Part of the debate – Senedd Cymru am 4:14 pm ar 1 Mai 2019.
Rwy'n croesawu argymhellion yr adroddiad yn ei gyfanrwydd. Doeddwn i ddim eto wedi ymuno â'r pwyllgor pan oedd yr ymchwiliad yn cael ei gynnal, ond hoffwn glodfori'r darn hwn o waith a'r arweiniad crefftus gafodd ei ddarparu gan y Cadeirydd, David Rees. Ynddo, ceir argymelliadau cynhwysfawr a manwl ynglŷn â pha gamau all gael eu cymryd i gynyddu rôl Cymru ar lefel ryngwladol yn y blynyddoedd nesaf. Mae sicrhau strategaeth o'r fath yma yn bwysicach nag erioed yng nghysgod Brexit. Rwy'n croesawu'r ffaith bod y Llywodraeth wedi derbyn saith o'r argymhellion, ond yn siomedig bod pedwar arall, a gafodd eu llunio'n feddylgar, ond wedi'u derbyn mewn egwyddor. Mae cyd-Aelodau yn y Siambr hon wedi codi pryderon yn y gorffennol am arferiad y Llywodraeth o gytuno mewn egwyddor gydag argymhellion, gan mai effaith hyn mewn gwirionedd yw nad yw'r argymhellion yn cael eu gweithredu.
Mae argymhelliad 5 yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymchwilio gyda'r Undeb Ewropeaidd i'r posibilrwydd y bydd Cymru yn parhau i gymryd rhan yn rhaglenni Ewrop a geir mewn meysydd datganoledig, gan ychwanegu y dylid symud ymlaen â'r gwaith hwn ar frys. Mae ymateb y Llywodraeth yma yn annigonol gan ei bod yn cytuno fod y gwaith angen ei wneud ond ddim eisiau ymrwymo i'w wneud cyn diwedd y flwyddyn. Byddwn yn erfyn ar y Llywodraeth i ailfeddwl ei hymateb i'r argymhelliad hwn a bwrw ymlaen gyda'r gwaith ar fyrder.
Mi wnaf droi nawr i'r ymateb i argymhelliad 8, sy'n galw ar y Llywodraeth i gomisiynu dadansoddiad llinell sylfaen annibynnol o weithrediad swyddfeydd tramor y Llywodraeth. Mae'r Llywodraeth yn dweud ei bod yn rhoi ystyriaeth bellach i'r argymhelliad wrth i'r strategaeth gael ei datblygu. Eto, dylai strategaeth gynhwysfawr fod mewn yn gynt na hynny. Mae bron i dair blynedd wedi pasio ers y refferendwm, a mis ers y dyddiad gwreiddiol gadael.
Mae argymhelliad 7 yn galw ar y Llywodraeth i lunio cynllun gweithredu ar gyfer ymgysylltu â Chymry alltud. Nid yw ymateb y Llywodraeth yn dangos llawr o uchelgais, byddwn i'n dweud, nac yn mynd i fanylder ynglŷn â pha wledydd fyddai'n cael eu blaenoriaethu. Mae'r ymateb yn hytrach yn mynnu bod llawer yn cael ei wneud yn y maes yma eisoes, sy'n wir, ond mae wastad lle i wneud cynnydd, ac mae'n siomedig nad oes gan y Llywodraeth fwy o'r uchelgais yma. Mae ymateb y Llywodraeth hefyd yn dweud na ellir cael one-size-fits-all approach yma. Mae hyn yn bwynt dilys ac rwy'n cytuno y dylid cael cynlluniau amrywiol sy'n plethu gyda'i gilydd yn hytrach na chael dim ond un cynllun statig. Ond, y gwir amdani yw nad yw'r cynlluniau hyn yn bodoli mewn digon o fanylder ar hyn o bryd.
Mae Cymry alltud yn cyfrannu cymaint i'n cenedl gan adeiladu pontydd gyda phobl sy'n ein cynrychioli ni ar lefel fyd-eang. Dylai'r Llywodraeth gynnig gweledigaeth bendant o ran datblygu'r berthynas hynny gyda Chymry dramor yn hytrach na geiriau cynnes yn unig. Mae Brexit yn gwneud hyn i gyd yn fater brys. Mae angen gweithredu pendant ac uchelgeisiol yn awr yn hytrach na llusgo traed. A wnaiff y Llywodraeth, felly, ymrwymo i lunio cynllun manwl i adeiladu pontydd gyda Chymry alltud?
Byddwn i hefyd yn hoffi gwybod beth yw'r newyddion diweddaraf o ran strategaeth ryngwladol y Llywodraeth, Global Wales. Mae nam gyda gwefan newydd y Llywodraeth yn golygu ei bod yn amhosib darganfod manylion am y gwaith hwn ar y we. Mae'n eironig—eithaf Kafkaesque mewn ffordd—ei bod hi'n amhosib canfod gwybodaeth am y strategaeth sy'n ceisio edrych allan tuag at y byd. Gaf i ofyn lle mae'r Llywodraeth wedi cyrraedd gyda'r gwaith? Beth yw'r amserlen ar ei gyfer? Pa egwyddorion fydd yn gyrru'r gwaith, a beth fydd y cylch gorchwyl? Yn olaf, pryd gallwn ddisgwyl i ddatganiad gael ei wneud gan y Gweinidog yn y Siambr i roi diweddariad i Aelodau?
Mae'n hen bryd i Gymru gymryd ei lle yn y byd fel gwlad falch, fodern sy'n edrych tua'r dyfodol. Dylsem adeiladu pontydd gyda gwladwriaethau eraill, a'r rhai di-wladwriaeth fel Catalwnia, er mwyn gosod sylfeini economaidd a diwylliannol y gallem adeiladu arnynt wrth i'n cenedl deithio ar y llwybr tuag at hunanreolaeth lawn. Mae gan Gymru ddyfodol ddisglair, ond mae'n rhaid i ni ei adeiladu. Diolch.