2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 8 Mai 2019.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Delyth Jewell.
Diolch, Lywydd. A yw'r Gweinidog yn cytuno bod y toriadau ariannol a wnaed gan San Steffan ers 2010 wedi peri cryn dipyn o drallod i unigolion a chymunedau ledled Cymru?
Ie, rydym mewn cyfnod o gyni. Mae'r toriadau a wnaed gan Lywodraeth y DU wedi'u teimlo ym mywydau pobl Cymru, fel ym mywydau pobl ledled y DU. Fel Llywodraeth, rydym wedi ceisio lliniaru hynny gymaint â phosibl drwy wneud penderfyniadau gwahanol gyda chyllidebau sy'n lleihau, ond gwyddom y bydd effaith cyni ar lawer o'n cymunedau wedi bod yn ffactor yn y penderfyniadau a wnaed yn 2016 mewn perthynas â refferendwm Brexit.
Mae'r Gweinidog wedi datgan ei farn ynglŷn â'r difrod a achoswyd i gymdeithas gan doriadau gwariant, a chytunaf â sylwedd ei ateb, felly gadewch i ni ystyried mater gwariant cyhoeddus yng nghyd-destun Brexit. Roedd dadansoddiad effaith Llywodraeth y DU a gyhoeddwyd y llynedd yn rhagweld y byddai twf y DU yn dioddef ergyd o rhwng 2 ac 8 y cant pe bai Brexit yn mynd rhagddo, yn dibynnu ar y math o gytundeb economaidd y cytunid arno rhwng y DU a'r UE. Mae hanner isaf yr amcanestyniad hwn yn seiliedig ar aelodaeth barhaus y DU o farchnad sengl yr UE, sy'n rhywbeth nad yw Llywodraeth Cymru yn ei gefnogi. Felly, mae Llywodraeth Cymru, i bob pwrpas, o blaid polisi a fyddai'n arwain at ddirywiad o 2 y cant fan lleiaf i dwf, a llawer mwy yn ôl pob tebyg. Pan ychwanegwch hyn at yr effaith ar sectorau penodol yng Nghymru, ar fusnesau sy'n dibynnu ar fasnach gyda'r UE am eu proffidioldeb, a'r effeithiau canlyniadol y byddai rhwystrau tariff a rhwystrau di-dariff yn eu cael ar swyddi ac amodau gwaith, byddai'r effaith ar economi Cymru yn sylweddol ac yn ddifrifol. Weinidog, a ydych yn cytuno y byddai gadael yr UE yn gwaethygu effeithiau cyni yng Nghymru?
Wel, mae'r Aelod yn iawn i dynnu sylw at ddadansoddiad economaidd Llywodraeth y DU ei hun, sy'n dangos niwed sylweddol i economi Cymru, fel i economi'r DU yn gyffredinol. Rydym wedi dweud yn glir mai ein barn ni fel Llywodraeth yw mai'r ffordd orau o ddiogelu economi Cymru yw fel rhan o'r Undeb Ewropeaidd, ond y polisi a ddisgrifir yn 'Diogelu Dyfodol Cymru', sy'n disgrifio'r math o berthynas ôl-Brexit â'r Undeb Ewropeaidd y teimlwn ei bod yn parchu refferendwm 2016, ond sydd hefyd yn gwneud y niwed lleiaf i economi Cymru—polisi y cytunodd ei phlaid yn ei gylch—yw'r math gorau o Brexit i Gymru yn ein barn ni os ydym yn mynd i adael yr Undeb Ewropeaidd.
Weinidog, byddai'r math o gytundeb y mae Llafur yn ei argymell yn golygu gadael y farchnad sengl a'r undeb tollau Ewropeaidd, a byddai hyn yn peri niwed di-ben-draw i economi'r DU, gan arwain at ragor o doriadau yng nghyllidebau Llywodraeth Cymru, a byddai'n niweidio economi Cymru yn uniongyrchol, gan arwain at gau busnesau a cholli swyddi. Ac nid Plaid Cymru yn unig sy'n dweud hyn; mae ASau Llafur Cymru Owen Smith, Tonia Antoniazzi ac Anna McMorrin yn cytuno, ac mae ACau Llafur Cymru Alun Davies, Lynne Neagle a Vaughan Gething yn cytuno. A neithiwr, yn ei araith i nodi 20 mlynedd ers datganoli, dywedodd y Prif Weinidog fod toriadau i gyllid cyhoeddus yn uniongyrchol gysylltiedig â chynnydd mewn tlodi plant, y defnydd o fanciau bwyd a digartrefedd yng Nghymru.
Ymddengys bod eich Llywodraeth yn benderfynol o flaenoriaethu hwylustod gwleidyddol dros ddiogelu lles y bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas drwy gefnogi penderfyniad Jeremy Corbyn i gynnal trafodaethau gyda'r Torïaid ynglŷn â chytundeb Brexit posibl. Oni ddylai eich Llywodraeth Lafur yng Nghymru fod yn amddiffyn buddiannau economaidd Cymru drwy gymryd pob cam posibl i aros yn yr UE, yn hytrach na chefnogi Mr Corbyn, sydd mewn trafodaethau i helpu'r Ceidwadwyr i weithredu eu polisi Brexit caled?
Ac yn olaf, gadewch i mi droi at yr unig ffordd y gellir osgoi'r trychineb hwn, sef rhoi cyfle i'r bobl gamu'n ôl oddi wrth y dibyn wrth gwrs drwy gynnal pleidlais y bobl gyda'r opsiwn i aros. Yr wythnos diwethaf, dywedodd y Prif Weinidog mai polisi Llywodraeth Cymru ar bleidlais y bobl yw, a dyfynnaf,
'os na all Senedd y DU gytuno ar un cynnig amgen sy'n cynnwys bod yn rhan o'r farchnad sengl ac undeb tollau, yna'r unig ddewis sydd ar ôl yw rhoi'r penderfyniad yn ôl i'r bobl.'
Ers hynny, mae'r Blaid Lafur wedi cyhoeddi ei pholisi ar gyfer yr etholiad Ewropeaidd, sy'n cynnwys cafeat ychwanegol, sef y byddent yn ceisio gorfodi etholiad cyffredinol cyn cefnogi refferendwm os na chytunir ar gytundeb Brexit. Weinidog—a gofynnaf i chi ateb y cwestiwn hwn yn uniongyrchol gan fy mod wedi sylwi yn y gorffennol eich bod wedi ateb cwestiynau ar faterion rydym yn cytuno arnynt mewn cryn dipyn o fanylder, ac mae hynny i'w ganmol, ond o bryd i'w gilydd rydych wedi esgeuluso cwestiynau a allai eich gwneud ychydig yn anghyfforddus—ai polisi Llywodraeth Cymru yn awr yw ceisio etholiad cyffredinol cyn pleidlais y bobl os na chytunir ar gytundeb Brexit sy'n dderbyniol i'r Blaid Lafur?
Wel, diolch i'r Aelod am ei chyngor ar sut i ateb y cwestiynau. Credaf ei bod yn hawdd colli golwg weithiau ar nifer y cwestiynau mewn unrhyw ymateb penodol. Ond gwnaf fy ngorau i ateb y cwestiynau allweddol o leiaf. Mewn perthynas â'i disgrifiad o safbwynt Llywodraeth Cymru, sy'n dal i fod yr un fath, fel y dywedaf eto, â'r hyn a ddisgrifir yn y ddogfen bolisi y cytunwyd arni gyda'i phlaid, nid yw'n fater o fod y tu allan i undeb tollau. Rydym wedi galw am undeb tollau parhaol gyda'r Undeb Ewropeaidd ac aliniad agos â'r farchnad sengl. Felly, hoffwn egluro'r camddealltwriaeth hwnnw. Ac rwy'n gwrthod y pwynt ynghylch hwylustod gwleidyddol. Mae penderfyniadau anodd i'w gwneud wrth gysoni ymateb y cyhoedd ym Mhrydain yn 2016 â'r hyn y gwyddom yn y lle hwn, ar y meinciau hyn, ac ar feinciau ei phlaid rwy'n gwybod, y bydd yn niweidio economi Cymru o ganlyniad i Brexit. Mae'r ffordd orau o gysoni hynny, yn ein barn ni, wedi'i disgrifio yn 'Diogelu Dyfodol Cymru'. Os na allwn gyflawni rhywbeth sy'n adlewyrchu'r egwyddorion yn y ddogfen honno, ein polisi fel y bu, ac fel y'i cymeradwywyd gan y Cynulliad hwn ar ddau achlysur gwahanol fan lleiaf, yw bod pleidlais y bobl yn ffordd amgen o ddatrys y sefyllfa. Mewn gwirionedd, rydym wedi galw ar Lywodraeth y DU i gymryd camau i baratoi ar gyfer y posibilrwydd hwnnw, a chodais hynny'n uniongyrchol gyda David Lidington yn ddiweddar yn fy sgwrs gydag ef ar 11 Ebrill.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Darren Millar.
Diolch, Lywydd. Weinidog, a allwch roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am y pwyllgor llywio a sefydlwyd i edrych ar y mecanweithiau darparu ar gyfer cronfeydd strwythurol yn y dyfodol?
Gallaf. Mae'r pwyllgor hwnnw wedi bod yn cyfarfod o dan gadeiryddiaeth Huw Irranca-Davies. Yr amcan yw cynghori Llywodraeth Cymru ynglŷn â sut, yn y dyfodol, y gallwn ddefnyddio buddsoddiad rhanbarthol yng Nghymru, gan ddysgu o'r profiad o ddefnyddio'r cronfeydd hynny yn ystod ein cyfnod fel aelodau o'r Undeb Ewropeaidd, a dod o hyd i ffordd o alinio hynny â'r sectorau sydd wedi elwa ledled Cymru, ac i wneud hynny mewn ffordd sy'n arloesol ac sy'n darparu syniadau newydd a ffres ynglŷn â sut y gallem wneud hynny.
Rwy'n ddiolchgar am y diweddariad. Nodaf nad yw aelodaeth y pwyllgor llywio hwn yn y parth cyhoeddus. Nid wyf yn gwybod pwy yw'r aelodau eraill a chredaf y byddai'n ddefnyddiol iawn pe gallai Llywodraeth Cymru rannu'r wybodaeth honno gyda'r Aelodau, i sicrhau ei fod yn bwyllgor cwbl gynrychioliadol a fydd yn edrych yn ddifrifol ar fethiannau'r defnydd blaenorol o gronfeydd strwythurol yng Nghymru, sydd, wrth gwrs, wedi methu cyflawni'r gweddnewidiad i'n heconomi y gwnaethoch chi, eich Llywodraeth, Llywodraethau blaenorol, ei addo o ran y defnydd o gronfeydd strwythurol. A ydych yn derbyn bod cronfeydd strwythurol blaenorol wedi cael eu gwastraffu gan Lywodraeth Cymru ar sawl ystyr? A ydych yn derbyn bod rhywfaint o gyfrifoldeb ar Lywodraeth Cymru am fethu defnyddio'r arian hwnnw i roi hwb i'n heconomi yng Nghymru, yn enwedig o gofio bod ein gwerth ychwanegol gros, ein cynhyrchiant a'n cyflogau ar ei hôl hi o gymharu a sawl rhan arall o'r DU, a'n bod yn parhau i fod yn un o'r gwledydd tlotaf—yn sicr yng ngorllewin Cymru a'r cymoedd—yn Ewrop?
Nid wyf yn derbyn hynny o gwbl. Credaf y byddwch wedi clywed y dadleuon yn gynharach yn y Siambr ynglŷn â'r manteision i bobl yng Nghymru o ran gwella sgiliau, o ran cynhyrchiant, dros y degawdau diwethaf. Credaf y byddai'n well pe bai'r Aelod yn canolbwyntio ei ymdrechion ar geisio perswadio ei ffrindiau yn San Steffan i gadw at eu hymrwymiad i sicrhau nad yw Cymru yn colli ceiniog na cholli pŵer o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd. Rydym yn aros am yr ymrwymiadau hynny, ni chadwyd atynt, ac mae'n hen bryd i hynny ddigwydd.
Rwyf yma i ofyn cwestiynau i'r Llywodraeth hon sy'n gwasanaethu pobl Cymru. A chredaf ei bod yn bwysig iawn fod pobl yn cydnabod methiannau eich Llywodraeth, a gweinyddiaethau blaenorol, i reoli'n briodol y cronfeydd Ewropeaidd a oedd ar gael iddynt. Rydym wedi mynd am yn ôl o ran twf cyflog o gymharu—fel cyfran—â rhannau eraill o'r DU. A chredaf ei bod yn warthus, a dweud y gwir, nad ydych yn barod i gydnabod methiannau yn yr un modd ag y mae aelodau eraill o feinciau cefn Llafur, a Gweinidogion yn flaenorol, wedi'u cydnabod o ran y ffordd y gwariwyd yr arian hwnnw.
A gaf fi ofyn cwestiwn i chi ynglŷn â'r ffordd y mae eich Llywodraeth yn gobeithio dosbarthu'r arian hwnnw? Fe fyddwch yn ymwybodol fod Llywodraeth y DU yn awyddus i sefydlu cronfa ffyniant gyffredin, y bydd yr arian hwnnw ar gael i Gymru, ac y byddai sawl rhan o Gymru na allant elwa o'r cronfeydd strwythurol Ewropeaidd presennol ar hyn o bryd yn debygol o allu elwa o dan drefniadau gwahanol drwy gronfa ffyniant gyffredin y DU. A ydych yn derbyn nad yw llawer o bobl yn ymddiried yn Llywodraeth Cymru i ddosbarthu arian yng Nghymru, o ystyried y ffordd rydych yn torri setliadau llywodraeth leol, o ystyried y ffordd rydych yn torri arian arall, a'ch bod fel pe baech yn ei ddosbarthu mewn lleoedd yn ôl eich blaenoriaethau gwleidyddol, yn hytrach na'r lleoedd sydd ag angen gwirioneddol am y math o fuddsoddiad sydd ar gael?
Ac a allwch ddweud wrthym beth yw'r amserlen ar gyfer gwaith y pwyllgor llywio a sefydlwyd, o ran yr argymhellion y gallai eu gwneud, ac a fyddwch yn cyhoeddi holl gofnodion y cyfarfodydd hynny, pwy sy'n eu mynychu, a beth yn union fydd agenda'r cyfarfodydd hynny yn y dyfodol? Oherwydd rwy'n credu y bydd llawer o bobl yn awyddus i weld yr amrywiaeth o weithgarwch sy'n mynd rhagddo gan Lywodraeth Cymru er mwyn edrych ar sut y gallech reoli cronfeydd strwythurol yn y dyfodol, o ystyried methiannau'r gorffennol.
Wel, gwrthodaf yr honiadau gwarthus a wnaeth yr Aelod yn y Siambr. Credaf fod yr honiadau o gamreoli yn gwbl amhriodol—yn gwbl amhriodol. Y cyfle y mae gwaith y grŵp llywio yn ei gynrychioli, ac yn wir, gwaith y comisiwn a roddwyd i'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, yw ceisio'r mewnbwn gorau posibl i'r modd y caiff y polisïau hyn eu dyfeisio yn y dyfodol. Mae Llywodraeth Cymru yn dyrannu'r arian hwn ar sail hyd braich drwy Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, fel y gŵyr yn iawn. Ac felly mae'r pwyntiau penodol a wnaed ganddo yn gwbl annerbyniol ac amhriodol.
Gan edrych tua'r dyfodol, ceir cyfle i edrych ar sut rydym yn rheoli buddsoddiad rhanbarthol yng Nghymru mewn ffordd sy'n ei alluogi i gyd-fynd yn well â'r blaenoriaethau sydd gennym yng Nghymru, i gyd-fynd yn well â buddsoddiad y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud drwy ffynonellau eraill, ac yn wir, y gallai llywodraeth leol ei wneud drwy ffynonellau eraill ledled Cymru. Mae'r rhain oll yn wobrau sylweddol os gallwn ddyfeisio'r ffordd gywir ymlaen.
Ond unwaith eto, buaswn yn dweud wrtho, os yw'n credu mai cronfa a reolir gan Lywodraeth y DU yw'r ateb i'r sefyllfa hon, mae angen iddo edrych ar fethiannau Llywodraeth y DU o ran ei gwaith yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf. Ac os yw'n credu nad yw pobl yn ymddiried yn Llywodraeth Cymru i reoli'r cronfeydd hyn—credaf ei fod yn hynod o optimistaidd os yw'n credu y byddai unrhyw un yng Nghymru yn ymddiried yn Llywodraeth y DU i reoli'r cronfeydd hyn yn well.