Y Cymorth sydd ar gael i Bobl Hemoffilig a'u Teuluoedd

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 14 Mai 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative 1:43, 14 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Prif Weinidog, yn rhan o'r gwaith ar yr ymchwiliad sy'n cael ei wneud yma yng Nghymru, a allech chi roi rhywfaint o eglurder, efallai, ynghylch pryd y gellid disgwyl i weithwyr fferyllol proffesiynol yng Nghymru ddarparu'r cynnyrch ffactor ailgyfunol a wnaed mewn labordy a dreialwyd, fel Fc-fusion, PEGylation ac ymasiad albwmin, a hefyd hysbysu pa waith y mae'r Llywodraeth hon yn ei wneud gyda chleifion yma yng Nghymru o ran cyfathrebu ynghylch sut y gallai'r cyffuriau hyn wneud gwahaniaeth mawr i'w bywydau yn y dyfodol?