Part of the debate – Senedd Cymru am 5:18 pm ar 30 Ebrill 2019.
Rwy'n cydnabod bwriadau gorau'r Gweinidog, ei meddwl agored a'i pharodrwydd i ystyried gwneud pethau sy'n wleidyddol anodd iddi yn ei phlaid a'i pharodrwydd cyffredinol i ymgysylltu â ffermwyr a'r gymuned ffermio yn gyffredinol ar y mater eithriadol o anodd hwn. Ond, er gwaethaf hynny i gyd a 18 mis ar ôl cyflwyno'r rhaglen ddileu ar ei newydd wedd, mae'n amlwg nad yw'r Llywodraeth, yn ddiamwys, yn ennill y rhyfel yn erbyn TB. Ac rwy'n cytuno â Llyr Gruffydd, o ran yr hyn a ddywedodd yn gynharach, fod y Gweinidog, yn y datganiad, yn ymddangos fel pe bai'n beio ffermwyr ar goedd i raddau, pan, mewn gwirionedd, Llywodraeth Cymru sydd â'r ateb i'r broblem hon yn y pen draw, gan mai polisi'r Llywodraeth sy'n mynd i alluogi gweithredu mesurau sy'n cynnig gobaith o wir lwyddiant. Ac nid oes unrhyw amheuaeth ynglŷn â'r ffigurau nad ydym ni mewn gwirionedd yn gwneud unrhyw gynnydd sylweddol o gwbl. Mae'r Gweinidog yn priodoli'r cynnydd o 12 y cant mewn achosion o ladd gwartheg i sensitifrwydd cynyddol o ran profi a gwylio ar gyfer TB, ond dywedodd y Gweinidog yn ei datganiad:
Rydym ni'n disgwyl i'r buddsoddiad hwn o ran cael gwared yn gynharach ar wartheg sydd wedi'u heintio greu buddion yn y tymor canolig.
Wel, fel rwyf wedi dweud sawl gwaith, does dim amser gan ffermwyr mewn gwirionedd; mae TB yn effeithio'n ddirfawr ar yr economi wledig ac yn dinistrio bywoliaeth y rhai sy'n cadw gwartheg, a llawer ohonyn nhw'n ffermydd teuluol. Rwy'n cydnabod ei bod hi yn llawn werthfawrogi'r effaith seicolegol ddofn yn ogystal â'r effaith economaidd y gall buches heintiedig ei achosi.
Yn 2017, roedd hi'n ymddangos bod y Llywodraeth yn gweithredu'n briodol ac roeddwn yn cymeradwyo ar y pryd, ac wedi gwneud ers hynny, ei pharodrwydd i frwydro yn erbyn y clefyd ymhlith bywyd gwyllt drwy ddal â chewyll, profi a difa moch daear heintiedig heb greulondeb. Ond, fel y nododd Llyr Gruffydd eto, mae'r ffigurau hyn yn gwbl druenus. Nid yw'r tair trwydded ar dair fferm yng Nghymru gyfan hyd yn oed y smotyn lleiaf. I roi hyn yn ei gyd-destun, caiff buwch ei lladd yng Nghymru o ganlyniad i TB bob 46 munud, tra bydd mochyn daear yn cael ei ddifa bob 3.6 mis. Felly, os yw hyn yn arwydd o flaenoriaethau'r Llywodraeth, yna maen nhw'n seiliedig ar gamddealltwriaeth llwyr, yn fy marn i. Mae NFU Cymru wedi dweud bod hyd at un o bob pum mochyn daear yng Nghymru wedi'i heintio â TB, felly mae'n rhaid inni, os ydym ni i fynd i'r afael â'r broblem hon, wneud rhywbeth ynghylch yr haint mewn bywyd gwyllt.
Nawr, dywedodd y Gweinidog yn ei datganiad ei bod yn gweithio gyda ffermwyr a rhanddeiliaid a milfeddygon ym Mhenrhyn Gŵyr i gael brechlyn ar gyfer moch daear. Sut bydd llwyddiant yn y maes hwn yn cael ei fesur? Mae rhaglenni dileu blaenorol wedi profi nad yw'r hyn a elwir yn ddull gwyddonol wedi llwyddo i gyflawni dim ond methiant. I'r gwrthwyneb, er bod milfeddygon yn ymlid moch daear ar draws Penrhyn Gŵyr gyda'u brechiadau, yn Lloegr, cafwyd cryn lwyddiant drwy bolisi cwbl wahanol. Yn sgil difa moch daear mewn ardaloedd risg uchel yn Lloegr cafwyd y canlyniadau canlynol: ym mis Rhagfyr 2018, datgelodd Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ostyngiad yn y clefyd mewn gwartheg yn ystod y cyfnod difa pedair blynedd, gyda nifer yr achosion o TB buchol a oedd wedi'u cadarnhau tua 50 y cant yn llai. Yn ardal Caerloyw, mae'r gyfradd o achosion wedi gostwng o 25 y cant i 12 y cant yn y 12 mis yn dilyn y bedwaredd flwyddyn o ddifa moch daear. Yng Ngwlad yr Haf, mae achosion newydd mewn buchesi wedi gostwng o 10.4 y cant i 5.6 y cant. Mae hynny'n welliant gwirioneddol.
Nawr, rwyf yn sylweddoli bod hyn yn fater anodd ac emosiynol, ond o gofio'r hyn a ddywedodd Simon Thomas lawer gwaith, pan oedd yn llefarydd Plaid Cymru ar amaeth, mae'r dewis yn un syml, un ai rydych chi'n difa moch daear neu'n difa gwartheg, ac, o'r ddau, rwy'n gwybod pa un sydd orau a'r mwyaf effeithiol yn y tymor hwy. Yr hyn sydd ei angen yw mynd ati o sawl cyfeiriad, ac rwy'n derbyn fod llawer o'r hyn a ddywed y Gweinidog yn synnwyr cyffredin o ran bioddiogelwch a'r rheolaethau ar symudiadau gwartheg, cynlluniau gweithredu unigol ar gyfer ffermydd, yn enwedig mewn ardaloedd o risg uchel, a gwybodaeth hawdd ei gael i ffermwyr ynghylch sut i atal TB rhag cael ei drosglwyddo. Ond mae mynd i'r afael â'r broblem o TB yn lledaenu ymhlith bywyd gwyllt drwy ddifa yn ôl y drefn yn Lloegr yn yr ardaloedd yr effeithiwyd arnyn nhw waethaf yng Nghymru yn ymddangos i mi yn ffordd gwbl anhepgorol o symud ymlaen os yw hi eisiau i'r polisi lwyddo a dyna, fel rwy'n gwybod, yw ei nod.