Part of the debate – Senedd Cymru am 3:26 pm ar 14 Mai 2019.
Diolch am y cwestiynau. Fe wnes i nodi yn fy natganiad ac ailadrodd pwysigrwydd diagnosis. Roedd hi'n fater o bryder penodol, gan y gymuned ehangach sy'n byw gyda dementia, yn ogystal ag Aelodau'r Cynulliad, yn y cyfnod cyn y cynllun. Mae'r ymrwymiadau yn y cynllun yn dal i fod, ynghylch ein disgwyliad i weld cynnydd o flwyddyn i flwyddyn drwy'r cynllun. Mae gennym ni hefyd adolygiad canol cyfnod i ddeall pa mor llwyddiannus y buom ni. Nesaf, bydd ffigurau ar gael am y cynnydd yng nghyfraddau diagnosis ym mis Medi eleni. Ond, fel y dywedais yn fy natganiad, rydym ni'n gwneud sawl peth ymarferol i geisio cynorthwyo hynny. O ran cymorth hyblyg, unwaith eto, soniais yn fy natganiad am y pethau amrywiol yr ydym ni'n eu gwneud i ddarparu'r cymorth hyblyg hwnnw ac mewn gwirionedd y sylw ynghylch cael timau o amgylch yr unigolyn i ddeall anghenion y person hwnnw, beth sydd o bwys i'r person hwnnw, a sut y gall hynny newid dros amser wrth i'r cyflwr waethygu.
Ac, o ran cael sicrwydd bod popeth yn ei le nawr, rwy'n credu y byddai'n ffôl i mi geisio awgrymu bod hynny yn ei le. Mae hon yn daith barhaus. Ac ar y daith wella honno, dylai pob un ohonom ni gydnabod na fydd pob ymyriad unigol yn cael ei gyflawni'n llwyddiannus. Bydd mwy i ni ddysgu am yr hyn nad ydym ni'n ei wneud yn gywir yn ogystal â'r hyn yr ydym ni wedi ei wneud yn gywir. Felly, rwyf eisiau bod yn realistig ac yn onest gyda phobl ynghylch lle'r ydym ni arni. Mae'n daith o wella. Ceir ymrwymiad enfawr gan ein staff yn yr awdurdodau lleol a'r gwasanaeth iechyd yn arbennig, a'r trydydd sector. Ond yn allweddol i hynny mae ymrwymiad pobl sy'n byw gyda dementia i helpu i lywio'r gwaith yr ydym ni'n ei wneud ac i fod yn bartneriaid gonest gan ein herio a'n cefnogi ni o ran gwelliant yr ydym ni i gyd yn cydnabod sydd ei angen.