6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol: 'Perthynas Cymru ag Ewrop a'r byd yn y dyfodol'

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:00 pm ar 1 Mai 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rees David Rees Labour 4:00, 1 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Nawr, canfu ein gwaith fod gweithgareddau Llywodraeth Cymru yn y gorffennol, o ran ymgysylltiad rhyngwladol, wedi bod yn rhy dameidiog yn ein barn ni, ac yn anghydlynol, ac mae'n bwysig ein bod yn gweld y newid hwn. Gwnaethom gyfanswm o 11 o argymhellion yn ein hadroddiad, ac rwy'n falch fod y Gweinidog wedi nodi eu bod wedi derbyn y cyfan ohonynt yn llwyr neu mewn egwyddor—er ein bod bob amser yn cwestiynu'r term 'derbyn mewn egwyddor', weithiau. Cawn weld sut y bydd hynny'n mynd.

Ond gan droi at yr argymhellion cyntaf, mae'n gwbl amlwg fod angen strategaeth newydd ar Gymru o ran y ffordd yr ymgysylltwn â'r byd ar ôl Brexit, neu'n syml, y ffordd yr ymgysylltwn â'r byd. Nid yw Brexit ond yn enghraifft o pam y mae angen i ni ei wneud. Mae angen i'r strategaeth newydd hon fod yn feiddgar. Mae angen iddi nodi maint ein huchelgais fel cenedl. Rhaid inni beidio â bod ofn mynd un cam ymhellach na'r hyn y byddem yn ei wneud yn gonfensiynol. Wrth arwain ar ddatblygu'r strategaeth newydd, mae creu Gweinidog newydd dros gysylltiadau rhyngwladol, gyda sedd yn y Cabinet, yn gam i'w groesawu. Fodd bynnag, mae'n amlwg i ni fod llawer o agweddau ar gysylltiadau rhyngwladol yn rhai trawsbortffolio, ac felly rydym eisiau gweld mwy o enghreifftiau o hynny: portffolios yr economi, yr amgylchedd, addysg. Mae'n amlwg nad un maes pwnc yn unig ydyw.

Rydym am i'r Gweinidog arwain cydgysylltiad o'r fath ar draws y Llywodraeth, ac yn yr adroddiad, roeddem yn argymell is-bwyllgor Cabinet. Rydym yn cydnabod bod y Gweinidog yn dweud y gallai hwn fod yn fecanwaith priodol, ond mae'n cyfeirio at yr angen am drafodaethau llawn yn y Cabinet ar ryngwladoli. Rwy'n cydnabod hyn yn llawn, ond sut y gallwn gael strwythur ffurfiol sy'n sicrhau dull gweithredu trawsbortffolio? Dyna'r cwestiwn. Un peth yw cael cysyniad anffurfiol, ond mae angen strwythur ffurfiol arnom, a dyna pam rwyf am gael rhagor o wybodaeth gan y Gweinidog heddiw am y cynnydd tuag at gydlynu gweithgareddau ar draws y Llywodraeth, yn ogystal â'r cyfarfodydd dwyochrog y mae'n bwriadu eu cael gyda'r cydweithwyr hynny, ond ble mae'r strwythur ffurfiol lle mae hynny'n digwydd?

Roedd rôl Cymru yn Ewrop yn y dyfodol ar ôl Brexit yn fater a godai ei ben yn barhaol yn ystod ein gwaith. Mae'n amlwg i ni, beth bynnag fydd siâp a chanlyniad Brexit yn y pen draw—a dywedaf hynny yn awr, 'beth bynnag fydd siâp Brexit', oherwydd nid ydym yn gwybod o hyd—bydd Ewrop a'n perthynas â'r Undeb Ewropeaidd yn parhau i fod yn bwysig yn y blynyddoedd i ddod. Dyna pam y rhown ein cefnogaeth i gadw swyddfeydd Llywodraeth Cymru ym Mrwsel.

Clywsom hefyd fod Cymru, yn hanesyddol, wedi mwynhau manteision nifer o raglenni Ewropeaidd, megis y rhaglen deithio ar gyfer myfyrwyr, Erasmus+, a'r rhaglen ymchwil ac arloesi, Horizon 2020. Ar hyn o bryd, safbwynt Llywodraeth Cymru yw hyrwyddo cyfranogiad parhaus yn y rhaglenni hynny drwy'r DU. Rydym am i'r uchelgais hwn fynd ymhellach, ac os bydd Llywodraeth y DU yn methu sicrhau hyn, dylai Llywodraeth Cymru fynd ati i ymchwilio i'r posibilrwydd o sicrhau cyfranogiad yn ei hawl ei hun mewn meysydd datganoledig a lle ceir manteision clir i Gymru. Rwy'n credu bod enghraifft y ffi myfyrwyr addysg uwch yr wythnos hon yn tynnu sylw at y ffaith nad yw Llywodraeth y DU o bosibl yn cyd-fynd â meddylfryd Llywodraeth Cymru ynglŷn â'n perthynas â'r UE a dinasyddion yr UE.

Dyma rydym yn galw amdano yn argymhelliad 5: i Lywodraeth Cymru archwilio a chael trafodaethau archwiliol mewn gwirionedd, ac adrodd yn ôl i'r Cynulliad hwn yn nhymor yr hydref, a chan fod tymor yr hydref yn cynnwys 31 Hydref, sef y dyddiad newydd bellach ar gyfer gadael yr UE, efallai ei bod yn briodol ein bod yn gwneud hynny, gan mai dyna'r ymyl clogwyn nesaf sy'n ein hwynebu.

Yn ogystal â'r cysylltiadau amlochrog a'r rhwydweithiau rydym yn eu mwynhau, mae gan Gymru nifer o gysylltiadau dwyochrog hefyd, a fydd yn parhau i fod yn rhan bwysig o waith ymgysylltu allanol Cymru yn y dyfodol. Yn ystod ein gwaith, gwelsom fod y gwledydd a'r is-wladwriaethau ar draws y llwyfan rhyngwladol sy'n gweithredu'n fwyaf llwyddiannus wedi rhoi blaenoriaeth eglur i gysylltiadau dwyochrog yn seiliedig ar ddiddordebau cyffredin. Yn benodol, roedd dull Gwlad y Basg a Quebec yn enghreifftiau y gallem ddysgu oddi wrthynt, ac rwy'n gwbl ymwybodol fod Gwlad y Basg wedi bod yn y sefydliad hwn a'n bod wedi cael pwyllgorau a aeth draw i Wlad y Basg. Maent yn enghraifft o ble y gallem fod eisiau dysgu sut y maent yn rheoli'r cysylltiadau ac yn enwedig cysylltiadau dwyochrog, a sut y maent wedi eu blaenoriaethu.

Mae ein hargymhelliad 6 yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu'r cysylltiadau dwyochrog sydd gan Gymru ar hyn o bryd, er mwyn asesu pa rai ohonynt y gellir eu cryfhau a'u dwysáu yn y dyfodol. Rwy'n falch fod y Gweinidog, yn ei hymateb ysgrifenedig, wedi dangos bod y gwaith hwn ar y gweill, ac unwaith eto byddai'n ddefnyddiol pe gallai roi syniad i'r Cynulliad o'r amserlenni ar gyfer cwblhau'r gwaith hwn, er mwyn inni ddeall y sefyllfa sydd ohoni a ble y gallwn ddisgwyl ei gyrraedd yn yr amser sydd o'n blaenau. Rydym i gyd yn gwybod bod amser yn mynd i fod yn ffactor o bwys yn y dyfodol.

Gan droi at gwestiwn ein Cymry alltud, rydym yn glir y gellir gwneud mwy i ddefnyddio'r Cymry alltud hyn. Er nad oes ffigurau pendant yn bodoli, roedd astudiaeth a gyhoeddwyd yn 2006—ac rwy'n derbyn bod hynny 13 mlynedd yn ôl—yn awgrymu bod cynifer â 11 miliwn o bobl o dras Gymreig yn yr Unol Daleithiau yn unig. Gallai gwell ymgysylltiad â'r Cymry alltud fod yn allweddol i ddatgloi rhai o uchelgeisiau Cymru o ran cysylltiadau rhyngwladol ar ôl Brexit. Unwaith eto, rwy'n ymwybodol fod y cawcws Cymreig yn Washington yn enghraifft o ble y gallem fod yn defnyddio peth o hynny.  

Mae ein hadroddiad yn galw am greu cynllun gweithredu i gynnwys y Cymry alltud. Fodd bynnag, mae ymateb ysgrifenedig y Gweinidog yn awgrymu na fydd Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i hyn a'i bod, yn lle hynny, yn gwneud gwaith rhagarweiniol i asesu'r hyn sy'n digwydd eisoes yn y maes hwn. Felly, gofynnaf i'r Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r pwyllgor am y gwaith hwn fel y gellir gwireddu ein huchelgeisiau.  

Gan droi at argymhelliad 10, er nad wyf am ailadrodd dadleuon a wnaed o'r blaen yn y Cynulliad ynglŷn â'r angen i wella dulliau rhynglywodraethol, hoffwn roi cyfle i'r Gweinidog, os yw'n gallu—ac rwyf wedi codi hyn gyda'r Gweinidog Brexit—i wella efallai ar y manylion cyfyngedig a geir yn ei hymateb ysgrifenedig, ac yn benodol, pe gallai gadarnhau dyddiad ar gyfer pa bryd y cyhoeddir adolygiad y Cyd-bwyllgor Gweinidogion, gan fod blwyddyn bron—mae'n flwyddyn mewn gwirionedd—ers y cynhaliwyd yr adolygiad ac nid ydym yn glir eto pa bryd y cyhoeddir yr adolygiad hwnnw, ac mae'n hollbwysig deall sut y gall Cymru gyfrannu at wahanol agweddau ar gysylltiadau rhyngwladol.  

O ran swyddfeydd tramor Llywodraeth Cymru, nodwn fod presenoldeb Cymru dramor wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Fodd bynnag, mae'n hanfodol fod y swyddfeydd hyn yn gwybod beth y maent yn ei wneud a bod eu gweithgareddau yn cyd-fynd â'r strategaeth arfaethedig. Sylwaf nad yw ymateb y Gweinidog yn ymrwymo i archwiliad yn y ffordd a awgrymwyd gennym. Efallai yr hoffai adolygu hynny, oherwydd mae'n bwysig ein bod yn deall beth yw diben y swyddfeydd, pam eu bod lle maent, sut y byddwn yn mesur yr hyn a wnânt er mwyn inni gael dealltwriaeth glir eu bod yn y lle iawn, yn gwneud y peth iawn i Gymru.

Yn olaf, hoffwn sôn ychydig am bŵer meddal Cymru—hynny yw, dylanwad diwylliannol ac economaidd Cymru ar draws y byd. Clywsom y gellid defnyddio rhai o asedau unigryw Cymru—ein hiaith, ein celfyddyd, ein gwerthoedd—yn well i greu lle i ni ein hunain ar lwyfan y byd. Rydym wedi gweld gwledydd eraill fel yr Alban ac Iwerddon yn gwneud yn union hynny. Er mwyn cyflawni hyn mae angen i ni fod yn gliriach ynghylch beth yw ein pwyntiau gwerthu unigryw a datblygu'r rheini mewn ffordd sy'n ennill cydnabyddiaeth ryngwladol. I'r perwyl hwnnw, argymellasom fod y strategaeth ryngwladol newydd yn rhoi mwy o bwyslais ar bŵer meddal. Rwy'n falch fod y Gweinidog wedi derbyn bod angen hyn. Credaf ei bod yn amlwg pan oeddem ym Mrwsel ddiwethaf sut roedd cynrychiolaeth y DU yn edrych ar fecanweithiau pŵer meddal Cymru fel enghraifft o sut y gallent hwy fod eisiau gwneud hynny pan fyddwn yn gadael yr UE.  

Ddirprwy Lywydd, rydym yn wynebu cyfnod o newid ymddangosiadol gynyddol ar draws y byd. Efallai mai nawr yw'r amser i ni yng Nghymru ymdrechu'n galetach a gweithio gyda'n gilydd i sicrhau bod ein llais yn cael ei glywed yn llawer uwch nag o'r blaen ar y llwyfan rhyngwladol. Rwy'n cymeradwyo'r adroddiad hwn i'r Cynulliad Cenedlaethol, ac edrychaf ymlaen at glywed cyfraniad yr Aelodau eraill heddiw.