Part of the debate – Senedd Cymru am 5:08 pm ar 30 Ebrill 2019.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad, er fy mod i, unwaith eto, yn meddwl bod ymdeimlad o fod wedi profi hyn i gyd o'r blaen, mewn gwirionedd. Rydym ni wedi cael datganiadau tebyg yn rheolaidd dros y blynyddoedd ac, yn anffodus, gyda'r un duedd o ran llwyddo i reoli'r clefyd hwn. Mae'n teimlo ychydig bach fel petaech chi'n priodoli rhai o fethiannau'r Llywodraeth i ffermwyr hefyd, oherwydd rydych chi'n dweud y dylai ffermwyr brynu stoc yn fwy gofalus—wel, onid ydych chi'n credu eu bod yn ddigon cyfrifol yn hynny o beth? Rydych chi'n dweud eich bod yn galw ar ffermydd mewn ardaloedd TB isel i wneud popeth a allant i gadw TB buchol allan. Siawns nad ydych chi'n awgrymu nad ydyn nhw eisoes yn gwneud cymaint ag y gallan nhw, oherwydd dydw i ddim yn gwybod am unrhyw ffermwr sy'n dymuno canfod ei hun yn y sefyllfa hon, ac, mewn gwirionedd, os ydych chi'n disgwyl i ffermwyr wneud popeth o fewn eu gallu, yna rwy'n credu nad yw hi ond yn deg bod ffermwyr yn disgwyl i Lywodraeth Cymru wneud popeth yn ei gallu i fynd i'r afael â'r clefyd erchyll hwn, ac mae hynny, wrth gwrs, yn golygu defnyddio pob arf sydd ar gael i chi. Ers cyflwyno'r cynlluniau gweithredu unigol—neu'r cynlluniau gweithredu pwrpasol—rydym ni wedi gweld, rwy'n credu, trwyddedau yn cael eu cyflwyno ar dair fferm yn unig ledled Cymru gyfan a chael gwared ar ddim ond pum mochyn daear. Nawr, mae hynny mewn cyferbyniad, wrth gwrs, â dros 11,000 o wartheg sydd wedi cael eu lladd. Rydym ni eisoes wedi cael ein hatgoffa bod hynny'n gynnydd o 12 y cant yn nifer y gwartheg sy'n cael eu lladd. Mewn rhai rhanbarthau unigol, mae'n uwch fyth, mewn gwirionedd, ac mae hynny, rwy'n credu, yn dweud llawer wrthym ni am yr hyn y mae angen inni ei wybod ynglŷn â pha mor llwyddiannus yw strategaeth y Llywodraeth hyd yma.
I'r gwrthwyneb, rydym ni wedi gweld yn Lloegr ac mewn mannau eraill ddulliau gwahanol yn arwain at wahanol effeithiau ar y sefyllfa o ran TB yn y fan honno. Roedd crynodeb DEFRA ym mis Rhagfyr yn cadarnhau eu bod wedi haneru nifer yr achosion newydd yn Lloegr. Felly, mae gennyf ddiddordeb, mewn gwirionedd, a'm cwestiwn cyntaf fyddai: i ba raddau ydych chi'n dysgu'r gwersi sy'n cael eu dysgu mewn mannau eraill? A ydych chi'n dysgu o'r gwersi hynny, nid yn unig o Loegr ond o Weriniaeth Iwerddon a mannau eraill hefyd, a sut mae eu profiadau nhw'n effeithio neu'n dylanwadu ar eich ffordd chi o fynd ati yma yng Nghymru? Oherwydd mae cynnydd o 12 y cant, wrth gwrs, yn nifer y gwartheg sy'n cael eu difa yn annerbyniol ac ni all hynny olygu busnes fel arfer, ac mae gen i ofn bod ymdeimlad o fusnes fel arfer i'r datganiad yr ydych chi wedi'i gyhoeddi heddiw.
Rydych chi'n dweud bod adroddiad ar waith maes y llynedd yn cael ei gwblhau'n derfynol yn eich datganiad ac y bydd ar gael yn fuan. Nid wyf eisiau eich beirniadu am gyflwyno'r datganiad hwn, ond byddai wedi bod yn fwy defnyddiol, rwy'n credu, inni fod wedi cael yr wybodaeth honno yn rhan o'r datganiad hwn er mwyn inni allu cwestiynu'r data hwnnw gyda chi yma yn y Siambr. Wn i ddim a wnewch chi gyflwyno datganiad llafar arall yn hytrach na datganiad ysgrifenedig oherwydd rwy'n siŵr y byddai gennym ni i gyd ddiddordeb gweld y dystiolaeth ddiweddaraf yn hynny o beth.
Rydych chi'n dweud yn y datganiad ei bod hi'n bryd adolygu'r drefn iawndal bresennol, ac mae'n wir bod £14 miliwn yn llawer o arian i'w dalu mewn iawndal, ond, wrth gwrs, mae 11,000 o wartheg yn llawer o wartheg a laddwyd, ac mae'n golled fawr i'r diwydiant ffermio. Felly, pan rydych chi'n disgrifio'r sefyllfa bresennol fel un anghynaladwy, byddai'n ddiddorol clywed gennych chi beth yn union ydych chi'n ei olygu wrth hynny, oherwydd a ydych chi'n dweud y dylid gostwng lefelau iawndal? Oherwydd mae'n swnio braidd fel hynny, i'm clustiau i, a byddwn i'n gwerthfawrogi cael eglurhad. Ac, wrth gwrs, y ffordd orau o leihau taliadau iawndal yw mynd i'r afael â'r clefyd a lleihau nifer y gwartheg sy'n cael eu difa. Nid oes llawer o amser wedi mynd heibio, wrth gwrs, ers i'r drefn iawndal gael ei hadolygu a'i newid, a bellach mae'n ymddangos eich bod eisiau ei newid eto. Byddai'n fuddiol hefyd clywed ychydig am y broses yr ydych chi'n bwriadu ymgymryd â hi yn rhan o hynny: pa fath o amserlenni ydym ni'n eu hystyried, ac a fydd yna grŵp cyfeirio, gweithgor, neu sut ydych chi'n mynd i ymdrin â'r darn hwnnw o waith?
Rwy'n credu eich bod yn berffaith gywir i gyfeirio at Brexit a'r goblygiadau fydd ganddo oherwydd bydd yna oblygiadau—y rhai ariannol y cyfeiriwch chi yn benodol atyn nhw, wrth gwrs, oherwydd rydym ni'n gwybod bod cyllid yr UE wedi cyfrannu at ymdrechion y Llywodraeth o ran mynd i'r afael â'r clefyd hwn, ond rwyf hefyd yn pryderu'n arbennig am yr effaith ar y gweithlu milfeddygol a'r milfeddygon sydd ar gael, oherwydd rydym ni'n gwybod bod tua 44 y cant o'r holl filfeddygon newydd yng Nghymru yn y degawd hyd at 2017 wedi dod o dramor, ac os collwn ni'r bobl hynny, yna, yn amlwg, rydym ni'n mynd i fod yn fwy agored fyth nid yn unig i TB ond mathau eraill o glefydau hefyd.
Yn olaf, Gweinidog, ynglŷn â brechiadau: yn amlwg, rydych chi'n benderfynol o ddefnyddio'r dull hwnnw, ac mae'n debyg bod gan frechu ran yn hyn. Nid yw ond yn atal, wrth gwrs, nid yw'n gwella TB buchol, felly nid yw'n ateb ynddo'i hun, ond gall gyfrannu at strategaeth ehangach. Ond rydym ni'n gwybod, i'n niwed ein hunain, bod problemau yn ymwneud â chyflenwi, felly onid ydych chi'n cydnabod y bydd unrhyw strategaeth frechu wastad yn agored i unrhyw amharu ar y cyflenwad ac nad yw hynny bob amser yn sail ddibynadwy iawn ar gyfer datblygu eich strategaeth ar gyfer mynd i'r afael â TB buchol?