Safonau Addysg yn Ysgolion Cymru

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 1 Mai 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 1:32, 1 Mai 2019

Mae gan y cwricwlwm newydd y potensial i weddnewid profiadau dysgu ein plant a phobl ifanc, ond mi ydw i'n arswydo o feddwl bod ganddo fo hefyd y potensial o fethu yn llwyr. Mae bywyd pob ysgol yn hynod brysur o ddydd i ddydd ac yn llawn heriau, ac mae yna lawer o amser yn mynd ar ddelio efo toriadau yn wyneb cyllidebau sy'n crebachu. Rydych chi wedi cyhoeddi y bydd yna un diwrnod ychwanegol o hyfforddiant proffesiynol y flwyddyn, ond go brin fod hynny yn ddigon ar gyfer creu'r trawsnewid anferth sydd ynghlwm â'r cwricwlwm newydd. Sut ydych chi'n disgwyl i ysgolion greu'r gofod ar gyfer creu'r trawsnewid ac ar gyfer hyfforddi'r staff heb i'r Llywodraeth yma gynyddu cyllidebau ysgolion?