Part of the debate – Senedd Cymru am 6:02 pm ar 1 Mai 2019.
Fel gweriniaethwr, yr wyf fi, Bethan Sayed, yn datgan yn ddiffuant ac yn ddidwyll, yn cadarnhau ac yn tyngu fy nheyrngarwch i bobl Cymru o'r cyfnod hwn tan ddiwedd fy nhymor yn y swydd, fy mod yn addo cyflawni dyletswyddau fy swydd yn ffyddlon i ddiogelu ac amddiffyn lles, buddiannau a hawliau pobl Cymru.
Dyma'r tro cyntaf yn y lle hwn i mi gael cyfle i fynegi'r hyn sydd ar fy meddwl ac sydd yn fy nghalon yn wir lw o deyrngarwch. Pan fyddwn yn tyngu llw i rywbeth, mae'n hollbwysig ein bod yn credu y llw hwnnw. Mae hyn yn wir yn unrhyw ran o fywyd—mae'n wir mewn llys, mae'n wir mewn sgwrs. Dyma sydd wrth wraidd ymddiried mewn rhywbeth. Mae'n hanfodol i'r modd yr ydym yn cynrychioli'r pobl—ein bod yn credu yn yr hyn yr ydym yn ei ddweud a'n bod ni fel cynrychiolwyr yn anrhydeddu ein credoau. Ond yng Nghymru, pan fyddwn yn tyngu llw fel cynrychiolwyr yma, mae llawer ohonom yn tyngu llw i sefydliad nad ydym yn credu ynddo, nid o ddewis na malais nac ymgais i gamarwain, ond am fod yn rhaid i ni er mwyn cymryd ein seddi yma. Mewn ffordd, rydym yn cael ein bygwth i dyngu rhywbeth nad ydym yn credu ynddo. Mae hyn yn system gwbl annerbyniol.
Nawr, mae rhai pobl wedi dweud—rhai pobl sydd ddim yma yn y Senedd rhagor—na ddylai hyn fod yn flaenoriaeth. Maen nhw wedi gofyn pam ar y ddaear fy mod i'n codi rhywbeth fel hyn sydd mor ymddangosiadol ddibwys. Ond dwi'n anghytuno'n llwyr gyda nhw. Mae hwn yn fater pwysig iawn. Pan fyddwn yn tyngu llw, mae fersiwn o dyngu llw ym mhob diwylliant, ac mae bron pob gwlad yn y byd yn mynnu bod aelodau cyrff yn tyngu llw neu gytuno i gynnal rhai gwerthoedd, gweithredoedd ac egwyddorion mewn bywyd cyhoeddus. Yn y Cynulliad, mae gofyn inni gadw at egwyddorion Nolan o fywyd cyhoeddus, ac mae moesoldeb a rheolau'n bwysig, fel ym mhob corff seneddol arall bron ledled y byd. Mae'r rheolau a'r prosesau hyn yma oherwydd bod disgwyliadau a galw o du'r cyhoedd sy'n dweud eu bod yn bwysig, ond mae'n ymddangos nad oes yna le i rai Aelodau, yn eu gweithred gyntaf yn yr ystafell yma, i dyngu i rywbeth y maent yn credu ynddo.
Dyma'r hyn y mae pobl yn tyngu ar hyn o bryd, 'Yr wyf fi—enw'r Aelod Cynulliad penodol—yn tyngu y byddaf yn ffyddlon ac yn wir deyrngar i'w Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II, ei hetifeddion a'i helynwyr, yn unol â'r gyfraith. Cynorthwyed Duw fi.' Wel, dwi ddim yn credu yn y gosodiad yma. Dwi'n weriniaethwr a dwi'n falch iawn o hynny. Rwy'n deall nad yw pawb yn weriniaethwyr ac felly mae rhwydd hynt iddyn nhw anghytuno. Dwi'n parchu hynny. Dyna yw gwir natur democratiaeth. Ond dylai'r parch hwnnw fynd y ddwy ffordd. Rwy'n parchu Aelodau sydd am dyngu llw o deyrngarwch i'r Frenhines, er nad wyf i'n llwyr yn deall pam nac yn cytuno â'u hawydd i wneud hynny. Ond nid yw fy nymuniad i a nifer eraill i beidio â gwneud hynny yn cael ei barchu. Nid yw'n cael ei barchu chwaith yn yr Alban, Lloegr, na gwledydd eraill lle mae'r Frenhines yn ben ar y wladwriaeth, fel Awstralia a Chanada.
Yr hyn sy'n od am y llw uchod yw bod trefniant ar gael i gymryd llw gwahanol ar sail cred grefyddol rhywun, ond nid am dyngu llw neu beidio i'r frenhiniaeth. Mae fy nghred i yn ei gwneud yn amhosib i mi wir dyngu teyrngarwch i'r Frenhines neu i'w hetifeddion am nad ydw i yn y bôn yn cytuno gyda'r sefydliad y mae'n ei gynrychioli. Dyw e ddim yn cyd-fynd â fy nghredoau na'r fath o Gymru rwyf am weld i'r dyfodol, ac, eto, os wyf am eistedd yn y sedd benodol yma, mae'n rhaid i mi ei wneud e. Dyw'r peth ddim yn gwneud synnwyr i fi.