Part of the debate – Senedd Cymru am 3:15 pm ar 1 Mai 2019.
Ynghyd â'r trefniadau cytundebol gwael hyn, mae'n ymddangos bod diffyg diwydrwydd dyladwy sylweddol. Dewisodd Llywodraeth Cymru brynu safle ar gyfer y stiwdio a oedd yn cynnwys tri ased gwahanol ac anarferol iawn a gostiai £6 miliwn, a methodd gomisiynu arolwg strwythurol llawn ymlaen llaw. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn cael arolwg strwythurol cyn prynu tŷ, ond roedd hwn yn bryniant £6 miliwn ac roedd Llywodraeth Cymru yn fodlon ar adroddiad prisio a'r ffaith bod y safle'n cael ei werthu gan fuddsoddwr sefydliadol.
Eto, fel y gwelsom, ni nodwyd gwaith atgyweirio hanfodol i'r to cyn ei brynu, ac arweiniodd hyn at gostau sylweddol. I wneud pethau'n waeth, nid oedd swyddogion Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o unrhyw ofyniad i adfer yr eiddo rhestredig gradd II ar y safle ac nid oeddent yn bwriadu gwneud unrhyw beth i hwn oni bai eu bod yn cael eu cyfarwyddo i wneud hynny, nid y camau gweithredu y byddech yn eu disgwyl gan y rheini sydd â chyfrifoldeb dros Cadw, a ddylai, yn sicr, fod yn esiampl dda o berchennog adeiladau rhestredig. Serch hynny, yn ddiddorol, mae'r adeilad hwn wedi'i ddatgofrestru gan Cadw yn ddiweddar, ac mae hyn i gyd yn awgrymu, ar y gorau, fod cryn dipyn o naïfrwydd yn bodoli o fewn Llywodraeth Cymru.
Ceir tystiolaeth bellach o'r naïfrwydd hwn yn y diffyg eglurder ynghylch gwerth y gwaith a wnaed gan Pinewood i wella'r adeilad. Roeddem yn synnu ac yn pryderu nad oedd Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o'r hyn a gwblhawyd gan y cwmni pan ddaeth y safle yn ôl i'w dwylo unwaith eto, ac roeddem hyd yn oed yn fwy pryderus nad oedd unrhyw fanylion am werth y gwaith a nodwyd yn y cytundeb i osod y safle, ac nad oedd Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o'r ffaith nad oedd y wybodaeth hon, y cytunwyd arni yn y prif delerau, wedi cael ei throsglwyddo i'r contract gyda Pinewood.
Canlyniad hyn i gyd oedd diffyg eglurder ynglŷn â phwy a oedd yn gyfrifol am ba welliannau a chafodd effaith negyddol yn y pen draw ar bwrs y wlad—a dyna pam fod y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wedi edrych ar hyn—gan na ellid bod wedi gwerthuso'r gwerth am arian. Unwaith eto, dychwelaf at thema naïfrwydd. I'r pwyllgor, roedd hyn i'w weld yn gamgymeriad sylfaenol yn negodiadau'r contract—negodiadau gwreiddiol y contract.
Cytunasom fel pwyllgor i beidio â mynegi barn ar i ba raddau y mae'r cytundeb gyda Pinewood wedi dangos gwerth am arian, gan ein bod yn cydnabod bod buddsoddi masnachol yn y diwydiant ffilm a theledu, o ran ei natur, yn ansicr ac y gall gymryd blynyddoedd lawer i elwa ar y manteision economaidd. Credwn fod angen taro cydbwysedd rhwng buddsoddi arian cyhoeddus er mwyn sicrhau'r buddsoddiad mwyaf posibl yng Nghymru a'r risg sy'n codi o hyn, ond mae'n rhaid rheoli'r risgiau hyn ac mae'n rhaid i'r trefniadau gwneud penderfyniadau a llywodraethu yn eu cylch fod yn seiliedig ar wybodaeth gadarn a thrylwyr.
Rydym yn croesawu ymateb Llywodraeth Cymru i'n hadroddiad, lle mae'n derbyn wyth o'r naw argymhelliad a wnaed gennym ac yn nodi'r gwaith y mae wedi'i wneud i sicrhau bod gwersi'n cael eu dysgu o brofiad Pinewood ac yn cael eu rhannu, yn ogystal â gweithredu gweithdrefnau a chanllawiau newydd, er mwyn atal camgymeriadau tebyg rhag digwydd eto.
Fodd bynnag, nodwn fod ei hymateb i argymhellion 3, 4 a 5, sy'n ymwneud â gwrthdaro buddiannau, yn benodol i Pinewood, tra bod ysbryd ein hargymhellion yn ymwneud â lliniaru gwrthdaro buddiannau yn fwy cyffredinol o ran holl ymwneud Llywodraeth Cymru â busnesau'r sector preifat. Byddwn yn mynd ar drywydd y mater hwn yn fuan fel rhan o waith y pwyllgor ar gymorth ariannol Llywodraeth Cymru i fusnesau.
Hefyd, er bod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod argymhelliad 8 yn ein hadroddiad, nodwn ei bod yn cytuno ag egwyddor gyffredinol yr argymhelliad ac wedi dechrau gweithio i ddatblygu canllawiau arferion gorau ar gyfer caffaeliadau a gyflawnir yn enw Gweinidogion Cymru. Byddwn yn cadw golwg ar gydymffurfiaeth â'r canllawiau hyn ar ôl iddynt gael eu cyflwyno er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu gweithredu ac yn gweithio'n effeithiol.
Ddirprwy Lywydd, i grynhoi, mae'n anffodus fod Pinewood, fel sawl prosiect arall gan Lywodraeth Cymru yn y gorffennol, gan gynnwys Kancoat, a Cylchffordd Cymru yn wir, wedi dioddef yn sgil diffyg diwydrwydd dyladwy Llywodraeth Cymru mewn rhai ffyrdd: trefniadau llywodraethu gwael; gwneud penderfyniadau anwybodus yn ein barn ni; a diffyg tryloywder ac eglurder sylfaenol cyffredinol, yn enwedig wrth lunio'r contractau gwreiddiol hynny.
Dim ond y llynedd y cyflwynodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus adroddiad ar gyllid cychwynnol Llywodraeth Cymru i brosiect Cylchffordd Cymru, gan dynnu sylw at y ffaith bod angen i'r rheini sy'n gyfrifol am wario arian trethdalwyr sicrhau bod prosesau gwneud penderfyniadau yn gydlynus ac wedi cael eu dogfennu'n gywir. Fel gyda Cylchffordd Cymru, mae perthynas Llywodraeth Cymru â Pinewood wedi arwain at rai penderfyniadau anesboniadwy.
Ni wn faint yn rhagor o weithiau y bydd yn rhaid i ni drafod yr un materion sy'n codi o hyd o fewn Llywodraeth Cymru mewn perthynas â diffyg diwydrwydd dyladwy a diffyg crebwyll. Er ein bod i gyd yma yn derbyn yr angen i gymryd risgiau rhesymol, rhaid i'r angen i fod yn gyfrifol gydag arian cyhoeddus fod yn bwysicach na dim arall. Mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru, wrth symud ymlaen, yn dysgu o'i phrofiadau yn y gorffennol ac yn dangos unwaith ac am byth fod gwersi wedi'u dysgu mewn perthynas â'i dull o ariannu busnesau preifat yng Nghymru.