– Senedd Cymru am 3:26 pm ar 7 Mai 2019.
Eitem 4 ar yr agenda y prynhawn yma yw'r ddadl ar fynd i'r afael â hiliaeth ac anghydraddoldeb hiliol, ac rwy'n galw ar y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip i gynnig y cynnig—Jane Hutt.
Cynnig NDM7041 Rebecca Evans, Darren Millar, Rhun ap Iorwerth
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cefnogi:
a) yn galonnog y frwydr fyd-eang i ddiwreiddio hiliaeth ac ideoleg hiliol ac yn ymdrechu tuag at Gymru fwy cyfartal, gan fynd i'r afael ag anghydraddoldeb hiliol o bob math; a
b) egwyddorion Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Ddiddymu Pob Math o Wahaniaethu ar sail Hil.
2. Yn galw ar Gomisiwn y Cynulliad ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru i hwyluso'r gwaith o lunio datganiad trawsbleidiol, yn crynhoi egwyddorion Diddymu Pob Math o Wahaniaethu ar sail Hil mewn ymgynghoriad â'r unigolion a'r sefydliadau mwyaf priodol.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. A hithau'n ugain mlynedd ers sefydlu'r Cynulliad, rwy'n falch o agor y ddadl hon i fynd i'r afael â hiliaeth, i gael gwared ar ideoleg hiliol ac i adolygu ein hymrwymiad i Gonfensiwn Rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig ar Ddileu Pob Math o Wahaniaethu Hiliol. Rwy'n diolch i Blaid Cymru ac i'r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno cynnig ar y cyd i'n huno heddiw yn yr ymrwymiadau y byddwn ni'n eu gwneud o ganlyniad i'r ddadl hon.
Bu farw 50 o bobl yn yr ymosodiadau terfysgol yn Christchurch ar 15 Mawrth a 250 arall yn Sri Lanka ar 21 Ebrill 2019. Ar 27 Ebrill 2019, ar ddiwrnod olaf y Pasg Iddewig, o ganlyniad i'r saethu mewn synagog ar gyrion San Diego bu farw un ddynes ac anafwyd tri arall. Digwyddodd y saethu yn union chwe mis ar ôl saethu mewn synagog yn Pittsburgh, lle lladdwyd 11 o bobl yn yr ymosodiad a laddodd y mwyaf o Iddewon yn hanes UDA. Bu'r ymateb byd-eang i'r ymosodiadau terfysgol hyn yn rymus ac yn ysbrydoliaeth. Yn sgil ymosodiad Seland Newydd, galwodd y Prif Weinidog Jacinda Ardern am ymdrech fyd-eang i gael gwared ar hiliaeth a rhagfarn. Mae ei datganiad angerddol,
Ni ydyn nhw. Nid felly'r sawl sydd wedi parhau â'r trais hwn yn ein herbyn, yn rhoi rheidrwydd ar bob un ohonom ni i edrych arnom ni ein hunain a'n cyfrifoldebau yn bersonol ac yn wleidyddol. Dywedodd os ydym ni eisiau gwneud yn siŵr yn fyd-eang ein bod yn fyd diogel, goddefgar a chynhwysol, yna ni allwn ni feddwl yn nhermau ffiniau cenedlaethol. Dywedodd fod yn rhaid i ni gael gwared ar hiliaeth lle mae'n bodoli a gwneud yn siŵr nad ydym ni byth yn creu amgylchedd lle gall ffynnu. Heddiw, mae gennym ni gyfle i ategu'r galwadau am gytgord, heddwch a chyfiawnder hiliol. Rhaid inni gondemnio'n gyhoeddus, hiliaeth, Islamoffobia, Affroffobia a gwrth-Semitiaeth lle bynnag y mae'n digwydd, a rhaid inni wneud mwy i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau hiliol sy'n bodoli yn ein gwlad ein hunain. Gwyddom fod hynny'n golygu bod yn rhaid inni weithredu yma yng Nghymru.
Rydym ni eisoes wedi gwneud cynnydd mawr. Hanner can mlynedd yn ôl eleni ar 7 Mawrth 1969, cadarnhaodd Llywodraeth y DU y Confensiwn Rhyngwladol ar Ddileu Pob Math o Wahaniaethu Hiliol, gan ymrwymo i gondemnio a chael gwared ar bob math o wahaniaethu ar sail hil, ac i wneud gweithredoedd o drais neu gymell trais yn erbyn pobl o grwpiau lleiafrifoedd ethnig yn drosedd. Mae gennym ni bellach ddeddfwriaeth sy'n adlewyrchu safonau'r Confensiwn, gan wahardd gwahaniaethu ar sail hil yn y gwaith ac wrth ddarparu gwasanaethau megis gofal iechyd, tai, cyflogaeth ac addysg. Mae'n rhaid inni sicrhau bod y ddeddfwriaeth honno'n gweithio'n effeithiol yma yng Nghymru. Yng Nghymru, ystyrir bod y systemau sydd gennym ni ar gyfer mynd i'r afael â throseddau casineb a chynorthwyo dioddefwyr gyda'r gorau yn y byd. Mae'n rhaid i gyrff cyhoeddus yng Nghymru ymrwymo i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, lle mae dyletswydd arnyn nhw i hyrwyddo cyfle cyfartal a meithrin cysylltiadau da rhwng grwpiau mewn cymdeithas.
Roedd yr ail ar hugain o Ebrill, Dirprwy Lywydd, yn nodi chwe blynedd ar hugain ers marwolaeth Stephen Lawrence a diwrnod cenedlaethol cyntaf Stephen Lawrence. Dathlwyd ei fywyd a chyflawniadau ei deulu, sydd wedi creu gwaddol pwysig i'w ddiogelu ac i adeiladu arno. Y llynedd, yma yn y Senedd, buom yn gweithio gyda phobl hŷn cymuned Windrush o Gyngor Hil Cymru i ddathlu cyfraniad cenhedlaeth Windrush i fywyd Prydain a Chymru. Roedd hwnnw'n ddigwyddiad mor rymus, teimladwy a llawen fel y byddwn ni'n cynnal digwyddiadau tebyg ledled Cymru, wedi'u hariannu gan Lywodraeth Cymru eleni, ac, rwy'n gobeithio, am flynyddoedd i ddod.
Gadewch inni fod yn gwbl sicr, mae hiliaeth bob dydd, hiliaeth strwythurol a throseddau hiliol yn dal i gael effaith ddofn ar fywydau a chanlyniadau bywyd pobl yng Nghymru. Mae hi'n annerbyniol bod llawer o bobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn y wlad hon wedi dod i'r casgliad bod angen iddyn nhw oddef hiliaeth bob dydd. Yn 2017, dangosodd arolwg agweddau cymdeithasol Prydain fod chwarter y bobl wedi cyfaddef eu bod fymryn yn rhagfarnllyd, neu'n rhagfarnllyd iawn, tuag at bobl o hil arall. Mae hiliaeth strwythurol a sefydliadol yn real iawn hefyd. Rydym ni'n gwybod fod hyn yn wir hefyd, oherwydd y bylchau cyflog sy'n bodoli a phrinder pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig mewn swyddi uwch reoli neu arweinyddiaeth.
Yn yr un modd, ceir tystiolaeth sylweddol bod llawer o'n plant a'n pobl ifanc du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn cael eu bwlio'n hiliol mewn ysgolion. Bydd rhai ohonom ni wedi clywed y straeon yn uniongyrchol. Mae Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth wedi cael effaith fawr mewn ysgolion. Mae eu staff ymroddedig a phrofiadol yn cynnal gweithdai gyda phlant a phobl ifanc, er mwyn amlygu'r materion a newid agweddau.
Mae Islamoffobia a gwrth-Semitiaeth hefyd yn faterion real iawn yng Nghymru heddiw, gyda grwpiau eithafol yn sbarduno casineb a lledaenu celwydd. Rhaid inni dorchi llewys drachefn yng Nghymru, fel y gallwn ni sicrhau dyfodol mwy heddychlon a mwy cynhwysol, yn enwedig yng nghyd-destun Brexit. Dyna pam, er enghraifft, ein bod ni'n buddsoddi £2.4 miliwn i ehangu ein rhaglen cydlyniant cymunedol rhanbarthol, er mwyn adnabod a lliniaru tensiynau cymunedol.
Mae sawl her arall yn ein hwynebu, ond nid ydym yn dechrau o'r dechrau. Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, rydym ni wedi bod yn gweithio gyda chymunedau duon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig ledled Cymru drwy ein rhaglen ymgysylltu Cymru gyfan ar gyfer pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, sy'n cael ei rhedeg gan Y Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig, yn ogystal â thrwy Fforwm Hil Cymru. Mae'r rhaglen ymgysylltu wedi rhoi argymhellion inni ar gyfer gweithredu i fynd i'r afael â hiliaeth a'r anghydraddoldebau sy'n deillio o hynny. Fe allwn ni wneud rhywbeth am hyn.
Themâu'r rhaglen yw cynrychioli pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig mewn bywyd cyhoeddus a gwleidyddol fel thema allweddol—sydd eisoes yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, ac i mi'n bersonol. Rwy'n cydnabod bod hyn yn hanfodol i bopeth arall sydd arnom ni eisiau ei wneud. Nid yw hyn yn ymwneud â symboleiddiaeth na chyflawni rhifau. Mae angen cynrychiolaeth amrywiol ar Gymru o grwpiau lleiafrifoedd ethnig, menywod a phobl â nodweddion gwarchodedig eraill yn ein prif swyddi rheoli ac yn ein gwleidyddiaeth. Mae angen i ni newid prosesau a diwylliant sefydliadau. Ni fyddwn yn llwyddo nes bod gennym ni leisiau newydd a safbwyntiau newydd yn ein cyrff cyhoeddus Cymreig, yn siambrau'r cynghorau, ystafelloedd bwrdd ac ar y byrddau uchaf, ac wrth gwrs yn y Siambr hon.
O ran yr ail thema, cyflogaeth ac anghydraddoldeb cymdeithasol-economaidd, ceir amrywiaeth rhwng ac o fewn gwahanol leiafrifoedd ethnig, ond mae'r darlun cyffredinol yn ddigon clir: mae pobl o gefndiroedd ethnig amrywiol yn wynebu rhwystrau ychwanegol yn gyson ym marchnad lafur Cymru.
Ac yn drydydd, mae'r rhaglen ymgysylltu â phobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig wedi gwneud 13 o argymhellion pellgyrhaeddol ynglŷn â mynd i'r afael ag anghydraddoldeb hiliol mewn ysgolion. Rwyf i a'r Gweinidog Addysg yn benderfynol o fynd ati i roi sylw i bob math o anghydraddoldeb hiliol mewn ysgolion a gwella canlyniadau. Mae hynny'n hanfodol fel bod y genhedlaeth nesaf yn cyflawni hyd ei heithaf ac yn dod yn ddinasyddion Cymru a'r byd sy'n ymwybodol o hil, sy'n hyddysg a moesegol, ac sy'n barod i fod yn ddinasyddion Cymru a'r byd. Rhaid inni fanteisio ar y cyfleoedd pwysig sydd gennym ni drwy'r cwricwlwm newydd, ein canllawiau gwrth-fwlio, a'n buddsoddiad mewn dysgu proffesiynol ar gyfer gweithlu'r ysgolion.
Yn olaf, ond nid yn lleiaf, nid yw mynd i'r afael â digwyddiadau hiliol, troseddau casineb, a hiliaeth strwythurol wedi bod yn fwy o frys nag yw ar hyn o bryd: mae 68 y cant o'r holl droseddau casineb yn cael eu cymell oherwydd hil. Ac ni allwn ni fforddio chwaith anwybyddu effaith eithafiaeth asgell dde yng Nghymru. Efallai fod y niferoedd yn fach, ond gall gweithgareddau grwpiau o'r fath, ar-lein ac yn lleol, gael effaith anghymesur ar ein cymunedau, ac maen nhw'n warth ar ein cymdeithas yn gyffredinol.
Felly, yn olaf, wrth agor y ddadl hon, rhaid inni barhau i adeiladu cymdeithas gref ac amrywiol, lle mae pobl o bob hil, ffydd a lliw yn cael eu gwerthfawrogi am eu cymeriad a'u gweithredoedd. Rydym ni eisiau creu gwlad heddychlon a chytûn lle gall ein plant a chenedlaethau'r dyfodol ffynnu. Mae'n hanfodol bod annog pobl i roi gwybod am droseddau, cynorthwyo dioddefwyr, dwyn tramgwyddwyr i gyfrif, yn parhau i fod yn flaenoriaethau pwysig. Ugain mlynedd ers datganoli, mae'n rhaid inni wneud hyn yn ymrwymiad o'r newydd i Lywodraeth Cymru a'r Cynulliad hwn, ac edrychaf ymlaen at y ddadl hon.
Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Ddileu Pob Math o Wahaniaethu Hiliol yn gytundeb rhyngwladol a fabwysiadwyd ym 1965 gan Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig. Mae'r Confensiwn yn cwmpasu hawliau pob unigolyn i fwynhau hawliau sifil, gwleidyddol, economaidd a chymdeithasol heb wahaniaethu ar sail hil, lliw, disgyniad neu darddiad cenedlaethol neu ethnig. Cadarnhaodd y DU hyn ym 1969, 50 mlynedd yn ôl.
Diffinnir trosedd casineb fel trosedd y mae'r dioddefwr yn ystyried ei fod wedi ei gymell gan elyniaeth tuag at ei hil, crefydd, cyfeiriadedd rhywiol, anabledd neu hunaniaeth drawsryweddol. Gall gynnwys cam-drin geiriol, codi ofn, bygwth, aflonyddu, ymosod a bwlio, yn ogystal â difrod i eiddo. Er bod profiad pobl o droseddau casineb, y ceir cipolwg arnyn nhw yn arolwg troseddu Cymru a Lloegr, wedi gostwng yn gyson dros y degawd diwethaf, mae troseddau casineb a gofnodwyd gan yr heddlu yng Nghymru a Lloegr wedi mwy na dyblu ers 2012-13, pan gofnodwyd 42,255 o droseddau o'r fath. Yn rhannol, mae hyn o ganlyniad i welliannau a wnaed gan yr heddlu o ran nodi a chofnodi troseddau ac, yn rhannol, oherwydd bod mwy o bobl yn rhoi gwybod am y rhain. Fodd bynnag, bu achosion o gynnydd hefyd mewn troseddau casineb.
Wrth siarad yn y digwyddiad Dathlu Diwrnod Integreiddio Rhyngwladol fis Hydref diwethaf yn y Deml Heddwch, a drefnwyd gan NWAMI, Cymdeithas Integreiddio Amlddiwylliannol Gogledd Cymru, cyfeiriais at Integreiddio drwy gyfrwng Cerddoriaeth a Chelf, sef digwyddiad wedi ei drefnu gan y Cynulliad a gynhaliais fis Mai diwethaf gydag NWAMI a chyda KIRAN o Gwmbrân, y rhwydwaith cysylltiadau rhyng-Gymunedol seiliedig ar wybodaeth. Yn rhinwedd fy swyddogaeth yn Llywydd Anrhydeddus NWAMI, rwyf wedi gweithio gyda'r mudiad ers blynyddoedd lawer. Mae NWAMI yn ymrwymedig i adeiladu cymuned gydlynol a chymdeithas integredig yng Nghymru yn yr unfed ganrif ar hugain, ac i gyflawni hyn drwy hybu dealltwriaeth a pharch tuag at amrywiol ddiwylliannau'r wlad hon, drwy ymgysylltu a rhyngweithio diwylliannol, addysg a hyfforddiant, trefnu perfformiadau diwylliannol ar ffurf cerddoriaeth, dawns a ffurfiau celfyddydol eraill, yn ogystal â gweithgareddau yn cynnwys sesiynau siaradwyr a gweithdai.
Yn y de, nod KIRAN, sydd wedi ei leoli yng Nghwmbrân, yw hyrwyddo addysg a chodi ymwybyddiaeth o wahanol grwpiau hiliol a gwahanol leoliadau cymdeithasol a diwylliannol.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Wrth gwrs.
Rydych chi'n disgrifio gwaith da iawn ar ran rhai sefydliadau gwirioneddol dda yng Nghymru. Ond a ydych chi'n derbyn fod eu gwaith yn llawer anoddach pan fo gwleidyddion, fel Boris Johnson o'ch plaid chi, yn cyfeirio at fenywod Mwslimaidd fel blychau llythyrau, er enghraifft?
Nid wyf yn mynd i wneud sylwadau am sylwadau pleidiol digyswllt, gan fy mod i eisiau i hon fod yn ddadl unedig gyda neges unedig. Rwy'n hapus os ydym ni eisiau cael dadl bleidiol ar faterion i gymryd rhan ynddi ar y sail honno ond nid y ddadl hon.
Yn y de, mae KIRAN eisiau hyrwyddo gwybodaeth a chyd-ddealltwriaeth rhwng gwahanol grwpiau hil a chynhyrchu gweithgareddau i feithrin dealltwriaeth rhwng pobl o gefndiroedd amrywiol gyda'r amcan o annog goddefgarwch o amrywiaeth gymdeithasol a hwyluso ymgysylltu ystyrlon rhwng aelodau o wahanol gymunedau.
Fis Mai diwethaf, cefais gyfarfod yn y Cynulliad gyda Chyngor Ffoaduriaid Cymru, Cymdeithas Integreiddio Amlddiwylliannol Gogledd Cymru a'r gwasanaeth cymorth personol CAIS, i drafod sut y gallwn ni gydweithio i chwalu rhwystrau a chynyddu dealltwriaeth o ddiwylliannau ein gilydd. Mae'n rhaid inni gydnabod y gwaith hanfodol sy'n cael ei wneud gan fudiadau rheng flaen yn y gymuned a'r trydydd sector i hybu integreiddio amlddiwylliannol yng Nghymru.
Fel y dywedodd Cadeirydd a sylfaenydd NWAMI, Dr Sibani Roy,
Mae rhai o'r bobl yn meddwl, wrth sôn am integreiddio, eich bod yn golygu cymathu. Rhaid inni egluro wrth bobl nad cymathu yw integreiddio. Mae'n rhaid i ni barchu cyfraith a diwylliant y wlad.
Ychwanegodd:
Yr hyn sydd angen i ni ei wneud yw addysgu pobl a dweud, "Rydym ni i gyd yn fodau dynol, rydym ni'n gyfeillgar ac fe ddylem ni geisio deall diwylliannau ein gilydd." Pan fyddan nhw'n dysgu am ddiwylliannau eraill, yna mae'n bosib y byddan nhw'n datblygu cyfeillgarwch. Bydd newid yn digwydd yn araf, ond nid llygad am lygad yw'r ffordd i newid pobl. Drwy siarad â phobl ac addysgu pobl, yn y pen draw drwy eu hargyhoeddi nad yw bodau dynol yn ddrwg i gyd.
Dywedodd hi:
Does dim ots. Mae a wnelo hyn ag unigolion a dyna'r hyn yr wyf wedi ei gredu fy hun erioed, ein bod yn trin pobl fel unigolion. Does dim ots beth yw'r cefndir, eu ffydd na'u lliw.
O ran Brexit, pan bleidleisiodd pobl i adael yr UE, roedden nhw'n pleidleisio dros reoli ac nid eithafiaeth. Fodd bynnag, fel y cyfeiriodd y Gweinidog ato, mae rhai eithafwyr wedi ceisio herwgipio Brexit at eu dibenion annymunol eu hunain. Ond ar yr adeg dyngedfennol hon mae'n rhaid i ni gofio nad yw hyn ynglŷn â Brexit meddal na Brexit caled, ond Brexit agored sy'n sicrhau bod y DU yn dod yn eangfrydig a'i bod yn ymgysylltu mwy â'r byd nag erioed o'r blaen. Rhaid i ni adeiladu cymdeithas gymunedol ac integredig gydlynus yng Nghymru yn y ganrif hon. Er mwyn cyflawni hyn, mae angen i ni hybu dealltwriaeth a pharch o ddiwylliannau amrywiol Cymru drwy ymgysylltu a rhyngweithio diwylliannol, addysg a hyfforddiant. Rydym ni felly'n cefnogi'r alwad am ddatganiad trawsbleidiol yng Nghymru sy'n ymgorffori egwyddorion Confensiwn Rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig ar Ddileu Pob Math o Wahaniaethu Hiliol, ac, fel y dywedais sawl gwaith, mae hyn yn ymwneud â dathlu ein hamrywiaeth odidog gyda'n gilydd. Diolch yn fawr.
Caiff fy nghymuned ei chyfoethogi gan bresenoldeb amrywiaeth gyfoethog o genhedloedd, crefyddau a diwylliannau, ac rwy'n gwerthfawrogi'r gwaith sylweddol y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud i hybu cytgord hiliol yn ein cymunedau drwy'r de a mynd i'r afael ag anghydraddoldeb hiliol.
Ym maes addysg, er enghraifft, gallwn weld y gwahaniaethau gwirioneddol a gafwyd pan fo canlyniadau addysgol gwahanol grwpiau ethnig wedi cael eu dileu bron o ran gwahaniaethau. Os rhywbeth, mae lleiafrifoedd ethnig bellach yn gwneud yn well na'n cymuned wen frodorol. Yr eithriad, wrth gwrs, yw'r gymuned Roma, Sipsiwn a Theithwyr y mae ei chyrhaeddiad a'i chymwysterau yn amrywio'n fawr iawn o'u cymharu â'r cyfartaledd, ac mae llawer o waith eto i'w wneud i fynd i'r afael â hynny.
Rwyf hefyd yn ymwybodol o waith rhagorol sy'n cael ei wneud mewn ysgolion i hybu cydlyniant cymunedol, ac mae'r Gweinidog eisoes wedi sôn am y gwaith gwych sy'n cael ei wneud gan Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth, mewn ysgolion ac ar y terasau. Rwyf wedi sylwi ar ymateb llawer mwy cadarn o ran rhoi terfyn ar iaith hiliol yn yr ysgolion yr wyf yn ymwneud â nhw, yn ogystal â'r rhan fwyaf o ysgolion, gobeithio. Bellach ymdrinnir â sylwadau a gai eu hanwybyddu neu eu diystyru yn flaenorol ac eir i'r afael â nhw. Mae troseddwyr mynych yn destun gweithdrefnau disgyblu, gan gynnwys gwahardd, a hynny'n gwbl briodol.
Yn anffodus, mae hyn yn erbyn cynnydd cyson o ddigwyddiadau hiliol y tu allan i'r ysgol. Mae dadansoddiad diweddar gan Cytûn yn cyfeirio at gynnydd o 40 y cant mewn troseddau casineb crefyddol, sydd wedi dyblu dros dair blynedd. Cymunedau Islamaidd yw'r rhai a dargedwyd fwyaf, ac wedyn cymunedau Iddewig. A dylai cynnydd yr asgell dde eithafol fod yn destun pryder i ni i gyd. Mae bron i ddwy flynedd wedi mynd heibio ers i un o'm hetholwyr fy hun gyflawni trosedd alaethus, drwy yrru yr holl ffordd i Lundain er mwyn anelu ei gerbyd at addolwyr diniwed wrth iddyn nhw ymgynnull y tu allan i'w man addoli. Nid oedd y dyn hwn erioed wedi cwrdd ag unrhyw un o'r bobl hyn, nac yn gwybod dim amdanyn nhw. Dylanwadwyd ar ei weithredoedd, dywedodd ei gyn-gymar yn y llys, gan y negeseuon casineb a ddarllenodd ar-lein gan Stephen Yaxley-Lennon a phobl eraill ar yr adain dde eithafol. Mae'r ymosodiadau ar addolwyr yn Christchurch yn Seland Newydd ym mis Mawrth yn ein hatgoffa nad dim ond problem yw hon a achosir gan ddyn penodol sydd bellach ar gyflogres UKIP. Mae'r cyfryngau cymdeithasol wedi caniatáu i'r adain dde eithafol ddatblygu amlygrwydd byd-eang. Mae'n amlwg bod llawer o waith i'w wneud gan ein cyd-Aelodau yn San Steffan i sicrhau bod y rhai sy'n hwyluso lledaenu'r negeseuon hyn yn atebol am eu cyhoeddi drwy roi eu caniatâd.
Yng ngoleuni'r digwyddiadau yn Seland Newydd, nid deufis yn ôl hyd yn oed, rwy'n pryderu ynghylch arafwch ymateb y Swyddfa Gartref, oherwydd maen nhw wedi bod yn araf iawn yn cyflwyno'r cyllid i gryfhau diogelwch mewn addoldai Islamaidd. Cafwyd cyhoeddiad o'r diwedd ar ddydd Gwener y Groglith, ond nid oedd ond yn gofyn i bobl fynegi diddordeb, ac ni fydd unrhyw arian ar gael mewn gwirionedd i wneud unrhyw beth tan fis Gorffennaf, ac, wrth gwrs, bydd yn rhaid iddyn nhw brosesu'r ceisiadau cyn iddyn nhw fynd ati mewn gwirionedd i benderfynu pwy sy'n mynd i gael beth. Gobeithio nad ailadroddiad fydd hyn o'r hyn a ddigwyddodd yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, er nad oedd unrhyw fan addoli yng Nghymru, yn ôl a ddeallaf, yn cael y cyllid hwn gan y Swyddfa Gartref, ac mae hynny'n destun pryder sylweddol.
Ond o ran y mater ehangach, hoffwn fynegi rhai pryderon ynghylch y ffordd yr ydym ni'n ymdrin ag agwedd arall ar gynnydd mewn troseddu, sy'n ymwneud â stopio a chwilio. Mewn ymateb i gynnydd mewn troseddu â chyllyll—a oedd, ar un adeg, yn fy marn i, yn broblem Lundeinig yn bennaf, ond sydd bellach wedi lledu, yn anffodus, i'r rhan fwyaf o ddinasoedd mawr eraill ledled y DU—ym mis Mawrth eleni, cynyddodd Mr Javid, yr Ysgrifennydd Cartref, bwerau'r heddlu i stopio a chwilio, a gradd swydd y rhai sy'n gallu gwneud hynny. Mae'n destun pryder sylweddol dweud bod y cynnydd hwn mewn stopio a chwilio hefyd wedi arwain at gynnydd yn y nifer o bobl o hiliau lleiafrifol sy'n cael eu targedu. Mae pobl dduon bellach saith gwaith yn fwy tebygol o gael eu stopio a'u chwilio na phobl wyn yn y de, a dim ond yn y flwyddyn ddiwethaf y mae hynny, pryd y mae wedi cynyddu i fod yn 4.5 y cant yn fwy tebygol. Ac rwy'n credu bod angen inni oedi ennyd a myfyrio, ar ôl dysgu popeth yr ydym ni wedi'i ddysgu o adroddiad Stephen Lawrence am y ffordd yr oedd pobl dduon yn cael eu stopio a'u chwilio'n amhriodol a bod hynny'n atal y gymuned ddu rhag dod ymlaen. Mae'n rhaid inni sicrhau nawr na wneir hynny mewn ffordd sy'n gwahaniaethu yn erbyn cymuned benodol. Nid yw hyn wedi'i ddatganoli ond mae'n fater y gobeithiaf y gall y Dirprwy Weinidog ei drafod gyda'r Swyddfa Gartref.
Mae'n anodd gweld sut y gallai unrhyw un anghytuno ag ail ran y cynnig hwn, sef bod angen inni ddileu gwahaniaethu ar sail hil yn ein cymdeithas. I mi, mae hynny'n eithaf amlwg. Ar wahân i leisiau ynysig ar yr adain dde eithafol, ychydig fyddai'n dadlau y gallai rhywun fod yn llai teilwng oherwydd lliw eu croen, er gwaethaf y ffaith bod llawer o bobl yn sicr yn coleddu'r farn honno'n breifat. Ond dyma'n union pam mae'n rhaid i ni roi systemau ar waith sy'n herio hiliaeth a gwahaniaethu strwythurol yn uniongyrchol. Nid yw atal pobl rhag siarad o blaid hiliaeth yn ddigon. Atal pobl rhag gweithredu arno yw'r hyn sy'n hanfodol. Dyna pam ei bod hi'n hanfodol, yn fy marn i, i bob un ohonom ni fod yn rhan o'r hyn y mae'r cynnig hwn yn ei alw'n frwydr fyd-eang i gael gwared ar hiliaeth ac ideoleg hiliol.
Gwyddom fod yr adain dde eithafol ar gynnydd, ac mae'n rhaid inni, ar raddfa fyd-eang, herio'r sarhau a'r sylwadau rhagfarnllyd sy'n gwenwyno ein dadl wleidyddol ac yn achosi niwed i bobl. Ond nid yw herio hyn ond yn ddefnyddiol os ydym ni'n treiddio'n ddyfnach ac yn herio'r ideoleg o hiliaeth gynnil sy'n rhan o'n trafodaethau gwleidyddol a'n cymdeithas, oherwydd ni ddaeth yr adain dde eithafol i'r amlwg o unman. Mae beio ymfudwyr, ceiswyr lloches a thwristiaid iechyd am y dirywiad mewn safonau byw wedi dod yn beth safonol, ond eto achoswyd y problemau hyn gan gyni. Gosodwyd y seiliau ar eu cyfer drwy greu amgylchedd gelyniaethus bwriadol ar gyfer pobl o ddiwylliannau a gwledydd eraill. Rhaid rhoi terfyn ar sylwadau tebyg i ddatganiad Islamoffobaidd Boris Johnson y cyfeiriais ato'n gynharach, ac mae'n rhaid ichi dderbyn hynny. Gosodwyd y seiliau ar eu cyfer pan gynhyrchodd y Blaid Lafur fygiau ymgyrchu a oedd yn addo rheoli mewnfudo ar yr union aded yr oedden nhw'n fwy na pharod i bleidleisio dros fesurau cyni andwyol. Pa un ai'r chwalfa ariannol ac ariangarwch y bancwyr neu'r cyni a ddefnyddiwyd wedyn i gosbi pobl sy'n gweithio, mae'n amlwg mai'r dosbarth gwleidyddol ac ariannol sydd ar fai am ein sefyllfa bresennol, nid mewnfudwyr. Nid yw'n syndod y gall yr adain dde eithafol ffynnu dan yr amodau hyn. Nawr, efallai'n wir fod gan Lafur arweinyddiaeth newydd ers y mygiau bondigrybwyll hynny, ond rwy'n dweud hyn heddiw oherwydd nid yw'n ddigon da. Mae'r fersiwn asgell-chwith honedig newydd hon o Lafur hefyd bellach yn addo rheolaethau tynn ar y ffin a rhoi terfyn ar ryddid i symud yn rhan o weithredu Brexit. Sut mae hynny'n wahanol i'r mwg? Ymgais i blesio ydyw, a gellir dadlau mai'r celwydd gwleidyddol hynaf yn y byd yw dweud nad eich elît cartref sydd ar fai am eich amodau byw a gweithio: 'Y bobl wahanol hynny, y bobl eraill draw fan acw, sydd ar fai.' Mae rhoi'r bai ar eraill am ein problemau yn foesol ac yn wleidyddol ddiog, ond mae'n cael ei ddefnyddio dro ar ôl tro fel strategaeth gan ei fod yn effeithiol iawn.
Mae hiliaeth yn rhan o'n hanes. Er bod ein gwlad wedi treulio'r rhan fwyaf o'i hanes dan reolaeth Llundain, rydym ni hefyd wedi bod yn rhan o'r ymerodraeth wladychol Brydeinig a oedd yn gyfrifol am ryfeloedd dirifedi a sawl hil-laddiad o bobl nad oedden nhw'n bobl wyn. Yn aml cyfiawnhawyd y tra-arglwyddiaethu byd-eang hwn gan y syniad bod eraill yn israddol i ni bobl wyn, ac mae gweddillion y meddylfryd hwnnw yn dal i ymguddio yn y cefndir heddiw. Y dreftadaeth hon sy'n ei gwneud hi mor hawdd credu bod pobl eraill ar draws y byd rywsut yn wrthwynebwyr problematig y mae'n rhaid i ni naill ai eu gwastrodi neu eu cadw allan.
Mae arnaf i ofn nad wyf yn gallu anghofio am y gorffennol, oherwydd dyna pam yr ydym ni yn y sefyllfa hon. Ond rwyf yn croesawu'r ffaith bod o leiaf rhyw ewyllys gwleidyddol gan rai pleidiau gwleidyddol yma yn y Senedd hon i weithio gyda'n gilydd i frwydro yn erbyn hiliaeth ac i fynd i'r afael â throseddau casineb, ac rwy'n cefnogi'r cynnig hwn ar y cyd ar y sail honno.
Rwy'n croesawu'r ddadl hon yn fawr iawn ar adeg pan fo hiliaeth ac anoddefgarwch yn waeth nag y gallaf ei gofio ers amser maith, ac rwyf yn croesawu ymhellach gefnogaeth Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr hefyd. Mae'r cynnydd gofidus yr asgell dde eithafol ledled Ewrop, gan gynnwys Prydain, yn ymddangos fel pe bai'n normaleiddio iaith ac ymddygiadau hiliol ac, fel y dywedodd Leanne Wood, yn beio pobl o grefyddau gwahanol am bob un o broblemau ein gwlad. Yn y cyfamser, mae'r ffasgydd Stephen Yaxley-Lennon yn cael ei gyflogi gan UKIP mewn arddangosfa warthus o frawdoliaeth asgell dde eithafol, ac nid wyf yn credu ei bod hi'n syndod nad oes unrhyw aelod o UKIP yma heddiw i gymryd rhan yn y ddadl hon.
Dylai ein trafodaethau gwleidyddol presennol fod yn ofid ac yn bryder i bob person iawn a theg ei feddwl yn y wlad hon. Ond, Llywydd, fel y gwyddom ni i gyd, nid oes neb yn cael ei eni'n hiliol. Mae'n rhywbeth sy'n cael ei ddysgu a'i addysgu. Dyna pam ei bod hi mor bwysig inni fuddsoddi amser ac arian mewn addysg wrth-hiliol, a pham fy mod i eisiau treulio ychydig funudau'n adeiladu ar sylwadau'r Dirprwy Weinidog a Jenny Rathbone a siarad ychydig am y gwaith sydd wedi ei wneud gyda phobl ifanc yma yng Nghymru gan yr elusen addysg wrth-hiliol Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth.
Gan fynd yn ôl bron 20 mlynedd, cefais fy nghyflwyno am y tro cyntaf i'r sefydliad newydd ar y pryd gan fy nghyfaill ac yna fy nghydweithiwr yn Unsain, Sanjiv Vedi, a oedd yn gweithio i sefydlu Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth yng Nghymru wedi iddo gael ei sefydlu yn Newcastle upon Tyne ym 1996, pan roddodd gôl-geidwad Newcastle United, Shaka Hislop, £50 i elusen addysg wrth-hiliol sy'n cael ei rhedeg gan y dyn sydd bellach yn brif swyddog gweithredol Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth, Ged Grebby. Gan weithio mewn partneriaeth ag Unsain, Cymdeithas Bêl-droed Cymru a Chyngor Chwaraeon Cymru ac eraill, penododd Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth yng Nghymru ei aelod staff llawn amser cyntaf, Sunil Patel, ac mae e'n dal i weithio gyda nhw. Mae'r sefydliad hwnnw wedi mynd o nerth i nerth.
Daw ei lwyddiant o weithio'n uniongyrchol gydag ysgolion a chlybiau pêl-droed a chwaraeon lleol, ac mae'r gwaith hwn wedi dangos sut y gellir cyfleu'r neges wrth-hiliol drwy ddefnyddio sêr chwaraeon enwog yn enghreifftiau. I ddechrau, roedd hyn gyda phêl-droedwyr fel Shaka Hislop, Ryan Giggs, Ian Wright, Sol Campbell, Brendon Batson a Thierry Henry, i enwi dim ond rhai. Ond trodd wedyn at chwaraeon eraill, gan gynnwys rygbi'r undeb, a bu'n gweithio gyda phobl fel Colin Charvis. Wrth gwrs, rwyf wastad yn falch pan fyddaf i'n gweld chwaraewyr Clwb Pêl-droed Tref Merthyr yn gwisgo crysau-t Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth.
Ond yn bwysicaf oll, mae Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth yn gweithio mewn ysgolion a lleoliadau addysgol eraill i gynnig ystod o hyfforddiant addysgol, gweithdai, adnoddau a gweithgareddau wedi'u cynllunio i addysgu pobl ifanc am achosion a chanlyniadau hiliaeth. Mae eu gwaith yn helpu i sicrhau bod y bobl ifanc y maen nhw'n gweithio gyda nhw, hyd at 18,000 y flwyddyn ledled Cymru, yn cael y cyfle i ddysgu am oddefgarwch ac amrywiaeth wrth fynd i'r afael â hiliaeth.
Yn anffodus, mae Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth yn dweud bod y sefyllfa yn ein hysgolion wedi bod yn gwaethygu—a dyna pam fy mod i hefyd yn croesawu ymrwymiad y Dirprwy Weinidog i ymgais Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â gwrth-hiliaeth yn y cwricwlwm newydd. A gwyddom fod digwyddiadau hiliol mewn chwaraeon wedi cynyddu. Yn wir, yn ddiweddar cafwyd nifer o ddigwyddiadau annifyr amlwg ar lefel uchaf pêl-droed, sydd bron yn sicr yn gysylltiedig â'r hyn a ddywedais ar ddechrau fy nghyfraniad am gynnydd yr adain dde eithafol. Dyna pam ei bod hi mor bwysig i'w gwaith barhau.
Felly, gobeithiaf fod y Llywodraeth yn edrych ar lwyddiant Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth, eu bod yn cael gwrandawiad teg ac, yn bwysicach, eu bod yn cael cyfran deg o arian pan ddyrennir cyllid, oherwydd mae ganddyn nhw fodel llwyddiannus y gallwn ni adeiladu arno, ac mae'r neges wrth-hiliol y cawsant eu sefydlu i'w hyrwyddo yn bwysicach nawr nag erioed.
Rwy'n cynrychioli Dwyrain Casnewydd, sy'n ardal amlddiwylliannol, a chefais fy magu ym Mhilgwenlli yng Nghasnewydd, yng Ngorllewin Casnewydd, sy'n amlddiwylliannol iawn, yn fwy felly nawr nag yr oedd pan oeddwn i'n cael fy magu yno. Ond mae'n rhaid imi ddweud, Dirprwy Lywydd, roedd hi wastad yn brofiad cadarnhaol iawn imi o ran cyfoeth diwylliannol, cerddoriaeth, dawns, dillad, bwyd. Roedd hi'n brofiad cyfoethog iawn o ran yr amrywiaeth yna, ac roedd dysgu am ddiwylliannau a gwledydd pobl eraill yn ddiddorol iawn, ac rwy'n dal i feddwl bod hynny'n ddiddorol iawn heddiw. Ond, wrth gwrs, roedd sawl problem yno, problemau cymdeithasol ac economaidd, fel ardal, ac mae hynny'n dal i fod yn wir am Bilgwenlli, ac yn Nwyrain Casnewydd, fel y gwn i y byddai fy nghyd-Aelod Jayne Bryant yn dweud hefyd.
Felly, mae llawer o faterion y mae'n rhaid inni fynd i'r afael â nhw, ac mae llawer ohonyn nhw yn rhai economaidd, ansawdd y swyddi sydd gan bobl, y cyfleoedd sydd ganddyn nhw, ac, yn eu tro, mae llawer o hynny yn deillio o'r system addysg a phrofiad addysgol.
Rwyf bellach yn Gadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar hil yn y Cynulliad. Nid ydym ni wedi cyfarfod eto, ond byddwn yn cyfarfod yn fuan. Cyngor Hil Cymru sy'n darparu'r ysgrifenyddiaeth, ac mae gennyf o'm blaen, Dirprwy Lywydd, yr adroddiad ar anghydraddoldebau hiliol yng Nghymru yn 2019 gan aelodau'r grŵp trawsbleidiol hwnnw. Ac mae'n gynhwysfawr iawn, ac mae'n ymdrin, yn anffodus, â'r ystod eang o brofiadau negyddol a rhagfarnllyd, y gwahaniaethu y mae lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru yn ei wynebu, wyddoch chi, o ran cyflogaeth, penodiadau cyhoeddus, chwaraeon, fel y dywedodd Dawn Bowden, ysgolion ac, wrth gwrs, bywyd bob dydd. Fel y dywedodd Leanne Wood, rwyf yn credu ei bod hi'n bwysig iawn bod pobl yn gyffredinol yn deall pwysigrwydd yr hyn a ddywedir a, phan glywant bobl yn dweud pethau na ddylen nhw fod yn eu dweud, eu bod yn mynegi eu barn yn glir ac yn herio'r hyn a ddywedir. Mae'n aml yn cael ei ddweud, onid yw, mai'r cyfan sydd ei angen i ddrygioni gario'r dydd yw i bobl dda wneud dim? A chredaf yn yr oes sydd ohoni, bod angen i bob un ohonom ni arddel y neges honno'n gryf iawn, ac yn enwedig y rheini ohonom ni sy'n wleidyddion rheng flaen ac sydd â chyfle i siarad yn gryf ac yn glir.
A wnaiff yr Aelod dderbyn ymyriad?
Gwnaf.
Diolch yn fawr iawn, John. A ydych chi'n cytuno â mi ei bod hi'n bwysig iawn ein bod yn helpu i addysgu ein plant, drwy ysgolion, sut i fod yn wylwyr cadarnhaol, sut i godi llais yn effeithiol ac ymyrryd pan fyddwch chi'n gweld rhywbeth yn mynd o'i le? Oherwydd fe all hi fod yn anodd iawn, rwy'n credu, pan fo gennych chi bwysau gan gyfoedion, efallai bod gennych chi grŵp o bobl, ac mae'n anodd iawn i chi fod yr un llais sy'n dweud, 'Peidiwch', boed hynny am rywiaeth, hiliaeth neu beth bynnag. Felly, credaf ei bod hi'n bwysig iawn, wrth gyflwyno'r cwricwlwm newydd, bod yr elfen honno o ddinasyddiaeth dda—ein bod yn gweithio ar roi'r sgiliau hynny i'r bobl ifanc hynny, gyda dealltwriaeth glir os bydd yn digwydd mewn sefydliad fel ysgol, y cânt eu cefnogi.
Rwy'n cytuno'n llwyr â hynny. Rwy'n credu bod llawer yn ein system addysg heddiw sy'n ymwneud â thosturi ac uniaethu, onid oes? A llawer am amrywiaeth, deall amrywiaeth, a'i pharchu. Rwy'n siŵr bod Kirsty Williams wedi ymrwymo'n llwyr i sicrhau bod y cwricwlwm newydd yn adeiladu ar hynny.
Roedd gennyf ddiddordeb mawr yn yr hyn a ddywedodd y Dirprwy Weinidog am gydlyniant cymunedol a'r strategaeth, oherwydd credaf fod hynny'n bwysig iawn, iawn, a byddai'n wych cael rhagor o fanylion am hynny—wyddoch chi, pryd ellir ei disgwyl, beth yw'r amseroedd, ac efallai o bosib ychydig yn fwy am y cynnwys, ac a allai fod elfen o ymgyrchu o ran agweddau'r cyhoedd.FootnoteLink Oherwydd rwyf yn credu, o ran herio rhai o'r safbwyntiau negyddol a'r stereoteipiau, fod angen yr ymgyrch gyhoeddus honno arnom ni, i'w gwneud hi'n gwbl glir beth ddylai Llywodraeth Cymru ei ddweud a'r hyn y mae'r mwyafrif llethol o Aelodau'r Cynulliad yn credu y dylai pobl ei ddweud a'i wneud a pheidio â'i ddweud a pheidio â'i wneud. Rwy'n credu y byddai ymgyrch yn ymwneud â hynny ac yn rhoi eglurder ynglŷn â hynny yn ddefnyddiol iawn yn wir.
Peth pwysig iawn hefyd, yn fy marn i, ac efallai yn rhan o gydlyniant cymunedol, Gweinidog, yw rhai o'r digwyddiadau y byddai llawer ohonom ni'n gyfarwydd â nhw yn ein cymunedau, sy'n dod â phobl at ei gilydd, sy'n caniatáu rhannu'r profiad hwnnw, ac sy'n cyfoethogi profiad o wahanol ddiwylliannau, cerddoriaeth, dawns, bwyd, diod, ac yn y blaen. Un sydd wedi ei gynnal ers blynyddoedd lawer yn Nwyrain Casnewydd yw gŵyl Maindee. Mae'n orymdaith ac yn ddiwrnod o ddigwyddiadau a gweithgareddau sy'n dod ag Aelodau ynghyd o wahanol rannau o'r gymdeithas. Rwy'n credu o ran ystyried sut rydym ni'n bwrw ymlaen â chydlyniant cymunedol, ei bod hi'n bwysig iawn cefnogi a gwerthfawrogi digwyddiadau fel hynny.
Yn ddiweddar, ynghyd â'r ddau AS dros Gasnewydd, cyfarfu fy nghyd-Aelod Jayne Bryant a minnau â'r gymuned Bwylaidd yng Nghasnewydd, ac roedden nhw'n dweud, 'sut allwn ni rannu ein diwylliant, ein profiad? Sut allwn ni ddatblygu cysylltiadau ag eraill a bod yn rhan fwy integredig o'r gymuned leol?' Roeddem yn gallu dweud wrthyn nhw y byddai un cyfle ym mis Gorffennaf eleni gyda Gŵyl Maendy, lle y gallwch chi gael stondin, gallwch chi ddawnsio, gallwch chi ddarparu rhywfaint o gerddoriaeth—beth bynnag rydych chi'n credu sy'n briodol—ond mae'n llwyfan ac yn gyfle i chi. Credaf yn wir fod angen inni werthfawrogi'r digwyddiadau diwylliannol hynny.
Diolch am roi amser imi siarad ar y mater pwysig iawn hwn. Mewn gwirionedd, dechreuodd y Ddeddf Cysylltiadau Hiliol yn 1965, ac mae'n gwahardd gwahaniaethu ar sail crefydd, hil, dosbarth, lliw a chred. Nid yw hynny'n digwydd bron. Ers 1973, mae Llywodraethau yn y Deyrnas Unedig wedi gwario miliynau a miliynau o bunnoedd ar gysylltiadau hiliol. Heddiw, a ydym ni wedi cyflawni hynny mewn gwirionedd? Hynny yw, mae'n rhaid inni ofyn y cwestiwn i'r holl wleidyddion yn Llundain ac yma. Nid yw hynny'n digwydd. Islamoffobia, gwrth-Semitiaeth ac yn y blaen—a grybwyllwyd yma gan ambell gyd-Aelod ynghylch lleiafrifoedd du ac ethnig—y sector swyddi, teuluoedd, ysgolion a phlant. Nid yw'r genhedlaeth ifanc wedi ei haddysgu am gredoau pobl eraill. Dyna'r broblem. Mae'n rhaid i ni ddeall. Nawr, dyma'r bedwaredd neu'r bumed genhedlaeth o leiafrifoedd ethnig, ac rydym ni'n dal i'w galw'n lleiafrifoedd ethnig. Mae'n fy synnu, oherwydd erbyn hyn mae fy mhlentyn yn bedwaredd cenhedlaeth. Prydeinwyr ydym ni. Nid yw'r Prydeindod hwnnw'n cael ei gydnabod—neu nid yw'r Cymreictod hwnnw'n cael ei gydnabod.
A wnewch chi dderbyn ymyriad? Rwy'n derbyn yr hyn yr ydych chi newydd ei ddweud am Islamoffobia. A ydych chi felly yn rhannu fy mhryderon ynghylch sylwadau Boris Johnson am fenywod Mwslimaidd, yn eu galw yn flychau llythyrau ac yn cyfrannu at wneud y broblem hon hyd yn oed yn waeth? A oes gennych chi unrhyw beth i'w ddweud am hynny?
Yn Islam, fel yr wyf yn dweud wrthych chi yn awr, Leanne, rhaid ichi gofio mai ein cred ni yw pan fyddwch chi'n byw mewn gwlad wahanol fel Mwslim, eich bod yn byw fel nhw. Nid wyf yn dweud fy mod i'n cytuno nac yn anghytuno â Boris. Mae barn bersonol yn wahanol. Efallai iddo weld menyw yn byw gyda 'purdah' neu 'hijab' mewn ffordd wahanol. Ond mae yna ddewis personol. Y fenyw hon neu unrhyw un sy'n defnyddio 'purdah'—ydw, rwy'n cytuno â hynny os oes mater o ddiogelwch. Nawr, ni wyddai neb 20 mlynedd yn ôl am eithafiaeth. Mae'n rhan o'r drafodaeth yma ynglŷn â chydraddoldeb nawr. Mae eithafiaeth wedi deillio o'r holl ffwlbri yma am wledydd y trydydd byd, neu'r dwyrain canol lle ddechreuodd y broblem. Mae Islamoffobia wedi dod yn norm i eraill, ac mae pobl yn cymryd un cam yn ôl o Islam. Nid hwnna yw e. Mae cred Islamaidd yn garedig iawn ac yn gariadus iawn. Mae yna bobl yn y Siambr yma—fel mae John Griffiths newydd sôn, mae'r mosg mwyaf yng Nghymru yng Nghasnewydd, yn ei etholaeth.
Mae 'purdah' yn gred grefyddol. Gadewch i bobl feddwl beth maen nhw'n ei gredu, ond nid wyf i am fynd yn groes i unrhyw beth, oherwydd rhaid inni gadw—. Nid yw'n groes i gyfraith yn y wlad hon eto, felly pam rydym ni'n trafod hynny? Os ydych chi'n llunio cyfraith, iawn, deuaf a siarad â chi am hynny. Ond y ffaith yw, Dirprwy Lywydd, mae cysylltiadau hil yn fater tyngedfennol iawn iawn i'n cenhedlaeth nesaf. Pa ddeddfau ydym ni'n mynd i'w gwneud nawr? Rydym ni wedi bod yn siarad am hyn dros y 12 mlynedd diwethaf, ers i mi fod yma. Edrychwch ar yr ystadegau go iawn. A ydym ni wedi cyflawni unrhyw beth mewn gwirionedd? Mae'n rhaid inni wneud rhywfaint yn awr yn ôl y gyfraith, neu gyda chymunedau gyda'i gilydd, er mwyn sicrhau ein bod yn un genedl. Anghofiwch hil, lliw, crefydd, ffydd—un genedl ydym ni, a dylai hynny ddechrau gyda'r teulu.
Addysg sydd bwysicaf. Os dechreuwn ei wneud yn awr, yn 2019, gall gymryd 15 i 20 mlynedd arall i wneud yn siŵr y bydd ein cenhedlaeth ifanc yn deall ei gilydd mewn ffordd ddymunol. Dyna fy mhwynt, Dirprwy Lywydd: mae'n rhaid inni addysgu ein plant i wneud yn siŵr—. Rydym ni wedi methu. Methodd pob un ohonom ni â sicrhau'r cydraddoldeb hwn o ran hil. Rydym ni wedi methu. Rwy'n cytuno â hynny. Ond, er mwyn gwneud ein dyfodol yn well, rhaid i ni wneud rhai rheolau a rheoliadau gwell yn y Siambr hon. Addysg, addysg, addysg. Rhaid i ddealltwriaeth a chred grefyddol beidio â gwahaniaethu. Rydym ni newydd glywed bod person du—bod yr heddlu'n eu gwirio'n eithaf aml, yn fwy nag eraill. Gwahaniaethu yw hynny. Maen nhw i gyd yn Brydeinwyr. Ni ddylai fod unrhyw wahaniaeth rhyngddo ef a hi—neu ddu, gwyn, melyn, gwyrdd neu beth bynnag ydyw.
Felly, y pwynt sydd gennyf yw: os gwelwch yn dda, yn y Siambr hon, mae'n rhaid inni wneud rheolau fel y bydd yn rhaid dysgu cenedlaethau ifanc mewn ffordd nad ydyn nhw'n gwahaniaethu yn y dyfodol. Bydd yn cymryd 15 i 20 mlynedd cyn i'r genedl hon gael ei thrawsnewid yn bendant.
Rwy'n credu bod datganiadau am ein hegwyddorion fel sefydliad a chynrychiolwyr y cyhoedd sy'n pleidleisio yn bwysig. Rwy'n credu ei bod hi'n hanfodol yn y cyfnod hwn ein bod yn ei gwneud hi'n gwbl glir beth yr ydym ni'n bwriadu ei wneud. Felly, rwy'n croesawu'r cyfle i'r Cynulliad hwn gefnogi egwyddorion Confensiwn Rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig ar Ddileu Pob Math o Wahaniaethu Hiliol.
Mae rhan gyntaf y cynnig yn cyfeirio at y frwydr fyd-eang i ddileu hiliaeth ac ideoleg hiliol. Gwyddom ei bod hi'n hawdd y dyddiau hyn i wangaloni am y don gynyddol o boblyddiaeth gyda'i hapêl hiliol, ond credaf y dylai rhai ohonom ni lynu at y farn gadarnhaol eang a amlygwyd gan yr Arlywydd Obama mewn rhai o'i areithiau. A rhywbeth fel hyn oedd hynny: os na fyddech chi'n gwybod ble yn y byd y byddech chi'n cael eich geni, na'ch rhyw, na'ch hil, na pha mor gyfoethog fyddech chi, pryd mewn hanes dynol y byddech chi'n dewis byw? Ac mae'n ymddangos mai'r ateb yn bennaf fyddai 'nawr'. Ar gyfartaledd, ledled y byd, mae unigolyn a anwyd heddiw yn fwy tebygol o fod yn fwy diogel, iach, cyfoethog ac addysgedig nag ar unrhyw adeg arall. Ond, nid yw hynny'n gwadu nad oes gwahaniaethau mewn rhannau gwahanol o'r byd neu bobl wahanol o fewn y byd.
Felly, mae hynny, yn gyffredinol, yn newyddion da. Ond, mae'r cynnig yn parhau i'n hymrwymo i geisio creu Cymru fwy cyfartal, gan fynd i'r afael â phob math o anghydraddoldeb hiliol, ac ni allwn ni anwybyddu'r boblyddiaeth sydd ar gerdded fel y crybwyllwyd. Bydd yr etholiadau sydd i ddod yn arwydd o'r sefyllfa fyddwn ni ynddi. Mae gennym ni blaid a gynrychiolir yn y Siambr hon sy'n cefnogi ymgeisydd, Carl Benjamin, sy'n dweud ei fod o'r farn bod jôcs hiliol yn ddoniol. Yr hyn sy'n fy mhoeni i yw, nid bod twpsod fel Carl Benjamin yn meddwl hynny, ond bod plaid wleidyddol yn cefnogi ac yn hyrwyddo ei farn benodol yn agored. Dyna sy'n fy mhoeni. Ac mae'n destun pryder i mi hefyd fod y safbwyntiau hynny wedi cael eu traethu yn y Siambr hon.
Pan soniasom ni ein bod eisiau bod yn genedl noddfa—
A gaf fi ddweud cymaint yr wyf yn cytuno â'r sylw yr ydych chi newydd ei wneud yma? Rwy'n credu ein bod i gyd yn sylwi nad yw'r blaid honno'n cael ei chynrychioli yn y Siambr hon yn ystod y ddadl bwysig hon.
Rwy'n cytuno'n llwyr â chi.
Pan wnaethom ni gytuno, y rhan fwyaf ohonom ni, y byddem ni'n dod yn genedl noddfa ac y byddai hynny'n gadarnhaol, dywedodd aelodau o UKIP na allai fod yn gam cadarnhaol o gwbl gan mai'r cyfan yr oeddem yn mynd i'w wneud oedd agor y llifddorau fel y gallai pawb ddod draw, gan awgrymu bron y byddai Cymru'n cael ei goresgyn gan—ac ni allaf ddefnyddio'u geiriau fel y byddent yn mynegi nhw ac yn eu disgrifio. Nid wyf ond yn credu bod hynny'n gwyntyllu tân hiliaeth, mewn gwirionedd. Felly, yn y Cynulliad, rydym ni wedi symud ymlaen, ac rwyf eisiau dweud ychydig o eiriau am yr hyn yr ydym ni'n ei wneud a beth yw ein hymrwymiadau.
Yn rhinwedd fy swyddogaeth yn Gomisiynydd Cydraddoldeb y Cynulliad, rwy'n falch bod rhwydwaith pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig ein Cynulliad, REACH, yn rhoi cyngor ar sut y gallwn ni gefnogi staff o'r gymuned pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn well a sut y gallwn ni ddenu mwy o dalent. Hoffwn roi sylw arbennig i'n tîm adnoddau dynol a'r rhwydwaith REACH sydd wedi cydweithio ar ymgyrch recriwtio i ddewis y prentisiaid diweddaraf y byddwn yn eu derbyn. Roedd y pwyslais ar ddenu ymgeiswyr o'r gymuned pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, a mabwysiadwyd nifer o ddulliau i gyflawni hynny, gan gynnwys dileu holl fanylion adnabod o geisiadau a chydweithio gyda phartneriaid allanol i hyrwyddo'r cynllun mewn cymunedau du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, cynnal gweithdai, a helpu ymgeiswyr gyda'r ceisiadau hynny a'u helpu i ddeall y sefydliad a'i waith yn well. Ac, o ganlyniad, rwy'n falch iawn o ddweud ein bod ni wedi cael y nifer mwyaf o geisiadau a ddaeth i law erioed, a bod 13 o'r 14 ymgeisydd o'r gymuned pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig wedi'u gwahodd i'r cam asesu, a'u bod wedi llwyddo i lenwi dwy o'r tair prentisiaeth a oedd ar gael. Nawr, pethau fel hynny sy'n creu integreiddio, rhywbeth y mae Oscar ac eraill yma wedi sôn amdano heddiw. Oherwydd mae'n amlwg mai ofn y llall sy'n cymell casineb a hiliaeth yn bennaf.
Rwy'n mynd i orffen, oherwydd rwy'n gallu gweld y cloc. Nid wyf yn credu bod hanes yn mynd i'n trin ni'n dda. Pan fyddwn yn troi cychod llawn ffoaduriaid yn ôl, pan fyddwn ni rywsut wedi creu mynwent ym moroedd a chefnforoedd y byd am nad oeddem ni'n syml yn fodlon cynnig lloches na noddfa i'r bobl yr oedd eu hangen mor daer—credaf mai dyna lle mae angen inni ddechrau edrych o ddifrif calon ar rai o'n gweithredoedd.
Hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru am gyflwyno'r ddadl bwysig hon heddiw. Mae'n ffaith drist bod yn rhaid inni gyflwyno dadl o'r fath yn yr unfed ganrif ar hugain. Nid oes lle i hiliaeth yn ein cymdeithas, ond yn anffodus mae elfennau hiliol yn bodoli o hyd.
Cadarnhaodd y Cenhedloedd Unedig y Confensiwn Rhyngwladol ar Ddileu Pob Math o Wahaniaethu Hiliol yn y 1960au, ar adeg pan roedd y mudiad hawliau sifil ar ei anterth yn yr Unol Daleithiau, yn ceisio rhoi terfyn ar arwahanu hiliol. Mae'r byd wedi gweld cynnydd aruthrol yn y degawdau ers hynny, ond mae hiliaeth yn parhau i fod yn broblem.
Ledled Ewrop, rydym ni wedi gweld pleidiau gwleidyddol asgell dde eithafol yn codi. Caiff Hwngari ei llywodraethu gan Lywodraeth asgell dde; enillodd Plaid Pobl y Swistir bron i draean o'r bleidlais yn y Swistir; yn Awstria, enillodd y Blaid Rhyddid chwarter y bleidlais; ac yn Nenmarc, enillodd Plaid Pobl Denmarc dros 20 y cant o'r bleidlais.
Caroline, a wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf siŵr.
Wn i ddim a wyf i wedi glanio mewn bydysawd amgen yn y fan yma. Oni chawsoch chi eich ethol yn aelod o blaid asgell dde ac onid ydych chi wedi cyfarfod â Nigel Farage yn ddiweddar?
Mae'n ddrwg gennyf—? Do, rydw i wedi. Do, mi wnes i. [Torri ar draws.]
Mae pleidiau asgell dde wedi ennill rhwng 10-20 y cant o'r pleidleisiau yn Sweden, y Ffindir, Estonia, yr Iseldiroedd a nifer o wledydd eraill. Ac, yn nes at adref, rydym ni wedi gweld UKIP yn symud i'r dde eithafol. Pan ymunais ag UKIP, fe wnaeth yr arweinyddiaeth hi'n glir nad oedd lle yn y blaid i hilgwn, ac roedd hi'n dweud ar y ffurflen gais hyd yn oed i fod yn aelod na allech chi ymaelodi os oeddech chi wedi bod yn aelod o blaid asgell dde eithafol. A newidiodd hyn pan ddaeth Gerard Batten yn arweinydd. Ac roedd hi'n ffiaidd pan rannodd Gerard Batten a Neil Hamilton lwyfan gyda Tommy Robinson, a dirywio ymhellach fu hanes y blaid pan fu iddi groesawu Carl Benjamin, Mark Meechan a Paul Joseph Watson i'r blaid. [Torri ar draws.] Dim un arall, mae'n ddrwg gennyf. Roedd hi'n amlwg fod arweinyddiaeth y blaid yn cofleidio'r asgell dde eithafol, a phenderfynais adael a chyn bo hir roedd eraill a oedd yr un mor ddig ag yr oeddwn i yn gwneud yr un peth. Sut allai arweinydd y DU ac arweinydd Cymru oddef hiliaeth a rhagfarn lwyr? Sut allen nhw rannu llwyfan gyda phobl a oedd yn dathlu gwerthoedd y Natsïaid, os nad oedden nhw'n arddel y credoau hynny?
Nid oes lle i wrth-Semitiaeth ychwaith mewn cymdeithas, ac mae llawer o sylwadau a wnaed yn rhai annymunol ac wedi ennyn casineb a therfysgoedd. Ac ni ddylai bod lle mewn swydd gyhoeddus i unrhyw un sy'n credu ei bod hi'n briodol gwahaniaethu ar sail hil, rhyw, iaith neu grefydd. Rhaid inni sicrhau nad yw'r hyn sydd wedi digwydd yn yr Unol Daleithiau neu mewn rhannau eraill o Ewrop yn digwydd yma. Mae'n rhaid inni gael gwared ar ideoleg y dde a'r chwith eithafol sy'n credu ei bod hi'n iawn gwahaniaethu ar sail hil neu grefydd. Nid oes ond un hil—yr hil ddynol—ac mae'n rhaid i bawb fod yn rhydd rhag erledigaeth, a chael addoli pa bynnag dduw a ddewisant, a bydd hyn ond yn digwydd os byddwn yn cael gwared ar hiliaeth a rhagfarn, ac mae integreiddio yn hyn o beth o'r pwys mwyaf.
Rwy'n annog Aelodau i gefnogi'r cynnig fel cam tuag at ddileu casineb o bob math. Ac roedd fy nhaid wastad yn dweud, mae eich ysgrifbin yn ysgrifennu yr un fath i bawb, ac mae fy ysgrifbin i bob amser yn gwneud.
Rwy'n croesawu y dylai Cymru gael rhyw fath o ddatganiad am ddileu gwahaniaethu ar sail hil, sy'n seiliedig ar Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig. Fel democratiaeth sy'n datblygu a chenedl yn ein hawl ein hunain, mae hyn yn beth da i'w wneud. Cymru yw'r lle priodol i fod yn gwneud hyn. Roedd Caerdydd, Casnewydd a dinasoedd eraill yma ymhlith y rhai cyntaf yn Ewrop i groesawu pobl o ddiwylliannau eraill. Rydym ni i gyd wedi clywed am Tiger Bay, dociau Caerdydd, lle'r oedd pobl yn dod o bob rhan o'r byd i ymgartrefu.
Ond mae ein ffordd groesawgar o fodoli o dan fygythiad, a gallwn deimlo hyn. Bu mewnfudo mawr i Gymru dros ganrifoedd, yn enwedig yn ystod y chwyldro diwydiannol, a daeth llawer o'r mewnfudo hwnnw o Loegr pan symudodd cannoedd o filoedd o bobl yma am waith. Ond mae gennym ni ddiwylliant yng Nghymru sy'n ddigon cryf a deniadol fel y cafodd hynny ei gofleidio gan bobl. Rwyf i'n brawf o hynny fy hun, gyda chefndir Yemeni/Gwyddelig/Saesnig, ac os ewch chi ymhellach yn ôl, mae tras Swistir, Groegaidd, Ffilipino, Bantu a du De Affrica, ond eto rwy'n sefyll yma fel Cymro yn siarad â chi heddiw, ac yn Gymro balch.
Rwy'n blino ar bopeth yn cael ei feio ar fewnfudwyr. Wn i ddim sut y gall pobl edrych ar y GIG a beio problemau ar fewnfudwyr a mewnfudo, oherwydd maen nhw'n cadw ein GIG yng Nghymru i fynd, a phenderfyniadau gwleidyddol sy'n achosi problemau gyda'r GIG. Pan fydd pethau'n mynd yn anodd, does dim rhaid i ni droi ar ein cymdogion, oherwydd dyna beth mae gormod o wleidyddion anghyfrifol yn ei wneud y dyddiau hyn. Ac nid yw hi mor syml chwaith a dweud, 'pobl hiliol-drwg, pobl nad ydynt yn hiliol-da', oherwydd rydym i gyd wedi cael ein cymdeithasoli mewn cymdeithas, ac weithiau mae angen i ni i gyd gydnabod ein rhagfarnau ein hunain y mae angen eu goresgyn drwy reswm.
Felly, rwy'n croesawu'r cynnig hwn, ond gobeithio yn y dyfodol y gallwn ni weld rhywfaint o weithredu sy'n seiliedig ar ganlyniadau hefyd. Wrth edrych ar ddemocratiaeth Gymreig, hoffwn weld mwy o bobl o gefndiroedd lleiafrifol yn cymryd rhan. Credaf fod NWAMI gyda Dr Sibani Roy yn gwneud gwaith gwych i annog integreiddio—nid cymathu, ond integreiddio, dealltwriaeth—a hoffwn weld mwy o gefnogaeth i'r elusen honno. Mae arnom ni angen mwy o bobl liw i weithio fel newyddiadurwyr i graffu ar y Llywodraeth hon. Mae arnom ni angen mwy o bobl liw i ymwneud â gwleidyddiaeth.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf, siŵr.
A ydych chi'n credu bod y cyfryngau yn un maes lle gallwn ni wneud y defnydd gorau ohono i wneud yn siŵr bod cytgord ymysg y cymunedau?
Rwy'n credu bod gan y cyfryngau gyfrifoldeb i hyrwyddo rhyngweithio cadarnhaol rhwng pobl o bob cefndir, o bob lliw a phob hil. Rwy'n credu bod arnom ni angen mwy o bobl yn ymwneud â'r gyfraith—mwy o gyfreithwyr, mwy o farnwyr—i weithredu'r cyfreithiau yr ydym ni'n eu llunio yn y fan yma. Byddai'n wych gweld mwy o bobl o wahanol gefndiroedd yn y proffesiynau hynny. Rwy'n credu bod angen i ni gael Bil hawliau i Gymru i amddiffyn lleiafrifoedd yn ychwanegol at y datganiad hwn.
Ond allwn ni ddim ond brwydro yn erbyn hiliaeth, oherwydd mae'n rhaid i ni hefyd frwydro yn erbyn tlodi a dosbarth. Mae'r cyfyngiadau a'r tanseilio a ddaw yn sgil tlodi hefyd yn atal pobl rhag cael lle yn y Cynulliad hwn a gwireddu eu potensial. Fel yr Aelod Cynulliad lliw cyntaf o Gymru a etholwyd erioed i'r lle hwn, gallaf ddweud wrthych chi fod bod yn ddosbarth gweithiol wedi gwneud pethau yr un mor anodd i mi.
Croesawaf y datganiad i ddileu gwahaniaethu ar sail hil. Gobeithio y gallwn ni yn awr ehangu hynny i feysydd eraill o wahaniaethu a chyflwyno camau gweithredu pendant. Diolch.
Diolch. A gaf i alw'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip yn awr i ymateb i'r ddadl? Jane Hutt.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a diolch yn fawr i'r holl Aelodau sy'n cymryd rhan yn y ddadl hon am eich sylwadau, eich myfyrdodau a'ch ymrwymiad. Ac rwy'n credu mai'r ymrwymiad sydd wedi amlygu ei hun heddiw, sy'n dangos bod yn rhaid i ni ysgogi'r agenda hon mewn difrif. Rydym ni'n ceisio cefnogaeth drawsbleidiol i weithredu ar faterion yn ymwneud â hil. Mae'n rhaid i ni ddangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i'r maes polisi hwn, ac mae'n ein helpu ni yn Llywodraeth Cymru i gyflwyno ymateb ffurfiol i argymhellion rhaglen ymgysylltu Cymru gyfan ar gyfer Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig.
Er gwaetha'r cynnydd, mae'n gwbl amlwg bod llawer i'w wneud eto, ac mae'n rhaid i ni fod yn wyliadwrus a thorchi ein llewys er mwyn sicrhau nad ydym ni'n llithro'n ôl nac yn colli unrhyw gynnydd a wnaed. Mae peryglon gwirioneddol o hynny ar hyn o bryd, felly mae'n rhaid inni ddyblu'n hymdrechion a'n hymrwymiadau.
Rwy'n diolch i Mark Isherwood yn gyntaf am ddal sylw ar waith cyrff y trydydd sector, ond yn enwedig y mudiadau hynny sy'n rhwydweithio yn y gogledd ac yn y de, ac fe wnaethoch chi sôn am ddigwyddiadau y buoch chi ynddyn nhw sydd wedi effeithio ar integreiddio drwy gyfrwng digwyddiadau diwylliannol ac artistig. Wrth gwrs, tynnodd John Griffiths sylw ar hyn hefyd, ac yn enwedig ar swyddogaeth gwyliau. Fydda i ddim yn anghofio Mis Hanes Pobl Dduon y llynedd, a oedd yn wych—roedd yn fwy na mis—a'r mudiad a drefnodd hynny drwy Gymru gyfan. Rwyf eisoes wedi sôn am y gefnogaeth i gofio am genhedlaeth Windrush. Gwyddom o ran y prosiect Fusion ers 2015, ein bod wedi cefnogi hynny gyda phartneriaeth y sector diwylliannol a threftadaeth ac mae'n rhaid i ni feddwl mwy am hyn o ran pob agwedd ar bolisi a chyllid y Llywodraeth. Mae'n bwysig ein bod yn rhoi mwy o arian i'r rhaglen cydlyniant cymunedol rhanbarthol, oherwydd gall y rhaglen honno adnabod lle mae angen inni ganfod ble mae'r tensiynau a hefyd gweld cyfleoedd o ran cydlyniant cymunedol. Felly, mae'r rheini i gyd yn bwyntiau pwysig.
Cyfeiriodd Mark Isherwood hefyd at Gyngor Ffoaduriaid Cymru, sefydliad mor bwysig—y gynghrair o sefydliadau sy'n gweithio ledled Cymru. Cawsom ddigwyddiad, Noddfa yn y Senedd, ar 3 Ebrill, ac roeddwn yn falch o gael siarad yn y digwyddiad hwnnw, gan ddweud—ac rwy'n credu bod hyn yn wir—fod ffoaduriaid wedi cael y fath groeso yng Nghymru, a chredaf ei bod hi yn rhoi hyder inni ddweud bod ysbryd y Cymry wedi ei ddiffinio gan gydymdeimlad a chyfeillgarwch, nid gan wahaniaeth neu eithrio. Mae angen ymfudo ar Gymru ac rydym ni'n gwerthfawrogi'r cyfraniadau y mae pobl sy'n ceisio lloches yn eu gwneud i'n cymdeithas. Ac, wrth gwrs, dywedais i yno, fel yr ydym ni'n dweud ar bob cyfle, nad oes lle o gwbl yng Nghymru i eiriau o gasineb neu hiliaeth.
Rwy'n diolch i Jenny Rathbone am ei chyfraniadau ac yn arbennig am dynnu sylw at hil a chydraddoldeb mewn ysgolion ac at wella canlyniadau, yn enwedig i blant Sipsiwn/Teithwyr. Gwyddom fod Sipsiwn, Roma a Theithwyr ymhlith y rhai mwyaf ymylol yn ein cymdeithas. Ein cyfrifoldeb moesol ni yw sicrhau bod holl ddinasyddion Cymru'n cael eu trin yn deg. Ac, wrth gwrs, o ran Sipsiwn, Roma a Theithwyr, dyna ble mae'n rhaid i ni wrthweithio'r safbwyntiau a'r camsyniadau negyddol sy'n cael eu gwyntyllu amdanynt.
Rwy'n diolch hefyd i Jenny am ddweud pa mor bryderus yw hi am arafwch cyflwyno'r cynllun amddiffyn mannau addoli, sef cynllun y Swyddfa Gartref. Yn wir, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cartref gynnydd yn y cynllun hwnnw ym mis Mawrth, ond ni chaiff ei weithredu tan fis Gorffennaf, ac fel Jenny, mae llawer ohonom ni wedi ymweld â'n mosgiau yn yr wythnosau diwethaf. Ymwelais â'm mosg lleol, a chomander rhanbarthol yr heddlu a ddywedodd mewn gwirionedd na allai gredu sut deimlad yw teimlo'n ofnus yn eich lle o addoli o ran ansicrwydd. Hoffwn ar hyn o bryd dalu teyrnged i bob Mwslim yng Nghymru yn ystod Ramadan. Mae'n amser i weddïo, myfyrio ac ymprydio, ac rwy'n credu y bydd pawb yn y Cynulliad hwn eisiau talu'n teyrnged. Ramadan Kareem. Mae'n rhan o'n byd ni yma yng Nghymru, ac rydym ni eisiau cefnogi hynny.
Yn ddiweddar bûm yn cadeirio cyfarfod o'r bwrdd cyfiawnder troseddol ar droseddau casineb, ac roeddwn hefyd yn cyd-gadeirio'r bwrdd plismona gyda'r Prif Weinidog. Yn y cyfarfodydd hyn, rydym ni wedi trafod diogelwch mosgiau ac rydym ni wedi sôn am fonitro troseddau casineb ym mhob rhanbarth—mae hynny'n cynnwys adroddiadau gan bob un o luoedd yr heddlu. Wrth gwrs, rydym ni hefyd wedi trafod troseddau cyllyll, a byddaf yn trosglwyddo'r sylwadau a'r cwestiynau hynny i'r Swyddfa Gartref.
Ond rwy'n credu bod Leanne Wood a Dawn Bowden wedi crybwyll materion pwysig ynglŷn â sut yr ydym ni'n mynd i'r afael â hyn o ddifrif, ac rwyf yn tynnu sylw at y Confensiwn. Os edrychwch chi ar y Confensiwn rhyngwladol, credaf fod angen inni wneud yn siŵr ein bod yn canolbwyntio ar hynny heddiw. Mae'n ymwneud â chael gwared ar bob math o wahaniaethu ar sail hil—[Torri ar draws.]
Rwy'n ddiolchgar iawn i chi, Gweinidog. Diolch. Rwy'n siŵr y byddem ni i gyd yn cefnogi datganiad trawsbleidiol, fel y mae'r cynnig yn galw amdano, ond er mwyn rhoi'r confensiwn ar waith, rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno bod angen i ni fynd ymhellach na hynny. A gaf i ofyn ichi roi sicrwydd inni heddiw, wrth inni edrych ar y posibilrwydd, a allai fod ar ôl Brexit, pryd y byddwn, o bosibl, yn colli amddiffyniadau cydraddoldeb yr UE—ac mae rhai ohonom yn gobeithio na fydd hynny'n digwydd—y byddwn yn cynnwys y confensiwn hwn wrth inni ystyried ymgorffori'r Confensiynau Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yn gyffredinol, fel yr ydym wedi'i wneud gyda'r confensiwn ar hawliau'r plentyn, yng nghyfraith Cymru?
Yn bendant, gallaf eich sicrhau chi ynghylch hynny; mae hwn yn gyfle. Rydym wedi cael seminar ar sut y gallwn ymgorffori hawliau, ac, wrth gwrs, mae'n adeiladu ar y gwaith yr oedd Jeremy Miles wedi'i wneud y llynedd, a byddaf yn sicr yn rhoi'r ymrwymiad hwnnw ichi.
Yn olaf, i gloi, rwy'n credu bod hwn yn gyfle. Rydym wedi sôn llawer am addysg ac, yn wir, wedi derbyn holl argymhellion y grŵp ymgysylltu â phobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, a soniais am 13 o argymhellion ar addysg. Mae'r ffaith bod Cyngor Hil Cymru wedi cael cyfarfod yn ddiweddar â swyddogion y cwricwlwm, a bod Kirsty ei hun wedi bod yn bresennol yn ddiweddar yn seremoni wobrwyo Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth, credaf ei bod yn hanfodol ein bod yn ystyried hyn yn rhan annatod o'n cwricwlwm, yn ein hysgolion a'n haddysg.
Ond rwyf hefyd, yn olaf, yn falch iawn bod yna grŵp trawsbleidiol ar gydraddoldeb hiliol, sy'n mynd i gael ei gadeirio gan John Griffiths. Felly, yn olaf, galwn am gefnogaeth ar draws y Cynulliad hwn ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru i hwyluso datblygiad y datganiad traws-bleidiol hwnnw i Gymru, sy'n ymgorffori egwyddorion y confensiwn rhyngwladol ac sy'n atgyfnerthu, yn ailfywiogi ein hymrwymiad fel Llywodraeth Cymru i lwyr gefnogi'r frwydr fyd-eang i ddileu hiliaeth ac ideoleg hiliol.
Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw a ddylid derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.