Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 1 Mai 2019.
Wel, wrth gwrs, mae'r Aelod yn ymwybodol nad yw nifer y staff sydd wedi gadael y gwasanaeth iechyd o swyddi rheoli ers 2016 gennyf wrth law. Mae'n werth cofio, fel y dywedais ddoe pan wnaed pwynt tebyg, fod nifer o reolwyr ac arweinwyr gwasanaethau yn y gwasanaeth iechyd yn glinigwyr cofrestredig hefyd wrth gwrs a bod ganddynt ddyletswyddau proffesiynol yn ogystal. Felly, byddai angen i chi edrych ar y bobl sydd â chyfrifoldebau proffesiynol yn ogystal â'u cyfrifoldebau fel rheolwyr. Mae hyn yn ymwneud â'r pwynt ehangach am arweinyddiaeth, llywodraethu ac atebolrwydd ym mhob un o'r sefydliadau GIG hynny.