Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip – Senedd Cymru ar 14 Mai 2019.
5. A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddatganiad am drais a cham-drin domestig yng Ngorllewin De Cymru? OAQ53879
Mae pla cam-drin a thrais domestig yn annioddefol. Dyna pam y cyflwynodd Llywodraeth Cymru ddeddfwriaeth ac yn ariannu gwasanaethau ar gyfer atal, diogelu a chefnogi. Rydym yn gweithio tuag at wneud Cymru y lle mwyaf diogel i fenywod yn Ewrop.
Diolch am yr ateb yna.
Nawr, mae ffigurau a ryddhawyd yn ddiweddar yn dangos bod Heddlu De Cymru yn cael galwad ffôn bob 15 munud ynghylch trais neu gam-drin domestig—ffigur gwirioneddol frawychus. Un cam cadarnhaol o ran adnabod cam-drin domestig fu'r cynllun Adnabod ac Atgyfeirio i Wella Diogelwch, sef cynllun IRIS, lle mae meddygon teulu a staff practis yng Nghaerdydd, Bro Morgannwg, Merthyr a Rhondda Cynon Taf yn cael eu hyfforddi i adnabod arwyddion cam-drin domestig drwy holi cyfres o gwestiynau. Yn Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful, lle dechreuodd y cynllun fis Ionawr 2016, cafwyd dros 500 o atgyfeiriadau erbyn hyn lle na fu'r un o'r blaen. Rwy'n credu bod angen cyflwyno'r prosiect arobryn hwn ar draws ardal Heddlu De Cymru yn ei chyfanrwydd, gan gynnwys mewn ardaloedd fel Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot ac, yn wir, ledled Cymru gyfan. I'r perwyl hwnnw, a ydych chi'n cytuno, ac os felly, pa gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn barod i'w roi i fyrddau iechyd i'w cynorthwyo i gyfrannu at y maes hynod bwysig hwn?
Mae hon yn enghraifft o arfer da y gwn y bydd yn cael ei rhannu gan brif gwnstabliaid a chomisiynwyr heddlu a throseddu. A dweud y gwir, rwy'n cadeirio'r bwrdd plismona ddydd Iau yr wythnos hon, ac rwy'n sicr y tynnir ein sylw at hyn, gan ei fod yn rhoi cyfle i'r heddlu a'r gwasanaethau gydweithio i gyflawni ein strategaeth genedlaethol ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, ac mae'n bwysig inni allu dysgu gan bob rhan o Gymru sut y gall gwasanaethau weithio gyda'i gilydd i ddarparu'r gefnogaeth a'r camau gweithredu hynny o ran mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a cham-drin domestig.
A gaf i ddiolch i'r Aelod dros orllewin y de am gyflwyno'r cwestiwn pwysig iawn hwn? Efallai fod y Dirprwy Weinidog yn ymwybodol o'r erthyglau newyddion diweddar y bydd gan gynghorau yn Lloegr ddyletswydd gyfreithiol bellach i ddarparu cartrefi diogel i ddioddefwyr cam-drin domestig o dan gynlluniau a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Pa sgyrsiau y mae'r Dirprwy Weinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog tai, i edrych ar oblygiadau hyn? Hefyd, beth fyddan nhw'n ei wneud i sicrhau bod dioddefwyr a goroeswyr yma yng Nghymru yn cael cymorth tebyg—gan barhau â'r gwaith gwych yr ydym ni eisoes wedi'i wneud trwy arwain y ffordd gyda'r Bil trais domestig—a rhoi diwedd ar drais domestig o bob math unwaith ac am byth?
Rwy'n diolch i Jack Sargeant am y cwestiwn hwnnw, oherwydd bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod yr holl wasanaethau ar gael gennym sydd eu hangen ar y rhai sy'n ceisio cymorth oherwydd trais a cham-drin domestig. Yn amlwg, rydym yn gweithredu ar hyn o ganlyniad i'n strategaeth genedlaethol yn dilyn y Ddeddf, ac mae hynny wedi arwain at ddull mwy strategol wedi'i seilio ar anghenion o gomisiynu a darparu'r holl wasanaethau, gan gynnwys darpariaethau lloches a gwasanaethau arbenigol sy'n bwysig. Felly, un o'r pethau rydym ni wedi'i wneud—comisiynodd Llywodraeth Cymru Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn ddiweddar i gynnal adolygiad o ddarpariaeth lloches yng Nghymru a gwneud argymhellion i fenywod a dynion sy'n ffoi rhag cael eu cam-drin. Bydd yr adolygiad hwnnw'n edrych ar ddulliau rhyngwladol ac yn ceisio mewnbwn gan ddarparwyr arbenigol. Rwy'n credu bod cyllid yn hanfodol yn ogystal â dyletswyddau cyfreithiol, ac mae'n bwysig ein bod wedi buddsoddi yng Nghymru—yn parhau i fuddsoddi—yn y grant Cefnogi Pobl a delir i awdurdodau lleol i helpu pobl agored i niwed, gan gynnwys y rhai sy'n ffoi rhag trais domestig, i ddod o hyd i gartref neu lety a'i gadw. Daeth hynny'n rhan o'r grant cynnal tai ym mis Ebrill eleni ac fe'i gweinyddir gan bob un o'r awdurdodau lleol. Mae hynny hefyd yn rhoi llawer gwell hanes inni o ran darparu lloches.