Part of the debate – Senedd Cymru am 4:31 pm ar 1 Mai 2019.
Roeddwn i bron â thynnu fy enw yn ôl o’r ddadl yma ar ôl clywed David Melding yn sôn am Goronwy Owen a minnau ddim yn cynllunio araith am Goronwy Owen, ond ddywedwn ni fy mod i wedi bwriadu gwneud ond bod yna ddim pwrpas gwneud bellach gan fod David Melding wedi gwneud yn barod. [Chwerthin.]
Gwnaf i siarad yn fyr fel cadeirydd ac un o sylfaenwyr grŵp trawsbleidiol Cymru ryngwladol. Mi roeddwn i—a grŵp ydy o, i’r rhai ohonoch chi sydd ddim wedi bod yn ymwneud ag o hyd yma, sydd yn fforwm i drafod lle Cymru yn y byd mewn sawl gwahanol ffordd. Mae ein trafodaethau ni o fewn y grŵp hwnnw wedi amrywio o ddefnydd ieithoedd tramor yng Nghymru i’r diaspora, i bŵer meddal—yr holl bethau yma rŷn ni wedi'u clywed yn cael eu trafod heddiw. Roeddwn i’n cefnogi ac yn eiddgar iawn i weld y grŵp trawsbleidiol yn cael ei sefydlu oherwydd fy mod i yn rhyngwladolwr sydd yn credu yn daer yn y budd a ddaw i Gymru, fel cenedl fach falch, o chwarae ei rhan mor llawn â phosib mewn cymaint o rwydweithiau rhyngwladol â phosib.
Wrth wneud sylwadau ar yr adroddiad yma, a gaf i ddiolch i’r pwyllgor nad ydw i ddim yn rhan ohono fo am eu gwaith yn rhoi’r adroddiad pwysig yma at ei gilydd? Gwnaf i ddim treulio amser yn trafod y swmp yn yr adroddiad o ran y berthynas rhwng Cymru ac Ewrop yn y blynyddoedd i ddod—o fy meinciau i mae Delyth Jewell wedi ymwneud â’r mater hwnnw, ond, wrth gwrs, mae eraill wedi cyfrannu ar y dewisiadau pwysig fydd angen eu gwneud yn y blynyddoedd nesaf yn sgil y newid sydd ar y ffordd yn ein perthynas ni efo Ewrop, mae’n ymddangos. Yr oll ddywedaf i ydy fy mod i’n credu, eto fel rhyngwladolwr, yn yr angen, beth bynnag a ddaw, i godi pontydd ac i gryfhau’r berthynas rhwng Cymru a gwledydd ar draws yr Undeb Ewropeaidd.
Dwi am wneud ychydig o sylwadau am bennod 2 a phennod 4. Pennod 2 o’r adroddiad sy’n ymwneud â’r angen, yn ôl y pwyllgor, am strategaeth newydd o ran ein cysylltiadau rhyngwladol ni. Dwi’n cyd-fynd yn llwyr â’r argymhelliad gan y pwyllgor am yr angen ar gyfer strategaeth o’r math yna. Dwi’n croesawu’n fawr fod y Llywodraeth yma bellach wedi penodi Gweinidog sydd yn gyfrifol am gysylltiadau rhyngwladol, ac yn falch iawn bod hynny wedi digwydd, wrth gwrs, ar ôl galwadau gan fy nghyd-Aelod i Steffan Lewis yn fan hyn dros gyfnod mor hir. Ond dydy cael y Gweinidog ynddi’i hun ddim yn ddigon; mae angen bod yn glir beth ydy swyddogaeth y Gweinidog. Ac er mwyn bod yn glir beth ydy swyddogaeth y Gweinidog, mae angen strategaeth glir iawn ynglŷn â’r mathau o ffyrdd y gellid mynd ati i ddatblygu ac adeiladu ar y perthnasau sydd gan Gymru yn rhyngwladol yn barod, ac yn wir i ganfod perthnasau newydd.
Yna ymlaen at bennod 4, ac mae hwn yn rhywbeth sy’n golygu cymaint i fi: y syniad o ddefnyddio ein cyfeillgarwch rhyngwladol, ein pŵer meddal, pŵer cymell ar lefel rhyngwladol, ac wrth gwrs i adeiladu ar y berthynas uniongyrchol sydd gennym ni efo unigolion ym mhob rhan o'r byd drwy'r diaspora Cymreig. Mi soniaf i am Undeb Cymru a'r Byd a datgan budd: mi oedd fy nhad yn gadeirydd Undeb Cymru a'r Byd am flynyddoedd. Mae'n fudiad sydd yn dal yn gryf heddiw ond a gafodd ei sefydlu yn ôl yn yr 1940au pan oedd T. Elwyn Griffiths yn y lluoedd arfog yng Nghairo yn yr Aifft, ac mi sylweddolodd o bryd hynny fod gan yr Alban lawer mwy o gyrff a chefnogaeth i'w diaspora nhw. Doedd yna ddim byd Cymreig. Felly, mi sefydlodd o'r undeb yma er mwyn tynnu Cymry alltud at ei gilydd yn yr Aifft i ddechrau efo hi, sefydlu cylchgrawn Seren y Dwyrain a ffeindio problem oherwydd bod y llythyren 'y' yn cael ei defnyddio gymaint yn y Gymraeg—mwy nag ieithoedd eraill—a methu cael digon o'r llythyren 'y' yn y wasg yng Nghairo. Ond, beth bynnag, dyna oedd dechrau creu rhwydweithiau ffurfiol i glymu Cymry dramor, a dwi'n falch, fel dwi'n dweud, fod hwnnw'n fudiad sydd yn dal i fynd. Ond, wrth gwrs, mae yna fudiadau newydd wedi cychwyn. Mae Global Welsh yn un sy'n werth ei grybwyll, yn un dwi wedi bod yn ymwneud ag o, sydd yn creu rhwydweithiau modern mewn busnes, ymhlith unigolion ar draws y byd. Fy apêl i yn fan hyn fyddai ar y Llywodraeth i fanteisio ar, i ddefnyddio, i fuddsoddi mewn, ac i adeiladu ar y mudiadau sydd yn bodoli'n barod ac sydd wedi bod yn adeiladu eu cysylltiadau nhw dros flynyddoedd mawr.
Dydy Cymru ddim yn wlad fawr, ond mae'n wlad sydd ag iddi gyfeillion ar draws y byd a chysylltiadau drwy chwaraeon, drwy gelfyddyd, drwy gerddoriaeth, drwy fwyd, drwy ein cydwybod genedlaethol. Mi hoffwn i symud tuag at gael cronfa ddyngarol Gymreig benodol yn y blynyddoedd i ddod. Mae hwnna'n rhywbeth allai ddod â budd i ni hefyd. Mae hi'n wlad wastad sydd wedi ymestyn y tu hwnt i'w ffiniau, drwy Goronwy Owen ac eraill, ac mae yna gyfle rŵan, drwy fod gennym ni'n Senedd ein hunain a rŵan Gweinidog cysylltiadau rhyngwladol i fynd i lefydd nad ydyn ni ddim wedi bod o'r blaen. Dwi'n sicr y bydd gennych chi, o gael eich strategaeth yn iawn, gefnogaeth y Cynulliad yma wrth inni chwilio am gyfeillion newydd ar hyd a lled y byd.