Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 14 Mai 2019.
Llywydd, a gaf i ddiolch i'r Aelod am y cwestiynau pwysig iawn yna? Gadewch i mi ddechrau trwy gytuno ag ef ein bod ni, wrth gwrs, yn croesawu sefydlu'r ymchwiliad, dan gadeiryddiaeth Syr Brian Langstaff. Rwy'n falch o allu dweud wrth y Siambr bod Llywodraeth Cymru wedi sicrhau statws cyfranogwr craidd yn yr ymchwiliad, sy'n rhoi hawliau mynediad ychwanegol at yr ymchwiliad i ni, ac mae'r ymchwiliad, yn ôl yr hyn a ddeallaf, yn bwriadu dod i Gymru ar 23 Gorffennaf a bydd yn treulio pedwar diwrnod yma yn cymryd tystiolaeth yn uniongyrchol gan y rhai yr effeithiwyd arnynt a'r rhai a heintiwyd yn y sgandal gwaed halogedig, a byddwn yn gwneud beth bynnag y gallwn fel Llywodraeth Cymru i gynorthwyo pobl i wneud yn siŵr eu bod yn cael cyflwyno eu hachosion i'r ymchwiliad.
Ond i fynd at y pwynt penodol a godwyd gan yr Aelod, cynhaliwyd cyfarfod ar 21 Ionawr eleni, dan gadeiryddiaeth Canghellor Dugiaeth Caerhirfryn, pryd y cytunwyd bod angen dull gweithredu ar gyfer y DU gyfan, gyda chydraddoldeb i bawb a gafodd eu heffeithio, ac roedd yr Alban, Cymru, a Gweinidogion y DU yn bresennol yn y cyfarfod hwnnw, a daethom o'r cyfarfod hwnnw ar ôl ymrwymo i'r cynnig hwnnw a gwneud ymdrechion i sicrhau mwy o gyfarfodydd y tu hwnt i 21 Ionawr. Fodd bynnag, ar 30 Ebrill—diwrnod cyntaf yr ymchwiliad i waed heintiedig—gwnaeth Llywodraeth y DU gyhoeddiad unochrog o gyllid ychwanegol i gleifion yn Lloegr yn unig. Ni fu ymgynghoriad, ni chafwyd hysbysiad gweinidogol ymlaen llaw, ac roedd yn torri'r cytundeb a wnaed ar 21 Ionawr. Rydym ni wedi cael llythyr ers hynny gan is-Weinidog yn yr Adran Iechyd. Mae'n syfrdanu rhywun, a dweud y gwir, pan mae hi'n dweud wrthym, 'Rwy'n credu', meddai, 'y gallem ni i gyd elwa ar fwy o ddeialog a chydweithrediad ar y materion hyn'. Mae'n anghredadwy, a dweud y gwir, y gallai llythyr o'r fath gael ei anfon atom pan roedden nhw wedi gwneud yn union i'r gwrthwyneb. Mae'r ymgyrchwyr, yr elusennau a'r grwpiau ymgyrchu a fu'n rhan o'r cyfarfod ar 21 Ionawr wedi ysgrifennu at Brif Weinidog y DU ers hynny yn dweud mai eu dealltwriaeth nhw oedd bod y trafodaethau hynny ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan. 'Rydym ni'n tybio', meddent, 'bod y penderfyniad yn cynnwys gweinyddiaethau datganoledig ac wedi darganfod gyda chymysgedd o siomedigaeth, dicter a rhwystredigaeth nad yw hynny'n wir'.
Nawr, Llywydd, yn ystod degawd cyntaf datganoli, cydymffurfiodd y Llywodraeth ar lefel y DU yn gydwybodol â'r cytundeb bod unrhyw beth a oedd wedi digwydd cyn datganoli yn gost ar Lywodraeth y DU. Mae pethau sydd wedi digwydd ers datganoli, wrth gwrs, yn gost arnom ni yn y fan yma. Digwyddodd y sgandal gwaed halogedig ofnadwy flynyddoedd lawer iawn cyn datganoli ac mae'n ymddangos i mi bod y rheolau datganoli yn mynnu yn ddiamwys, os darperir arian gan Lywodraeth y DU i gleifion yn Lloegr, yna mae'n rhaid i'r un cymorth fod ar gael i gleifion ledled y Deyrnas Unedig, a byddwn yn parhau i ddadlau'r achos hwnnw mewn modd mor egnïol ag y gallwn gyda Gweinidogion y DU.