Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 1 Mai 2019.
Diolch yn fawr, Lywydd. Diolch. Y llynedd, diswyddwyd 76 o feddygon gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol a diswyddwyd 257 o unigolion gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth gan yr ystyrid nad oeddent bellach yn addas i ymarfer yn y gwasanaeth iechyd ar draws y DU. Rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn cytuno â mi ei bod yn iawn fod gweithwyr proffesiynol yn y gwasanaeth iechyd yn atebol am gamymddwyn a chamymddygiad difrifol. A yw'r Gweinidog yn credu y dylid gwneud rheolwyr yn y gwasanaeth iechyd yn atebol hefyd, ac os felly, a all ddweud wrth y Siambr hon faint o uwch reolwyr neu aelodau byrddau yn y GIG yng Nghymru sydd wedi colli eu swyddi o ganlyniad i fethiannau yn y gwasanaeth neu gamreoli ers 2016?