pwyllgor ynghylch penderfyniadau a chamau gweithredu'r Ysgrifennydd Gwladol. Mae fy marn glir a fy mhrofiad fel Gweinidog yn y lle hwn yn dweud wrthyf nad oes unrhyw rôl i Swyddfa Cymru yn y Deyrnas Unedig heddiw. Fel Gweinidog ni allaf feddwl am un achlysur pan fo Swyddfa Cymru wedi bod o gymorth i mi neu wedi ein galluogi i lywodraethu'n briodol. Yr hyn sydd bob amser wedi gweithio ar bob achlysur yw'r berthynas rynglywodraethol uniongyrchol rhwng Gweinidogion Cymru a Gweinidogion y DU. Ni allaf feddwl am unrhyw achlysur pan fo Swyddfa Cymru wedi helpu llywodraethiant y wlad hon, ac mae ymddiswyddiad rhywun nad ydym erioed wedi clywed amdano heddiw, rhywun a oedd prin wedi ymweld â'r wlad hon ac na chyflawnodd unrhyw ddyletswydd o fath yn y byd y gallodd neb ei chanfod, yn dangos bod defnyddioldeb y swyddfa honno wedi dod i ben. Mae anallu'r Ysgrifennydd Gwladol i deithio i Gaerdydd i roi tystiolaeth ac i gael ei graffu, sef yr hyn y credaf y mae'n ceisio ei osgoi mewn gwirionedd, yn dystiolaeth bellach, os oes ei hangen, ei bod yn bryd symud ymlaen at strwythurau priodol yn y DU a strwythurau llywodraethu priodol nad ydynt yn eiddo i Lywodraeth y DU, ond sy'n cael eu rhannu rhwng Llywodraethau'r DU. Gobeithiaf y gallwn wneud hynny maes o law.

Y trydydd pwynt yr hoffwn ei wneud yw bod y broses hon wedi symud yn gymharol ddidrafferth, ond i ba bwrpas? I ba ddiben? Ai'r diben yn syml yw ein dwyn i gyfrif am wneud yr un penderfyniadau ag y mae'r Trysorlys yn eu gwneud? Neu ai'r diben yw inni wneud rhywbeth gwahanol, adlewyrchu ein gwerthoedd a'n credoau ein hunain? Gwelaf fod tri Gweinidog ar y fainc flaen—iechyd, addysg a chyllid—ac rwy'n ffodus o fod wedi gweithio gyda'r tri ohonynt ar wahanol adegau, ac mae'r tri ohonynt—[Torri ar draws.] Iawn, gadewch i ni beidio â mynd yno nawr. Ond bydd y tri ohonynt yn cofio'r sgyrsiau a gawsom ynghylch arian parod, ynghylch gwariant, a'r penderfyniadau anodd iawn y bu'n rhaid inni eu gwneud dros y blynyddoedd diwethaf. Nid wyf yn credu bod cyni yn ddewis polisi cywir, ac nid wyf yn credu bod y polisi cyni wedi llwyddo yn ei amcanion datganedig. Ond wedyn, nid yw'r Torïaid yn credu hynny mwyach ychwaith.

Felly, beth a wnawn? A ydym yn parhau i drethu ar y lefelau presennol neu a ydym yn dweud, 'Rydym yn credu mewn gwasanaethau cyhoeddus. Rydym am warchod gwasanaethau cyhoeddus. Rydym am fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus. Rydym am fuddsoddi ym mhobl y wlad hon, cymunedau'r wlad hon a gwasanaethau'r wlad a dyfodol y wlad hon'? Ac os felly, rhaid inni fod yn ddigon dewr i ddadlau dros drethiant yn ogystal. Trethiant teg a fydd yn ein galluogi i ddarparu'r gwasanaethau sydd eu hangen arnom a'r gwasanaethau y mae pobl Cymru eu heisiau. Ni allwn sefyll yma'n gwneud areithiau am gyni a darparu cyni drwy ein penderfyniadau. Ni allwn gael ein cacen a'i bwyta. Rydym wedi bod yn dweud hynny wrth Weinidogion y DU drwy Brexit a rhaid inni dderbyn hynny ein hunain. Os ydych yn credu mewn gwasanaethau cyhoeddus, rhaid i chi hefyd ddadlau o blaid trethiant i dalu amdanynt. Ond hefyd, gadewch inni drethu mewn ffordd sy'n adlewyrchu ein gwerthoedd. Treuliais rai blynyddoedd yn perswadio Gweinidogion cyllid blaenorol, pan oeddent yn cyhoeddi eu papurau Trysorlys, y dylai ein gwerthoedd ddod drwodd, dylent ddisgleirio drwy ein polisi trethiant yn ogystal. Methais ddarbwyllo unrhyw Weinidog cyllid ynglŷn â phwysigrwydd cynaliadwyedd fel egwyddor trethiant—gobeithio y caf well lwc gyda'r Gweinidog cyllid presennol, ond methais berswadio ei rhagflaenwyr—oherwydd credaf ei fod yn bwysig.

Ond mae'n bwysig hefyd ein bod yn cydnabod sylfaen drethi sy'n lleihau. Trafodasom effaith bosibl Brexit yn ystod y cwestiynau yn gynharach. Rydym yn sôn yma am Brexit fel trychineb cenedlaethol i'r wlad hon, ond mae'n drychineb hefyd i'n gwasanaethau a'n gallu i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus. Mae'n ddigon hawdd dweud na welwn y difidend a addawyd inni ar ochr bws ar gyfer y gwasanaeth iechyd gwladol, ond rydym yn mynd i orfod talu am hynny. Ac os yw hynny'n wir, beth y mae hynny'n ei wneud i'n polisi trethiant?

Gallaf weld fy mod wedi profi eich amynedd yn ddigon hir, Ddirprwy Lywydd. Ond gobeithio y cawn ddadl am natur trethiant yn y dyfodol a fydd yn adlewyrchu ein gwerthoedd, ac a fydd hefyd yn adlewyrchu ein dyheadau.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:07, 3 Ebrill 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch. A gaf fi alw yn awr ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd, Rebecca Evans?

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch. Rwy'n croesawu'r ddadl heddiw yn fawr iawn, a hoffwn gofnodi fy niolch i'r Pwyllgor Cyllid am eu hadroddiad ac am ddarparu cyfle inni gael y drafodaeth hon heddiw, ac am y ffordd adeiladol iawn y mae'r pwyllgor wedi ymgysylltu â'r agenda hon drwyddi draw. Byddaf yn ymateb yn ffurfiol i adroddiad y pwyllgor, ond gallaf ddweud heddiw fy mod yn falch fod y pwyllgor wedi cydnabod y gwaith da a wnaed ar sefydlu Awdurdod Cyllid Cymru yn eu hadroddiad. Mae'r gwaith da hwn wedi parhau yn ei weithrediadau, a chafodd dull yr awdurdod o weinyddu treth ei gydnabod yn yr adroddiad diweddar gan y Ffederasiwn Busnesau Bach, 'Funding Prosperity: Creating a New Tax System in Wales,' a drafodwyd gennym yn gynharach heddiw.

Nodaf argymhelliad y pwyllgor y dylid darparu diweddariadau blynyddol ar ddull yr awdurdod o gadw gwybodaeth ac arbenigedd yn y sefydliad. Mae gwaith eisoes ar y gweill yn y maes hwn, gan gynnwys datblygu cynlluniau ymsefydlu, cynlluniau parhad busnes, canllawiau manwl a phroses gipio gwybodaeth ffurfiol ar gyfer y rhai sy'n gadael y sefydliad.

Buaswn yn hapus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r pwyllgor ar gostau gweithredu a chostau rhedeg parhaus cyfraddau Cymreig o dreth incwm. Mae sicrhau gwerth am arian i drethdalwyr Cymru yn parhau'n flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, a bydd fy swyddogion yn parhau i graffu ar y costau sy'n gysylltiedig â gweithredu'r trefniadau newydd, ac rwy'n ddiolchgar i Gyllid a Thollau ei Mawrhydi, sydd wedi dangos ymrwymiad i gadw costau cyn lleied â phosibl.

Mae fy swyddogion wedi bod yn cydweithio'n agos â'u cymheiriaid o fewn CThEM i sicrhau bod cyfathrebu a gweithgarwch ymgysylltu yn gydgysylltiedig. Mae gwerthuso wedi bod yn digwydd drwy gydol yr ymgyrch i helpu i addasu a mireinio ein dull gweithredu yn ôl yr angen. A chynhelir gwerthusiad mwy ffurfiol gan ddefnyddio fframwaith gwerthuso Gwasanaeth Cyfathrebu'r Llywodraeth cyn bo hir.

Nodaf siom y pwyllgor na allodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru ymwneud â'r pwyllgor, neu ei amharodrwydd i wneud hynny, ar gyfer ystyried y modd o ddatganoli'r dreth incwm yn rhannol yng Nghymru. Rwy'n cytuno â chasgliad y pwyllgor, gan fod y dreth incwm yn parhau i fod yn dreth a gadwyd yn ôl, y byddai'n briodol i'r Ysgrifennydd Gwladol ateb cwestiynau am y broses weithredu. A hoffwn nodi fy mod yn falch iawn o roi tystiolaeth i'r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig ar ddatganoli toll teithwyr awyr yn ddiweddar iawn.

Bydd cyflwyno cyfraddau treth incwm Cymreig ddydd Sadwrn yn nodi cwblhau'r rhaglen waith—y rhaglen o ddatganoli cyllidol a roddwyd ar waith gan Ddeddf Cymru 2014. Bydd yn dilyn llwyddiant y camau i roi trethi a wnaed yng Nghymru mewn grym flwyddyn yn ôl—y dreth trafodiadau tir a'r dreth gwarediadau tirlenwi, a gesglir gan Awdurdod Cyllid Cymru—a chaffael pwerau benthyca cyfalaf a refeniw newydd. Rydym hefyd yn pwyso ar Ddeddf 2014 i archwilio trethi newydd posibl a'r ffyrdd y gallent gynnal ein dyheadau polisi ehangach.

Wrth gwrs, dechreuodd y gwaith hwn ymhell cyn 2014 gyda'r adroddiadau gan gomisiwn Holtham a chomisiwn Silk, a argymhellodd y dylai Llywodraeth Cymru a'r Cynulliad Cenedlaethol ennill llawer mwy o allu a chyfrifoldebau i reoli cyllideb Cymru. Ochr yn ochr â'n pwerau treth, rydym wedi mabwysiadu cyfrifoldeb ariannol dros ardrethi annomestig, a bu newidiadau hanfodol i'n grant bloc i ddarparu cyllid gwaelodol Barnett ac i sicrhau addasiadau priodol ar gyfer y refeniw treth datganoledig.

Rhydd datganoli pwerau treth amrywiaeth o gyfleoedd i Lywodraeth Cymru ddatblygu dull blaengar o drethu wedi'i deilwra'n well i anghenion Cymru. Mae'r fframwaith polisi treth, a gyhoeddwyd yn 2017 gan Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid ar y pryd, a'r cynlluniau gwaith blynyddol a gyhoeddwyd ers hynny, wedi pwysleisio ymrwymiad y Llywodraeth hon i fabwysiadu dull strategol o weithredu polisi treth. Caiff hwn ei gyflawni yn awr drwy ein gwaith i reoli trethi presennol a threthi sydd wedi'u datganoli o'r newydd, yn ogystal â'n dull sy'n esblygu o ddatblygu trethi newydd.

Mae cynllun gwaith y polisi treth a gyhoeddais ar 27 Chwefror yn cyflawni'r ymrwymiad a roddwyd yn y fframwaith polisi treth i sicrhau bod cynigion sy'n gysylltiedig â threthi yn cael eu hystyried yn drwyadl ac yn gyson ag egwyddorion y Cabinet. Mae'n cydymffurfio â'r egwyddor i ddatblygu polisi treth drwy gydweithrediad a chyfranogiad, gan ddarparu cyfrwng ar gyfer trafodaeth fwy agored â rhanddeiliaid ynghylch cyfeiriad polisi treth Cymru. Mae'r meysydd ymchwil yn y cynllun gwaith yn cefnogi'r ymrwymiad yn y strategaeth genedlaethol i ddefnyddio pwerau treth i gryfhau'r cysylltiad rhwng twf economaidd a chyllid ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus, ac i wneud hynny mewn ffordd sy'n cefnogi busnesau ac sy'n deg.

Ynghyd â'r grant bloc, bydd trethi Cymru yn ariannu'r gwasanaethau cyhoeddus hanfodol y mae llawer o bobl yn ein cymdeithas yn dibynnu arnynt. Pan gyflwynir cyfraddau Cymreig o dreth incwm, bydd penderfyniadau ynglŷn ag oddeutu £5 biliwn o refeniw treth a gesglir yng Nghymru yn cael eu gwneud yng Nghymru gan y Llywodraeth ganolog neu lywodraeth leol. Gyda'r pwerau wedi'u datganoli i Gymru, mae cyfle gennym i edrych ar drethi'n gyfunol. Bydd yn newid natur ein dadleuon ynglŷn â refeniw a chyllidebau yn y dyfodol, ac edrychaf ymlaen at y trafodaethau hyn.

Rwy'n hapus i gefnogi'r cynnig hwn y prynhawn yma, a hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl ac ymuno gyda hwy ac ategu'r sylwadau canmoliaethus a wnaethant am y swyddogion sydd wedi gweithio ar y prosiect hwn. Diolch.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:12, 3 Ebrill 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Llyr Gruffydd i ymateb i'r ddadl?

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl hon hefyd. Credaf ei bod yn adlewyrchu'r consensws sy'n bodoli ynghylch y ffordd y cyflawnwyd y gwaith. Mae Nick ac eraill wedi sôn am adroddiad y Ffederasiwn Busnesau Bach, ac roedd eu casgliadau'n adleisio casgliadau'r pwyllgor i raddau helaeth. Ond nid yn unig y Ffederasiwn Busnesau Bach sydd wedi dweud hyn, fe ddywedodd Swyddfa Archwilio Cymru, wrth gwrs, pan gyflwynodd adroddiad ar Awdurdod Cyllid Cymru ddiwedd y llynedd, ei fod 

'wedi gweithio’n effeithiol hyd yn hyn i weinyddu trethi datganoledig yng Nghymru... Mae gan Drysorlys Cymru drefniadau priodol ar waith i dderbyn sicrwydd ynghylch y ffordd mae CThEM yn gweithredu cyfraddau treth incwm Cymru'.

Rwy'n meddwl bod y neges yn dda hyd yn hyn, ond fel y pwysleisiais yn fy sylwadau agoriadol, ni allwn gymryd unrhyw beth yn ganiataol, ac yn amlwg mae angen inni gadw'r un lefel o wyliadwriaeth y byddai unrhyw un yn ei ddisgwyl gennym yn y broses hon. Hefyd, cyfeiriodd Nick, rwy'n credu, at yr angen i dyfu capasiti yng Nghymru yn awr oherwydd mae hon yn drafodaeth newydd sy'n dod i'r amlwg yn awr. Rydym yn clywed darnau ohoni heddiw, onid ydym, o ran sut beth fydd y polisi trethiant yn y dyfodol o dan Lywodraethau Cymru yn y dyfodol, ac yn amlwg efallai ein bod yn dechrau denu rhai ymrwymiadau maniffesto yn y cyfnod hyd at 2021.

Mae'n bwysig, fel y dywedodd Alun Davies, fod y polisi treth yn cynrychioli ein gwerthoedd, ac fel y dywedodd Mike Hedges hefyd, mae'n fodd o gyflawni canlyniadau polisi, onid yw? Nid ffordd o gynhyrchu refeniw yn unig ydyw, ac mae hynny'n bendant yn mynd i fod yn rhan o'r broses esblygol y byddwn ni fel pleidiau a fydd yn rhan o'r drafodaeth wleidyddol yn y cyfnod cyn yr etholiad nesaf ynghlwm wrthi hefyd.

Yn sicr mae gwersi i'w dysgu gan yr Alban, fel y clywsom yn ystod y ddadl. Am unwaith, mae mantais y sawl sy'n symud yn ail yn eithaf cadarnhaol, oherwydd gallant hwy wneud y camgymeriadau a gallwn ni ddysgu oddi wrthynt. Mae hynny'n sicr yn rhywbeth y mae angen inni fanteisio arno.

Rwyf am wneud sylw hefyd am y mater trawsffiniol—cafwyd ychydig o gyfeiriadau at hynny. Mae hwnnw'n waith y mae'r pwyllgor yn mynd i edrych arno o gwmpas yr hydref, yn yr ystyr y byddwn yn edrych ar effeithiau gwahanol—[Torri ar draws.] Caf fy nghymeradwyo yn awr gan ffôn rhywun—gwahanol effeithiau gwahaniaethau mewn cyfraddau treth ar draws ffiniau, a chredaf y bydd hi'n ddefnyddiol inni gael hynny fel ein bod yn gallu mynd i wraidd rhai o'r pryderon sy'n cael eu nodi fel problemau i rai, ac nid i eraill, fel y clywsom. Ond credaf y byddai hwnnw'n gyfraniad defnyddiol y gallwn ei wneud fel pwyllgor i'r holl drafodaeth honno.

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 5:15, 3 Ebrill 2019

Mae Awdurdod Refeniw Cymru, fel yr oedd Rhun ap Iorwerth yn dweud, wedi gosod bar uchel iawn, ond, wrth gwrs, byddwn i ddim yn disgwyl dim gwahanol. Ac mi fydd hi'n her i gynnal hynny ond, wrth gwrs, dyna dwi'n meddwl sydd yn rhaid inni sicrhau fydd nawr yn para. Ac mae ymateb yr Ysgrifennydd Gwladol, fel mae bron iawn pawb wedi cyfeirio ato fe, i'r cais i ddod i roi tystiolaeth—y niferoedd o geisiadau sydd wedi bod dros y blynyddoedd diwethaf, a dweud y gwir, i ddod gerbron y Pwyllgor Cyllid—yn siomedig eithriadol. Mae'r cynnig i gwrdd â ni'n unigol, dwi'n credu, yn tanseilio pa bynnag resymeg sydd gan yr Ysgrifennydd Gwladol i beidio ag ymddangos o flaen y pwyllgor, oherwydd mae yna demtasiwn i ni fel wyth aelod o'r pwyllgor i'w gwrdd ag e'n unigol wyth gwaith. Mi awn ni i Lundain i wneud hynny os oes rhaid, ac, yn sicr, mi aiff y pwyllgor i unrhyw le er mwyn sicrhau bod yna dryloywder a bod yna atebolrwydd o'r cyfeiriad hynny hefyd. 

Y neges sylfaenol, dwi'n credu, i fi yn fan hyn yw: os gallwn ni barhau dros y blynyddoedd nesaf i roi datganoli cyllid ar waith yn y modd y mae e wedi cael ei roi ar waith hyd yma, yna, yn fy marn i, mi fyddwn ni fel sefydliad, wrth inni agosáu at ugainmlwyddiant y Cynulliad yma, yn deilwng, gobeithio, o gael ein galw yn Senedd. Diolch. 

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:17, 3 Ebrill 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.