2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru ar 8 Mai 2019.
8. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael yn ddiweddar gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch effaith Brexit ar GIG Cymru? OAQ53811
Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn. Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a minnau mewn cyswllt rheolaidd a mynych, fel sy'n wir gyda phob Gweinidog, i drafod ymatebion Llywodraeth Cymru i'r ystod o heriau amlwg a digroeso i Gymru yn sgil Brexit.
Rwy'n ddiolchgar i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ymateb. Wrth gwrs, mae llawer ohonom yma yn gobeithio na fydd hon yn sefyllfa y bydd yn rhaid inni ei hwynebu, ond o gofio y gallai fod, mae gennym rai misoedd ychwanegol, fel y dywedasoch yn eich ymateb i Huw Irranca-Davies, i geisio paratoi ar gyfer y senario waethaf sy'n bosibl. Wrth drafod â'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, tybed a wnaiff y Cwnsler Cyffredinol fanteisio ar y cyfle hwn i edrych yn fanylach ar faterion yn ymwneud â'r gweithlu a all godi yng Nghymru, yn enwedig yn y gwasanaeth iechyd a gwasanaethau gofal os yw pobl naill ai'n methu aros yma neu'n teimlo nad oes croeso iddynt fel dinasyddion yr UE, ac wrth gwrs, yn y dyfodol, efallai na fydd gwasanaethau gofal, yn arbennig, yn gallu recriwtio mor effeithiol o'r UE ag y gallent yn y gorffennol. Beth bynnag yw ein barn am y cyfnod o oedi, mae'n rhoi rhywfaint o amser inni o leiaf i ystyried lle mae'r bylchau hynny'n debygol o fod ac i ddechrau rhoi rhai camau ar waith i gynorthwyo cyrff iechyd a gofal i geisio cau'r bylchau hynny os bydd angen.
Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn atodol. Credaf ei bod yn taro'r hoelen ar ei phen. Mae ein gwasanaethau iechyd a'n gwasanaethau gofal, yn arbennig o bosibl, yn dibynnu ar ddinasyddion yr UE i ddarparu gwasanaeth hanfodol, yn aml i unigolion bregus iawn. Fe fydd yn ymwybodol, rwy'n gwybod, o'r gwaith y buom yn ei wneud i ddeall maint hynny. Rydym wedi nodi, ac rwyf wedi crybwyll yn y Siambr o'r blaen, fod problem benodol yn codi ynglŷn â nyrsys cofrestredig ym maes gofal cymdeithasol, lle mae niferoedd sylweddol iawn ohonynt yn ddinasyddion yr UE a nifer fwy nag a geir yn y gweithlu yn gyffredinol.
Byddwn yn sicrhau ein bod yn deall ac yn darparu cefnogaeth mewn perthynas â'r gweithlu yn y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn gyffredinol. Gwn fod y Gweinidog yn canolbwyntio ar hynny. Mae'n bwysig i'r Llywodraeth yn gyffredinol, ac rydym yn edrych ar ba waith trawsbynciol y gall y Llywodraeth ei wneud i ddeall yr effaith y gall penderfyniadau mewn mannau eraill ei chael ar rai o'r cwestiynau hyn sy'n ymwneud â'r gweithlu yn ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Fe ddywedaf hefyd fy mod yn credu bod materion eraill yn codi o'r cwestiwn ynglŷn â chyfnod oedi, a byddwn eu hystyried hwythau hefyd, fel bod angen edrych eto ar ymyriadau a allai fod yn briodol wrth ystyried ymadael ym mis Mawrth i weld a ydynt yn briodol yng nghyd-destun ymadawiad posibl ym mis Hydref. Felly, mae'r holl agweddau hyn yn sicr yn rhai sydd dan ystyriaeth gan y Llywodraeth ar hyn o bryd.
Ac yn olaf, Janet Finch-Saunders.
Diolch, Lywydd. Ein staff iechyd yw conglfaen ein GIG, ac mae llawer o'r rhain yn dod o'r Undeb Ewropeaidd yn wreiddiol. Yng Nghymru, mae 4 y cant o feddygon teulu a 15 y cant o ddeintyddion yn ennill eu cymhwyster meddygol sylfaenol yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd. Yn ôl adroddiad o'r enw 'Goblygiadau Brexit i Iechyd y Cyhoedd yng Nghymru: Ymagwedd Asesu Effaith ar Iechyd', mae Brexit yn creu potensial cadarnhaol i ddenu gweithwyr medrus i sectorau allweddol yng Nghymru o wledydd y DU a gwledydd y tu allan i'r UE. Gwnsler Cyffredinol, yn ogystal â thawelu meddyliau gwladolion yr UE eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a bod eu hangen yng Nghymru o hyd, a wnewch chi ddatgan pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddenu gweithwyr meddygol proffesiynol o wledydd y tu allan i'r UE?
Rydym—. Nid wyf yn hollol siŵr lle i ddechrau gyda hynny, mewn gwirionedd. Rydym wedi bod yn gwbl glir, a byddai'n dda gennyf pe bai hi, ynghyd ag Aelodau yn ei phlaid, ychydig yn fwy eglur nag y maent wedi bod ar y mater hwn o bosibl, o ran pa mor bwysig yw hi fod ein gwasanaethau iechyd a gofal yn parhau i allu dibynnu ar wasanaethau gweithwyr gwerthfawr iawn sy'n dod o'r Undeb Ewropeaidd. Rydym wedi cymryd camau penodol—mae'n sôn am gymwysterau yn ei chwestiwn—i sicrhau bod y cymwysterau hynny'n parhau i gael eu cydnabod a'u parchu yma yng Nghymru a ledled y DU. Mae'n disgrifio Brexit fel cyfle. Yn y cyd-destun arbennig hwn, credaf fod hwnnw, yn ôl pob tebyg, yn un o'r disgrifiadau mwyaf rhyfedd i mi eu clywed. Credaf fod Brexit yn fygythiad i'r gweithluoedd yn y lleoedd hyn ledled Cymru, ac mae'n ddyletswydd arnom i gyd yn y lle hwn i atgoffa dinasyddion yr UE sy'n gweithio yn ein gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u croesawu ac y byddant yn parhau i gael eu gwerthfawrogi a'u croesawu yn y misoedd a'r blynyddoedd i ddod.
Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol.