Part of the debate – Senedd Cymru am 3:20 pm ar 1 Mai 2019.
Mae'n werth inni fyfyrio ar y stori hon y buom yn dadlau yn ei chylch dros y naw mis diwethaf. Mae'n sicr yn wir fod gan gyn Weinidog yr economi y Llywodraeth gynlluniau uchelgeisiol iawn ar gyfer ehangu'r diwydiant ffilm a theledu yng Nghymru, ac roedd hynny ynddo'i hun yn ganmoladwy, ond ni roddwyd digon o ystyriaeth i'r gwrthdaro buddiannau posibl, ac ni chawsant eu hystyried yn briodol wrth greu partneriaeth â chwmni sy'n werth miliynau o bunnoedd ac sydd â buddiannau byd-eang. Pysgodyn bach iawn oedd Llywodraeth Cymru o'i chymharu â Pinewood, ac, er nad yw'n bosibl dod i'r casgliad fod Llywodraeth Cymru wedi cael ei chamarwain, mae'n sicr yn wir nad oedd y mesurau diogelu priodol ar waith i sicrhau na ddigwyddai hynny.
Ni wnaed arolwg o'r adeilad cyn y pryniant. Ymddengys i mi fod mochyn mewn cwd yn ymateb annigonol i fuddsoddiad o £6 miliwn, ac mae hynny'n parhau i fod yn bryder sylweddol. Roedd y cyngor a roddwyd i Weinidogion hefyd yn gwbl fud mewn perthynas â rhwymedigaethau TAW posibl, a oedd yn eithaf syfrdanol o dan yr amgylchiadau. Cawsom sicrwydd cadarn iawn gan weision sifil na fyddai hynny'n digwydd eto. Ond yn wir, ni roddwyd unrhyw ystyriaeth chwaith i'r rhwymedigaethau roedd y Llywodraeth yn eu hysgwyddo drwy brynu ased a oedd yn cynnwys adeilad rhestredig. Nid yw'n ddigon da i Lywodraeth Cymru, sy'n gorfod gorfodi statws adeiladau rhestredig, fod yn ddi-hid am y rhwymedigaethau y mae gofyn iddynt gydymffurfio â hwy fel perchennog eiddo o'r fath.
Fodd bynnag, byddai'n grintachlyd inni beidio â chydnabod y gweddnewidiad sydd wedi digwydd dros y pum mlynedd diwethaf o ran statws Cymru fel lleoliad ar gyfer creu ffilmiau a darlledu. A fyddai stiwdios Bad Wolf wedi'u lleoli yng Nghymru o gwbl pe na bai stiwdios Pinewood yn bodoli? Mae'n amhosibl dweud, ond mae'n debygol iawn na fyddent wedi meddwl gwneud hynny. Rydym bellach yn y sefyllfa hapus fod gan stiwdios Bad Wolf gynifer o archebion ar eu llyfrau fel eu bod wedi tyfu'n rhy fawr i'w safle ei hun ac yn gorfod dibynnu ar stiwdios Pinewood i gyd dros y 12 mis nesaf er mwyn cyflawni'r holl waith y maent yn ei wneud. Mae gennym hefyd adeilad newydd y BBC, a fydd yn un o ganolfannau darlledu mwyaf eiconig y DU ac yn wir, ledled y byd pan fydd yn agor yn y Sgwâr Canolog yng nghanol Caerdydd. Hefyd, mae gennym lawer mwy o wobrau'n cael eu hennill gan S4C, ITV a'r BBC am eu cynyrchiadau drama a rhaglenni dogfen, ac mae hyn i gyd yn newyddion cadarnhaol iawn i economi Cymru.
Ond mae angen i ni adeiladu ar y llwyddiant hwnnw drwy sicrhau ein bod, yn y contractau a luniwn, yn mynnu bod cyfran o'r is-gontractio'n cael ei wneud gyda chwmnïau Cymreig, a bydd hynny'n ein galluogi i adeiladu ar y ffaith bod Cymru'n cael ei chydnabod fel lleoliad ar gyfer ffilmio ac ôl-gynhyrchu. Ond mae angen i ni sicrhau, er enghraifft, os oes gennym actorion talentog yng Nghymru, ac rwy'n siŵr fod hynny'n wir, nad oes angen iddynt fynd i Lundain er mwyn cael clyweliadau ar gyfer rhannau. Nid oes unrhyw reswm penodol pam na all hynny ddigwydd yma. Nid oes angen i Gymru gael ei hystyried fel rhywle ar gyrion pellaf Llundain mewn perthynas â ffilm a theledu. Yn sicr, mae gennym gyfle i wneud hynny er mwyn sicrhau bod Cymru'n cael ei llwyddiant rhyngwladol ei hun yn hyn o beth, ond mae gennym fwy o waith i'w wneud i sicrhau bod gennym yr ystod lawn o sgiliau a bod hynny'n cael ei gydnabod ledled y byd.