10. Dadl Fer: Tyngu Llw i'r Bobl — Newid y llw a gaiff ei dyngu gan Aelodau'r Cynulliad i addo teyrngarwch i'r bobl.

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:06 pm ar 1 Mai 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Bethan Sayed Bethan Sayed Plaid Cymru 6:06, 1 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Ond mae opsiynau i'r rheini ohonom a ddylai allu tyngu llw gwahanol yn seiliedig ar ein cydwybod, ond byddai'n galw am newid Deddf Llywodraeth Cymru yn San Steffan. Er nad wyf yn rhagweld y bydd hyn yn digwydd yfory, os na fyddwn yn trafod rhai materion, yna yn sicr ni fyddant byth yn newid. Mae'n codi proffil y mater hwn ac yn rhoi cychwyn ar ddadl fywiog. Mae eisoes wedi ysgogi meddyliau a theimladau dros yr wythnos hon yn unig.

Ar draws y byd, ceir amrywiaeth o opsiynau ar gyfer llw gwahanol—llw i'r bobl neu'r wlad y mae deiliaid swyddi'n eu cynrychioli. Yn yr Unol Daleithiau, ceir gofyniad i gynnal, diogelu ac amddiffyn y cyfansoddiad—hen ddogfen a luniwyd er hynny i lywio'r wlad honno ac sy'n arddel ei hegwyddorion llywodraethu sylfaenol. Yn yr Almaen, mae iaith deiliaid swyddi fel y Canghellor a Gweinidogion eraill yn cynnwys tyngu llw i ystyried a diogelu lles dinasyddion. Yn Ffrainc, mae'n ofynnol amddiffyn y weriniaeth a'r gwerthoedd y cafodd ei sefydlu arnynt.

Yng Ngogledd Iwerddon, nid oes gofyniad i dyngu llw o gwbl oherwydd y sensitifrwydd ynghylch gwneud hynny—mae  pawb ohonom yn derbyn hynny—ond hefyd am fod cydnabyddiaeth, a hynny'n bennaf oherwydd gelyniaeth hanesyddol, i gredoau'r gweriniaethwyr. Byddai'n amhosibl gorfodi teyrngarwch i'r frenhines yng Ngogledd Iwerddon heb wadu cynrychiolaeth i gyfran helaeth o'r bobl yno. Mae hyn hefyd yn seiliedig ar yr egwyddor fod llawer o bobl yng Ngogledd Iwerddon nad ydynt yn dymuno tyngu llw i rywbeth y maent yn anghytuno'n sylfaenol ag ef. Ond yma nid oes y fath gydnabyddiaeth o safbwyntiau ehangach. Yma, mae gennym fygythiad yn hongian uwch ein pennau, 'Plygwch lin, tyngwch lw, neu collwch eich sedd.' Mae'n codi cwestiwn ynglŷn â pha mor ddemocrataidd yw ein system mewn gwirionedd. Byddai rhai'n dweud na allwn fod yn ddemocratiaeth fel rhan o system freniniaethol, ond dadl ar gyfer diwrnod arall yw honno.

Gadewch inni fod yn glir ynglyn â hyn, mae fy ngorfodi i ac eraill i dyngu llw o deyrngarwch i sefydliad nad ydym yn credu ynddo er mwyn cymryd ein seddau, yma ac yn San Steffan, yn dangos bod sefydliad y Deyrnas Unedig yn rhoi ymlyniad at draddodiad hynafol ac anachronistaidd o flaen normau democrataidd. Nid yw'n iawn fod gennym system yn San Steffan, a ddilynir yma, sy'n gwahardd gweriniaethwyr sy'n cynrychioli cannoedd ar filoedd o bobl yng Ngogledd Iwerddon rhag cymryd eu seddau fel enghraifft o osod traddodiad uwchlaw disgwyliadau democrataidd arferol.  

Felly, pam y dylem fod yn fodlon â'r system? Oherwydd mai dyma'r ffordd y mae bob amser wedi'i wneud? Wel, rwy'n gwrthod hyn. Nid yw un o'r rhesymau a glywais o'n proses bresennol o dyngu llw ac addo teyrngarwch yn cydnabod normau democrataidd fel y byddai'r rhan fwyaf o bobl yn eu deall chwaith. Mae'r Cynulliad Cenedlaethol a seneddau eraill y DU yn arfer grym ar ran y sawl sydd ar yr orsedd ac yn ôl eu disgresiwn, oherwydd bod y sawl sydd ar yr orsedd yn dewis peidio ag arfer eu pwerau uchelfreiniol. Mae llawer ohono'n seiliedig ar gymysgedd o weithdrefnau a chyfreithiau hirsefydlog sy'n ymestyn yn ôl dros ganrifoedd. Ceir cyfreithiau a chynseiliau o hyd sy'n dylanwadu ar Lywodraethau etholedig a'u perthynas â'r frenhiniaeth ac sy'n ymestyn yn ôl i ryfel cartref Lloegr neu i gynseiliau a phwerau a arferid ar ran y frenhiniaeth gan Robert Walpole, y Prif Weinidog cyntaf, er nad dyna oedd ei deitl ffurfiol ar y pryd.

Mae'r ymlyniad hen ffasiwn i draddodiad er ei fwyn ei hun yn dangos un o'r problemau sylfaenol a esgeuluswyd mewn perthynas â'r frenhiniaeth—y pŵer a'r parch gormodol a roddir i sefydliad heb gyfreithlondeb etholedig. Buaswn yn fodlon betio nad yw'r rhan fwyaf o bobl yn gwybod yn iawn faint o bŵer sydd gan y frenhiniaeth yn ddamcaniaethol ond ei bod yn dewis peidio â'i ddefnyddio. Mae'n un o'r rhesymau pam y mae gennym ein llw presennol: ymostyngiad cyfeiliornus i setliad gwleidyddol y mae'n hen bryd ei adolygu mewn gwlad fodern, mewn Cymru fodern.

Felly, sut fath o lw gwahanol? Wel, rwyf wedi gofyn am syniadau ar y cyfryngau cymdeithasol yr wythnos hon ac roedd y mwyafrif helaeth yn adeiladol, a chefais fy synnu gan nifer y bobl sydd wedi cysylltu â mi i gynnig eu hawgrymiadau a'u syniadau. Un thema gyffredin a redai drwy'r awgrymiadau oedd ymrwymiad i bobl Cymru wrth gwrs, ond hefyd ymrwymiad i wella bywydau'r bobl, i sicrhau eu lles, i weithredu er eu budd gorau, fel y'n hetholwyd i'w wneud, i ystyried penderfyniadau a gweithredu mewn ffordd sy'n cynnal gwerthoedd y sefydliad hwn, i dryloywder a gonestrwydd, ac i ddiogelu diwylliant ac iaith Cymru—llu o syniadau'n seiliedig ar yr egwyddor y dylai grym ddeillio o'r bobl a'n rhoddodd yma, nid i frenhines sy'n gweld yn dda i ddatganoli i ni ei phŵer dwyfol a etifeddwyd.

Felly, beth am y llw a awgrymais ar y cychwyn? Ceir cymaint o ffurfiau eraill posibl arno ac yn y pen draw, yr hyn y mae gennyf fi ddiddordeb ynddo yw bod yr opsiwn yn bodoli. Nid wyf yn poeni gormod nac yn bod yn rhagnodol ynghylch y geiriad ei hun. Yr hyn rwy'n poeni yn ei gylch yw'r pwynt sylfaenol hwn o egwyddor, ynglŷn â rhoi pobl Cymru wrth wraidd popeth a wnawn fel ACau, o'r funud y byddwn yn tyngu'r llw ymlaen. Mae'n ddatganiad clir o fwriad. Roedd yn wych—. Rwy'n clywed cryn dipyn o sylwadau gan rai ar eu heistedd, ond ni ofynnwyd imi am funud, felly, gyda phob dyledus barch, rhowch gyfle i mi wneud fy araith.

Roedd yn wych gweld y diddordeb yn y ddadl hon, sy'n profi, yn wahanol i awgrymiadau rhai pobl nad oedd hwn yn fater roedd gan unrhyw un ddiddordeb ynddo, ei fod, mewn gwirionedd, yn rhywbeth roedd llawer iawn o bobl yn teimlo'n angerddol yn ei gylch. Mae perthynas pobl Cymru â'r frenhiniaeth yn newid, a chredaf fod hynny'n dod yn gliriach yn awr. Rhaid inni adeiladu cefnogaeth ar gyfer dadl ar ein gwerthoedd yma yng Nghymru a ph'un a ydym yn credu bod y frenhiniaeth yn cyd-fynd â'r gwerthoedd penodol hynny ai peidio. Dechrau yn unig yw hyn. Fel y gwelsom gyda'r ymateb i ailenwi pont Hafren, nid yw pobl yn barod i dderbyn rhywbeth yn syml oherwydd bod hyrwyddiad brenhinol ynghlwm wrtho. Mae'r llanw ar droi.

Yn ein Llywodraeth ac yn ein cyrff cynrychioliadol, nid wyf yn credu y dylem dderbyn pethau fel y maent yn ddigwestiwn, oherwydd ni fydd dim yn newid yn ein bywydau o fod felly. Mae hwn yn faes y dylid ei ddiwygio. Dyma'r peth iawn i'w wneud. Mae'n beth cymharol hawdd i'w wneud. Nid wyf yn gofyn am gael gwared ar y llw presennol i'r Frenhines. Byddai rhai am weld hynny, ond nid wyf yn dweud hynny. Os oes gennym opsiwn i beidio â gwneud llw crefyddol, sydd hefyd yn deg, dylem hefyd gael y dewis i beidio â thyngu llw i deulu brenhinol, system nad yw rhai ohonom yn credu ynddi o gwbl. Gadewch i ni barhau â'r ddadl hon. Gadewch inni wneud hynny mewn ffordd deg ac agored, a gadewch inni barchu barn ein gilydd pan ddown at y ddadl hon, oherwydd mae pob un ohonom yn wahanol ac mae gennym hawl i'n barn, a dylem oll gael ein parchu am y safbwyntiau hynny hefyd. Diolch yn fawr iawn.