7. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: Cymru Greadigol

– Senedd Cymru am 6:08 pm ar 30 Ebrill 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 6:08, 30 Ebrill 2019

(Cyfieithwyd)

Eitem 7 ar yr agenda yw datganiad gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth ar Gymru Greadigol, a galwaf ar y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dafydd Elis-Thomas.

Photo of Lord Dafydd Elis-Thomas Lord Dafydd Elis-Thomas Independent

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae'n dda gen i roi diweddariad i’r Cynulliad am ein cymorth i'r diwydiannau creadigol. Mae'r diwydiannau creadigol fel sector yn rhoi cyfle inni elwa o'r manteision a ddaw o ddau gyfeiriad, o'r ochr economaidd ac o'r ochr ddiwylliannol, a dŷn ni'n ceisio edrych ar y ddwy agwedd yma ar weithgaredd creadigol gyda'i gilydd. Mae hynny'n caniatáu inni hefyd gyfoethogi'r hyn y gall Cymru ei gynnig i'r byd. Dŷn ni'n gallu dangos ein celfyddyd, dŷn ni'n gallu dangos ein golygfeydd naturiol, ac yna dŷn ni'n gallu cyplysu hynny gyda'r diwydiannau sy'n ffynnu a'r rhai sydd yn gallu datblygu busnesau yn y diwydiannau creadigol, ac mae yna, wrth gwrs, gysylltiad agos iawn rhwng y diwydiannau creadigol a'r diwydiannau a'r busnesau yn y maes twristiaeth ac yn y maes cyfryngau yn gyffredinol.

Photo of Lord Dafydd Elis-Thomas Lord Dafydd Elis-Thomas Independent 6:10, 30 Ebrill 2019

Mae cynnwys diwylliant wrth ddatblygu'r economi, felly, yn ganolog i ddyhead yr hyn rydyn ni'n ei alw yn Gymru Greadigol, a does yna ddim gwrthdaro o gwbl yn fy meddwl i rhwng y ddau fath yna o greadigrwydd—y creugarwch mewn busnes a'r creadigrwydd mewn datblygu ac arloesi.

Mae partneriaethau a chydweithio yn allweddol i unrhyw gyflawni llwyddiannus. Rydym ni yn gweithio'n agos gyda'r busnesion a'r diwydiant creadigol, gan weithio gyda rhanddeiliad, gan gydweithio fel Llywodraeth i ddatblygu'r sector drwy wrando ar beth sydd gan y busnesion i ddweud wrthym ni, ar sail y profiad hirdymor sydd gan lawer ohonom ni yn y diwydiannau creadigol

Dŷn ni hefyd am sicrhau bod datblygiad sgiliau ar draws y sector, yn hanfodol i ni, ac mae yna bartneriaeth, wrth gwrs, yn hynny gyda Gweinidogion eraill o fewn y Llywodraeth, ond mae'r agweddau yma i gyd yn cael eu hystyried ynghyd pan fyddwn ni'n datblygu ein cynlluniau.

Mae codi safonau, hefyd, drwy gydweithio â'r diwydiant hefyd yn flaenoriaeth. Mae'n rhaid i hyn gynnwys datblygu ymrwymiadau ynglŷn â chyflogaeth dda gan bob partner o ran cynhwysiant, cyflog teg ac arferion gweithio. Mae amrywiaeth a chyfrifoldeb yn rhan hanfodol i fod yn greadigol.

Dŷn ni hefyd yn y broses o symleiddio ein cymorth ariannol i'r diwydiannau creadigol, a cheisio ffordd o allu ymateb yn fwy cyflym i alwadau'r sector. Dyna pam yr ydym ni'n symud i ddarparu ein cyllid drwy gontract economaidd, sydd yn digwydd ar draws y Llywodraeth, gan sicrhau budd i'r cyhoedd yn dilyn y buddsoddiadau cyhoeddus. 

Dŷn ni'n ogystal, hefyd, yn ceisio tynnu ar ein profiad gyda Croeso Cymru a datblygu brand Cymru, gan arwain at farchnata a hyrwyddo'r diwydiannau creadigol yng Nghymru i'r byd, dan frand newydd Cymru Greadigol. Mae hwn yn cyplysu, wrth gwrs, gyda brand Cymru yn gyffredinol. Drwy'r brand newydd, mi fyddwn ni'n hyrwyddo cyfraniad y sector greadigol i'n diwylliant a hefyd gyfraniad diwylliant i'r canfyddiad o Gymru, ei henw da a'i llwyddiant yn fyd eang.

Mae'r holl waith yma wedi'i gyflawni gan swyddogion wrth drafod y blaenoriaethau gyda'r sector, ac mi fydd y trafodaethau yma'n parhau dros y misoedd nesaf, a dwi'n ystyried y datganiad yma heddiw yn rhan allweddol o'r broses yma gan ein bod ni am ganolbwyntio ar y materion y gallwn ni fel Llywodraeth wneud y mwyaf o wahaniaeth gyda nhw. Yn dilyn cyfnod bellach o gysylltu â rhanddeiliaid, mi fydd yna gasgliadau a blaenoriaethau yn cael eu rhannu efo chi fel Aelodau Cynulliad cyn gynted ag y bo hynny yn ymarferol.

Yn y cyfamser, dŷn ni'n parhau gyda'n cefnogaeth i'r sector ac yn canolbwyntio ar y llwyddiannau niferus yr ydym wedi'u cyflawni yn ystod y blynyddoedd diwethaf.  Er ein bod wedi canolbwyntio'n helaeth hyd yma ar ffilm a theledu, a dramâu teledu yn arbennig o safon uchel yn benodol—ac un gyfres, gydag ail gyfres ohonyn nhw'n ymddangos ar ein sgriniau ni bron wrth i mi siarad—mae hyn yn bendant wedi cael effaith ar economi Cymru ac wedi creu diddordeb newydd yn y diwydiannau creadigol ac yn y diwylliant yng Nghymru.

Yn dilyn cwrdd â chynrychiolwyr o'r cwmni yma yn ddiweddar, mae'n dda gen i hefyd rannu gyda'r Cynulliad yma fy mod i'n edrych ymlaen at gyhoeddi partneriaeth newydd gyda NBCUniversal, a dyma, fel y gwyddoch chi, un o'r prif gwmnïau cyfryngau ac adloniant y byd. Roedd nifer o'u prif gyfarwyddwyr nhw ddim wedi bod ym Mro Morgannwg tan yr wythnosau diwethaf, ond bellach maen nhw'n gwybod beth yw gwerth Dragon Studios a beth fydd y defnydd posib y gallen nhw ei wneud o'r stiwdios yna, o'r tair stiwdio ar hyn o bryd, ac o bosib rhagor o lwyfannau. Ac mae yna wariant o oddeutu £20 miliwn yn debygol o ddod i'r economi leol oherwydd y gweithgaredd yna. Hefyd, ochr yn ochr â hyn, mae'r cwmni am ddod â'i gynllun hyfforddi byd-enwog ar gyfer cynorthwywyr cynhyrchu yma i Gymru. Mae hynna'n golygu ein bod ni'n gallu codi safon ein sector yn ogystal, ac mae hwnna'n newyddion pwysig yn sicr. 

Wrth gwrs, mae'r sector diwydiannau creadigol yng Nghymru yn llawer mwy na ffilm a theledu, ac mi fydd Cymru Greadigol, fel y bydd hi'n datblygu o fewn y Llywodraeth, yn golygu twf sylweddol o fewn y diwydiant technolegol yng Nghymru, sy'n cyflogi dros 40,000 o bobl ac yn werth rhyw £8.5 biliwn mewn trosiant i economi Cymru. Ac yn arbennig yn hynny, mi garwn i gyfeirio at y diwydiant gemau sydd yn rhan mor allweddol o bwysigrwydd y sector digidol, yn cynnwys Tiny Rebel Games Casnewydd, Sugar Creative yng Nghaerdydd, Prifysgol De Cymru, a'u partner rhyngwladol Potato, sydd wedi llwyddo i gael cyllid o fewn y categori delweddau symudol yn y rhaglen Audience of the Future sy'n cael ei hariannu gan Innovate UK. Bydd y project yn gweithio gydag Aardman, gwasanaeth eiddo deallusol, i gyflawni project cyffrous iawn.

Rydyn ni hefyd yn datblygu strategaeth ar gyfer cerddoriaeth, ac mae hyn yn rhywbeth dŷn ni'n awyddus iawn i'w ddatblygu yn gryf o fewn Cymru Greadigol, ac wrth hynny, dwi'n golygu pob math o gerddoriaeth, ac yn arbennig i fynd ymlaen gyda'r gwaith dŷn ni'n ei wneud ar hyn o bryd i fapio lleoliadau ar lawr gwlad ledled Cymru, lle mae cerddoriaeth fyw, yn enwedig cerddoriaeth boblogaidd, roc a gwerin, yn cael ei llwyfannu. Rydym mewn partneriaeth bwysig yn y fan yma efo PYST, y gwasanaeth dosbarthu digidol a labelu ar gyfer cerddoriaeth Gymraeg yn bennaf, ac mae'r gwaith yma'n datblygu. Hyd yma, mae'r artistiaid ar y platfform yma wedi cyrraedd dros 5.5 miliwn o ffrydiadau ar Spotify, Apple Music a YouTube, ac mae'r record ar gyfer gwrandawiadau ar gerddoriaeth Gymraeg wedi cael ei thorri gan y datblygiadau yma, efo Alffa, band roc o Gaernarfon rydych chi wedi fy nghlywed i'n sôn amdanyn nhw o'r blaen yn y lle yma, wedi sicrhau dros 2.5 miliwn o ffrydiadau, gan gynnwys nifer fawr yn Ne America. Dwi'n falch hefyd i gyhoeddi heddiw ein bod ni'n ymestyn gwaith PYST. Rydyn ni am gydweithio â nhw i ddefnyddio naw o artistiaid Cymraeg eu hiaith i chwarae ym mhrif ddinasoedd y Deyrnas Unedig. Mi fydd hyn yn golygu sylw a llwyfan i artistiaid Cymraeg ar draws ynysoedd Prydain.

Ac yn olaf, dwi eisiau pwysleisio y bydd hi'n haws i bobl gysylltu â Chymru Greadigol unwaith y bydd y corff wedi'i sefydlu'n glir o fewn y Llywodraeth yn ystod y ddeufis nesaf. Mi fydd hi'n bosib cysylltu â'r diwydiannau creadigol mor effeithiol, dwi'n gobeithio, ag unrhyw gysylltiad â gwasanaethau busnes y Llywodraeth yn gyffredinol. Diolch yn fawr.

Photo of David Melding David Melding Conservative 6:18, 30 Ebrill 2019

(Cyfieithwyd)

Gobeithio y bydd y Cynulliad yn caniatáu imi fynd â ni i gyd yn ôl i 1984 a'r ymgyrch etholiad arlywyddol a defnydd Walter Mondale o slogan cwmni bwyd cyflym Wendy's, 'Where's the beef?' Rydym ni wedi symud mewn cylchoedd sawl gwaith erbyn hyn, mor bell yn ôl â mis Gorffennaf 2016. Ac o ran Cymru Greadigol, mae'n ymddangos bod y Llywodraeth hon yn ymwneud â'r paratoi'r heb wneud penderfyniadau ac mae angen inni wneud cynnydd.

Rwy'n croesawu'r uchelgeisiau craidd i wreiddio diwylliant yn nhwf yr economi, symleiddio'r model ariannu a chael contract economaidd wrth wraidd y system ariannu a hefyd ymwreiddio'r egwyddor o asio. Rwy'n credu y bydd cytundeb ar draws y Siambr mai dyna'r cyfeiriad y mae angen i ni fynd iddo, ond mae angen y penderfyniadau arnom. Pryd bydd y panel diwydiannau creadigol yn trawsnewid i fwrdd Cymru Greadigol, neu tybed nad dyna'r nod erbyn hyn? Sut caiff hyn ei strwythuro a'i leoli o fewn Llywodraeth Cymru? Pryd bydd yr uwch benodiadau, gan gynnwys penodiad y prif weithredwr, yn cael eu gwneud? Pryd gallwn ni ddisgwyl gweld dogfen blaenoriaethau strategol ar gyfer y rhan bwysig hon o'n heconomi, fel y gallwn ni fod cystal â'r Alban o'r diwedd?

Photo of Lord Dafydd Elis-Thomas Lord Dafydd Elis-Thomas Independent 6:19, 30 Ebrill 2019

(Cyfieithwyd)

Nid oes gen i ddiddordeb mewn ceisio bod cystal â'r Alban, oherwydd wrth iddyn nhw sefydlu Creative Scotland, fe wnaethon nhw rywbeth arall. Ond nid wyf i am wneud sylw ar yr hyn y maen nhw wedi'i wneud gyda Chyngor Celfyddydau'r Alban; mater iddyn nhw yw hynny. Mae Creative England yn sefydliad masnachol. Mae Cymru Greadigol yn mynd i fod yn sefydliad—ac rwyf eisoes wedi egluro hyn yn y Cynulliad hwn ac wrth bwyllgor—bydd Cymru Greadigol yn cael ei sefydlu o fewn y Llywodraeth. Rydym ni wedi sefydlu model yr ydym yn gwybod ei fod yn gweithio gyda Cadw a byddwn yn dilyn strwythur tebyg. Byddwn yn recriwtio prif weithredwr y sefydliad yn ystod y mis nesaf. Byddwn wedyn yn symud ymlaen i benodi cadeirydd, a bydd y cadeirydd hwnnw, ynghyd â mi a fy nghyd-Aelodau, yn sicrhau ein bod yn hysbysebu am fwrdd, yn debyg i'r bwrdd yr ydym wedi hysbysebu amdano'n llwyddiannus yn achos Cadw. Felly, fy mwriad i yw y bydd y sefydliad yn gallu bod â pherchnogaeth ar y cyllidebau sylweddol sy'n cael eu gwario ar hyn o bryd ar gyfer y diwydiannau creadigol, a bydd cyllideb ddangosol glir o ryw £30 miliwn ar gael i'r sefydliad hwn, a bydd yn gweithredu o fewn y chwe mis nesaf.

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 6:21, 30 Ebrill 2019

I ddechrau, hoffwn i groesawu cyhoeddiad y Llywodraeth ynglŷn â'u partneriaeth newydd gydag NBCUniversal, a'u penderfyniad i ymestyn PYST. Mae'r ddau beth yma yn newyddion da, ond, yn anffodus, dyma'r unig gyhoeddiadau newydd yn y datganiad sydd yn cynnwys unrhyw fath o fanylder. Mae pob dim arall yn y cyhoeddiad un ai'n annelwig neu'n datgan beth sydd eisoes yn digwydd yn y diwydiannau creadigol. Er enghraifft, tra rwy'n cytuno â'r rhan o'r datganiad sy'n nodi bod cynnwys diwylliant wrth ddatblygu'r economi yn ganolog i natur a dyheadau Cymru Greadigol, nid oes unrhyw ymhelaethiad na manylder polisi yma. Yn yr un modd, rwy'n cytuno bod angen datblygu ymrwymiadau gan bob partner o ran cynhwysiant, cyflog teg ac arferion gweithio, a bod amrywiaeth a chydraddoldeb yn hanfodol i fod yn greadigol. Ond y broblem yw nad yw'r datganiad yn amlinellu sut bydd yr egwyddorion pwysig yma yn cael eu gweithredu gan y Llywodraeth ar ffurf polisi.

Mae'r Dirprwy Weinidog yn trafod y corff newydd a gafodd ei gyhoeddi'r flwyddyn ddiwethaf—Cymru Greadigol—ond yr unig wybodaeth a gawn ynglŷn â hyn yw'r canlynol:

'Drwy'r brand newydd byddwn yn hyrwyddo cyfraniad y sector creadigol i'n diwylliant, ein henw da a'n llwyddiant ledled y byd.'

Mae naw mis ers y cyhoeddiad a does gennym ni fel Aelodau Cynulliad dal ddim unrhyw wybodaeth y gallwn ei defnyddio er mwyn craffu ar y cynlluniau. Mae'r ansicrwydd hwn yn cael effaith ar randdeiliaid o fewn y sector. Er enghraifft, mae pobl sy'n gweithio ym maes cynhyrchu ffilmiau yn dweud wrthym eu bod nhw ddim yn gwybod lle dylent fynd er mwyn cael mynediad at wybodaeth a chyllid. Byddem yn ddiolchgar petai'r Dirprwy Weinidog yn gallu dweud wrthym beth yw'r amserlen ar gyfer sefydlu Cymru Greadigol, a beth fydd statws y corff mewn perthynas â'r Llywodraeth, fel mae David Melding eisoes wedi gofyn. A fydd y corff yn gyfrifol am reoli cyllideb ac, os felly, beth fydd maint y gyllideb a pha effaith fydd hyn yn ei gael ar swyddogaethau cyrff eraill sy'n gwneud y gwaith hwn ar hyn o bryd? Yn ogystal, beth fydd trefniadau’r corff newydd o ran llywodraethiant?

Dirprwy Weinidog, mae brawddeg gyntaf eich datganiad yn honni mai

'diweddariad i’r Cynulliad am ein cymorth', sef cymorth gan y Llywodraeth,

'i sector y diwydiannau creadigol yng Nghymru' yw hyn. Ond y gwir amdani yw nad yw'n ddiweddariad o gwbl, oherwydd dyw e ddim yn drosolwg cynhwysfawr o'r diwydiannau creadigol. Nid oes unrhyw sôn am radio, am gelfyddydau perfformio, llenyddiaeth, celfyddyd gain. Hoffwn fod wedi cael diweddariad ynglŷn â'r meysydd hyn, gan gynnwys cynlluniau manwl ac amserlenni, ynghyd ag amserlen glir o ran eu gweithredu.

A oes gan y Dirprwy Weinidog gynlluniau i gyhoeddi strategaeth ddiwylliannol gynhwysfawr yn y dyfodol agos er mwyn rhoi cig ar yr asgwrn—dŷn ni wedi sôn am 'Where's the beef?', ac efallai fod hynna'n cyd-fynd yn hyn o beth—a rhoi cyfeiriad clir i'r sector a galluogi Aelodau o'r Siambr hon i graffu ar y cynlluniau?

Fel cenedlaetholwr, roedd gennych chi, Ddirprwy Weinidog, gyfle gwych yn y datganiad yma i alw am ddatganoli darlledu. Mae'n siomedig nad oes yna unrhyw sôn am hyn yn y datganiad. Un enghraifft o pam rydym ni angen y pwerau hyn ydy er mwyn sicrhau bod cwmnïau radio yn darparu canran benodol o'u cynnwys o Gymru a sicrhau bod cynyrchiadau sydd â chyllideb fawr yn gwneud defnydd o'n talent gynhenid a chynhyrchu deunydd sydd yn berthnasol i'r gynulleidfa. Rwyf felly yn gofyn i'r Dirprwy Weinidog ddarparu mwy o wybodaeth ynglŷn â'i gynlluniau, er mwyn i Aelodau y tu allan i'r Llywodraeth allu gwneud ein gwaith o graffu mewn modd priodol. Diolch.

Photo of Lord Dafydd Elis-Thomas Lord Dafydd Elis-Thomas Independent 6:25, 30 Ebrill 2019

Rwy'n hapus iawn i ymddangos o flaen y pwyllgor diwylliant neu ba bwyllgor bynnag i graffu yn fwy manwl ar sut ydym ni'n datblygu ein cynlluniau ynglŷn â Chymru Greadigol, ond efallai y dylwn i ateb dau bwynt yn niwedd y cwestiwn yna. So, yn gyntaf: does dim sôn yn y datganiad yma am gelfyddyd gain—un o fy hoff ddiddordebau i, fel y gwyddoch chi. Fy etholwr creadigol iawn, David Nash, sydd ag arddangosfa ardderchog ganddo fo, yn agor yn yr amgueddfa ardderchog sydd gennym ni lawr y ffordd yma yn ddiweddarach yr wythnos yma. Dwi ddim wedi sôn am gelfyddyd gain oherwydd cyfrifoldeb cyngor y celfyddydau yw ac a fydd celfyddyd gain. Mae'r un peth yn wir am lenyddiaeth. Wrth gwrs, mae yna gysylltiad rhwng llenyddiaeth fel naratif a stori sydd yn ymddangos wedyn yn rhan o stori y diwydiant creadigol, ond mae'n rhaid inni barhau gyda'r strwythurau, megis Llenyddiaeth Cymru, megis y ddarpariaeth ar gyfer celfyddyd gain, ochr yn ochr efo'r diwydiannau creadigol, sydd yn bennaf ynglŷn â'r ochr gymhwysol i greadigrwydd. A dyna ydy'r gwahaniaeth rhwng y diwydiannau creadigol a'r gweithgaredd artistig celfyddydol yr ydw i newydd gyfeirio ato fo.

Ynglŷn â darlledu, pa mor hir y mae'n rhaid imi ddweud fel Gweinidog yn y lle hwn: dyw hi ddim yn bolisi Llywodraeth Cymru i ddatganoli darlledu. Y rheswm am hynny yw, yn y dyddiau hyn, lle mae'r diwylliant i gyd yn ddigidol, does yna ddim ystyr i ddatganoli darlledu traddodiadol, oherwydd y cyfan y mae hwnna'n mynd i'w wneud ydy aflonyddu, a dweud y gwir, ar y datblygiad creadigol a ddylai fod yn digwydd ar draws y sector digidol a'r gwahanol gyfryngau. Ond dwi ddim yn mynd i fynd ar ôl hwnna ymhellach.

Ond cyn belled ag y mae datblygiad Cymru Greadigol yn y cwestiwn, mae'r syniad yn bod mai'r ffordd i ddatblygu polisi ydy creu strategaeth a chreu rhyw fath o ddogfen meistr gynllun sydd yn gosod y peth ar ei draed. Dydw i ddim yn rhannu'r math yna o agwedd o gwbl. Dwi wedi treulio'r flwyddyn ddiwethaf yn trafod yn fanwl ac yn ymgynghori â'r diwydiannau creadigol ac yn gweld eu gwaith nhw yn fanwl, fel ein bod ni'n cynhyrchu rhywbeth a fydd yn dderbyniol i bobl o fewn y diwydiant. Dwi'n synnu eich clywed chi yn dweud bod pobl ddim yn gwybod lle i fynd am gyllid i ffilmio, oherwydd maen nhw'n mynd i'r union lefydd y maen nhw'n arfer mynd, sef at Ffilm Cymru a chynghrair sgrin Cymru—mae'r cyllid i'w gael yn y cyfeiriad yna—ac at y Llywodraeth. Rydyn ni wedi cyllido, fel roeddwn i'n dweud gynnau, Un Bore Mercher/Keeping Faith 2, sydd yn darlledu ar hyn o bryd. Rydyn ni'n parhau i gyllido, ac mi fyddwn ni'n parhau i wneud hynny. Ond pan ddaw Cymru Greadigol i fod, a dwi wedi ateb ynglŷn â maint y gyllideb—oddeutu £30 miliwn—mi fydd yna gadeirydd annibynnol, a bydd hi neu fo yn cael eu penodi drwy'r strwythur penodiadau cyhoeddus arferol. Mi fydd yna brif weithredwr wedi ei benodi cyn hynny, ac yna mi fydd yn gorff tua'r un maint â Chadw. Felly, y gymhariaeth gyfansoddiadol, os ydych chi'n chwilio am gwestiwn ynglŷn â llywodraethiant, ydy: bydd o'n debyg i Cadw. Ond mi fydd o, yn hytrach na Cadw, yn creu.

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 6:28, 30 Ebrill 2019

(Cyfieithwyd)

Rwy'n croesawu'r datganiad a'r cyfle i ofyn cwestiynau ynghylch dau o'r diwydiannau creadigol. Rwy'n mynd i ganolbwyntio ar ddau gan fy mod yn credu mai un o'r pethau sy'n fy mhryderu i yw ein bod yn siarad am ddiwydiant creadigol fel petai'n un peth. Nid dyna ydyw—mae'n llawer iawn o bethau gwahanol. Yn gyntaf, hoffwn i siarad am animeiddio, a'r peth arall yr hoffwn i siarad amdano yw gemau cyfrifiadur, sef y diwydiant mwyaf sy'n ymwneud â chreadigrwydd, ac na chafodd ei grybwyll yn natganiad y Gweinidog, gwaetha'r modd, oni bai fy mod wedi ei fethu—

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour

(Cyfieithwyd)

Yn gyntaf, animeiddio: ar ddechrau'r 1990au, roedd Cymru'n mwynhau oes aur cynhyrchu ym maes animeiddio. Roedd S4C yn rhan allweddol o helpu i gynhyrchu nifer o sioeau poblogaidd wedi'u hanimeiddio—Superted, Sam Tân, a gafodd ei chanu gan gyfaill i mi, Mal Pope, Gogs. Dyma rai o'r sioeau a gafodd eu cynhyrchu, sioeau proffil uchel wedi'u comisiynu a'u cynhyrchu gan S4C, a'u cynhyrchu yng Nghymru, ac yna eu cyfieithu i'r Saesneg. Roeddwn i'n eu gwylio a minnau'n rhiant. Rwy'n siŵr bod rhai o'r bobl yma wedi eu gwylio nhw a hwythau'n blant, felly peidiwch â dweud wrthyf i. [Chwerthin.] Ond heddiw y duedd yw inni wylio pethau fel Peppa Pig wedi eu trosi i'r Gymraeg.

Datblygodd S4C enw da yn gyflym, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, oherwydd datblygodd ei rhaglenni animeiddio a fu'n llwyddiannus yn fasnachol ac sydd wedi ennill gwobrau—wrth i S4C ehangu, lu o gymeriadau poblogaidd, megis Wil Cwac Cwac, Toucan Tecs, a Funnybones. Dros y blynyddoedd, gwnaeth S4C gartwnau ac animeiddiadau hirach yn seiliedig ar operâu enwog, 'Canterbury Tales' gan Chaucer a straeon o'r Beibl. Roeddem ni'n hynod o lwyddiannus. Beth mae'r Gweinidog yn bwriadu ei wneud i adfywio diwydiant animeiddio Cymru?

Yr ail faes yr hoffwn i ofyn cwestiynau yn ei gylch yw gemau cyfrifiadur. Y gêm fideo sy'n gwerthu fwyaf yn y byd, os nad oeddech yn gwybod, yw Grand Theft Auto, a dechreuodd ei fywyd yn Dundee, hynny yw, yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf, mae'r ddinas hon yn yr Alban wedi datblygu clwstwr nodedig ar gyfer diwydiant gemau fideo'r byd. Nid oes gan Dundee fantais fawr yn ddaearyddol o'i chymharu â chytrefi o faint tebyg yng Nghymru, fel Abertawe a Chasnewydd. Nid oes dim byd amlwg fel, 'Dyma Dundee, nid oes amheuaeth y bydd yn llwyddiannus.' Y nhw ddatblygodd hynny. Mae angen i ni wneud yr un peth. Hwn yw'r mwyaf o'r holl ddiwydiannau creadigol. Er bod y diwydiant gemau fideo wedi cyfrannu £1.4 biliwn at economi'r DU, rydym ni yng Nghymru wedi methu â datblygu diwydiant gemau cyfrifiadur llwyddiannus. Os ydw i wedi camddeall, rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn dweud wrthyf ba rai o'r gemau fideo sydd ymysg yr 20 uchaf yn y byd sy'n cael eu cynhyrchu yng Nghymru. Sut mae'r Gweinidog yn bwriadu hyrwyddo a datblygu diwydiant gemau fideo yng Nghymru mor llwyddiannus â'r rhai mewn llawer o leoedd eraill?

Nid oes dim gwahaniaeth ble yr ydych chi'n datblygu gemau fideo. Gallwch eu datblygu unrhyw le yn y byd cyhyd â bod gennych fynediad at y rhyngrwyd, gan nad yw pethau'n bodoli ar ddisgiau bellach, nac ydyn—mae rhai ohonom yn eu cofio—lawr lwythiadau ydyn nhw. Felly, mae cyfleoedd gwych i unrhyw le, yn wledig neu'n drefol. Felly, beth ydym ni am ei wneud i geisio datblygu diwydiant? Mae gennym ni'r prifysgolion yn addysgu pobl y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer gemau cyfrifiadur. Mae yna gyrsiau gemau cyfrifiadur mewn rhai prifysgolion yng Nghymru. Felly, sut ydym ni am droi'r graddedigion gemau cyfrifiadur hynny yn llwyddiannau yng Nghymru, fel y gallwn ni fod ar y brig, heb fod yn cystadlu â rhai o ddinasoedd mawr America, ond yn cystadlu â Dundee?

Photo of Lord Dafydd Elis-Thomas Lord Dafydd Elis-Thomas Independent 6:32, 30 Ebrill 2019

(Cyfieithwyd)

Byddwn i'n awgrymu wrth yr Aelod ei fod yn mynd allan o'r adeilad hwn ac yn croesi darn byr o ddŵr ac yn troi i'r chwith, ac yno bydd yn dod o hyd i lu o animeiddwyr, amrywiaeth gyfan o weithgarwch ôl-gynhyrchu, a wneir gan y cwmnïau hyn sy'n bodoli mewn adeilad—yn wir a adeiladwyd gan gyllid Llywodraeth Cymru, cyn fy nghyfnod i, yng nghyfnod fy nghyd-Aelod. Y castell melyn gwych hwnnw yw'r union beth sydd ei angen ar y diwydiant ar hyn o bryd. Nawr, pan fydd angen datblygiad pellach o'r math hwnnw ar y diwydiant, byddwn yn sicr yn gallu efelychu'r broses honno. Yn dilyn ei feirniadaeth y prynhawn yma, siaradaf eto, fel yr wyf wedi'i wneud o'r blaen, gyda'r rhai hynny sy'n ymwneud â'r diwydiant animeiddio yng Nghymru i weld a oes maes datblygu penodol yr hoffen nhw ymgymryd ag ef.

Y peth allweddol y mae diwydiant y cyfryngau'n ei wneud, ar hyd yr Afon Hafren gyfan, ym Mryste ac yng Nghaerdydd—ac mae'n rhaid inni ystyried hyn yn un ardal gyfan, yn fy marn i, o ddatblygiad a chlystyrau sy'n gweithio gyda'i gilydd, a'r cydweithio sydd i'w weld, ac sy'n ymestyn, wrth gwrs, gyda gwaith a gaiff ei wneud ledled a thrwy ddyffryn Tafwys i Lundain. Dyna natur y busnes yr ydym ni'n gweithio gydag ef, ond nid oes prinder diddordeb ar ran Llywodraeth Cymru i gefnogi unrhyw brosiect yr hoffai fy nghyd-Aelod ei gyflwyno i'w drafod. Os yw'n ymwybodol o unrhyw animeiddwyr sy'n teimlo nad yw unrhyw un o fy nghydweithwyr yn Llywodraeth Cymru wedi ymateb yn briodol iddyn nhw, byddwn yn falch iawn o gael gwybod am hyn er mwyn inni allu gwella'r berthynas rhyngom.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 6:34, 30 Ebrill 2019

(Cyfieithwyd)

Yn olaf, Rhianon Passmore.

Photo of Rhianon Passmore Rhianon Passmore Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'n fawr iawn y datganiad heddiw ac rwy'n arbennig o falch o groesawu'r brand newydd Cymru Greadigol. Mae diwydiannau creadigol yn allweddol ac yn hanfodol bwysig yn economaidd, yn gymdeithasol ac yn ddiwylliannol i Gymru. Bydd y brand rhyngwladol newydd cyffrous hwn yn helpu i hyrwyddo ein sector creadigol sy'n tyfu'n barhaus. Fel y gwnaethoch chi gyfeirio ato yn eich datganiad, Gweinidog, mae Cymru'n meithrin enw da fwyfwy yn rhyngwladol am ei chynyrchiadau ffilm a theledu, a hefyd fel lleoliad ffilmiau—mae ffilmio Brave New World yn enghraifft berffaith o hyn—ac mae'n dod â rhyw £20 miliwn yn ychwanegol i economi Cymru, fel yr ydych chi wedi'i grybwyll, a bydd hyn yn amlwg yn rhoi hwb aruthrol i'n heconomi greadigol. Ac mae hyn yn bwrpasol ac mae hyn yn strategol. Felly, mae'n newydd ac yn gyffrous ac mae cyfleoedd arloesol yn cael eu creu, ac mae'r prosiect cyffrous y gwnaethoch chi sôn amdano o ran Aardman hefyd yn bwysig. Mae ein diwydiannau technolegol yn cael eu meithrin yn strategol, ac yn ystod y blynyddoedd diwethaf maen nhw wedi bod yn flaengar dros ben. Ond mae'n rhaid i ni sicrhau hefyd bod cenedlaethau'r dyfodol yn meddu ar y sgiliau hyn i barhau i feithrin enw da Cymru yn ein holl feysydd eraill. Rydych chi wedi sôn, Gweinidog, am y defnydd o dechnoleg yn y diwydiant cerddoriaeth i hyrwyddo Cymru a thalent cerddoriaeth Cymru drwy system ddosbarthu a labelu digidol, ac mae hynny hefyd wedi esgor ar lwyddiant arwyddocaol, ac mae hynny hefyd i'w groesawu.

Felly, a gaf fi ofyn i chi, Gweinidog, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod gan y genhedlaeth nesaf o gerddorion yng Nghymru y seilwaith ariannu ac addysgu ar gael iddyn nhw er mwyn cyrraedd y potensial llawn hwnnw, oherwydd mae'n ffaith bod cerddoriaeth gwasanaethau addysgu cymorth cerddoriaeth yn diflannu ledled Cymru? Byddwch yn ymwybodol, rwy'n siŵr, o fy ngalwadau am strategaeth genedlaethol ar gyfer addysg a pherfformiad cerddoriaeth i Gymru ynghyd â'n conservatoire cerddoriaeth pwysig a chyrff cerddorfeydd cenedlaethol. Felly, rwy'n awyddus i sicrhau bod y cyfleoedd gwych sy'n codi yn y sector creadigol ar gael i bobl o bob cefndir, oherwydd mae hi'n briodol, yng Nghymru, bod yn rhaid i'r celfyddydau a'r diwydiannau creadigol fod ar gael nid yn unig i ychydig breintiedig, nad yw'n seiliedig ar allu i dalu, ond ar allu i chwarae. Felly, yn strategol, gyda golwg ar gerddoriaeth, mae'n rhaid i hyn olygu seilwaith a rhwydwaith o ganolfannau addysgu cymorth cerddoriaeth sydd ar gael yn rhwydd ac sydd wedi'u hariannu fel bod modd meithrin a datblygu ein cerddorion a'n perfformwyr o Gymru yn y dyfodol, neu ni fyddwn yn cyfrannu at sector diwydiannau creadigol bywiog ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Ac rwy'n teimlo bod yn rhaid dathlu hefyd enw da rhyngwladol Cymru fel gwlad y gân a'i ddefnyddio i hyrwyddo'r brand Cymru Greadigol ledled Cymru. Felly, rwy'n edrych ymlaen at ragor o gyhoeddiadau ar y mater hwn.

Ac, yn olaf, fe hoffwn i hefyd ofyn i'r Gweinidog beth mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i gefnogi a diogelu lleoliadau cerddoriaeth ar lawr gwlad ledled Cymru, ac rwy'n croesawu'r cynlluniau i fapio a chwmpasu'r lleoliadau hyn. Rwy'n gobeithio y gall hyn helpu i hyrwyddo lleoliadau celfyddydol lleol, fel Sefydliad y Glowyr yn y Coed Duon a Neuadd Goffa Trecelyn yn fy etholaeth i.

Ac, i gloi, rwyf yn credu ei bod hi'n briodol ein bod yn cynhyrchu strategaeth ddiwylliannol gyffredinol i Gymru, ac rwyf yn galw ar y Gweinidog i ystyried gwneud hynny. Diolch yn fawr.

Photo of Lord Dafydd Elis-Thomas Lord Dafydd Elis-Thomas Independent 6:37, 30 Ebrill 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn am hynny. O ran eich pwynt olaf, holl bwynt mapio lleoliadau yw ein bod yn gwybod yn union beth sy'n digwydd, a chafodd yr arian hwn ar gyfer yr ymarfer mapio ei gyflwyno oherwydd ein bod yn bryderus iawn bod lleoliadau'n cau, a doedden ni ddim hyd yn oed yn ymwybodol ohonynt. Yr hyn yr ydym ni'n gobeithio y gallwn ni ei wneud wedyn yw darganfod pa leoliadau ar hyn o bryd y gallem ni, o bosibl, eu hannog, a byddwn yn dod o hyd i strwythur lle y cânt eu cefnogi, yn amlwg, gan weithio gyda'r sector gwirfoddol, y sector cerddoriaeth ac yn amlwg, pan fo'n briodol, gyda'r sector addysg mewn gwahanol ardaloedd.

Rwy'n ymwybodol o'ch cefnogaeth gref ac ymrwymedig i addysg gerddorol, ac rydych yn llygad eich lle, mae datblygu llythrennedd cerddorol, ar bob lefel, yn fater mor allweddol. Cefais y fraint o wrando ar y band chwyth ddydd Sul yn Neuadd Hoddinott, ac mae'n wych gweld yr ansawdd yr ydym ni'n ei gynhyrchu mewn pob math o gerddoriaeth, ac rwy'n awyddus iawn i wneud yn siŵr ein bod yn annog hynny. A dyna pam yr wyf yn ystyried sefydlu Cymru Greadigol o fewn amserlen fer—hynny yw, o fewn misoedd, fel ei fod yn gweithio'n llawn o fewn pedwar i chwe mis, oherwydd rwy'n bwriadu sicrhau bod y sefydliad hwnnw'n gwneud datblygu cerddoriaeth o bob math yn un o'i flaenoriaethau, i ateb yr heriau yr ydych chi wedi'u nodi yn union. Ac mae'n hanfodol bod cysylltiad uniongyrchol rhwng yr hyn y bydd Cymru Greadigol yn ei fynnu ar gyfer datblygu'r diwydiant cerddoriaeth ledled Cymru a'r system addysg. Rwyf eisoes wedi cael trafodaethau â'r Gweinidog addysg am y materion hyn, a gallaf eich sicrhau y bydd ymagwedd strategol ar draws y Llywodraeth ar hyn.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 6:39, 30 Ebrill 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Weinidog.