3. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am y Cynllun Gweithredu ar gyfer Dementia

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:27 pm ar 14 Mai 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 3:27, 14 Mai 2019

Rwy'n falch o allu ymateb i'r datganiad yma gan y Gweinidog—y diweddariad yma ar y cynllun dementia. Gaf i ddechrau drwy gydnabod fy mod i wedi bod yn is-lywydd Cymdeithas Clefyd Alzheimer ers dros ryw 20 mlynyddoedd, ac yn y blynyddoedd diwethaf yma wedi bod yn is-lywydd Forget Me Not dementia clubs yn Abertawe? A hefyd mae gyda fi brofiad personol yn y ddwy flynedd ddiwethaf o ddementia wedi i fy nhad farw yn ddiweddar, wedi misoedd o gystudd trwm efo dementia.

Wedyn, fy mhwyslais i yn ymateb i hyn ydy'r gwahaniaeth angenrheidiol sydd ei angen mewn gwasanaethau yn ein cymuned ni, wedi olrhain fy nghysylltiadau efo nghymdeithas efo Cymdeithas Clefyd Alzheimer a Forget Me Not clubs ac ati, ac mae yna lu o bobl eraill yn gweithio'n wirfoddol yn ein cymunedau ni. Ac, wrth gwrs, mae'r rhan fwyaf o'r gofalu am bobl efo dementia hefyd yn cael ei wneud yn wirfoddol gan deuluoedd ac ati. Mae eu cyfraniad nhw yn hollol, hollol allweddol yn hyn o beth. Pe buasai fo i gyd yn disgyn ar ysgwyddau gofal cymdeithasol a'r gwasanaeth iechyd, fuasem ni ddim yn gallu ymdopi â'r sefyllfa enbydus o gwbl. Felly mae'n bwysig i ni gydnabod a thalu teyrnged i gyfraniad ac ymroddiad gofalwyr gwirfoddol ledled Cymru yn hyn o beth.

Ac, wrth gwrs, fel y mae'r Gweinidog eisoes wedi ei ddweud, mae yna dal stigma. Mae pobl ofn trafod dementia, ofn bod mewn cysylltiad â phobl efo dementia. Mae hynna'n rhan o'r pwysigrwydd o gael yr hyfforddiant yna i ddod yn ddementia gyfeillgar, fel y mae'r Gweinidog eisoes wedi sôn. A'r angen am amynedd. Pan ŷch chi yn y ciw, yn talu am rywbeth, neu'n disgwyl i dalu am rywbeth, y tu ôl i rywun sydd efo dementia, mae angen amynedd, ac nid pwyso a thrio prysuro pobl. Mae angen amynedd i roi digon o amser i bobl. Achos, ar ddiwedd y dydd, mae lot o hyn i ymwneud ag atal y rhagfarn yna sydd yn erbyn dementia a gofal dementia, achos mae pobl yn credu nad yw e'n ddim byd corfforol, taw rhywbeth i wneud efo iechyd meddwl yw e. Ond, wrth gwrs, mae dementia yn glefyd corfforol achos mae'r ymennydd yn crebachu; mae'r ymennydd yn mynd yn llai o faint. Mae hwnna yn glefyd corfforol, felly mae dementia yn haeddu triniaeth gyfartal efo cyflyrau corfforol eraill, a dyna beth sydd ddim yn digwydd ar hyn o bryd. A phetai e'n cael ei ymdrin fel yna, byddem ni'n cael yr un faint o barch tuag at ddioddefwyr dementia ag sydd i bobl sydd yn dioddef, dywedwch, o ganser neu glefyd y galon.

Felly, mae yna swmp o waith i'w wneud yn nhermau atal y rhagfarn yna yn ein cymdeithas ni yn erbyn y sawl sydd efo dementia, a byddwn yn licio gweld beth mae'r Gweinidog yn ei wneud i symud ymlaen efo'i gynllun sy'n mynd i wneud rhywbeth ynglŷn â hynny. Yn y pen draw, rydym ni yn sôn am ofal ar y llawr ac angen am fwy o wasanaethau penodol ar y llawr.

Gofal cymdeithasol: mae'r Gweinidog yn gwybod fy syniadau i am gael gwasanaeth gofal cenedlaethol, achos mae safon y gofal rŵan yn aml yn ddiffygiol, yn beryglus, neu ddim ar gael o gwbl, ac mae'r cwbl yn cwympo ar deuluoedd. Mae angen mwy o ofal seibiant; pan fo teuluoedd o dan bwysau enbydus, mae angen mwy o ofal seibiant. Ac felly, oes gyda'r Gweinidog gynlluniau yn benodol i gynyddu faint o ofal seibiant sydd ar gael?

Dwi yn croesawu beth ddywedodd e ynglŷn â phobl, yn enwedig yma yng Nghymru, sydd yn siarad Cymraeg iaith gyntaf. Wrth gwrs, fel mae dementia yn datblygu, dŷch chi'n colli'r gallu i siarad eich ail iaith yn weddol fuan, felly mae angen darpariaethau, mae angen gwasanaethau yn yr iaith Gymraeg er mwyn gallu delio efo pobl sy'n dioddef o dementia, sydd yn siarad Cymraeg fel eu hiaith gyntaf, achos mae nhw'n colli eu hail iaith. Mae hynny yn digwydd ym mhob gwlad sydd efo mwy nag un iaith. Ond mae angen strategaeth ar fyrder i fynd i'r afael efo hynny, achos, wrth gwrs, ein pobl ni sydd yn heneiddio sydd yn tueddu i gael dementia. Nid yw wastad ynghlwm â henaint, ond mae yna ganran sylweddol o'r rheiny sydd yn siaradwyr Cymraeg naturiol, a dyna'r unig iaith sydd gyda nhw pan mae'r dementia yn cydio, fel roedd profiad fy nhad fy hun yn ei brofi. 

Felly, ar ddiwedd y dydd, dwi'n croesawu'r datganiad, dwi'n croesawu'r gwaith sydd yn mynd ymlaen. Ond ar ddiwedd y dydd, fel rydych chi wedi crybwyll eisoes—step change rydych chi'n ei ddweud—mae eisiau trawsnewid maint a sylwedd ac ansawdd y gwasanaethau sydd ar lawr gwlad er mwyn i ni fynd i'r afael â hyn a rhoi tegwch a chwarae teg i'n pobl ni efo dementia a'u teuluoedd. Diolch yn fawr.