Part of the debate – Senedd Cymru am 4:20 pm ar 1 Mai 2019.
Weinidog, yn eich ymateb i'r adroddiad, disgrifiasoch Gymru fel cenedl Ewropeaidd. Nawr, am y rhan fwyaf o'n hanes diweddar, byddai hyn wedi bod yn ddisgrifiad dadleuol o'n gwlad, ac mae'n sicr yn dal i fod yn ddisgrifiad gwleidyddol iawn o'n gwlad. Ar un adeg—mae'n mynd â ni'n ôl, wrth gwrs, at ddyddiau Owain Glyndŵr a'r modd y ceisiai gael llysgenhadon y babaeth a mannau eraill i gydnabod y wladwriaeth y ceisiai ei chreu yn ein gwlad ar y pryd. Ond hefyd, wrth gwrs, oherwydd ei fod yn diffinio Cymru fel cenedl Ewropeaidd heb gyfeirio at wladwriaeth y Deyrnas Unedig yr ydym yn rhan ohoni heddiw. Felly mae'n ddatganiad gwleidyddol iawn, ac mae'n ddatganiad rwy'n ei groesawu wrth gwrs.
Ond mae hefyd yn ddatganiad sy'n sôn am uchelgais llawer uwch a gweledigaeth lawer ehangach. Roedd cyfraniad Mark Reckless yn sôn am yr ymagwedd weithrediadol bron gan Wlad y Basg, ac mae honno'n ymagwedd hollol deg a rhesymol i'w harddel, ac nid wyf yn beirniadu hynny. Ond mae'r uchelgais y credaf sydd gan y Llywodraeth yma mewn golwg, ac y gobeithiaf y bydd yn ei fynegi, yn un sy'n gweld y berthynas weithrediadol honno rhyngom ac eraill fel y blociau y byddwn yn adeiladu arnynt, fel sylfaen ac nid rôl ryngwladol yn ei chyfanrwydd, a'r rôl y dymunwn i Gymru ei chwarae ar y llwyfan rhyngwladol.
Wrth wrando ar y ddadl hon, caf fy atgoffa o'r sgwrs a gawsom gyda llysgennad Seland Newydd yn ystod yr ymweliad â Brwsel. Yno, roedd yn glir dros ben: y cytundebau masnach rhyngwladol y mae Seland Newydd yn ceisio'u gwneud yw'r sail y maent yn ceisio gwneud pethau eraill arni. Yn sicr, mae angen ichi gael yr holl drefniadau ar waith er mwyn masnachu, er mwyn gwneud cytundebau masnachol â gwahanol bartneriaid a sefydliadau, ond ai dyna gyfanswm eich gweledigaeth? Ai dyna'r cyfan y ceisiwch ei gyflawni ar y llwyfan rhyngwladol? Nid oedd hynny'n wir iddynt hwy, a rhaid iddo beidio â bod yn wir i ninnau chwaith. Yr enghraifft a ddefnyddiodd y llysgennad oedd cynaliadwyedd. Efallai ar ôl ein dadl yn ddiweddarach y prynhawn yma, y gallai hwn fod yn rhywbeth y gallem ninnau ei ddefnyddio hefyd i ddiffinio cyfraniad Cymreig i faterion rhyngwladol yn y dyfodol. Mae eraill wedi sôn am y cyfraniad y gallem ei wneud o ran polisi iaith a diwylliant lleiafrifol. Mae hynny'n rhywbeth y mae gan rai ohonom brofiad ohono eisoes, ac rwy'n credu ei fod hefyd yn rhywbeth y gallwn ei wneud. Felly rwy'n gobeithio y bydd gennym yr uchelgais a'r weledigaeth honno.
Ond gadewch imi ddweud hyn hefyd: bydd hynny'n golygu newid diwylliant yn y lle hwn, ac yn enwedig i'r gwrthbleidiau, os caf ddweud. Yn rhy aml, rydym wedi gweld diwylliant gwleidyddol yma lle'r ydym yn cyfrif y ceiniogau ac nid ydym yn deall y weledigaeth. Rwyf am weld Llywodraeth Cymru yn buddsoddi yn y rhwydwaith o swyddfeydd sydd ganddi a'r rhwydwaith o gysylltiadau y mae'n eu datblygu, ac mae hynny'n golygu na allwch fod ar y llwyfan rhyngwladol heb fod yn gorfforol ar y llwyfan rhyngwladol. Felly, yn hytrach na bod y gwrthbleidiau'n treulio amser yn cyflwyno ceisiadau rhyddid gwybodaeth ac yn gofyn am gost teithiau hedfan, efallai y byddai'n well inni fabwysiadu ymagwedd fwy aeddfed, lle'r ydym yn ceisio dwyn y Llywodraeth i gyfrif am yr hyn a gyflawnir ganddi ac nid lle mae'n mynd. A gobeithio y byddai honno'n ymagwedd lawer mwy aeddfed tuag at y ddadl a gawn yn awr.
Wrth gloi, Ddirprwy Lywydd, roeddwn yn ddigon ffodus i fwynhau—gêm gyfartal 1-1 oedd hi yn y diwedd, ac rwy'n credu ein bod wedi bod yn lwcus—Cymru'n chwarae Mecsico yn Pasadena, yn y Rose Bowl, a bydd rhai ohonoch yn gyfarwydd â'r stadiwm, draw yn California y llynedd. Roedd yn ddigwyddiad gwych—80,000 o bobl yn gwylio Cymru yn chwarae pêl-droed. Nid yw'n digwydd yn aml iawn. Nid yw bob amser wedi digwydd yn ystod fy oes, rhaid i mi ddweud. Dyna gyfle inni adeiladu presenoldeb, i greu syniad o beth yw Cymru a'r hyn y gall Cymru fod, a'r rôl y mae Cymru am ei chwarae. Mae gennym gyfle i chwarae rôl gyda'r pŵer meddal y soniwyd amdano eisoes, pŵer nad yw'n eiddo i bawb. Gobeithio y byddwn yn chwarae ac yn ennill Cwpan y Byd yn Japan ymhen ychydig fisoedd. Gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud y gorau o'r effaith y gallwn ei chael o hynny hefyd. Gobeithio y gallwn weld cyfle i chwarae rhan lawn ar y llwyfan rhyngwladol.
Rwyf am orffen gyda'r sylwadau hyn, Ddirprwy Lywydd. Un o'r materion y mae angen i ni eu diffinio—ac mae hyn yn yr adroddiad a hoffwn glywed beth sydd gan y Gweinidog i'w ddweud yn ei hymateb—yw ein perthynas â Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Credaf y gall y berthynas â Llywodraeth y Deyrnas Unedig fod yn berthynas bwerus a chadarnhaol iawn. Rydym yn aml yn beirniadu Llywodraeth y DU yma—ac mae'n debyg fy mod i'n gwneud hynny mwy na'r rhan fwyaf o bobl—ond mae'r rhwydwaith o swyddfeydd a'r ffordd y mae'r Swyddfa Dramor yn gweithio yn arf pwerus iawn inni ei ddefnyddio, a chredaf y dylem weithio'n agos gyda'r Swyddfa Dramor a gweithio gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig i wneud y mwyaf o effaith y rhwydwaith o lysgenadaethau a chonsyliaethau ar draws y byd er mwyn i ni allu sicrhau'r effaith fwyaf a allwn dros Gymru lle bynnag y bôm.