2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 1 Mai 2019.
6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ofal iechyd trawsffiniol yng ngogledd Cymru? OAQ53756
Gwnaf. Mae llif cleifion yn digwydd ar draws y ffin rhwng Cymru a Lloegr bob dydd. Trefnir y ddarpariaeth gofal iechyd drawsffiniol drwy gytundebau ffurfiol rhwng byrddau iechyd lleol a darparwyr yn Lloegr i ddiwallu anghenion gofal iechyd y boblogaeth leol ac wrth gwrs, gwelwn nifer sylweddol o drigolion o Loegr yn dod i Gymru i gael triniaeth, yn enwedig mewn perthynas â gofal sylfaenol.
Diolch. Cyn y toriad, cyhoeddodd Ysbyty Iarlles Caer benderfyniad unochrog i beidio â derbyn unrhyw atgyfeiriadau newydd ar gyfer triniaeth ddewisol i gleifion o Gymru. Weinidog, diolch i chi am gyfarfod â mi yn gynharach heddiw i drafod hyn, a gwn eich bod yn ymwybodol, yn dilyn ein cyfarfod, fod y mater hwn yn brifo pobl yn fy etholaeth i, a phobl ar draws sir y Fflint yn wir. Maent yn poeni'n fawr ac yn ddig iawn am yr hyn y bydd y dyfodol yn ei olygu, ac mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn rhannu'r teimladau hynny. Ac mae chwarae gwleidyddiaeth ar fater fel hwn yn warth, yn fy marn i.
Mae fy etholwyr eisiau gwybod, Lywydd, pam ein bod yn y sefyllfa hon, ond yn bwysicaf oll, maent eisiau gwybod beth fydd yn digwydd yn y dyfodol. Weinidog, mae angen ateb dros dro ar unwaith i'r mater hwn tra bo trafodaethau ar y gweill i alluogi cleifion yng Nghymru i gael mynediad at wasanaethau trawsffiniol.
Rydym angen sicrwydd hefyd na fydd y sefyllfa hon byth yn digwydd eto—nid yn unig i fy etholwyr i, ond i unrhyw glaf sy'n defnyddio gwasanaethau trawsffiniol ledled Cymru. Felly, Weinidog, a gaf fi bwyso arnoch i weithio gyda mi a chyd-Aelodau o ogledd-ddwyrain Cymru i sicrhau bod hynny'n digwydd, gan nad yw cyflyrau iechyd yn cydnabod ffiniau ac ni ddylai'r gwasanaeth iechyd eu cydnabod chwaith?
Ie, diolch am y cwestiwn a'r cyfle i drafod y mater hwn yn fanylach yn gynharach heddiw gyda chyd-Aelodau o ogledd-ddwyrain Cymru. Gwnaed rhywfaint o gynnydd o ran y trefniadau gyda'r system yn Lloegr. Fel y gwyddoch, nid yn unig yn y rhan o Gymru rydych yn ei chynrychioli, ond mewn rhannau eraill, mae llif rheolaidd ar gyfer triniaethau mewn ysbytai yn arbennig. Ac mae her wedi codi mewn perthynas â'r ffordd y mae taliadau tariff yn gweithio o fewn y system yn Lloegr. Nawr, ni fydd pawb yma yn gyfarwydd â'r tariff, ond dyna'r ffordd y telir darparwyr gwasanaethau iechyd yn Lloegr, ac chaiff cyfradd ei gosod. Mae'r gyfradd newydd a osodwyd ar gyfer Lloegr yn cynnwys elfennau yr ymddengys eu bod wedi eu talu gan daliadau canlyniadol i systemau Cymru a Lloegr. Os ydym yn cytuno'n syml i dalu'r swm hwnnw, yn y bôn byddwn yn talu ddwy waith am rannau o system Lloegr, gan gynnwys y dyfarniad cyflog, er enghraifft. Nawr, ni fydd hynny'n golygu llawer i bobl sydd ond eisiau sicrwydd ynglŷn â sut y cânt eu trin, ac yn sicr rwyf eisiau gweld cynnydd. Rwyf wedi cael sawl sgwrs uniongyrchol gyda Gweinidogion y DU ar hyn, mae fy swyddogion wedi bod yn ymwneud yn uniongyrchol, mae cyfarfodydd pellach yn cael eu cynnal yr wythnos hon rhwng y ddwy Lywodraeth ac yn wir, rhwng unigolion o fewn y system yng Nghymru a Lloegr.
Rwyf finnau hefyd eisiau sicrhau cytundeb dros dro sy'n caniatáu i ni fwrw ymlaen â'r heriau mwy hirdymor, nid yn unig cytundeb gydag Ysbyty Iarlles Caer yn unig, ond gyda phob darparwr gofal iechyd trawsffiniol, a sicrhau bod gennym rywbeth a fydd yn para yn y dyfodol hefyd. Ac ar hynny, mae rhywfaint o gynnydd wedi bod o ran cael llais Cymreig o amgylch y bwrdd pan fo darparwyr yn Lloegr yn gosod trefniadau tariffau newydd, ond nid ein dewis ni fydd y trefniadau hynny ychwaith. Rwyf eisiau rhywbeth sy'n gweithio yma yng Nghymru a Lloegr, ac yn amlwg, ceir ystyriaethau tebyg ar gyfer gwledydd eraill y DU hefyd. Felly, byddaf yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi ar y cynnydd a wnawn, ond ni ddylai hyn fod wedi digwydd. Mae'n gwbl groes i'r protocol trawsffiniol sy'n darparu y bydd y ddwy wlad yn gweithredu er budd y claf bob amser ac na fydd unrhyw oedi wrth gael mynediad at wasanaethau gofal iechyd tra bo cyfrifoldebau comisiynu yn cael eu gwneud yn gliriach. Gobeithio y bydd y neges honno'n cael ei chlywed gan Ysbyty Iarlles Caer ac na fydd eich etholwyr yn cael eu rhoi yn y sefyllfa y maent ynddi heddiw.