Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 1 Mai 2019.
Wel, wrth gwrs, rydym yn ymgynghori ar hyn o bryd ar y cynigion i ddarparu diwrnod hyfforddiant mewn swydd ychwanegol i ysgolion i baratoi ar gyfer rhoi'r cwricwlwm ar waith, a fydd yn statudol o 2022 ymlaen. Wrth gwrs, mae gan ysgolion eisoes nifer o ddyddiau hyfforddiant mewn swydd, y gallant eu defnyddio i helpu i baratoi ar gyfer rhoi'r cwricwlwm ar waith. O ran adnoddau i alluogi athrawon i ymgymryd â datblygiad proffesiynol, bydd yr Aelod yn ymwybodol fod y Llywodraeth hon wedi darparu £24 miliwn yn uniongyrchol i gyllidebau penaethiaid ar gyfer datblygiad proffesiynol eu staff, a dyna yw'r buddsoddiad unigol mwyaf mewn dysgu proffesiynol yn y 20 mlynedd ers creu'r sefydliad hwn.